Mynd i'r cynnwys

Themâu allweddol

Addysg a chymorth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches

2022-2023


Myfyrwyr yn astudio

Mae Cymru yn croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches1Y diffiniad o geisiwr lloches yw rhywun sydd wedi cyrraedd mewn gwlad ac wedi gofyn am loches. Hyd nes bydd yn cael penderfyniad ynghylch p’un a yw’n ffoadur ai peidio, caiff ei adnabod fel ceisiwr lloches. Yn y DU, mae hyn yn golygu nad oes ganddo’r un hawliau â ffoadur neu ddinesydd Prydeinig. Er enghraifft, ni chaniateir i bobl sy’n ceisio lloches weithio.’ (Refugee Action, 2023) o bob cwr o’r byd, a’i nod yw bod y wlad gyntaf yn y byd i gael ei chydnabod yn ‘Genedl Noddfa’ lle mae pobl sy’n ceisio lloches ‘yn cael croeso, dealltwriaeth, a’u cyfraniad unigryw i dapestri cyfoethog o fywyd Cymreig yn cael ei ddathlu’ (Cymru: Cenedl Noddfa, 2023). Er 2020, mae nifer y ceisiadau am loches a gofnodwyd yn y DU wedi cynyddu’n sylweddol (Llywodraeth y DU, 2023). Yn 2022, amcangyfrifodd Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid fod tua 40% o ffoaduriaid byd-eang o dan 18 oed (UNHCR, 2022, tud.3). Amlygodd ymchwil gan Lywodraeth Cymru fod yr heriau a oedd yn wynebu dysgwyr sy’n ffoaduriaid yn aml wedi gwaethygu yn sgil pandemig COVID-19 (Llywodraeth Cymru, 2023, tud.4).

Yn 2020, fel rhan o’i adroddiad ar bontio mewn addysg ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches ifanc, fe wnaeth UNICEF gynnwys cyfres o argymhellion buddiol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach (AB) yn Lloegr. Amlygodd yr adroddiad fod y cyngor a’r arweiniad diduedd y trefnwyd eu bod ar gael i ddysgwyr yn pontio o ysgolion i AB yn annigonol (UNICEF, 2020, tud.10). Dyma ganfyddiadau adolygiad ymchwil ar wahân ar anghenion a phrofiadau addysgol plant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid gan Peterson et al (2017):

  • Mae gan addysg ac ysgol rôl hanfodol i gefnogi cynnwys plant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid o fewn eu cymunedau newydd;
  • Felly, mae angen i ysgolion, arweinwyr ysgolion ac athrawon gymryd eu rôl o ddifri o ran ymateb i anghenion addysgol plant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid – gan gynnwys y rhai sydd ar eu pen eu hunain;
  • Mae ymagweddau ysgol gyfan wedi’u hadeiladu ar sail ymatebion croesawus a chyfannol at blant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid yn gynhyrchiol, ac yn gallu herio trafodaethau ac arferion ehangach sy’n elyniaethus at bobl a phlant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid;
  • Mae ysgolion ac athrawon yn debygol o fod angen, ac elwa ar, weithgareddau dysgu a datblygiad proffesiynol sy’n meithrin ac ymestyn eu dealltwriaeth o hanesion, anghenion a phrofiadau addysgol a diwylliannol plant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid;
  • Mae angen mwy o gymorth â ffocws ar blant sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid ar gyfer eu llwybrau addysgol i addysg bellach ac addysg uwch mewn ffyrdd sy’n ymgysylltu â’u dyheadau uwch, y maent yn debygol o elwa’n sylweddol ar hyn. Mae cymorth o’r fath yn debygol o gynnwys arweiniad a chwnsela â ffocws, yn ogystal ag argaeledd modelau rôl cefnogol (tud.5).

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig mewn cynorthwyo ysgolion cyn i ddisgyblion sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid gyrraedd, ac yn ystod eu cyfnod mewn ysgol yn ogystal. Mae timau arbenigol awdurdodau lleol yn gweithio gyda theuluoedd sy’n ffoaduriaid i bontio’n esmwyth i ysgol a monitro cynnydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, darperir cyswllt a chymorth cychwynnol gan yr awdurdod lleol i newydd-ddyfodiaid o fewn wythnos. Yn ddiweddarach, caiff plant a phobl ifanc eu cofrestru mewn ysgol neu goleg, fel arfer o fewn pythefnos.

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches hŷn hefyd yn cael mynediad at ystod o addysg a hyfforddiant mewn colegau addysg bellach (AB) neu drwy bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned. Mae gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n oedolion ystod eang iawn o brofiadau addysg blaenorol. Maent yn amrywio o’r rhai sydd wedi cael ychydig iawn o ysgol a lefelau isel o lythrennedd, i’r rhai sydd â chymwysterau ôl-raddedig ond y gallai fod angen iddynt ddatblygu eu medrau Saesneg i gael swydd.

I ddysgu am brofiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’r ffyrdd y maent wedi cael eu cynorthwyo, yn ystod haf 2023, fe wnaethom gyfarfod â chwe awdurdod lleol, ac ymweld ag 13 ysgol, tri choleg a dwy bartneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned. Dewiswyd y darparwyr hyn oherwydd eu gwaith i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac o’r herwydd, nid oedd y sampl hon o ddarparwyr yn cynrychioli’r holl ddarparwyr ledled Cymru gyfan.

Myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd wrth ddesg

Addysgu a dysgu

Ysgolion ac awdurdodau lleol

Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches wedi’u cymell ac yn mwynhau dysgu. Siaradon nhw yn gadarnhaol am eu cynnydd, a’r modd datblygodd eu hyder o ganlyniad i’w dysgu.

Roedd llawer o blant sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches wedi dioddef seibiannau sylweddol yn eu haddysg cyn cyrraedd Cymru, ac roedd eu medrau Saesneg yn gyfyngedig, os oedd ganddynt rai o gwbl. Roedd staff awdurdodau lleol ac ysgolion wedi ymrwymo i gynorthwyo disgyblion i ddysgu Saesneg fel ail iaith ac yn darparu deunyddiau dysgu i gynorthwyo rhieni a gofalwyr gartref. O ganlyniad, roedd disgyblion yn caffael yr iaith yn gyflym ac yn gallu mynegi eu hunain yn glir. Mewn llawer o achosion, roedd y plant hyn yn dysgu Saesneg cyn eu rhieni neu’u gwarcheidwaid ac yn cyfieithu iddynt, pan roedd angen. Yn ogystal â datblygu’n gyflym i fod yn siaradwyr Saesneg huawdl, at ei gilydd, roedd disgyblion oedran cynradd hefyd yn gwneud cynnydd addas yn eu gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. Roeddent yn awyddus i ddysgu Cymraeg, ac roedd ychydig ohonynt wedi datblygu’n gyflym i gyrraedd lefel uchel o ruglder.

