Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

2022-2023


Deilliannau a gwasanaethau addysg

Beth sy'n mynd yn dda

  • Lle mae ansawdd gwaith partneriaid gwella ysgolion a’u prosesau i gefnogi gwella ysgolion wedi’u datblygu’n dda, mae awdurdodau lleol yn gweithio’n dda mewn partneriaeth â’u gwasanaethau gwella ysgolion/consortia rhanbarthol i gynorthwyo eu hysgolion i wella.
  • Rhoddir blaenoriaeth addas i wella presenoldeb disgyblion yn tri o’r pedwar awdurdod lleol arolygwyd.
  • Yn gyffredinol, mae rhaglenni trawsnewid ysgolion yn gweithio’n dda, gyda chysylltiadau priodol â’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol mewn tri o’r pedwar awdurdod lleol a arolygwyd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae ansawdd y cymorth i ysgolion yn rhy amrywiol mewn dau o’r pedwar awdurdod lleol a arolygwyd gennym. Mewn un achos, er gwaethaf ymyrraeth gan yr awdurdod lleol, nid oedd y consortiwm rhanbarthol wedi gwella ei waith yn ddigon cyflym.
  • Yn gyffredinol, nid yw cymorth i ysgolion uwchradd yr un mor effeithiol â chymorth i ysgolion cynradd. Yn ogystal, mewn ychydig o awdurdodau lleol, mae cynnydd ysgolion sy’n peri pryder yn rhy araf o hyd.
  • Mae angen i ddau o’r pedwar awdurdod lleol wella eu darpariaeth i ddisgyblion ag ADY.
  • Bu cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael eu hatgyfeirio i ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) ac mae amseroedd aros wedi cynyddu. Ar ben hynny, mae gormod o ddisgyblion yn aros gyda darparwyr AHY yn rhy hir.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae gan dri o’r pedwar awdurdod lleol weledigaeth glir sy’n cael ei deall yn dda gan aelodau etholedig, uwch arweinwyr a swyddogion.
  • Mae gan ddau o’r pedwar awdurdod lleol a arolygom arweinyddiaeth a chynllunio strategol effeithiol.
  • Yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol â’u darparwyr.
  • Mae awdurdodau lleol yn gwella eu hymagweddau at liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion. Yn yr enghreifftiau gorau, mae meysydd gwasanaeth yn cydweithio’n dda â’i gilydd ac roedd cymorth wedi’i gydlynu’n dda.
  • Mae prosesau cyfyngedig ar waith ym mron pob awdurdod lleol i werthuso a gwella arlwy’r cwricwlwm i ddisgyblion sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw prosesau gwerthuso a chynllunio gwelliant yn ddigon miniog i helpu awdurdodau lleol i nodi meysydd allweddol y mae angen iddynt eu gwella; er enghraifft, mewn un awdurdod lleol, ni nodwyd gwella presenoldeb disgyblion fel blaenoriaeth.
  • Nid yw cynllunio ac arweinyddiaeth strategol yn ddigon effeithiol mewn dau o’r pedwar awdurdod lleol.
  • Ni fu digon o effaith ar wella presenoldeb. Mae hyn yn parhau’n her i bob awdurdod lleol.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

4

Arolygwyd pedwar o wasanaethau addysg llywodraeth leol yn ystod 2022-2023.

2

Cafodd dau awdurdod lleol argymhellion a oedd yn canolbwyntio ar wella arweinyddiaeth strategol. Yn gyffredinol, roedd y rhain yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan arweinwyr drosolwg clir o’u gwaith, gan gynnwys rheoli risg.

4

Cafodd pob un o’r pedwar awdurdod lleol argymhelliad i gryfhau prosesau gwerthuso a gwella. Mewn un awdurdod lleol, roedd hyn yn canolbwyntio’n fwy penodol ar fonitro presenoldeb.

1

Rhoddwyd argymhelliad i un awdurdod lleol i gyflymu gwelliannau yn ei ysgolion uwchradd.

1

Rhoddwyd argymhelliad i un awdurdod lleol i gryfhau gwasanaethau gwella ysgolion, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.

2

Er bod gwella presenoldeb yn parhau’n her i bob awdurdod lleol, rhoddwyd argymhelliad i ddau ohonynt a oedd yn canolbwyntio ar wella presenoldeb ym mhob ysgol neu leoliad.

1

Roedd angen i un awdurdod lleol gryfhau ei ymagweddau tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.

