Mynd i'r cynnwys

Themâu allweddol

Agweddau at ddysgu a phresenoldeb

2022-2023


Merch fach yn chwarae yn yr ysgol

Yn 2021-2022, gwelsom fod galw cynyddol am gymorth â lles ac iechyd meddwl ar draws lleoliadau addysgol, ac roedd presenoldeb ysgol, yn enwedig ymhlith y dysgwyr mwyaf difreintiedig, yn parhau ar lefelau is nag oeddent cyn y pandemig (Llywodraeth Cymru, 2023a). Parhaodd y galw hwn am gymorth yn 2022-2023, gyda  phresenoldeb yn parhau’n rhy isel, ac arweinwyr yn dweud bod dysgwyr yn parhau i’w chael yn anodd ailaddasu i fywyd ysgol. Parhaodd arweinwyr a staff i roi pwyslais cryf ar gefnogi lles dysgwyr. Yn aml, roedd yn rhaid i ymagweddau at gefnogi lles esblygu i ymateb i anghenion a ddaeth i’r amlwg ymhlith plant a phobl ifanc ar ôl y pandemig, ac ymdopi â nhw.

Wrth gymharu adroddiadau sector o’r cyfnod cyn y pandemig (2018-2019) â’n hadroddiadau ar gyfer 2022-2023, nid oedd sylwadau ynghylch lles ac ymddygiad yn wahanol iawn. Er enghraifft, yn 2022-2023, roedd y rhan fwyaf o blant yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu mewn lleoliadau a gynhelir. Mewn ysgolion cynradd, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn mwynhau’r ysgol, roeddent yn frwdfrydig am eu dysgu ac yn ymddwyn yn dda. Mewn ysgolion uwchradd, roedd llawer o ddisgyblion yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu. Roedd lleiafrif o ddisgyblion weithiau’n fodlon aros yn oddefol yn eu gwersi, ac roedd ychydig o ddisgyblion yn tarfu ar eu dysgu eu hunain a dysgu disgyblion eraill. Ar draws unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), teimlai disgyblion fod perthnasoedd gweithio cryf gyda staff yn eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael gofal da. Yn gyffredinol, roedd arolygiadau’n cyfeirio at gyfran debyg o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu ac yn arddangos ymddygiad da ag a gafwyd yn ystod y blynyddoedd yn union cyn y pandemig.

Mae’n anodd cymharu’r hyn a ddywedodd disgyblion am ymddygiad yn ein holiaduron cyn-arolygiad o 2018-2019 a 2022-2023 oherwydd newidiodd y cwestiynau a’r fformat wrth i ni ailafael mewn arolygu ar ôl y pandemig. Mae holiaduron yn un ffynhonnell o dystiolaeth i werthuso lles ac agweddau at ddysgu yn ystod y broses arolygu, ac fe gaiff canlyniadau eu triongli â thystiolaeth arall, gan gynnwys siarad â grwpiau o ddysgwyr, grwpiau o athrawon a barn rhieni.

Dangosodd canlyniadau holiaduron ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed yn 2018-2019 a 2022-2023 y canlynol:

Plant yn gwisgo glas yn y dosbarth gyda'u dwylio yn yr awyr

Ffigur 1: Cymharu ymatebion i’r datganiad ‘Mae plant eraill yn ymddwyn yn dda yn fy nosbarth i’ mewn holiaduron cyn-arolygiad, Cynradd, 2018-2019 a 2022-2023

Cynradd: Yn 2022-2023, roedd bron i 70% o ddisgyblion yn cytuno bod plant eraill yn ymddwyn yn dda yn y dosbarth bob amser, neu’r rhan fwyaf o’r amser. Yn 2018-2019, roedd 75% o ddisgyblion cynradd yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod disgyblion eraill yn ymddwyn yn dda yn y dosbarth.