Trochi yn y Gymraeg ar gyfer ffoaduriaid yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll ac Ysgol Y Borth, Ynys Môn

Rhoddir cyfnod cychwynnol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cyrraedd yn yr ysgolion fel eu bod yn ymgynefino â’u hamgylchedd newydd ac yn datblygu eu hyder. Mae staff yn yr ysgolion yn rhoi croeso cynnes ac yn dathlu mamieithoedd y disgyblion hyn a’u diwylliannau cartref.

Wedyn, mae’r disgyblion yn mynychu Canolfan Newydd-ddyfodiaid Môn ym Moelfre. Ar ôl y cyfnod hwn, mae’r disgyblion yn dychwelyd i’w hysgolion ac mae athro o’r uned iaith yn ymweld â nhw yn rheolaidd i barhau i’w cynorthwyo i ddysgu Cymraeg. Mae hyn yn rhoi parhad i’r disgyblion ac yn helpu’r ysgolion i ddarparu ar gyfer anghenion unigol y disgyblion yn ogystal. Mae’r ddarpariaeth hon yn effeithiol iawn ac yn adeiladu’n dda ar y gwaith trochi iaith cychwynnol. Caiff medrau Saesneg y disgyblion eu datblygu trwy weithgareddau integredig yn yr ysgol.

O ganlyniad, mae’r disgyblion sy’n ffoaduriaid yn y ddwy ysgol wedi gwneud cynnydd cryf â’u medrau iaith. Mae’r disgyblion hyn, nad oeddent yn medru unrhyw Gymraeg ac yr oedd eu gallu yn Saesneg yn gyfyngedig pan gyrhaeddon nhw, bellach yn gallu siarad y ddwy iaith yn hyderus gyda lefel dda o ruglder.

Gweithiodd awdurdodau lleol yn dda gydag ysgolion i oresgyn yr her o ran cael gwybodaeth gefndir gyfyngedig neu anghywir am newydd-ddyfodiaid. Siaradon nhw â theuluoedd y disgyblion ac asesu galluoedd disgyblion yn ofalus. Roeddent yn anelu at adeiladu’n raddol ar fedrau disgyblion wrth iddynt symud trwy’r ysgol gan addysgu iaith, llythrennedd a rhifedd ar wahân mewn ffordd a oedd yn diwallu eu hanghenion unigol. Yn gyffredinol, gan ystyried oedran a chyfnod datblygu, gwnaeth y disgyblion hyn gynnydd cryf yn datblygu eu medrau llafaredd, eu hymwybyddiaeth ffonolegol, a’u medrau darllen ac ysgrifennu.

Gweithiodd timau awdurdodau lleol arbenigol yn agos gydag ysgolion i’w helpu i gynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rhoesant gyngor a chymorth i athrawon, yn ogystal â chyswllt rhwng y cartref a’r ysgol a gwersi iaith ychwanegol i ddisgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion. Roedd yr arbenigwyr hyn, sy’n aml yn ddwyieithog neu’n amlieithog, yn fodelau rôl cryf ac yn cefnogi dysgu a lles disgyblion unigol yn effeithiol.

Rôl Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd fel Ysgol Hyb i Wcreiniaid

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dynodi Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gynradd Milton yn Ysgolion Hyb i Wcreiniaid. Mae’r dull hwn yn hwyluso cymorth newydd-ddyfodiaid o Wcráin gan deuluoedd sefydledig o Wcráin, yn ogystal â staff cymorth dynodedig.

Mae cynorthwyydd addysgu dwyieithog yn gweithio gyda phob dysgwr yn Ysgol Uwchradd Llanwern i nodi eu diddordebau a’r pynciau y gwnaethant eu hastudio a’u mwynhau yn y gorffennol. Maent yn eu hannog i ddilyn y rhain ymhellach, er enghraifft trwy ymgysylltu â gweithgareddau allgyrsiol perthnasol. Defnyddir asesiadau i sefydlu dysgu blaenorol disgyblion o ran eu gwybodaeth, eu medrau a’u nodau, gan gynnwys eu gallu ieithyddol. Darperir strategaethau dysgu unigol ar gyfer disgyblion, ac fe gânt eu partneru â chyfeillion sy’n eu cynorthwyo yn ystod eu hwythnos gyntaf yn eu hysgol newydd.

Mae’r cynorthwyydd addysgu dwyieithog hefyd yn sefydlu cysylltiadau cryf â rhieni ac yn chwarae rôl allweddol ym mhob cyfarfod derbyn. Mae’n cefnogi integreiddio pob disgybl i’w ysgol newydd trwy gysylltu’n agos â’r pennaeth, y pennaeth blwyddyn a’r athro dosbarth i helpu sefydlu perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol. Mae’n gweithio gyda rhieni i sicrhau eu bod yn deall sut mae plant yn mynd ati i gaffael iaith newydd a’u bod yn deall y gwahaniaethau rhwng system addysg Cymru a’r un yn Wcráin.

Mewn llawer o ysgolion, defnyddiodd athrawon ystod o ddulliau addysgu effeithiol ac adnoddau dynodedig i sicrhau bod disgyblion yn gwneud y cynnydd yr oeddent yn gallu ei wneud. Roedd awdurdodau lleol wedi datblygu eu hadnoddau addysgu eu hunain ac wedi nodi rhai eraill sydd ar gael ar-lein, i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Roedd athrawon yn cynllunio’n ofalus i sicrhau bod gweithgareddau llythrennedd yn hygyrch, yn berthnasol ac yn bwrpasol. Fe wnaethant addasu eu hiaith a defnyddio ystum ac arwyddion yn effeithiol i gyfathrebu â phlant nad oeddent yn medru llawer o Saesneg, os o gwbl. Gwnaed defnydd effeithiol o dechnoleg hefyd, fel apiau cyfieithu, i gefnogi cyfathrebu. O ganlyniad, llwyddodd disgyblion i fagu hyder a datblygu eu dysgu ymhellach wrth i’w Saesneg wella.

