Mynd i'r cynnwys

Rhagair y Prif Arolygwr

2022-2023


Owen Evans

Yn Estyn, rydym wedi ymrwymo i’n cyfrifoldebau sicrhau ansawdd a chwarae rôl allweddol yng ngwelliant parhaus addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Amlygodd yr adolygiad annibynnol o’n gwaith, Arolygiaeth Dysgu (Donaldson, 2018), natur effeithlon, hyblyg ac arloesol y sefydliad, a’r hygrededd rydym ni’n ei fwynhau o ganlyniad i’n hannibyniaeth a’n proffesiynoldeb. Ers yr adolygiad, rydym wedi parhau i addasu, gan anelu at wella’r ffordd rydym yn gweithio ymhellach er budd dysgwyr yng Nghymru. Rydym wedi mireinio ein ffocws ar nodi sut gall darparwyr, a’r system addysg a hyfforddiant ehangach, wella. Rydym wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio graddau crynodol un gair ar draws y rhan fwyaf o sectorau. Rydym wedi gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda darparwyr yn ystod arolygiadau ffurfiol a hefyd fel rhan o’n gweithgareddau casglu tystiolaeth a gwerthuso ehangach. Mae elwa ar fewnbwn ymarferwyr presennol yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o’n hymagwedd. Trwy weithredu fel arolygwyr cymheiriaid ac enwebeion darparwyr, a thrwy gymryd rhan yn ein hadolygiadau thematig a bwydo i’n grwpiau rhanddeiliaid, mae ymarferwyr yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr, yr ydym yn eu defnyddio i lywio ein gwaith.

Rydym yn awyddus i ychwanegu gwerth trwy rannu ein canfyddiadau mewn ffordd amserol a hygyrch fel y gellir deall ein cyngor yn rhwydd, a gweithredu yn unol ag ef. Ym mis Hydref y llynedd, gan barhau â’r ymagwedd a gyflwynom yn 2022, cyhoeddom grynodeb cynnar o ganfyddiadau’r adroddiad blynyddol yn benodol i sector. Nod yr ymagwedd hon yw darparu adborth prydlon a defnyddiol ar gyfer y gweithlu addysg a hyfforddiant ac amlygu’r enghreifftiau o arfer effeithiol yr ydym wedi’u gweld yn ystod y flwyddyn. Yn dilyn y crynodeb cynnar hwnnw, mae’n bleser gen i nawr lansio’r Adroddiad Blynyddol llawn hwn. Mae’n darparu cryn dipyn yn fwy o fanylion a chefndir i’n canfyddiadau, yn amlinellu pa mor dda y mae pob sector yng Nghymru yn cyflawni, a hefyd yn gwerthuso addysg a hyfforddiant yng nghyd-destun ystod o themâu allweddol trawsbynciol. Rwy’n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol.

Mae llawer i’w ddathlu am ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rwy’n ymweld â lleoliadau addysgol o bob math ledled Cymru bron yn wythnosol. Yn ystod arolygiadau, rwy’n clywed yn uniongyrchol gan ddisgyblion a dysgwyr hŷn, ac yn siarad ag athrawon ac aelodau staff cymorth, yn ogystal ag uwch arweinwyr. I mi, mae ymroddiad cryf addysgwyr ledled Cymru yn destun balchder. Fel yr arolygiaeth, mae ein cyfraniadau i gefnogi gwelliant pellach yn hollbwysig. Ein rôl ni yw amlygu a rhannu’r arfer orau a welwn ledled Cymru tra’n cynnal ein hymagwedd ddiduedd at werthuso trwy nodi’n glir agweddau sydd angen eu gwella.

