Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Unedau cyfeirio disgyblion

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae lles yn sail i arlwy’r cwricwlwm i fynd i’r afael â’r angen parhaus i gefnogi anghenion lles emosiynol ac iechyd meddwl cynyddol disgyblion.
  • Mae’r cwricwlwm iechyd a lles mewn dwy o’r pedair UCD yn datblygu’n addas.
  • Lle mae arfer yn effeithiol, mae cynllunio staff yn hynod effeithiol ac yn ystyried ystod o wybodaeth asesu bwrpasol. Mae hyn yn cynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd o’u mannau cychwyn.

Beth sydd angen ei wella

  • Gwna mwyafrif y disgyblion gynnydd digonol o’u mannau cychwyn.
  • Ar gyfer mwyafrif y disgyblion, mae presenoldeb isel yn cael effaith negyddol ar eu cynnydd.
  • Mae ansawdd ac effaith datblygu Cwricwlwm i Gymru yn amrywio’n fawr.
  • Mae ehangder a chydbwysedd arlwy’r cwricwlwm i ddisgyblion cynradd a disgyblion uwchradd iau yn anghyson.
  • Nid yw datblygu medrau ar draws y cwricwlwm wedi’i ddatblygu’n ddigonol.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • At ei gilydd, nodwedd gref yw’r berthynas waith gadarnhaol y mae staff yn ei meithrin â disgyblion.
  • Yn gyffredinol, dywed disgyblion eu bod yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael gofal da pan fyddant mewn UCD.
  • Mae UCDau yn parhau i sefydlu ethos meithringar i gefnogi anghenion emosiynol disgyblion yn dda.
  • Mae ymagweddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cyfrannu’n effeithiol at les, ymgysylltiad a datblygiad personol disgyblion.
  • Mae trefniadau i hyrwyddo a datblygu ymddygiad cadarnhaol â disgyblion yn glir. Ym mhob UCD, mae staff yn datblygu perthynas waith ymddiriedus gref â disgyblion.
  • Mae cyfathrebu â rhieni a gofalwyr yn gryf mewn UCDau. Mae staff yn cynnig hyblygrwydd o ran ymagweddau i ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu cryf â rhieni a gofalwyr, sy’n gweddu i anghenion teuluoedd.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth ag ystod o asiantaethau allanol yn effeithiol. Mae hyn yn cryfhau darpariaeth gwasanaeth gyd-gysylltiedig i lawer o ddisgyblion a theuluoedd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae gormod o amrywiaeth o ran cyfleoedd i ddisgyblion leisio eu barn a dylanwadu ar y ffordd maent yn dysgu.
  • Mae prosesau i fynd i’r afael â phresenoldeb isel disgyblion yn anghyson.
  • Mae defnydd anghyson o raglenni cymorth bugeiliol (RhCBau) a gormod o ddisgyblion yn manteisio ar addysg ran-amser am gyfnod rhy hir.
  • Nid oes digon o ddisgyblion yn manteisio ar ysgolion prif ffrwd fel rhan o broses ailintegreiddio gynlluniedig. O ganlyniad, ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dychwelyd i addysg brif ffrwd. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at oedi cyfleoedd i ddisgyblion eraill fanteisio ar leoliadau UCD ar gyfer cymorth.
  • Mewn tair UCD, nid yw prosesau i olrhain a monitro cynnydd disgyblion wedi’u datblygu’n ddigonol.
  • Mae prosesau i nodi a phennu targedau disgyblion unigol yn amrywio.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Yn yr arfer fwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn cynllunio’n strategol ar gyfer gwella. Mae prosesau hunanwerthuso wedi’u hen sefydlu ac yn cynnwys staff a disgyblion.
  • Yn yr arfer fwyaf effeithiol, mae gan arweinwyr ddealltwriaeth fanwl o gryfderau staff ac maent yn cynnig cyfleoedd perthnasol a rheolaidd i staff ddatblygu eu medrau. Mae arweinwyr yn cynorthwyo staff i ddatblygu fel ymarferwyr myfyriol, hefyd.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw prosesau hunanwerthuso mewn tair o’r UCDau wedi’u datblygu’n ddigonol. O ganlyniad, ni all arweinwyr gynllunio ar gyfer gwella yn ddigon cadarn.
  • Mae ystod ac ansawdd cyfleoedd dysgu proffesiynol yn rhy amrywiol.
  • Mewn llawer o UCDau, mae angen cryfhau rôl y pwyllgor rheoli. Nid ydynt yn sicrhau ansawdd gwaith yr UCD yn ddigon da.
  • Mae rôl y partner gwella ysgolion i gefnogi datblygu’r cwricwlwm yn anghyson.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

4

Arolygwyd pedair UCD yn 2022-2023

3

Mewn tair UCD, nodwyd gwelliant mewn arweinyddiaeth strategol fel maes i’w wella. Roedd hyn yn cynnwys gwella prosesau hunanwerthuso i lywio cynllunio gwelliant yn well.