1

Roedd angen i un awdurdod lleol gryfhau ei gymorth i’r bobl ifanc hynny sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu gwasanaethau addysg llywodraeth leol i fyfyrio ar hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella:

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi arweiniad defnyddiol ar gyfer awdurdodau lleol i’w helpu â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru barhau i adolygu, drwy hunanasesu, i ba raddau y mae’n bodloni’r ‘gofynion perfformiad’ a chyhoeddi adroddiad yn amlinellu casgliadau’r asesiadau hyn ym mhob blwyddyn ariannol. Mae’r arweiniad hwn i’w weld yma.

Mae ein harolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol yn parhau i nodi nad yw awdurdodau lleol, yn gyffredinol, yn gwerthuso’r gwaith maent yn ei wneud yn eu meysydd gwasanaeth yn ddigon cadarn nac yn cynllunio ar gyfer gwella yn ddigon manwl. Bydd y cwestiynau canlynol yn helpu swyddogion awdurdodau lleol i ystyried effeithiolrwydd eu prosesau ar gyfer gwerthuso effaith eu gwaith a nodi a chynllunio ar gyfer gwelliant.

  • A yw eich prosesau gwerthuso wedi’u cynllunio’n dda ac yn cael eu deall gan yr holl swyddogion ac arweinwyr?
  • Pa mor dda y mae eich cylch gwerthuso yn cynorthwyo swyddogion ac aelodau i ystyried ystod eang o dystiolaeth i gael darlun cywir o gryfderau a meysydd i’w gwella?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr a swyddogion ar bob lefel yn ymgysylltu â’r broses werthuso?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr a swyddogion ar bob lefel yn herio ei gilydd ynghylch eu gwerthusiadau?
  • Pa mor dda ydych chi’n canolbwyntio ar effaith eich gwaith ar wella deilliannau a phrofiadau i blant a phobl ifanc?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr ac aelodau etholedig yn deall cryfderau a meysydd i’w gwella ar draws y gyfarwyddiaeth addysg?
  • Pa mor dda y caiff cynllunio gwelliant ei lywio gan werthusiad cadarn a thystiolaeth uniongyrchol?
  • Wrth gynllunio ar gyfer gwella, pa mor dda ydych chi’n pennu meini prawf llwyddiant clir a mesuradwy o’r cychwyn?
  • Pa mor dda y mae swyddogion ac arweinwyr yn deall beth yw effaith arfaethedig unrhyw waith cynlluniedig a sut ydych chi’n mynd ati i fesur hyn?
  • Pa mor dda y mae eich gwerthuso’n canolbwyntio ar unrhyw ddeilliannau bwriadedig?
  • Os nad yw gwaith yn effeithiol, pa mor dda ydych chi’n ystyried yn ofalus sut i newid neu wella’r agwedd hon ar eich gwaith?

Rydym yn cydnabod yr heriau y mae ysgolion, UCDau a lleoliadau’n eu hwynebu o ran presenoldeb. Rydym hefyd yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn addasu ac yn gwella’r ffordd maent yn cefnogi’r agwedd hon ar eu gwaith.

Mae cyfraddau presenoldeb yng Nghymru yn isel o hyd ar ôl pandemig COVID-19 ac, mewn ychydig o achosion, nid yw ysgolion ac awdurdodau lleol wedi cynnal ffocws digon cryf ar wella’r agwedd hon ar eu gwaith.

Cwestiynau i helpu awdurdodau lleol i fyfyrio wrth wella cymorth ar gyfer presenoldeb:

  • A yw pob ysgol, lleoliad ac UCD yn gwbl ymwybodol o bolisïau awdurdodau lleol a’r cymorth sydd ar gael?
  • A yw arweinwyr yn yr awdurdod lleol yn rhoi digon o bwyslais ar werthuso presenoldeb plant a phobl ifanc?
  • Pa mor dda y caiff data ar bresenoldeb ei ddefnyddio’n ddeallus i fonitro a chynorthwyo pob grŵp o bobl ifanc i wella eu presenoldeb?
  • A oes gan yr awdurdod lleol weithdrefn uwchgyfeirio glir ar gyfer presenoldeb sy’n peri pryder? Pa mor dda y caiff y weithdrefn uwchgyfeirio ei defnyddio?
  • Pa mor dda y mae swyddogion gwella ysgolion yn cydweithio ag ysgolion, UCDau a lleoliadau i wella presenoldeb?
  • Pa mor dda y mae swyddogion yn cynorthwyo ysgolion i ddeall y cysylltiad rhwng addysgu o ansawdd uchel, y cwricwlwm a phresenoldeb?
  • Pa mor dda y mae swyddogion ac arweinwyr yn gwerthuso effaith strategaethau i nodi’r rhai sy’n fwyaf effeithiol?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023