Mynd i'r cynnwys
Ysgolion arbennig annibynnol

Ysgolion arbennig annibynnol

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • At ei gilydd, mae ysgolion arbennig annibynnol yn darparu ethos cynhwysol a gofalgar i’w disgyblion.
  • Lle caiff cymorth ei gynllunio’n ofalus, mae hyn yn galluogi disgyblion i feithrin agweddau cadarnhaol a dod yn ddysgwyr llwyddiannus.
  • Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu a lles pan mae gan staff ddealltwriaeth gref o anghenion eu disgyblion a lle mae dulliau therapiwtig wedi’u cydlynu’n dda.
  • Lle mae staff yn dilyn gweithdrefnau diogelu’n agos ac arweinwyr yn monitro’r rhain yn drylwyr, mae diwylliant cryf o ddiogelu.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw dulliau therapiwtig yn cael eu cydlynu’n ddigon da bob tro i fodloni anghenion disgyblion a staff.
  • Mae gan ychydig o ddisgyblion bresenoldeb gwael yn gyson ac mae hyn yn cyfyngu ar eu cynnydd.
  • Nid yw arweinwyr yn monitro gweithdrefnau diogelu’n ddigon trylwyr ym mhob ysgol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn gyffredinol, mae ysgolion wedi addasu eu cwricwlwm yn dda i fodloni’r heriau diweddar ac maent yn dechrau ailsefydlu partneriaethau i ymestyn cyfleoedd dysgu i ddisgyblion.
  • Mae gan y cwricwlwm ffocws cryf ar addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd yn gyson ac mae’n paratoi disgyblion yn dda ar gyfer bywyd fel oedolion.
  • Lle mae addysgu’n gryf, mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau difyr sy’n cyfateb yn dda i alluoedd a diddordebau disgyblion.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae prinder cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am bynciau pwysig, fel aflonyddu rhywiol, radicaleiddio a cham-fanteisio.
  • Nid yw addysgu’n cysylltu’n ddigon da â galluoedd disgyblion bob tro nac yn cynnwys cyfleoedd am ddilyniant.
  • Nid oes gan staff ddigon o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda disgyblion ag ADY bob tro.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr wedi dangos ymrwymiad a gwydnwch sylweddol o ran sicrhau bod eu hysgolion yn aros ar agor yn ystod y rhan fwyaf o’r pandemig.
  • Yn aml, darparodd arweinwyr reolaeth a goruchwyliaeth effeithiol o waith yr ysgol o ddydd i ddydd yn ystod y pandemig.
  • Lle mae ysgolion yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn argymhellion Estyn, mae arweinwyr yn parhau i gynnal cyfeiriad strategol clir, gan sicrhau dysgu proffesiynol effeithiol a gweithgarwch buddiol o ran gwella’r ysgol.

Beth sydd angen ei wella