Mae darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn wynebu heriau deuol adfer o bandemig COVID-19 gan hefyd weithio i roi diwygiadau polisi â ffocws ar wella ar waith. Mae cysgod y pandemig yn parhau i fod yn amlwg ar les dysgwyr a’r cynnydd a wnânt. Mae presenoldeb dysgwyr, eu hagweddau at ddysgu ac agweddau ar wybodaeth a medrau dysgwyr yn parhau i fod yn wannach na normau cyn y pandemig. Mae effeithiau parhaus ar y gweithlu addysg a hyfforddiant hefyd, gydag absenoldebau o’r gweithle yn cymhlethu’r her cyson sy’n wynebu darparwyr wrth recriwtio athrawon ac aelodau staff cymorth ar draws nifer o arbenigeddau.

Mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2017a), gweithredu Rhaglen Trawsnewid y System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (Llywodraeth Cymru, 2020), adolygu gwasanaethau cymorth gwella ysgolion (Llywodraeth Cymru, 2023a) a ffurfio’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) (Llywodraeth Cymru, 2017b) i gyd yn deillio o ddiwygiadau polisi sydd â ffocws ar wella a byddant yn effeithio ar lawer o ddarparwyr. Er bod buddion hirdymor posibl y newidiadau hyn yn glir, mae gwireddu’r newidiadau yn her sylweddol. Mewn cyfnod pan mae cymaint o newid a her, rydym wedi bod yn ofalus i gydnabod y pwysau sy’n wynebu pob sector. Fel y pwysleisiwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei araith ym mis Tachwedd, ni ddylai darparwyr wynebu’r problemau hyn ar eu pen eu hunain (Llywodraeth Cymru, 2023b). Rydym wedi ceisio bod yn gefnogol yn ein hymagwedd, gan gydnabod yr heriau penodol sy’n wynebu ymarferwyr ac arweinwyr, tra’n cynnal ffocws ar les a chynnydd dysgwyr. Wrth i ddarparwyr addysg a hyfforddiant weithio i adfer o effeithiau’r pandemig, rydym wedi gweld enghreifftiau o arfer ragorol ledled Cymru. Yn 2022-2023, roedd yn ddyddiau cynnar iawn o ran gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru, ond rydym wedi gweld enghreifftiau o arfer yn dod i’r amlwg sy’n cyfiawnhau graddau o optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Ar y cyfan, mae brwdfrydedd addysgwyr ar draws y sectorau i wneud cynnydd a goresgyn yr heriau sy’n eu hwynebu yn galonogol.

Mae addysgwyr ledled Cymru wedi gweithio’n ddiwyd hefyd i gynorthwyo plant, pobl ifanc ac oedolion bregus sydd wedi cyrraedd yma yn geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid. Mae Cymru fel cenedl wedi agor ei breichiau i gynnig noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill. Yn ystod tymor yr haf, gofynnais i’n harolygwyr adolygu’r ffordd yr oedd ein gwasanaethau addysg a hyfforddiant yn gofalu am y plant a’r oedolion bregus hyn, ac yn darparu ar eu cyfer. Er bod ein canfyddiadau’n nodi ychydig o feysydd i’w gwella, ar ôl ein sgyrsiau â’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches eu hunain, heb amheuaeth gwelsom fod addysgwyr yma yng Nghymru wedi dangos tosturi gwirioneddol. Maent wedi meithrin ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn llwyddiannus ac wedi eu helpu i deimlo y gallent ganolbwyntio ar ddysgu wrth iddynt ymgyfarwyddo â bywyd heddychlon yma yng Nghymru. Mae’n hyfryd clywed gan addysgwyr am y cyfraniadau gwerthfawr yr oedd y rhai a gyrhaeddodd yn ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi’u gwneud at eu cymunedau newydd.