Ffigur 2: Cymharu ymatebion i’r datganiad ‘Mae plant eraill yn ymddwyn yn dda yn ystod amseroedd chwarae / egwylion ac amser cinio’ mewn holiaduron cyn-arolygiad i ddysgwyr, Cynradd, 2018-2019 a 2022-2023

Cynradd: Yn 2022-2023, roedd 68% o ddisgyblion yn cytuno bod plant eraill yn ymddwyn yn dda yn ystod amseroedd egwyl ac amser cinio bob amser, neu’r rhan fwyaf o’r amser. Roedd 72% o ddisgyblion cynradd yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod disgyblion eraill yn ymddwyn yn dda yn y dosbarth yn 2018-2019.

Ffigur 3: Cymharu ymatebion i’r datganiad ‘Mae plant eraill yn ymddwyn yn dda yn fy nosbarth / mewn gwersi’ mewn holiaduron cyn-arolygiad i ddysgwyr, Uwchradd, 2018-2019 a 2022-2023

Uwchradd: Yn 2022-2023, mae 47% o ddisgyblion yn cytuno bod plant eraill yn ymddwyn yn dda mewn gwersi bob amser, neu’r rhan fwyaf o’r amser. Roedd 41% ychwanegol yn cytuno bod disgyblion yn ymddwyn yn dda weithiau. Yn 2018-2019, roedd 47% o ddisgyblion uwchradd yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod disgyblion eraill yn ymddwyn yn dda yn y dosbarth.

Ffigur 4: Cymharu ymatebion i’r datganiad ‘Mae plant eraill yn ymddwyn yn dda yn ystod amseroedd chwarae / egwylion ac amser cinio’ mewn holiaduron cyn-arolygiad i ddysgwyr, Uwchradd, 2018-2019 a 2022-2023

Uwchradd: Yn 2022-2023, roedd 48% o ddisgyblion yn cytuno bod plant eraill yn ymddwyn yn dda yn ystod egwylion ac amser cinio bob amser, neu’r rhan fwyaf o’r amser. Roedd 38% arall yn cytuno bod disgyblion yn ymddwyn yn dda, weithiau. Roedd 47% o ddisgyblion uwchradd yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod disgyblion eraill yn ymddwyn yn dda yn ystod amseroedd chwarae ac amser cinio yn 2018-2019.

Er bod ymddygiad disgyblion, fel yr adroddwyd mewn adroddiadau arolygu a holiaduron, wedi aros yn debyg i’r darlun cyn y pandemig ar y cyfan, dywedodd llawer o ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed fod disgyblion yn dangos ymddygiadau mwy heriol. Er enghraifft, mewn ysgolion cynradd, dywedodd arweinwyr fod mwy o ddisgyblion yn cael trafferth rheoli eu hemosiynau a bod angen rhoi darpariaeth ar waith i’w cynorthwyo. Mewn ysgolion uwchradd, dywedodd arweinwyr fod mwy o ddisgyblion yn cael trafferth oherwydd problemau fel gorbryder, medrau cymdeithasol gwanach, diffyg ymgysylltu ac iechyd meddwl gwael. Cyfrannodd y problemau hyn hefyd at y rhesymau pam nad oedd rhai disgyblion yn ymgymryd yn dda â’u dysgu ar ôl y pandemig. Mae hyn wedi effeithio ar bresenoldeb. Dywedodd arweinwyr hefyd fod ymddygiad disgyblion yn ystod adegau anffurfiol, fel amseroedd egwyl ac amser cinio, yn fwy heriol nag ydoedd cyn y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd mewn achosion o ymddygiad ymosodol a herio awdurdod. Adlewyrchir hyn yn y cynnydd mewn gwaharddiadau cyfnod penodol a gwaharddiadau parhaol a welir ym mhob un o’r sectorau a gynhelir. Cynyddodd cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol (pum niwrnod neu lai) o 39.0 yn 2018-2019 i 50.6 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2021-2022, tra cynyddodd cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol (dros bum niwrnod) o 1.7 yn 2018-2019 i 1.9 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2021-2022. Cynyddodd gwaharddiadau parhaol o 0.4 (2018-2019) i 0.5 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2021-2022 (Llywodraeth Cymru, 2023b).