Defnyddio llenyddiaeth i gefnogi integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Ysgol Gynradd Severn, Caerdydd

Mae’r ysgol yn sicrhau bod disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yn cael eu cynrychioli yn adnoddau’r ysgol.

Maent yn darparu ystod o lyfrau y gall disgyblion uniaethu â nhw a gweld eu hunain ynddynt, neu lyfrau sydd wedi’u hysgrifennu yn eu mamiaith. Defnyddir y llyfrau hyn fel symbyliad ar gyfer profiadau dysgu ac maent yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio themâu pwerus sy’n berthnasol i’w bywydau. Er enghraifft, maent yn ystyried profiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn testun fel ‘The Island’ a ‘The Boy at the Back of the Class’. Mae disgyblion yn galw testunau i gof fel stori Floella Benjamin a Chenhedlaeth Windrush. Maent yn ymateb yn dda i’r testunau hyn oherwydd bod y storïau’n adlewyrchu eu profiadau eu hunain.

Mae rhannu storïau o’r fath gyda disgyblion eraill yn helpu meithrin goddefgarwch a pharch.

Yn ystod eu cyfnod yng Nghymru, roedd disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11 yn cael eu hannog i ddilyn cymwysterau iaith yn eu hiaith gyntaf, fel TGAU Wcreineg neu TGAU Rwsieg. Fodd bynnag, roedd llawer o’r disgyblion hyn, ynghyd â’r rhai sy’n dilyn cymwysterau UG neu Safon Uwch, dan anfantais wrth sefyll eu harholiadau ar gyfer pynciau eraill yn Saesneg neu yn Gymraeg. Roedd hyn yn arbennig o wir os oeddent wedi cyrraedd Cymru yn gymharol ddiweddar a heb gael llawer o amser i ddysgu naill ai Saesneg neu’r Gymraeg. Yn yr achosion hyn, roedd disgyblion yn ei chael yn anodd deall, defnyddio a chymhwyso iaith gymhleth a therminoleg pwnc yn eu gwaith asesedig. Adeg ein hymweliadau, dywedodd arweinwyr ysgolion eu bod yn aros am fwy o arweiniad ynghylch unrhyw gonsesiynau a chymorth y gellid trefnu eu bod ar gael i’r dysgwyr hyn. Mewn ychydig o achosion, roedd ysgolion yn gallu gwneud trefniadau i ddisgyblion sefyll arholiadau yn eu hiaith gyntaf trwy weithio gyda sefydliadau dyfarnu dramor.

Colegau AB a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned

Roedd y rhan fwyaf o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n oedolion yn canolbwyntio ar ddatblygu eu medrau Saesneg. Roedd y dysgwyr hyn, sy’n aml yn fregus, yn gwerthfawrogi’r agwedd gymdeithasol ar ddod at ei gilydd, yn ogystal â’r addysg a gynigir o fewn amgylcheddau croesawgar colegau AB a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned. Roedd athrawon yn canmol, yn annog ac yn hyrwyddo parch ymhlith eu grwpiau amrywiol o ddysgwyr. Roedd athrawon yn cydnabod y rhwystrau a’r heriau oedd yn wynebu’r dysgwyr hyn ac yn gweithio’n hyblyg i fodloni’r gofynion a osodwyd arnynt, fel cyfrifoldebau gofal plant ac apwyntiadau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mewn ychydig o achosion, yn enwedig os oedd dysgwyr yn aros i gael eu hadleoli, roedd yn rhaid iddynt ddod â’u plant i wersi, a gallai hyn darfu arnyn nhw a phobl eraill.

Yn gyffredinol, roedd athrawon ôl-16 a dysgu oedolion yn defnyddio ystod o strategaethau ac adnoddau yn effeithiol i sicrhau bod gweithgareddau dysgu yn ddiddorol a chyfoes. Roedd dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddod â phrofiadau go iawn ac iaith i mewn i wersi; roeddent yn gofyn cwestiynau treiddgar, yn gwirio’u dealltwriaeth, ac yn mynd ati i gyfrannu syniadau. Roedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwerthfawrogi dysgu am ddiwylliant Cymru a Phrydain, ochr yn ochr â gallu dod â’u diwylliannau a’u profiadau eu hunain i’w dysgu.

Yn gyffredinol, roedd dysgwyr yn datblygu perthynas gadarnhaol ag athrawon, staff cymorth ac arweinwyr. Siaradon nhw’n gadarnhaol am eu cynnydd, a sut roedd eu hyder wedi datblygu. Roedd hyn yn eu galluogi i ymgeisio am swyddi a chael cyflogaeth; nodi cyfleoedd gwirfoddoli; trefnu apwyntiadau meddygol; deall rhaglenni teledu Saesneg; ac integreiddio’n fwy yn eu cymunedau lleol.

Cynorthwyo ffoaduriaid i yrru’n ddiogel ar ffyrdd y DU – Addysg Oedolion Cymru

I ymateb i angen dysgwyr a’r awydd i sicrhau cyflogaeth, mae Addysg Oedolion wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector ac awdurdodau lleol i ddatblygu rhaglen gymorth ar gyfer y rhai sydd eisiau pasio eu prawf Theori Gyrru yn y DU. Mae’r cwrs yn ymdrin ag elfennau fel adnabod arwyddion ffordd, pellterau brecio, a diogelwch ar y ffordd ac yn y car. Pan fo’n briodol, mae tiwtoriaid hefyd yn cynorthwyo â’r broses ymgeisio am drwydded dros dro. Mae’r cyrsiau ar-lein buddiol hyn wedi galluogi’r darparwr i ddarparu yn y modd hwn ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled Cymru.

Cydnabu rhai darparwyr fod bylchau o hyd yn y ddarpariaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn, a lleiafrif o ddarparwyr yn unig sy’n cynnig cyrsiau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr a oedd eisiau elwa ar ddysgu galwedigaethol, ond yr oedd angen iddynt ddatblygu eu medrau Saesneg, hefyd.

Roedd cydnabod y cymwysterau yr oedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi’u hennill yn eu gwledydd cartref yn her i ddarparwyr. Roedd yr angen i gadarnhau cywerthoedd cymwysterau yn achosi oedi i ddysgwyr oedd eisiau dechrau rhaglenni neu fynd ymlaen i ddysgu pellach neu ddysgu uwch. Mae ymchwil gan Higham (2021) yn amlygu rhai o amgyffrediadau a phrofiadau ffoaduriaid sy’n oedolion yng Nghymru yn eu geiriau eu hunain, gan gynnwys eu profiadau o addysg.