Fodd bynnag, caiff cynnydd ar gyfer yr holl ddysgwyr ar draws y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru ei rwystro gan agweddau gwannach ar arfer. Rydym yn parhau i weld gormod o enghreifftiau o hunanwerthuso a chynllunio gwelliant aneffeithiol. Mae’n hanfodol bod darparwyr yn gwneud yn siŵr fod eu gwaith bob amser yn ychwanegu gwerth. Dylent feddu ar ddealltwriaeth glir o beth sy’n gweithio’n dda, a dylent flaenoriaethu gwella addysgu, hyfforddi a dysgu i sicrhau’r deilliannau gorau posibl ar gyfer dysgwyr. Yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd, mae’r broblem wedi’i waethygu gan rai ysgolion yn canolbwyntio’n ormodol ar ‘beth’ i’w addysgu h.y. cynnwys eu cwricwlwm, tra’n methu a rhoi digon o sylw i ‘sut’ y caiff ei addysgu a sut y caiff asesu a dilyniant eu monitro. Mae effeithiolrwydd y cymorth allanol sydd ar gael i ysgolion, yn enwedig â’u prosesau gwerthuso a gwella, yn anghyson. Rydym wedi gweld enghreifftiau mewn partneriaethau tra datblygedig, ond mewn mannau eraill, ac yn enwedig ar gyfer ysgolion uwchradd, mae ansawdd amrywiol y cymorth yn peri pryder.

Mae darparwyr yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i gymorth lles effeithiol ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys ar gyfer y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a nodwyd. Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn dangos bod gwaddol y pandemig yn parhau, gydag effeithiau clir ar bresenoldeb dysgwyr a’r cynnydd a wnânt yn eu dysgu. Mae medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr wedi’u heffeithio o hyd, gyda chynnydd anghyson yn cael ei wneud i gau’r bylchau a ddatblygwyd yn ystod y pandemig. Mae ein lleoliadau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn wynebu heriau parhaus, sy’n peryglu ein gallu fel cenedl i sicrhau niferoedd dibynadwy o ymgeiswyr talentog sy’n meddu ar gymwysterau addas yn y proffesiwn addysgu yn y dyfodol.

Mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar o rownd 2022 o Raglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn dangos, er gwaethaf y gwelliannau a welwyd yn sgorau PISA Cymru yn 2018, y bu gostyngiad nodedig ers hynny. Roedd effeithiau negyddol pandemig COVID-19 ar ddysgu disgyblion yn amlwg yn neilliannau PISA 2022. Ar draws gwledydd yr OECD ar gyfartaledd, ac yn arbennig yng Nghymru, roedd gostyngiadau sylweddol yn sgorau asesu disgyblion ym mhob un o’r tri pharth, sef mathemateg, gwyddoniaeth a darllen, er 2018. Roedd sgorau asesu 2022 disgyblion yng Nghymru islaw cyfartaleddau OECD ac islaw sgorau cenhedloedd eraill y DU.

Mae presenoldeb yn yr ysgol yn hanfodol os yw disgyblion am wneud y cynnydd y gallent ei wneud. Ar ôl y tarfu yn sgil y pandemig, parhaodd presenoldeb i beri pryder sylweddol yn 2022-2023, er gwaethaf ymdrechion ysgolion, lleoliadau a’u gwasanaethau cymorth. O gymharu â normau cyn y pandemig, roedd cyfraddau absenoldeb wedi dyblu ymhlith disgyblion oedran ysgol uwchradd. Cyrhaeddodd cyfran y gwersi a gollwyd gan ddisgyblion oedran ysgol uwchradd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros 20% (Llywodraeth Cymru, 2023c). Cafodd colli un diwrnod yr wythnos, ar gyfartaledd, o’u haddysg ffurfiol, effaith sylweddol ar gynnydd y disgyblion hyn. Ymhlith y grŵp hwn, roedd absenoldeb parhaus yn ddybryd, a thybiwyd bod mwy nag un o bob tri disgybl yn absennol yn barhaus yn 2022-2023. Felly, croesewir ffocws a gweithgarwch o’r newydd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Mae cyfran y dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) yn bennaf bron wedi dyblu er 2009-2010, gyda niferoedd mwy o blant oedran cynradd yn arbennig yn methu’r ysgol (Llywodraeth Cymru, 2023d). Ar y cyfan, nid yw’r disgyblion hyn yn dychwelyd i addysg brif ffrwd, ac i’r rhai sydd yn dychwelyd, maent yn dychwelyd yn rhy araf. Mae hyn yn cyfyngu ar eu cyfle i elwa ar y cwricwlwm llawn a’r rhyngweithio cymdeithasol ehangach sydd ar gael yn yr ysgol. Mae cynnydd mewn gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol, yn enwedig ar lefel ysgol uwchradd ac ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (Llywodraeth Cymru, 2023e), yn peri pryder pellach.