Ble roedd ysgolion uwchradd wedi ymateb yn hynod effeithiol i les eu disgyblion, roeddent yn ystyried sut i addasu eu darpariaeth i ymateb i anghenion esblygol disgyblion. Roeddent yn gweithio’n bwrpasol, gan ddefnyddio arbenigedd roeddent wedi’i ddatblygu’n fewnol a gydag ystod o asiantaethau allanol i deilwra cymorth ar gyfer disgyblion. Roeddent yn gwerthuso darpariaeth yn effeithiol, gan gynnwys eu cynnig cwricwlwm, i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion yr holl ddisgyblion. Fe wnaethant ailsefydlu arferion y diwrnod ysgol yn ofalus i gynorthwyo disgyblion i ymgysylltu â’u dysgu. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o achosion, mae hyn wedi golygu gorddefnydd o amserlenni wedi’u lleihau trwy gynlluniau cymorth bugeiliol am gyfnodau estynedig.

Yn ystod 2022-2023, parhaodd gwasanaethau addysg llywodraeth leol i ymateb i heriau a adawyd gan COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer ysgolion â phroblemau ymddygiad a phresenoldeb a oedd y tu hwnt i’r hyn a oedd yn gyffredin cyn y pandemig. Yn gyffredinol, dywedodd awdurdodau lleol fod cynnydd yn y cyfraddau atgyfeirio ar gyfer darpariaeth i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (AHY); roedd 2,396 o ddisgyblion yn cael mynediad at ryw fath o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ym mis Ionawr 2023. O’r disgyblion hynny, roedd 1,891 yn cael eu haddysgu’r tu allan i’r ysgol yn bennaf, ac UCDau oedd y math mwyaf cyffredin o ddarpariaeth. Rhwng 2018-2019 a 2022-2023, roedd cynnydd yn niferoedd y disgyblion oedran cynradd ac uwchradd iau yn mynychu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (Llywodraeth Cymru, 2023c). Nododd tystiolaeth o 2022-2023 fod y rhan fwyaf o staff mewn UCDau yn deall trefniadau i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ac yn hyrwyddo strategaethau ymddygiad gwerthfawr gyda disgyblion. O ganlyniad, roedd ymddygiad disgyblion tra oeddent yn mynychu’r UCDau a arolygwyd yn briodol.

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddom adroddiad thematig ar brofiad cwricwlaidd disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (Estyn, 2023). Nodom fod gormod o ddisgyblion oedran cynradd ac uwchradd iau yn aros mewn darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol yn y tymor hir. O ganlyniad, ychydig iawn o’r disgyblion hyn yn unig sy’n dychwelyd i ysgol brif ffrwd yn llwyddiannus. Mae’r prif rwystrau rhag ailintegreiddio yn llwyddiannus yn cynnwys lefel a chymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion, yn enwedig anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl (CEIM) ac anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (ACEY) ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gwaelodol (tud.2).

Plant allan yn chwarae

Absenoldebau disgyblion

Mae achosion absenoldebau disgyblion yn gymhleth ac amlweddog. Mewn ymchwil grŵp ffocws a gynhaliwyd gyda rhieni yn Lloegr, nodwyd nifer o ffactorau sy’n dylanwadu ar ddiffyg presenoldeb. Roedd y rhain yn cynnwys newid agweddau rhieni at bwysigrwydd presenoldeb, iechyd meddwl disgyblion, cynyddu derbynioldeb cymdeithasol o wyliau yn ystod y tymor, yr argyfwng costau byw, a’r berthynas rhwng yr ysgol a theuluoedd yn methu, yn enwedig lle defnyddir cosbau (Burtonshaw and Dorrell, 2023, tud.12).

