Mynd i'r cynnwys
Ysgolion pob oed a gynhelir

Ysgolion pob oed a gynhelir

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn gyffredinol, mae disgyblion yn hapus i fod yn yr ysgol ac yn dangos agweddau cadarnhau tuag at ddysgu.
  • Mae disgyblion yn dangos gofal tuag at bobl eraill yn yr ysgol ac yn ystyriol o sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ei chymuned.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae darpariaeth ac ymyriadau yn aml yn effeithiol o ran arwain at welliannau i les disgyblion.

Beth sydd angen ei wella

  • At ei gilydd, mae angen mwy o gymorth emosiynol ac iechyd meddwl ar ddisgyblion nawr na chyn y pandemig.
  • Mae’r pandemig wedi cael effaith niweidiol ar ymgysylltiad ychydig o ddisgyblion â’u dysgu a’u hymddygiad.
  • Mae lleiafrif o ddisgyblion yn brin o hunanhyder ac yn cael trafferth gweithio’n annibynnol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o athrawon yn cydweithio’n dda â’i gilydd i gynllunio a rhoi cwricwlwm ar waith sy’n ystyried dilyniant ar draws pob cyfnod.
  • Mae mwyafrif y disgyblion yn fodlon cyfrannu ar lafar ac yn cynnig ymatebion estynedig pan gânt eu hannog i wneud hynny.
  • Mae ychydig o ddisgyblion yn dangos medrau ysgrifennu cryf wrth ysgrifennu’n effeithiol at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, ni fu digon o bwyslais ar wella ansawdd yr addysgu wrth ddylunio’r cwricwlwm.
  • Nid yw ychydig o ddisgyblion wedi rhannu arfer dda mewn addysgu yn effeithiol o fewn ac ar draws ysgolion i wella profiadau i ddisgyblion.
  • Yn aml, nid yw dysgu proffesiynol allanol yn ddigon penodol i’r sector pob oed.
  • Nid oes gan leiafrif o ddisgyblion fedrau llythrennedd sylfaenol, maent yn gwneud gwallau sillafu a gramadeg cyson ac nid ydynt yn gallu cyfleu eu barnau’n rhugl.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae gwaith i gynorthwyo staff a disgyblion i adfer ar ôl y pandemig yn mynd yn dda.
  • Mae mwy o ffocws ar les staff.
  • Mae gweithio fel tîm a chydweithio rhwng staff yn gryfder penodol, yn enwedig ers y pandemig.
  • Mae ymgysylltu a chyfathrebu â rhieni yn gryf mewn ysgolion pob oed.
  • Mae trefniadau dysgu proffesiynol yn arbennig o ddefnyddiol pan maent yn cynnwys rhannu arfer dda mewn addysgu yn fewnol neu rhwng ysgolion.
  • Mae gwaith cydweithredol a chyd-gymorth rhwng ysgolion yn y sector yn nodwedd sylweddol.

Beth sydd angen ei wella