Gan fod tua 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022 (Llywodraeth Cymru, 2023f), mae’n iawn fod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i liniaru’r effeithiau ar ddysgu a chyrhaeddiad addysgol. Rydym wedi gweld bod disgyblion o aelwydydd llai cefnog yn tueddu i golli mwy o addysg, ac yn gwneud llai o gynnydd yn eu dysgu na’u cyfoedion (Llywodraeth Cymru, 2023g). Yn dilyn ein ffocws ar hyn yn adroddiad blynyddol 2021-2022, rydym yn disgrifio nodweddion arweinyddiaeth sy’n galluogi ysgolion i helpu disgyblion yn llwyddiannus i oresgyn y rhwystrau rhag dysgu sy’n aml yn gysylltiedig â thlodi. Mae ysgolion llwyddiannus yn adnabod eu cymunedau’n dda ac yn mynd ati i ffurfio perthnasoedd cynhyrchiol â theuluoedd. Maent yn ymwybodol o’r costau sy’n gysylltiedig ag addysg ac yn defnyddio adnoddau’n ofalus i helpu teuluoedd sy’n cael pethau’n anodd. Mae’r dyheadau a’r disgwyliadau uchel y mae’r ysgolion hyn yn eu cynnal ar gyfer pob un o’u disgyblion yn sylfaen i’r ymagweddau hyn. Fodd bynnag, mae arfer yn amrywio ledled Cymru ac mae’r gostyngiad sylweddol mewn presenoldeb ysgol ymhlith disgyblion o aelwydydd llai cefnog dros y blynyddoedd diwethaf yn cymhlethu’r anawsterau sy’n wynebu’r plant hyn, a’u hathrawon. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i ddatblygu Ysgolion Bro yn ddatblygiad i’w groesawu, sydd â’r nod i adeiladu ar arfer effeithiol bresennol a chryfhau perthnasoedd rhwng ysgolion, asiantaethau cymorth, rhieni a’u cymunedau (Llywodraeth Cymru, 2022).

Ar draws y sectorau ôl-16 addysg bellach (AB), dysgu yn y gwaith, rhaglenni cyflogadwyedd a dysgu oedolion yn y gymuned, mae dysgwyr wedi’u cymell yn dda yn eu gwersi, eu sesiynau ymarferol a’u cyfarfodydd adolygu, ar y cyfan. Roedd cyfran y bobl ifanc sy’n sôn am broblemau â gorbryder ac iechyd meddwl yn tyfu cyn y pandemig, ac mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer darparwyr. Mae dysgwyr AB yn gwybod sut i fanteisio ar y cymorth ychwanegol gwerthfawr a ddarperir gan golegau, ac mae darparwyr prentisiaethau yn canolbwyntio ar les dysgwyr, hefyd. Mae darparwyr prentisiaethau yn ehangu ystod y cymorth a gynigir ganddynt, a gallent adnabod a darparu cymorth yn gynyddol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol sydd gan unrhyw brentisiaid. Fodd bynnag, mae ein harolygiadau wedi canfod yn gyson fod cyfran y prentisiaid sy’n cwblhau eu fframweithiau yn llwyddiannus yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn rhy isel. Mae hyn yn adlewyrchu’r heriau recriwtio a chadw sydd wedi wynebu cyflogwyr yn y sectorau hyn. Cyflwynwyd rhaglen cyflogadwyedd ieuenctid Twf Swyddi Cymru+ ledled Cymru i ennyn pobl ifanc i mewn i hyfforddiant a phrofiadau gwaith. Mae’r sesiynau hyn yn werthfawr, gydag addysgu effeithiol a chymorth cynhwysfawr, ond nid oes digon o gyfranogwyr yn manteisio ar brofiad gwaith ystyrlon fel rhan o’r rhaglen hon. Gwelsom ddarpariaeth effeithiol o fewn dysgu oedolion yn y gymuned, yn defnyddio cyflwyno ar-lein a chyflwyno wyneb yn wyneb yn unol ag angen dysgwyr. Fodd bynnag, mae angen o hyd i ddatblygu’r ffordd y mae ystod eang y ddarpariaeth sydd ar gael ar draws y sectorau ôl-16 yng Nghymru yn gweddu i ddysgwyr unigol. Gall fod yn anodd i ddysgwyr weld a deall ystod lawn yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Nid yw’r wybodaeth a’r arweiniad a gaiff darpar ddysgwyr bob amser yn glir ac yn gyson ddefnyddiol.