Grwp o fyfyrwyr y tu allan

Lles, gofal a chymorth

Ysgolion ac awdurdodau lleol

Nod awdurdodau lleol ac ysgolion oedd rhoi lles pob plentyn yn ganolog i’w gwaith. Canolbwyntion nhw ar ddarparu amgylcheddau diogel ac anogol lle gallai disgyblion bregus deimlo’n ddiogel. Yn aml, roedd plant sy’n ffoaduriaid yn cyrraedd ar ôl dioddef trawma ac yn byw ag ofn neu orbryder. Chwaraeodd awdurdodau lleol ran allweddol mewn darparu hyfforddiant a chyngor ar gyfer staff ysgolion ar ystod o agweddau, gan gynnwys gwahanol werthoedd diwylliannol, yn ogystal ag effaith trawma.

Roedd awdurdodau lleol yn cynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches â threfniadau ymarferol ar gyfer llety, gwisg ysgol a chludiant. Fe wnaeth hyn helpu teuluoedd i ymgynefino’n gyflym a sefydlu ymdeimlad o normalrwydd. Roedd awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion trwy ddarparu hyfforddiant ac adnoddau penodol i helpu aelodau staff ysgolion i gefnogi lles y disgyblion hyn. Fe wnaeth hyn alluogi staff ysgolion i fod yn hyblyg ac effeithiol wrth ymateb i’r heriau penodol dan sylw, ac roeddent yn gallu dod i adnabod y disgyblion a’u teuluoedd yn dda. Roedd arweinwyr ysgolion ac arbenigwyr awdurdodau lleol yn gweithio’n agored, yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol gyda’r teuluoedd bregus hyn heb farnu.

Roedd disgyblion a’u teuluoedd yn elwa ar ystod amrywiol o ymyriadau teilwredig o fewn yr ysgol ac ar y cyd â phartneriaid allanol. Pan roedd y trefniadau amlasiantaethol hyn yn fwyaf effeithiol, roeddent yn mynd i’r afael ag anghenion tai, addysg ac iechyd trwy gynnal asesiadau manwl o gyflyrau ac anghenion y teuluoedd cyn i ddisgyblion gyrraedd yr ysgol. Roedd hyn yn galluogi i’r ddarpariaeth gael ei chynllunio’n ofalus.

Gwasanaethau cymorth wedi’u hatgyfnerthu trwy ‘Teulu Môn’, Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn darparu un man cyswllt, sef ‘Teulu Môn,’ ar gyfer yr holl blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig sydd angen cymorth ychwanegol. Maent yn darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae penaethiaid lleol yn gwerthfawrogi’r un man cyswllt hwn gan eu bod yn gallu cyfeirio teuluoedd sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches at ystod o wasanaethau cymorth. Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn hyblyg, ac mae aelodau staff yn barod i addasu’r ddarpariaeth yn unol â beth sydd orau ar gyfer lles pob teulu.

I ychwanegu at waith y gwasanaeth hwn, mae’r awdurdod lleol wedi hyrwyddo defnydd o ddull ‘sy’n ystyriol o drawma’ ar draws pob ysgol. Mae’r hyfforddiant cysylltiedig wedi rhoi sylfaen gadarn i ysgolion feithrin perthnasoedd â phlant bregus a’u teuluoedd.

Esboniodd rhieni a phlant sy’n ffoaduriaid a oedd yn teimlo’n orbryderus neu’n ofnus i ddechrau wedi iddynt gyrraedd, eu bod wedi cael help i deimlo’n ddiogel a bod croeso iddynt. Defnyddiodd awdurdodau lleol ac ysgolion ddulliau arloesol a sensitif i gynorthwyo’r teuluoedd hyn. Gwahoddwyd rhieni i gyfarfodydd ymsefydlu cyfeillgar neu foreau coffi lle roeddent yn dysgu am sut roedd y diwrnod ysgol yn cael ei drefnu, a beth oedd y disgwyliadau, ac roeddent hefyd yn cael cymorth i gwblhau unrhyw waith papur angenrheidiol. Helpodd y digwyddiadau hyn y rhieni i ffurfio rhwydweithiau cymdeithasol a chymorth gyda’i gilydd ac o fewn cymuned yr ysgol.

Gweithgareddau haf ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid o Wcráin gan Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent

Mae gwasanaeth Addysg yn y Gymuned Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth â’r adran hamdden a thwristiaeth i gyflwyno rhaglen haf ar gyfer plant sy’n preswylio mewn canolfan groeso ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin. Mae’r gwasanaeth, a ddarperir gan dîm ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE)’ y bartneriaeth, yn galluogi’r plant i elwa ar gyfleoedd datblygu medrau iaith trwy sesiynau celf a chrefft anffurfiol. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi datblygiad iaith, ond hefyd yn helpu newydd-ddyfodiaid i wneud ffrindiau a dysgu am normau diwylliannol i baratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.

Cymorth ehangach i deuluoedd yn Ysgol Gynradd Maendy, Casnewydd

Mae gan yr ysgol bolisi drws agored i ddarparu cymorth hygyrch i deuluoedd a’r gymuned. Mae eu clwb ar ôl yr ysgol, ‘Wicked Wednesday’, yn dod â theuluoedd lleol ac asiantaethau cymorth allanol at ei gilydd o fewn amgylchedd croesawgar yr ysgol. Mae’r clwb hwn, sy’n eithriadol o boblogaidd, yn agored i deuluoedd disgyblion presennol a chyn-ddisgyblion, fel ei gilydd; mae’n denu tua 90 o gyfranogwyr yn rheolaidd. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn gweithio ochr yn ochr â gwahanol sefydliadau i drefnu bod teuluoedd yn cael cyfle i ddefnyddio dyfeisiadau cartref, cyfrifiaduron a chysylltiadau â’r rhyngrwyd.

Mae arweinwyr yr ysgol yn awyddus i ddatblygu medrau’r gymuned leol o oedolion sy’n ffoaduriaid, yn geiswyr lloches ac yn fewnfudwyr. Mae’r awdurdod lleol wedi gallu helpu â hyn trwy ddarparu cwrs cynorthwyydd addysgu ar gyfer rhieni. Mae hyn wedi arfogi sawl rhiant addas â’r wybodaeth a’r medrau sydd eu hangen arnynt i gael swydd mewn ysgolion lleol. Mae hefyd yn sicrhau parhad mewn cymorth ar gyfer disgyblion trwy helpu datblygu gweithlu staff amrywiol i ddiwallu gwahanol anghenion ieithyddol a diwylliannol disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, a’u teuluoedd.

