Ysgolion arbennig annibynnol
Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.
Beth sy’n mynd yn dda
- At ei gilydd, mae ysgolion arbennig annibynnol yn darparu ethos cynhwysol a gofalgar i’w disgyblion.
- Lle caiff cymorth ei gynllunio’n ofalus, mae hyn yn galluogi disgyblion i feithrin agweddau cadarnhaol a dod yn ddysgwyr llwyddiannus.
- Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu a lles pan mae gan staff ddealltwriaeth gref o anghenion eu disgyblion a lle mae dulliau therapiwtig wedi’u cydlynu’n dda.
- Lle mae staff yn dilyn gweithdrefnau diogelu’n agos ac arweinwyr yn monitro’r rhain yn drylwyr, mae diwylliant cryf o ddiogelu.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw dulliau therapiwtig yn cael eu cydlynu’n ddigon da bob tro i fodloni anghenion disgyblion a staff.
- Mae gan ychydig o ddisgyblion bresenoldeb gwael yn gyson ac mae hyn yn cyfyngu ar eu cynnydd.
- Nid yw arweinwyr yn monitro gweithdrefnau diogelu’n ddigon trylwyr ym mhob ysgol.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn gyffredinol, mae ysgolion wedi addasu eu cwricwlwm yn dda i fodloni’r heriau diweddar ac maent yn dechrau ailsefydlu partneriaethau i ymestyn cyfleoedd dysgu i ddisgyblion.
- Mae gan y cwricwlwm ffocws cryf ar addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd yn gyson ac mae’n paratoi disgyblion yn dda ar gyfer bywyd fel oedolion.
- Lle mae addysgu’n gryf, mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau difyr sy’n cyfateb yn dda i alluoedd a diddordebau disgyblion.
Beth sydd angen ei wella
- Mae prinder cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am bynciau pwysig, fel aflonyddu rhywiol, radicaleiddio a cham-fanteisio.
- Nid yw addysgu’n cysylltu’n ddigon da â galluoedd disgyblion bob tro nac yn cynnwys cyfleoedd am ddilyniant.
- Nid oes gan staff ddigon o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda disgyblion ag ADY bob tro.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae arweinwyr wedi dangos ymrwymiad a gwydnwch sylweddol o ran sicrhau bod eu hysgolion yn aros ar agor yn ystod y rhan fwyaf o’r pandemig.
- Yn aml, darparodd arweinwyr reolaeth a goruchwyliaeth effeithiol o waith yr ysgol o ddydd i ddydd yn ystod y pandemig.
- Lle mae ysgolion yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn argymhellion Estyn, mae arweinwyr yn parhau i gynnal cyfeiriad strategol clir, gan sicrhau dysgu proffesiynol effeithiol a gweithgarwch buddiol o ran gwella’r ysgol.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw arweinyddiaeth strategol yn effeithiol yn yr ysgolion hynny lle mae sicrhau ansawdd yn ymwneud yn fwy â chydymffurfio a lle nad yw cynllunio gwelliant yn ddigon manwl. Dolen i adnodd.
- Mae dysgu proffesiynol yn llai effeithiol pan nad yw’n canolbwyntio ar fedrau craidd addysgu, cynorthwyo disgyblion ag anghenion cymhleth neu rôl staff cymorth dysgu.
- Mae arweinwyr yn ei chael yn heriol recriwtio a chadw staff cymorth dysgu â phrofiad a chymwysterau addas.