Mae llawer o ddysgwyr ôl-16 wedi llwyddo i adeiladu ar y medrau llythrennedd digidol a ddatblygon nhw yn ystod y defnydd helaeth o ddysgu o bell ar-lein ar draws y gwahanol sectorau yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, nid yw medrau rhifedd dysgwyr ôl-16 wedi’u datblygu cystal â rhai dysgwyr o garfanau tebyg cyn y pandemig. Ar draws y sectorau ôl-16, nid yw ymagweddau darparwyr at ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr yn manteisio’n ddigonol ar gyd-destunau a diddordebau galwedigaethol dysgwyr. Gall hyn achosi i ddysgwyr golli symbyliad, a chyfyngu ar y cynnydd a wnânt. Mae cyfansoddiad asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru, fel yr adroddwyd yn ein hadolygiad thematig diweddar (Estyn, 2023), wedi cymhlethu’r mater hwn ac rwy’n falch fod hyn yn cael ei adolygu.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn allweddol i sicrhau bod darparwyr yn ymateb i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Ar draws y tirlun addysg a hyfforddiant, gwelwn fod y ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau Cymraeg dysgwyr yn anghyson. Mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, mae llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu medrau Cymraeg. Fodd bynnag, yn aml, nid yw disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent yn eu medrau Cymraeg. Pan welwn arfer effeithiol, mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad cryf i’r Gymraeg, ac adlewyrchir hyn yn eu cynlluniau gwella. Maent yn sicrhau bod ymarferwyr yn cael cynnig dysgu a chymorth proffesiynol i ddatblygu eu medrau Cymraeg eu hunain yn ogystal â’u haddysgu. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar ddysgwyr a’u gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. Ar draws darpariaeth addysg bellach a phrentisiaethau, ychydig iawn o ddysgwyr sy’n gwneud unrhyw waith ysgrifenedig yn Gymraeg. Mae cyfleoedd cyfyngedig hefyd trwy ddysgu oedolion yn y gymuned i ddysgwyr ddilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddatblygu eu medrau Cymraeg. Mae arweinwyr ar draws y sectorau yn wynebu heriau parhaus sylweddol fel prinder staff â medrau addas. Caiff y broblem hon ei gwaethygu gan y ffaith nad oes digon o fyfyrwyr yn cofrestru i hyfforddi fel athrawon ysgol uwchradd, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae presenoldeb ac agweddau at ddysgu, y Gymraeg mewn addysg a hyfforddiant, gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru, a sut mae darparwyr yn mynd i’r afael â thlodi, i gyd yn themâu allweddol o fewn adroddiad blynyddol eleni. Rydym hefyd yn amlinellu canlyniadau PISA 2022 a gyhoeddwyd yn ddiweddar (Ingram et al, 2023), ac yn archwilio’r ddarpariaeth a’r cymorth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys adran fer ar weithgarwch dilynol ar ôl arolygiad, sy’n cynnwys astudiaethau achos defnyddiol a throsolwg o argymhellion a adawyd ar gyfer ysgolion a gynhelir sy’n mynd i gategori statudol. Mae’r adroddiad blynyddol yn gorffen â throsolwg cryno o bob un o’r adroddiadau thematig a luniwyd gennym i ymateb i’n llythyr cylch gwaith gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gyfer 2022-2023.