Cododd llawer o ysgolion ymwybyddiaeth am ddiwylliant a phrofiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy wersi addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Cynllunion nhw brofiadau cyfoethogi gwerthfawr a oedd yn canolbwyntio ar ddathlu gwahanol ddiwylliannau ac amrywiaeth ochr yn ochr â hunaniaeth Gymreig yr ysgol. O ganlyniad, cydnabu disgyblion y rôl bwysig sydd ganddyn nhw fel dinasyddion yng Nghymru; roedd hyn yn helpu ennyn diddordeb a brwdfrydedd disgyblion ar gyfer hanes lleol a hanes Cymru. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn darparu profiadau ehangach gwerthfawr na fyddai eu disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches wedi elwa arnynt fel arall, fel ymweld â’r sinema neu’r pwll nofio, fel rhan o’u cwricwlwm cynlluniedig. Roedd rhieni a disgyblion yn gwerthfawrogi’r gweithgareddau ychwanegol niferus a oedd yn cael eu cynnig gan yr ysgolion hyn.

Yn ogystal â chynorthwyo teuluoedd, roedd awdurdodau lleol hefyd yn croesawu plant sy’n geiswyr lloches ar eu pen eu hunain (UASC). Ar ôl nodi plentyn o’r fath, roedd gweithwyr cymdeithasol yn trefnu gofal maeth ac yn dewis ysgol briodol. Datblygwyd cynllun addysg personol, a oedd yn ystyried safbwyntiau’r plentyn, gan gynnwys ei ddiddordebau a’i ddyheadau, a chynhaliwyd adolygiad ar ôl wyth wythnos ysgol. Roedd ychydig o awdurdodau lleol yn cael trafferth darparu ar gyfer plant ar eu pen eu hunain a oedd yn cael eu hanfon atynt o awdurdodau lleol heb rybudd. Nid oedd awdurdodau rhiant corfforaethol a chwmnïau maethu preifat bob amser yn cyfathrebu’n dda ag adrannau addysg awdurdodau lleol.

Yn gyffredinol, roedd cyfraddau absenoldeb ymhlith disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yn peri pryder i ysgolion ac awdurdodau lleol. Roedd nifer o deuluoedd yn byw mewn gwestai neu lety dros dro a gellid eu symud rhwng gwahanol leoliadau ar fyr rybudd. Mewn rhai ardaloedd, roedd y diffyg lle mewn ysgolion cyfagos yn golygu bod rhaid i blant deithio i ysgolion y tu allan i’r ardal lle roeddent yn cael eu lletya, gan wneud presenoldeb rheolaidd yn fwy heriol. Roedd ysgolion hynod effeithiol yn gosod blaenoriaeth uchel ar olrhain presenoldeb disgyblion ac roeddent yn gweithredu ymateb cadarn ar y diwrnod cyntaf i unrhyw absenoldebau. Fodd bynnag, nid oedd statws ceisiwr lloches neu ffoadur yn cael ei gofnodi trwy’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ac roedd hyn yn rhwystro gwaith monitro a gwerthuso ehangach.

At ei gilydd, roedd y disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches y siaradom â nhw o’r farn fod eu lleisiau’n cael eu clywed yn yr ysgol ac y gallent awgrymu ffyrdd o wella’u bywydau a’u cymunedau. Roedd cynghorau ysgol yn rhoi gwerth yn gynyddol ar ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol eu hysgol. At ei gilydd, roedd gan ddisgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu ac yn dangos lefelau uchel o wydnwch ac uchelgais ar gyfer eu dyfodol.

Ar y cyfan, roedd ethos cynhwysol cryf ym mhob un o’r ysgolion sydd wedi’u cynnwys yn yr astudiaeth hon. Roedd Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Iechyd a Lles y Cwricwlwm newydd i Gymru, yn ogystal â’r agwedd ar addysg rhyw a chydberthynas ar y cwricwlwm, yn helpu i gefnogi hyn. Roedd yr agweddau hyn yn cael eu hymgorffori’n gynyddol yn y cwricwlwm ac mewn agweddau ehangach ar fywyd ysgol. Roedd hyn o fudd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer yr holl ddisgyblion oedran cynradd ym mis Medi 2022. Roedd gwasanaethau, gweithgareddau bugeiliol a diwrnodau ac wythnosau dynodedig yn cael eu defnyddio’n dda i ddathlu amrywiaeth iaith a diwylliant.

Helpu disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches a’u teuluoedd i integreiddio yn Ysgol Gymunedol Plascrug, Ceredigion

Dros y degawd diwethaf, mae Ysgol Gynradd Plascrug wedi dod yn noddfa groesawgar a gwerthfawr yn gynyddol ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid a’u teuluoedd. Mae’r ysgol wedi darparu ar gyfer ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin, ochr yn ochr â phlant o wledydd eraill, ac wedi eu helpu i integreiddio’n ddi-dor i’w bywyd yng Nghymru.

Mae staff yr ysgol yn cynnwys dau gynorthwyydd addysgu sydd, gan eu bod yn rhugl mewn Arabeg, yn gallu helpu disgyblion o amrywiaeth o wledydd i deimlo’n gartrefol. Yn ychwanegol, mae’r awdurdod lleol yn cyflogi cyn athro Saesneg o Wcráin, sy’n ffoadur ei hun, sy’n gweithio’n agos gyda phlant sy’n newydd i’r ardal ac angen help i integreiddio. Caiff gwaith pob un o’r aelodau staff hyn ei werthfawrogi’n fawr gan y disgyblion, aelodau staff eraill a chymuned ehangach yr ysgol. Mae un wedi dysgu Cymraeg i safon dda ac yn gwasanaethu fel model rôl da ar gyfer y disgyblion.

Un o nodweddion nodedig yr ysgol yw’r ffordd y mae teuluoedd o ystod amrywiol o ddiwylliannau, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn cyfrannu at gymuned yr ysgol. Mae ffoaduriaid sy’n oedolion yn helpu cynnal agweddau ar adeiladau a thir yr ysgol. Yn noson ryngwladol flynyddol hynod boblogaidd yr ysgol, mae teuluoedd o bob cwr o’r byd yn cynnig amrywiaeth o fwydydd traddodiadol wedi’u coginio gartref i ddathlu integreiddio amlddiwylliannol.