Mae’r sylwadau canlynol ar bresenoldeb wedi’u seilio ar ddwy set wahanol o ddata. Ar gyfer disgyblion oedran uwchradd, rydym yn defnyddio data blynyddol wedi’i wirio ar absenoldeb o ysgolion uwchradd (Llywodraeth Cymru, 2023d). Y data hwn yw’r diweddaraf yn y gyfres o setiau data a gyhoeddir bob blwyddyn, sydd wedi ailddechrau ar ôl seibiant o dair blynedd rhwng 2019-2020 a 2021-2022 o ganlyniad i’r tarfu yn sgil y pandemig. Gan na fydd y data sector cynradd tebyg wedi’i ddilysu ar gael tan Wanwyn 2024, ar gyfer disgyblion oedran cynradd, rydym wedi defnyddio ffigurau o gasgliadau wythnosol Llywodraeth Cymru o ddata presenoldeb ysgolion (Llywodraeth Cymru, 2023a). Mae’r set data hon dros dro, heb ei gwirio, ac nid yw’n seiliedig ar yr un diffiniadau â’r data blwyddyn lawn wedi’i ddilysu a fydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2024. Dylid trin y set data fel arwydd o bresenoldeb ar gyfer y flwyddyn, a gellir ei chywiro.

Mae’r data sector uwchradd yn cyfrif am ddisgyblion oedran ysgol uwchradd mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed a gynhelir gan awdurdodau lleol, mae’r data sector cynradd yn cyfrif am ddisgyblion oedran cynradd mewn ysgolion cynradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol.

Yn genedlaethol, mae’r data heb ei wirio yn awgrymu bod cyfraddau presenoldeb yn 2022-2023 yn gymharol gyson ar draws yr ystod oedran ysgol gynradd, sef tua 91%. Fodd bynnag, roedd presenoldeb yn is ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn olynol o ddechrau’r ysgol uwchradd (Blwyddyn 7) ymlaen, a Blwyddyn 11 oedd â’r gyfradd presenoldeb isaf, sef tua 84%. Mae hyn yn gyson ag ymchwil gan John et al am absenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru, a ganfu fod cyfraddau absenoldeb yn cynyddu’n barhaus ag oedran (2021, tud. 2). Roedd y duedd hon yn bennaf o ganlyniad i gyfraddau uwch o absenoldebau heb eu hawdurdodi ymhlith disgyblion hŷn, gyda thros 6% o sesiynau Blwyddyn 11 yn cael eu colli o ganlyniad i absenoldebau heb eu hawdurdodi, o gymharu ag ychydig dros 2% ymhlith disgyblion oedran cynradd.

Ffigur 5: Absenoldebau ysgol yn ôl grŵp blwyddyn, 2022-2023

Ffynonellau – Llywodraeth Cymru, 2023a (disgyblion oedran cynradd) a Llywodraeth Cymru, 2023d (disgyblion oedran uwchradd)

Sylwer – Mae data presenoldeb ar gyfer disgyblion oedran cynradd wedi’i seilio ar ddata casgliad wythnosol Llywodraeth Cymru. Mae’r data hwn yn wybodaeth reoli heb ei gwirio. Mae’r data hwn ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 1 i Flwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd a gynhelir, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig. Bydd data cynradd wedi’i wirio ar gyfer y flwyddyn 2022-2023 ar gael yng Ngwanwyn 2024. Mae data uwchradd o gasgliad blynyddol wedi’i wirio o ddata presenoldeb Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys data ar gyfer disgyblion yn y blynyddoedd ysgol hyn mewn ysgolion uwchradd a gynhelir ac ysgolion pob oed.

Fel yr adroddwyd yn ei throsolwg o ddata presenoldeb uwchradd 2022-2023 (Llywodraeth Cymru, 2023d), o gymharu â’r gyfradd cyn y pandemig, fe wnaeth canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd gan ddisgyblion oedran ysgol uwchradd fwy neu lai dyblu i gyrraedd 12.5% yn 2022-2023.