Credaf fod fy adroddiad yn darparu darlun cynhwysfawr o sut mae addysg a hyfforddiant yn cyflawni yng Nghymru.  Mae’n amlygu’r llwyddiannau ac yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n parhau i wynebu addysg a hyfforddiant; rwy’n gobeithio ei fod yn ysgogi myfyrio a thrafodaethau adeiladol am sut gallwn ni wella ar y cyd. Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr yn ogystal â’r holl addysgwyr hynny ar draws y sectorau a fu’n gweithio gyda ni yn ystod y flwyddyn. Yn olaf, hoffem ni fel sefydliad, a minnau’n bersonol, ddiolch i bob un o’r addysgwyr ledled Cymru am eu hymdrechion parhaus. Rydym yn cydnabod y ffordd y maent yn gweithio’n ddiwyd i adeiladu ar eu llwyddiannau ac ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â chynorthwyo ein plant, a dysgwyr o bob oedran, i ddysgu a ffynnu.

Owen Evans

Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru


Cyfeiriadau

Donaldson, G. (2018) Arolygiaeth Dysgu: Adolygiad annibynnol o Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2022-01/A%2520Learning%2520Inspectorate%2520-%2520cy%2520-%2520June%25202018.pdf [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Estyn (2023) Cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaeth. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2023-11/Cyflwyno%20cymwysterau%20Sgiliau%20Hanfodol%20Cymru%20mewn%20rhaglenni%20prentisiaeth_0.pdf [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2017a) Cwricwlwm i Gymru: trosolwg. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/cwricwlwm-i-gymru-trosolwg [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2017b) Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/comisiwn-addysg-drydyddol-ac-ymchwil [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2020) Rhaglen trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol: cwestiynau cyffredin. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-y-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cwestiynau-cyffredin-html [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2022) Ysgolion Bro. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/ysgolion-bro-html [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2023a) Cylch gorchwyl: adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/cylch-gorchwyl-adolygu-rolau-chyfrifoldebau-partneriaid-addysg-yng-nghymru-chyflwyno-trefniadau-html [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2023b) Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi: dysgu yng Nghymru ar ôl COVID-19. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/perthyn-ymgysylltu-chyfranogi-dysgu-yng-nghymru-ar-ol-covid-19 [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2023c) Absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/10/4/1697706994/absenoldeb-o-ysgolion-uwchradd-medi-2022-i-awst-2023-diwygiedig.pdf [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2023d) Disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/9/3/1695198689/disgyblion-syn-derbyn-addysg-heblaw-yn-yr-ysgol-medi-2022-i-awst-2023.pdf [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2023e) Gwaharddiadau o ysgolion a gynhelir: Medi 2021 i Awst 2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/11/4/1699522294/gwaharddiadau-o-ysgolion-gynhelir-medi-2021-i-awst-2022.pdf [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2023f) Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/tlodi-incwm-cymharol-ebrill-2021-i-fawrth-2022-html. [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Llywodraeth Cymru (2023g) Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi 2022 i 24 Gorffennaf 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/presenoldeb-disgyblion-mewn-ysgolion-gynhelir-5-medi-2022-i-24-gorffennaf-2023 [Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2023]

Ingram, J., Stiff, J., Cadwallader, S., Lee, G., Kayton, H. (2023) PISA 2022: National Report for Wales: Research Report. Cardiff: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2023-12/pisa-2022-adroddiad-cenedlaethol-cymru-605.pdf [Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2023]