Mynd i'r cynnwys
Ysgolion arbennig a gynhelir

Ysgolion arbennig a gynhelir

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae lles disgyblion yn parhau i fod wrth wraidd gwaith ysgolion.
  • Mae ysgolion wedi ailgyflwyno arferion, strwythurau a pherthnasoedd sy’n cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion mewn modd sensitif.
  • Yn gyffredinol, mae gan staff mewn ysgolion arbennig ddealltwriaeth gadarn iawn o anghenion disgyblion a’u teuluoedd.
  • Mae teuluoedd yn gwerthfawrogi’r cymorth mae ysgolion yn ei roi iddynt.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae cyfraddau presenoldeb rhai disgyblion yn peri pryder, yn enwedig y disgyblion hynny y mae eu lefelau presenoldeb wedi parhau i ddirywio ers y pandemig.
  • Er bod ansawdd y cymorth gan asiantaethau allanol yn gwella, nid yw effeithiolrwydd y cymorth hwn wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig hyd yn hyn.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae ysgolion wedi cydnabod yn briodol yr angen am gwricwlwm hyblyg sy’n cydnabod profiadau disgyblion dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
  • Mae ysgolion yn cynnig cymorth priodol i ddisgyblion, gan gynnwys cynyddu gwaith mewn grwpiau bach ac addysgu un-i-un.
  • Mae ysgolion yn sicrhau bod medrau staff yn cyfateb yn dda iawn, yn gyffredinol, i anghenion disgyblion.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn hapus i fod yn yr ysgol, mae ganddynt agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, maent wedi ailymgysylltu’n dda â’u cyd-ddisgyblion ac yn dangos gwydnwch arbennig.
  • Yn gyffredinol, mae ysgolion arbennig mewn sefyllfa dda iawn i roi ADY a’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.
  • Mae ysgolion yn ailasesu a bodloni anghenion disgyblion yn sensitif, yn enwedig lle mae’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar eu medrau cyfathrebu ac annibyniaeth.

 

Beth sydd angen ei wella


Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr mewn ysgolion arbennig yn parhau i ddangos gwydnwch nodedig ac yn hyblyg wrth wynebu heriau dyddiol parhaus.
  • Mae arweinwyr yn parhau’n optimistig ac yn benderfynol o ran sicrhau darpariaeth sy’n bodloni anghenion lles a dysgu eu disgyblion.
  • O ganlyniad i’w profiadau ar y cyd dros y ddwy flynedd diwethaf, mae arweinwyr a’u staff wedi gwreiddio gwaith tîm cryf ymhellach.
  • Mae trefniadau sicrhau ansawdd yn cael eu hailgyflwyno.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae arweinwyr yn parhau i’w chael hi’n anodd trefnu staff â chymwysterau cymwys i gyflenwi ar gyfer absenoldebau tymor byr a thymor hir.
  • Mewn ychydig iawn o achosion, mae newidiadau eang a sylweddol o ran arweinyddiaeth wedi cael effaith negyddol amlwg iawn ar brofiadau dysgu, lles a deilliannau, yn enwedig i ddisgyblion hŷn.