Ffigur 6: Absenoldebau ymhlith disgyblion oedran ysgol uwchradd yn ôl math o absenoldeb, 2013-2014 i 2022-2023

Ffynhonnell – Llywodraeth Cymru, 2023d

Sylwer – Mae’r blynyddoedd lle roedd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi data wedi’i wirio wedi’u nodi gan farcwyr cylchol ar y llinellau.

Roedd cyfraddau absenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd) gryn dipyn yn uwch na chyfraddau disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim; roedd y gwahaniaeth hwn yn fwyaf amlwg ymhlith disgyblion oedran ysgol uwchradd.

Ffigur 7: Absenoldebau ymhlith disgyblion oedran ysgol uwchradd yn 2018-2019 a 2022-2023 yn ôl cymhwyster PYDd

Ffynhonnell – Llywodraeth Cymru, 2023d

Roedd cyfran y sesiynau a gollwyd gan ddisgyblion oedran ysgol uwchradd yn 2022-2023, sef 12.5%, ddwywaith yn fwy na’r gyfradd cyn y pandemig. Y gyfradd absenoldeb gyffredinol ar gyfer 2022-2023 oedd 20.6% ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (cPYDd) a 10.2% ar gyfer y rhai nad ydynt yn gymwys. Ar gyfartaledd, mae hyn gyfwerth â phob disgybl sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn colli un diwrnod o ysgol yr wythnos, a phob disgybl nad yw’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn colli un diwrnod bob pythefnos. Yn ystod y flwyddyn cyn y pandemig, sef 2018-2019, roedd absenoldebau disgyblion fwy neu lai hanner y lefelau hyn, sef 10.5% ar gyfer y disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a 5.3% ar gyfer y disgyblion nad ydynt yn gymwys. Felly, roedd y bwlch yn 2022-2023 rhwng cyfraddau absenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys, sef 10.4 pwynt canran, ddwywaith yn fwy na’r bwlch cyn y pandemig yn 2018-2019.

Ymhlith disgyblion oedran uwchradd, roedd cyfraddau absenoldeb parhaus yn destun pryder mawr. At ei gilydd, cyfran y disgyblion yr ystyrir eu bod yn absennol yn barhaus yn 2022-2023 oedd 16.3%; roedd hyn dros deirgwaith yn fwy na’r ffigur cyn y pandemig, sef 4.6% yn 2018-20191Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ganllawiau drafft newydd ar wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr fel rhan o ymgynghoriad ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’. O ganlyniad i hyn, diwygiodd Llywodraeth Cymru ei diffiniad o ‘absenoldeb parhaus’ i achosion lle mae disgyblion yn colli dros 10% o sesiynau. Ers hynny, mae’r newid hwn i’r trothwy wedi cael ei gymhwyso, ac fe’i defnyddir o fewn ein hadroddiad blynyddol. O ganlyniad, mae cyfran y dysgwyr sy’n disgyn i’r categori absennol yn barhaus yn uwch nag y byddai wedi bod gan ddefnyddio’r trothwy a ddiffiniwyd yn flaenorol, sef 20%.. Ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd problem absenoldeb parhaus yn ddybryd, a mwy nag un o bob tri disgybl, 35.6%, yn cael eu hystyried yn absennol yn barhaus yn 2022-2023; roedd hyn yn cymharu â’r ffigur cyn y pandemig, sef un o bob wyth, 12.7%, yn 2018-2019.

Dywedodd y rhan fwyaf o arweinwyr ysgolion a arolygwyd yn 2022-2023 wrth arolygwyr fod presenoldeb disgyblion wedi gwella o gymharu â’r un adeg yn y flwyddyn flaenorol, ond bod nifer y disgyblion sy’n absennol yn barhaus yn parhau i beri pryder iddynt. Arweiniodd 13 o’r 25 o arolygiadau ysgolion uwchradd a gynhaliwyd at argymhelliad yn gysylltiedig â gwella presenoldeb disgyblion. Mewn cyferbyniad, pedair yn unig o’r 156 o arolygiadau ysgolion cynradd a arweiniodd at argymhelliad yn gysylltiedig â phresenoldeb. Yn gyffredinol, roedd gan ysgolion arbennig drefniadau cadarn iawn i gefnogi presenoldeb rheolaidd. Fodd bynnag, nodwyd bod angen gwella presenoldeb mewn un o’r saith ysgol arbennig a gynhelir a arolygwyd.