Mae uned anogaeth ‘PLAS’ yr ysgol yn darparu’n dda ar gyfer anghenion disgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae pwyslais yr ysgol ar anogaeth yn llwyddo i alluogi ffoaduriaid i nid yn unig ymgynefino ond ffynnu ochr yn ochr â’u ffrindiau o Gymru. Mae ‘diwrnodau empathi’ yn meithrin synnwyr o gydymdeimlad ymhlith yr holl ddisgyblion, tuag at y rhai sydd wedi dioddef, ac yn parhau i ddioddef, o effeithiau rhyfel ac erledigaeth.

Ochr yn ochr â ffocws ar ddatblygu medrau cyfathrebu Saesneg y disgyblion, mae’r ysgol yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn effeithiol i ymddiddori yn y Gymraeg, a’i pharchu. Mae disgyblion a’u rhieni yn ymdrechu i ddysgu’r iaith a gall ychydig ohonynt siarad yn fedrus fel dysgwyr.

Colegau AB a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned

Yn y tri choleg a’r ddwy bartneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned yr ymwelom â nhw, roedd cymorth helaeth ar gyfer lles a datblygiad personol dysgwyr ôl-16 a dysgwyr sy’n oedolion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, ac mewn llawer o ffurfiau. Roedd enghreifftiau’n cynnwys prosesau ymgeisio symlach; amrywiaeth o gyrsiau, lleoliadau a dulliau cyflwyno; cymorth a hyfforddiant personol; a gweithgareddau allgyrsiol a oedd yn darparu cyfoethogi ac yn hybu lles. Roedd y dysgwyr hŷn hefyd yn elwa ar gysylltiadau â phartneriaid allanol fel cymdeithasau tai, y Ganolfan Byd Gwaith, a Cyngor ar Bopeth. Mewn rhai achosion, roedd cymorth entrepreneuriaeth ar gael ar gyfer y rhai sy’n gobeithio dechrau eu busnesau eu hunain.

Menter ac entrepreneuriaeth yng Ngholeg Pen-y-bont

Mae dysgwyr SSIE yng Ngholeg Pen-y-bont, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn gallu cael cymorth i ddatblygu eu medrau menter ac entrepreneuriaeth i’w helpu i ddechrau eu busnes eu hunain. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae dysgwyr SSIE wedi mynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein amrywiol, gan gynnwys gweithdai ‘dechrau eich busnes eich hun’. Sefydlodd un dysgwr SSIE fusnes trin gwallt symudol, agorodd cwpwl arall dŷ bwyta Halal, ac mae dysgwr arall yn sefydlu busnes fel cyfrifydd hunangyflogedig gyda chymorth Busnes Cymru.

Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n oedolion yn ddysgwyr wedi’u cymell ac yn mwynhau dysgu. Fodd bynnag, roedd rhai ohonynt yn orbryderus am eu dyfodol o ran adleoli o fewn y DU, neu’r posibilrwydd o ddychwelyd i’w gwledydd cartref. Roedd llawer ohonynt hefyd yn cael trafferth ag effeithiau trawma a’i effaith ar eu gallu i ganolbwyntio ar ddysgu. Roedd eu hathrawon yn cydnabod hyn ac yn ymateb yn sensitif ac yn briodol.

Yn ogystal â’r cymorth sy’n cael ei roi gan athrawon, darparwyr a sefydliadau allanol, roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi manteision bod yn rhan o gymuned ddysgu. I lawer ohonynt, helpodd y perthnasoedd a ffurfiwyd gyda’u cymheiriaid ddarparu ymdeimlad o gymuned a oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r amgylchedd dysgu. Roeddent yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu am wledydd a diwylliannau ei gilydd, yn ogystal â gallu treulio amser gyda’i gilydd a chefnogi’i gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’i cholegau AB i ddatblygu modiwlau cwricwlwm gwrth-hiliol fel rhan o’i Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru (2022, tud. 46). Fodd bynnag, dywedodd dysgwyr sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches eu bod wedi bod yn dyst i achosion o hiliaeth neu fwlio, neu wedi’u dioddef. Roedd yr achosion hyn bron bob amser yn digwydd y tu allan i’r amgylchedd dysgu. Os oeddent o’r farn fod angen cymorth, dywedodd dysgwyr eu bod yn gwybod gyda phwy i gysylltu.

Roedd cynorthwyo dysgwyr SSIE a oedd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi’u cadarnhau neu eu hamau yn her i ddarparwyr. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y rhwystr iaith yn cyfyngu ar effeithiolrwydd yr offer diagnostig yr oeddent yn eu defnyddio fel arfer. Pan roedd materion yn cael eu nodi, roedd dod o hyd i aelodau staff â medrau priodol hefyd yn gallu bod yn anodd gan fod angen arbenigedd SSIE ac ADY yn aml ar y rhai a oedd yn cynorthwyo’r dysgwyr hyn.

Nodi anghenion dysgu ychwanegol ymhlith dysgwyr SSIE yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

Mae’r Prosiect Cymorth a Chynhwysiant SSIE (ESIP) yn helpu athrawon i nodi rhwystrau dysgu cudd. Mae tîm arbenigol wedi datblygu tri maes cymorth penodol: rhaeadru dysgu i’r tîm addysgu; datblygu dosbarthiadau arbenigol a chymorth hyfforddiant dysgu ar gyfer dysgwyr sydd â llythrennedd isel yn eu mamiaith; a gweithio’n agos gyda thimau ADY arbenigol i sicrhau bod dysgwyr a staff yn gallu elwa ar arbenigedd. Trwy ddefnyddio’r dull hwn, mae’r coleg yn llwyddo i helpu ei ddysgwyr trwy rwystrau cudd a chyflawni eu nodau dysgu.

Gallai ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd newydd gyrraedd ac yn gobeithio dilyn cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) a chymorth perthnasol eraill droi at yr Hybiau Canolog Asesu SSIE Rhanbarthol (REACH). Roedd y ‘siopau un stop’ hyn yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ond hefyd yn gweithredu fel sianelau gwerthfawr ar gyfer rhannu gwybodaeth ac arfer dda yng Nghymru gyfan. Roedd hybiau wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam. Mae hyb REACH Caerdydd wedi asesu a chefnogi dros wyth mil o ddysgwyr SSIE ers ei sefydlu yn 2017.

Roedd colegau a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned yn darparu adnoddau caledwedd yn fuddiol i ddysgwyr, lle bo’n briodol. Roedd hyn yn cynnwys benthyca dyfeisiau digidol a ‘donglau’ i gynorthwyo dysgwyr, yn enwedig ar gyfer y rhai mewn ardaloedd mwy anghysbell neu’r rhai yn cael trafferth â gofynion gofal plant, i allu dysgu o bell.


