Mynd i'r cynnwys

Adroddiad Blynyddol

Ein hymagwedd

2022-2023


Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn wedi’u seilio ar ddadansoddiad o ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys:

  • Tystiolaeth o arolygiadau craidd a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2023. Mae arolygiadau’n cynnwys gweithgareddau fel arsylwadau o addysgu a dysgu, teithiau dysgu, craffu ar waith dysgwyr, trafodaethau ag arweinwyr, staff a dysgwyr, a chraffu ar ddogfennau.
  • Y dystiolaeth a gasglwyd ar ymweliadau dilynol â darparwyr mewn categorïau gweithgarwch dilynol a chyfarfodydd aml-asiantaethol.
  • Canlyniadau ein holiaduron, gan gynnwys holiaduron cyn-arolygiad sy’n cael eu hanfon at ddarparwyr cyn arolygiad. Mae’r rhain yn nodweddiadol yn cynnwys holiaduron ar gyfer staff, dysgwyr, llywodraethwyr a rhieni.
  • Tystiolaeth werthusol o ymweliadau a chyfarfodydd cyswllt â darparwyr, er enghraifft ymweliadau cyswllt awdurdodau lleol ac ymweliadau ag ysgolion annibynnol.
  • Tystiolaeth o ymweliadau ymgysylltu.
  • Tystiolaeth o ymweliadau i gasglu tystiolaeth ar gyfer adroddiadau thematig, neu yn gysylltiedig â themâu allweddol mewn addysg a hyfforddiant.
  • Ymchwil wrth ddesg pellach, gan gynnwys adolygiad cyflym o lenyddiaeth ymchwil allanol.
  • Adborth o gyfarfodydd â rhanddeiliaid.
  • Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, dadansoddwyd y dystiolaeth ar gyfer gweithgareddau a gynhaliwyd ym mhob sector i nodi themâu cyffredin. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi’r argymhellion a roddwyd i ddarparwyr mewn sectorau.
  • Dadansoddiad o ystadegau swyddogol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.