Roedd cofnodion presenoldeb llawer o’r disgyblion yn yr UCDau yn wael yn eu hysgolion blaenorol. Roedd gwella presenoldeb disgyblion UCDau yn parhau i fod yn her a oedd wedi gwaethygu yn sgil y pandemig. Er gwaethaf ymdrechion arweinwyr, arhosodd presenoldeb cyffredinol islaw lefelau cyn y pandemig. Ar gyfer tair o’r pedair UCD a arolygwyd yn ystod 2022-2023, gadawodd arolygwyr argymhellion yn gysylltiedig â phresenoldeb disgyblion. Roedd hyn yn cynnwys cryfhau gweithdrefnau ar gyfer monitro presenoldeb, yn ogystal â gwella cyfraddau presenoldeb disgyblion.

Yn yr achosion gorau, canfu arolygwyr fod ysgolion wedi sefydlu systemau effeithiol ar gyfer hyrwyddo presenoldeb da ac ymateb i batrymau pryderus o absenoldebau. Yn yr ysgolion hyn, roedd arweinwyr yn gwerthuso’u strategaethau i hyrwyddo presenoldeb da yn ofalus ac yn addasu eu dulliau os nad oeddent yn ddigon llwyddiannus. Roedd rolau a chyfrifoldebau aelodau staff yn yr ysgolion hyn yn glir, ac roedd hyn, ynghyd â threfniadau dibynadwy ar gyfer cyfathrebu â rhieni a disgyblion, yn helpu’r ysgolion i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol iawn i absenoldebau. Roeddent yn cysylltu â disgyblion a’u rhieni yn brydlon i fynd i’r afael ag achosion pan nad oedd disgyblion yn bresennol pan oedd disgwyl iddynt fod. Ymhlith ysgolion a oedd wedi llwyddo i gynyddu cyfraddau presenoldeb disgyblion, nodwyd bod ymgysylltiad gwell â rhieni yn un o’r ffactorau allweddol cyfranogol.

Roedd trefniadau ar gyfer hysbysu rhieni am absenoldeb eu plentyn, yn ogystal ag i rieni hysbysu’r ysgol neu’r UCD am y rhesymau y tu ôl i unrhyw absenoldebau, yn gyfoes ym mwyafrif yr ysgolion a’r holl UCDau a arolygwyd. Pan oedd systemau digidol, yn aml wedi’u seilio ar apiau symudol, negeseuon e-bost neu negeseuon testun, yn cael eu defnyddio’n dda, roeddent yn darparu ffyrdd ymatebol a chyfleus ar gyfer rhieni o fonitro presenoldeb eu plentyn a chyfathrebu â’r ysgol. Roedd y trefniadau hyn, wedi’u hatgyfnerthu gan alwadau ffôn, yn helpu sefydlu diwylliant o gyfathrebu cyfrifol rhwng rhieni ac ysgolion, yn ogystal â phresenoldeb cryf ymhlith disgyblion.

Pan oedd presenoldeb disgyblion mewn perygl o fod yn destun pryder, roedd yr ysgolion a’r UCDau mwyaf effeithiol yn gweithio gyda theuluoedd i nodi’r rhesymau y tu ôl i hyn a mynd i’r afael â’r rhwystrau rhag presenoldeb ar lefel disgybl unigol. Ochr yn ochr ag ymgysylltu â rhieni, roedd strategaethau sensitif a chefnogol i helpu disgyblion y nodwyd eu bod yn absennol o ganlyniad i resymau emosiynol yn effeithiol yn cynorthwyo dysgwyr i ymgysylltu â’r ysgol o’r newydd ar ôl y tarfu yn sgil y pandemig. Yn aml, roedd y trefniadau hyn yn cael eu harwain gan aelodau staff arbenigol, fel swyddogion ymgysylltu / cyswllt â theuluoedd, mewn partneriaeth ag arweinwyr bugeiliol, swyddogion awdurdodau lleol ac asiantaethau allanol, lle bo’n briodol.