Arwain a gwella

Ysgolion ac awdurdodau lleol

Roedd nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi mabwysiadu gweledigaeth a gwerthoedd Dinas Noddfa (‘City of Sanctuary’) i feithrin diwylliant o letygarwch a chroeso ar gyfer unigolion sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Roeddent yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn hynod effeithiol, ac ar y cyfan yn eu helpu i integreiddio yn eu cymunedau a dathlu eu cyfraniadau. Yn gyffredinol, roedd swyddogion o fewn awdurdodau lleol ac uwch arweinwyr ysgolion yn hyrwyddo ethos cynhwysol yn llwyddiannus a oedd yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion dysgu a lles yr holl ddisgyblion.

Diolch i ddysgu proffesiynol awdurdodau lleol dros y blynyddoedd diwethaf, roedd eu swyddogion, arweinwyr ysgolion ac aelodau yn meddu ar ddealltwriaeth dda o’r heriau penodol sy’n wynebu ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Roedd yr ymwybyddiaeth hon yn helpu’r rhai dan sylw i ymateb yn sensitif i anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’u teuluoedd, gan alluogi staff, disgyblion a rhieni i weithio gyda’i gilydd yn gynhyrchiol. Fodd bynnag, roedd pwysau o ran cyllid yn effeithio ar gapasiti ysgolion ac awdurdodau lleol i gyflogi staff cymorth arbenigol, fel swyddogion ymgysylltu a oedd yn gallu darparu ymyrraeth bwrpasol.

Yn gyffredinol, roedd yr awdurdodau lleol sydd wedi’u cynnwys yn ein hadolygiad yn gweithio’n dda iawn gyda sefydliadau partner i helpu ysgolion i ddarparu cymorth addas ar gyfer dysgu a lles ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Roeddent yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol ac yn defnyddio dysgu proffesiynol yn effeithiol i helpu aelodau staff i ddeall yr amrywiaeth o heriau sy’n wynebu’r disgyblion hyn a’u teuluoedd. Cydnabu pob un o’r awdurdodau lleol fod ymateb amlasiantaethol, ar y cyd, yn hanfodol i fynd i’r afael yn effeithiol ag anghenion diwylliannol, cymdeithasol, iechyd, emosiynol, academaidd ac anghenion tai’r teuluoedd bregus hyn. Cefnogwyd cydweithio cryf, i gyd-fynd â gweledigaeth ‘Dinas Noddfa’, trwy gyfarfodydd dynodedig yn cynnwys nifer o asiantaethau. Fe wnaeth hyn helpu staff o fewn gwahanol sefydliadau i ddeall gwaith ei gilydd yn well, gan arwain at ddiwylliant pwrpasol lle roedd gwahanol arbenigwyr yn elwa ar arbenigedd ei gilydd. Roedd hyn yn hynod effeithiol wrth ddatrys problemau ar ran gwahanol deuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Ymagwedd amlasiantaethol at gymorth cyfannol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn Sir y Fflint

Mae awdurdod lleol Sir y Fflint yn cydnabod bod pob teulu yn unigryw, gyda’i ddiwylliant, ei hanes a’i brofiadau addysgol ei hun, yn ogystal ag anghenion tai, meddygol a chymdeithasol. Maent yn darparu ymagwedd gyfannol ac amlasiantaethol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddiwallu anghenion pob teulu sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches.

  • Tîm Ymateb Rheoli Brys (EMRT) – yn dod ag uwch arweinwyr sy’n gyfrifol am addysg, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, yr heddlu, cyfathrebu, diogelwch rhag tân, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyllid, at ei gilydd. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth amserol i wasanaethau addysgol gan alluogi ymateb cyflym i anghenion sy’n newid gan wahanol deuluoedd.
  • Tîm Ymateb Addysg ac Ieuenctid – yn cefnogi derbyn i ysgolion, cludiant, tîm chwarae, gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd a chydweithio gan ystod o wasanaethau cynhwysiant, er enghraifft addysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY), cwnsela ac ADY.
  • Y Groes Goch Brydeinig – yn darparu gwasanaethau cyfeiriadu ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin ac Affganistan.
  • Dysgu oedolion yn y gymuned – yn rhoi mynediad at addysg a hyfforddiant ar gyfer rhieni sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches.
  • Gwasanaethau ieuenctid – yn darparu ystod o weithgareddau cymunedol ar gyfer rhieni a phlant sydd ar wasgar ledled y sir i hwyluso rhwydweithio â’u cydwladwyr.

Cydnabu awdurdodau lleol ac ysgolion fod dysgu disgyblion yn cael ei gefnogi orau trwy bartneriaethau cynhyrchiol rhyngddyn nhw eu hunain a rhieni. Yn gyffredinol, teimlai rhieni eu bod yn gwybod at bwy i droi am gymorth, beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Helpodd yr ymgysylltiad cryf hwn â rhieni i feithrin medrau, hyder a hunan-barch rhieni. O ganlyniad, roedd rhieni’n gweld yr ysgol fel lle iddynt allu cael cyngor a chymorth. Byddai hyn yn eu helpu i ddatrys materion yn ymwneud â’u plant yn ogystal â phryderon ehangach ynghylch tai, arian, medrau neu les teuluol. Roedd llawer o rieni yn gweld eu hysgolion fel noddfa a lle diogel. Sicrhaodd awdurdodau lleol fod ysgolion yn cael mynediad at wasanaethau cyfieithu byw dros y ffôn yn ogystal â chyfieithwyr wyneb-yn-wyneb, pan roedd angen.

Cyfathrebu rhwng rhieni / gofalwyr sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches ac Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd

Mae Ysgol Uwchradd Cathays wedi rhoi pecynnau cymorth pwrpasol ar waith ar gyfer disgyblion a’u rhieni neu ofalwyr, sy’n darparu ar gyfer eu hanghenion emosiynol a dysgu, yn codi eu dyheadau ac yn eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae cydweithio yn helpu sefydlu ymddygiadau cadarnhaol wrth i ddisgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches ddechrau ymgynefino â ffordd newydd o fyw. Rhoddir blaenoriaeth i gyfathrebu rheolaidd dwy ffordd rhwng yr ysgol a’r teuluoedd neu’r gofalwyr. Mae gweithio mewn partneriaeth yn y modd hwn yn sicrhau dull cyson ar gyfer disgyblion yn yr ysgol ac yn y cartref. Mae’r ysgol a’r rhieni neu’r gofalwyr hefyd yn elwa ar ddealltwriaeth glir ac amserol o anghenion y plant ac unrhyw heriau fel y maent yn codi. Mae disgwyliadau uchel yr ysgol yn helpu sicrhau bod disgyblion sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches wedi eu paratoi’n dda ar gyfer eu llwybrau yn y dyfodol.