3

Mewn tair UCD, nodwyd bod angen gwella presenoldeb. Roedd hyn yn cynnwys cryfhau gweithdrefnau i fonitro presenoldeb, yn ogystal â gwella cyfraddau presenoldeb disgyblion.

3

Mewn tair UCD, roedd argymhelliad yn nodi’r angen i ddarparu arlwy cwricwlwm eang a chytbwys. Mewn un o’r tair UCD, roedd hyn yn nodi’n benodol yr angen i wella medrau llythrennedd, rhifedd a medrau digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm.

3

Mewn tair UCD, roedd argymhelliad i gryfhau rôl sicrhau ansawdd y pwyllgor rheoli. Mewn dwy o’r tair UCD, roedd hyn hefyd yn cynnwys rôl yr awdurdod lleol a’r gwasanaeth gwella ysgolion.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu UCDau i fyfyrio ar bresenoldeb:

  • Pa mor dda mae’r UCD yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion, a rannwyd cyn iddynt gael eu derbyn, i ystyried presenoldeb? A yw gwybodaeth yn cynnwys ymyriadau blaenorol i wella presenoldeb ac unrhyw ymgysylltiad gan asiantaethau allanol i alluogi UCDau i gynllunio ar gyfer gwelliant?
  • Lle mae pryderon sylweddol ynghylch presenoldeb disgybl, pa mor effeithiol caiff y wybodaeth hon ei rhannu â’r awdurdod lleol neu ei hatgyfeirio i banel yr awdurdod lleol i gael cymorth ychwanegol?
  • Pa mor gadarn yw prosesau i fonitro a dadansoddi presenoldeb disgyblion a thueddiadau? Pa mor dda y caiff codau presenoldeb eu monitro?
  • Pa mor dda y mae asiantaethau allanol yn cefnogi gwaith yr UCD i wella presenoldeb disgyblion?
  • Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol a’r pwyllgor rheoli yn monitro presenoldeb ar draws yr UCD?
  • Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol a’r pwyllgor rheoli yn monitro’r defnydd o addysg ran-amser a rhaglenni cymorth bugeiliol (RhCBau)?
  • Pa mor effeithiol y mae trefniadau i fynd i’r afael â materion presenoldeb, yn enwedig i ddisgyblion sy’n absennol yn gyson?
  • Pa mor effeithiol yw cyfleoedd i rannu arfer dda o ran gwella presenoldeb disgyblion a darpariaethau tebyg eraill?
  • Pa mor dda y mae arlwy’r cwricwlwm yn hyrwyddo presenoldeb gwell?
  • Pa mor effeithiol yw prosesau i gynorthwyo rhieni/gofalwyr i fynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â phresenoldeb? Beth gellid ei wella? Er enghraifft, a yw’r UCD yn archwilio rhesymau pam y mae rhieni/gofalwyr yn credu efallai nad yw eu plentyn yn mynychu?
  • Pa mor dda y mae trefniadau i ddisgyblion fanteisio ar addysg ran-amser yn cael eu defnyddio a’u monitro? (Sawl disgybl sy’n manteisio ar addysg ran-amser? Am ba hyd y mae disgyblion yn manteisio ar addysg ran-amser, ar gyfartaledd? A oes cynllun cytûn ar waith sy’n cael ei rannu â rhieni/gofalwyr a disgyblion i gynyddu’r gallu i fanteisio ar addysg?)
  • Lle mae gan ddisgyblion leoliad deuol ag ysgol brif ffrwd, pa mor dda y caiff cyfraddau presenoldeb eu monitro? Pa mor dda y mae’r UCD yn cydweithio ag ysgolion prif ffrwd i fynd i’r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â phresenoldeb?
  • Pa mor dda y caiff RhCBau eu defnyddio? Pa mor effeithiol ydynt a sut mae’r UCD yn gwybod hynny? (Gyda phwy y cânt eu cytuno? Gyda phwy y cânt eu rhannu? A oes cynllun cytûn o gamau gweithredu, gan gynnwys amserlen glir i ddisgyblion ddychwelyd i fanteisio ar addysg amser llawn?)
  • Pa mor dda y mae disgyblion yn deall pwysigrwydd mynychu’n rheolaidd?
  • Pa mor dda y caiff disgyblion eu cynnwys mewn trafodaethau yn ymwneud â’u presenoldeb? (Pa mor aml? Beth yw effaith unrhyw drafodaethau? Beth mae disgyblion yn ei ddweud o ran pam nad ydynt yn mynychu’r UCD? A allant wneud awgrymiadau ynghylch beth fyddai’n eu helpu i fynychu’n fwy rheolaidd?)

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023