Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Ysgolion arbennig annibynnol

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae llawer o ysgolion yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys.
  • Gwna llawer o ddysgwyr gynnydd cadarn yn eu dysgu.
  • Mae staff ar draws mwyafrif yr ysgolion yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn defnyddio hyn yn dda i ennyn eu diddordeb yn eu dysgu.
  • Mae lleiafrif o ysgolion yn cyfoethogi arlwy’r cwricwlwm gydag ystod o brofiadau difyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, nid oedd profiadau dysgu’n cyfateb yn ddigon da i anghenion disgyblion.
  • Nid yw prosesau asesu wedi’u datblygu’n ddigonol mewn tua hanner yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw.
  • Yn gyffredinol, mae ysgolion yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion ddatblygu eu medrau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn gynyddol.
  • Mae presenoldeb isel disgyblion mewn ychydig o ysgolion yn llesteirio eu cynnydd.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae tua hanner yr ysgolion arbennig annibynnol a arolygwyd neu yr ymwelwyd â nhw fel rhan o ymweliadau monitro blynyddol yn ystod 2022-2023 yn darparu amgylchedd anogol i ddisgyblion.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn mynd ati i ddysgu yn gyflym ac yn ymgysylltu’n dda â’u cyd-ddisgyblion a staff.
  • Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn meithrin perthynas waith gadarnhaol â nhw.
  • Mae diogelu’n agwedd gref ar waith yr ysgolion hyn.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae darpariaeth addysg gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith ar draws y sector yn anghyson.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw arweinwyr yn sicrhau bod polisïau sy’n ymwneud â diogelu yn adlewyrchu arweiniad Llywodraeth Cymru a chyd-destun penodol yr ysgol yng Nghymru.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw arweinwyr yn monitro cymhwyso polisïau sy’n gysylltiedig â diogelu yn ddigon da.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw eleni yn elwa ar gymorth a her gan eu sefydliad ehangach fel rhan o brosesau sicrhau ansawdd a chynllunio gwelliant.
  • Mae gan arweinwyr mewn llawer o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw ddealltwriaeth glir o gryfderau a meysydd i’w datblygu eu hysgol.
  • Mewn dwy o’r tair ysgol a arolygwyd, mae gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol.

Beth sydd angen ei wella

  • Bu newidiadau diweddar i arweinyddiaeth mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw. Mae’r newidiadau hyn wedi cynnig heriau ychwanegol o ran cyfathrebu gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol, sefydlu nodau ac amcanion cyson ynghyd a datblygu strategaethau i sicrhau gwelliannau tymor hir.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion yr ymwelwyd â nhw, nid yw prosesau hunanwerthuso yn drylwyr ac nid yw cynllunio gwelliant yn canolbwyntio’n ddigon miniog ar y meysydd pwysicaf i’w gwella.
  • Nid oes gan drefniadau dysgu proffesiynol ar draws mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw ffocws addas ar addysgu a dysgu.
  • Ambell waith, mae amgylcheddau dysgu’n cyfyngu ar gyfleoedd dysgu.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau ac ymweliadau monitro

28

Arolygwyd neu ymwelwyd â dau ddeg wyth o ysgolion arbennig annibynnol yn ystod 2022-2023.

22

Mewn 22 (79%) o’r arolygiadau ac ymweliadau, gwnaed argymhellion yn ymwneud ag arweinyddiaeth.

17

Mewn 17 (61%) o’r arolygiadau ac ymweliadau, gwnaed argymhellion yn ymwneud ag addysgu a phrofiadau dysgu.

11

Mewn 11 (39%) o’r arolygiadau ac ymweliadau, gwnaed argymhellion yn ymwneud â gofal, cymorth ac arweiniad neu les ac agweddau at ddysgu.

  • Lle y gwnaed argymhellion yn ymwneud ag addysgu a phrofiadau dysgu, roedd y mwyafrif ohonynt yn canolbwyntio ar yr angen i wella prosesau asesu, gan sicrhau eu bod yn llywio cynllunio ac yn ategu datblygu medrau, yn ogystal â gwella ansawdd a chysondeb cyffredinol yr addysgu.
  • Lle y gwnaed argymhellion yn ymwneud â gofal, cymorth ac arweiniad, roedd tua hanner ohonynt yn ymwneud â’r angen i wella olrhain a monitro targedau disgyblion unigol.
  • Cafodd tua hanner yr ysgolion a gafodd argymhelliad yn ymwneud ag arweinyddiaeth fwy nag un argymhelliad yn y maes hwn. O’r argymhellion a wnaed yn ymwneud ag arweinyddiaeth, roedd lleiafrif ohonynt yn canolbwyntio ar gryfhau gweithgarwch sicrhau ansawdd i ganolbwyntio’n gyson ar effaith addysgu ar ddysgu.
  • Roedd tri o’r argymhellion arweinyddiaeth yn ymwneud â chryfhau adnoddau a’r amgylchedd dysgu i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion pob disgybl.

Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu ysgolion arbennig annibynnol i fyfyrio ar eu hunanwerthuso a chynllunio gwelliant:

  • Pa mor effeithiol y mae trefniadau’r ysgol i werthuso ansawdd addysgu ac asesu yn adnabod y prif gryfderau a meysydd i’w gwella ar draws ystod lawn y ddarpariaeth?
  • Pa mor dda y mae prosesau sicrhau ansawdd yn canolbwyntio ar effaith darpariaeth ar gynnydd a lles disgyblion? Pa mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio ystod o wybodaeth i nodi meysydd i’w gwella?
  • Wrth werthuso addysgu, pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn canolbwyntio ar ba mor dda mae’n helpu disgyblion i wneud cynnydd yn eu gwybodaeth, medrau a’u dealltwriaeth?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio canlyniadau prosesau sicrhau ansawdd i fonitro a gwerthuso cynnydd disgyblion er mwyn gwella addysgu a dysgu?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn cynllunio ar gyfer gwelliannau mewn addysgu? Pa mor glir y mae cynlluniau ar gyfer gwella yn pennu nodau ac amcanion, amserlenni, meini prawf llwyddiant i werthuso cynnydd mewn dysgu a threfniadau ar gyfer monitro?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn monitro cynlluniau ar gyfer gwella? Pa mor dda y mae arweinwyr yn diwygio ac addasu cynlluniau gwella yn sgil tystiolaeth o brosesau sicrhau ansawdd?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn cysylltu blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau mewn addysgu â dysgu proffesiynol? Pa mor effeithiol y maent yn gwerthuso effaith dysgu proffesiynol ar addysgu a chynnydd disgyblion?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn dyrannu adnoddau, gan gynnwys amser aelodau staff a mewnbwn gan sefydliadau partner, i sicrhau llwyddiant ei gwaith gwella?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023