At ei gilydd, mae’r disgyblion hyn yn llwyddo i gyflawni eu nodi, er enghraifft trwy fynd ymlaen i astudio mewn prifysgol neu ddechrau eu busnesau eu hunain.

Roedd effeithiolrwydd y cyfathrebu a’r cydweithio rhwng ysgolion a darparwyr ôl-16 i gynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches wrth iddynt drosglwyddo rhyngddynt yn rhy amrywiol. Cydnabu arweinwyr fod angen datblygu’r agwedd hon ymhellach o ystyried nifer gynyddol yr unigolion o’r cymunedau hyn, gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain, a oedd yn paratoi i adael yr ysgol.

Colegau AB a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned

Roedd arweinwyr mewn colegau AB a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned yn ymateb yn dda i’r galw cynyddol am ddarpariaeth SSIE. Roedd darparwyr wedi ymateb yn gyflym i fodloni’r galw, ac wedi cynllunio eu darpariaeth mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill, lle roedd modd, i sicrhau cynnig addysgol priodol, osgoi dyblygu darpariaeth, a sicrhau bod cymorth perthnasol ar gael. Roedd partneriaid yn cynnwys darparwyr addysg eraill, sefydliadau’r trydydd sector, adrannau awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd ehangu darpariaeth SSIE wedi achosi heriau o ran recriwtio aelodau staff newydd, yn enwedig y rhai a oedd yn gymwys ac yn brofiadol mewn arferion sy’n ystyriol o drawma. Cydnabu darparwyr nad aethpwyd i’r afael â hyn yn gyffredinol fel rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a bod ymdriniaeth fel rhan o weithgareddau dysgu proffesiynol parhaus yn anghyson, hefyd.

Sesiynau galw i mewn ar gyfer ffoaduriaid yn Grŵp Llandrillo Menai

Mae cynllun adsefydlu ffoaduriaid Gwynedd a Môn yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer ffoaduriaid ar ffurf sesiynau galw i mewn ‘un stop’ a gynhelir mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys ar safleoedd coleg Grŵp Llandrillo Menai. Mae’r ‘siopau un stop’ hyn yn cynorthwyo â chwilio am swyddi, yn ogystal â chysylltiadau i gyfleoedd gwirfoddoli, ac mae llawer o ffoaduriaid yn manteisio ar y cymorth hwn. Yn ychwanegol, mae cyngor ac arweiniad arbenigol ar gael i helpu ffoaduriaid i sicrhau llety a chael cymorth ariannol. Cynhelir banciau cyfnewid dillad bob mis hefyd sy’n galluogi ffoaduriaid i gyfnewid neu gael dillad newydd.

Gallai’r amgyffrediad ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches o fodolaeth hierarchaeth yn y cymorth yr oedd gwahanol gymunedau yn ei gael, fod yn anodd i arweinwyr ac athrawon ei reoli. Gallai rhai grwpiau fanteisio ar fuddion na allai grwpiau eraill, fel cludiant cyhoeddus am ddim, a gallai hyn arwain at densiynau yr oedd angen eu rheoli’n sensitif. Pan roedd modd, roedd darparwyr yn ceisio gwneud iawn i sicrhau cydraddoldeb, er enghraifft trwy ddefnyddio ffrydiau cyllido amgen yn synhwyrol i ariannu gwasanaethau ar gyfer y rhai na allent fanteisio ar rywbeth.

Mynegodd arweinwyr rwystredigaeth ei bod yn ymddangos bod gwahanol grantiau ag amcanion tebyg wedi cael eu sefydlu heb roi llawer o ystyriaeth i grantiau sy’n bodoli eisoes. Er enghraifft, roeddent yn ansicr ynglŷn â sut y dylent ddefnyddio cyllid ‘Ffyniant Bro’ a ddyrannwyd gan Lywodraeth y DU ochr yn ochr â ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru.


Cyfeiriadau

Higham, G. (2021) Lleisiau Ffoaduriaid Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://vimeo.com/581106410 [Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023]

Peterson, A., Meehan, C., Ali, Z., and Durrant, I. (2017) What are the educational needs and experiences of asylum-seeking and refugee children, including those who are unaccompanied, with a particular focus on inclusion? Canterbury Christ Church University: England. [Ar-lein]. Ar gael o: https://repository.canterbury.ac.uk/download/06e2b644563fd83b0b18df9db4876ff82f08cd3d874b6fdab34435ba4708969d/1009797/__stafs-sal-01.ccad.canterbury.ac.uk_id25_Documents_Hartsdhown_literature-review.pdf [Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023]

Refugee Action (2023) Facts About Asylum. [Ar-lein] Ar gael o: https://www.refugee-action.org.uk/facts-about-asylum/?gclid=EAIaIQobChMIk-CUvKa3ggMVkcXtCh2nhgUEEAAYAiAAEgJFFvD_BwE [Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023]

UK Government, Home Office (2023) Summary of latest statistics. London: UK Government. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.gov.uk/government/statistics/immigration-system-statistics-year-ending-june-2023/summary-of-latest-statistics#how-many-people-do-we-grant-protection-to [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]

UNICEF (2020) Education Transitions for Refugee and Asylum-Seeking Young People in the UK: Exploring the Journey to Further and Higher Education. London: UNICEF. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.unicef.org.uk/wp-content/uploads/2020/06/Education-Transitions-UK-Refugee-Report.pdf [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]

Cymru: Cenedl Noddfa (2023) Nod Cymru yw bod y ‘Genedl Noddfa’ gyntaf yn y byd. [Ar-lein]. Ar gael o: https://wales.cityofsanctuary.org/cy/ [Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2022) Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-12/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol_0.pdf [Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023) Effaith Covid-19 ar ddysgwyr sy’n ffoaduriaid yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://hwb.gov.wales/api/storage/7e2aaedd-c0c8-4d19-b37c-1710e121338b/effaith-covid-19-ar-ddysgwyr-sy-n-ffoaduriaid-yng-nghymru.pdf [Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023]