Gwella presenoldeb yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Alban

Mae gan Ysgol Uwchradd Gatholig St Alban ffocws clir a chadarn ar wella presenoldeb ei disgyblion. Mae arweinwyr yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol gyda theuluoedd ac yn ystyried hyn fel allwedd i wella presenoldeb. Mae’r ysgol yn cyfathrebu pwysigrwydd presenoldeb da i rieni yn rheolaidd gan ddechrau hyn yn noson trosglwyddo blwyddyn 6. Pan mae disgyblion yn ymuno â’r ysgol ym mlwyddyn 7, mae tiwtoriaid dosbarth yn anfon ebost croesawu i gartref pob disgybl er mwyn sefydlu perthynas gyda rhieni. Mae Swyddog Lles ac Ymgysylltu yr ysgol yn cysylltu’n fuan i gynnig cymorth i rieni os yw presenoldeb disgybl yn dechrau peri pryder. Dilynir hyn gydag ymweliadau i’r cartref gan dîm lles yr ysgol. Mae’r ysgol yn darparu gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion unigol gan gysylltu hyn gyda’u cynnydd a thanlinellu effaith presenoldeb gwael ar ddisgyblion. Mae rhieni yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan gydweithio yn agos gyda’r Swyddog Lles ac Ymgysylltu.

Mae’r ysgol wedi datblygu ei system gyfathrebu i sicrhau bod gan diwtoriaid dosbarth, penaethiaid blwyddyn, uwch arweinwyr, y tîm ymgysylltu lles a’r llywodraethwyr ddealltwriaeth drylwyr o ddata presenoldeb a’r ymyraethau sydd eu hangen. Mae system ymateb graddoledig gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau clir. Mae penaethiaid blwyddyn yn cael cyfarfodydd wythnosol i werthuso pa gynnydd a wnaethpwyd mewn presenoldeb (blwyddyn flaenorol, tymor, wythnos) ac mae cyfarfodydd rheolwr llinell yn cael eu defnyddio i fonitro cynnydd a gwerthuso a newid strategaethau fel bo angen.

O ganlyniad i’r strategaethau hyn, mae disgyblion yn mwynhau dod i’r ysgol ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn dda yn eu lefelau presenoldeb. Mae bron pob disgybl yn falch o gael perthyn i ysgol gynhwysol sydd yn hyrwyddo gwerthoedd parch, cwrteisi a charedigrwydd.

Hyrwyddo lles ac iechyd meddwl disgyblion yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Ar ôl y tarfu yn sgil y pandemig, mae arweinwyr yn Ysgol Morgan Llwyd yn rhoi sylw manwl i hyrwyddo lles ac iechyd yr holl ddisgyblion. Elfen nodedig o waith yr ysgol yw’r cymorth cryf a chadarnhaol a roddir i’r disgyblion mwyaf bregus trwy’r ‘Hwb Bugeiliol’. Mae’r staff yn yr Hwb yn cydweithio’n effeithiol ag asiantaethau allanol perthnasol fel y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) a’r gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn cynnig cymorth personol i ddisgyblion a’u teuluoedd.

Mae’r ysgol yn llwyddo i gynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol dwys neu sy’n absennol yn barhaus, gan sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu â’u haddysg tan ddiwedd Blwyddyn 11.

Mewn ysgolion ac UCDau lle roedd cyfraddau presenoldeb cyfartalog yn isel, nodwyd bod absenoldeb parhaus ymhlith nifer fach ond arwyddocaol o ddisgyblion yn ffactor allweddol. Dywedodd llawer o arweinwyr ysgolion uwchradd eu bod yn pryderu ynglŷn â nifer y disgyblion a oedd yn absennol yn barhaus. Fodd bynnag, canfu arolygwyr, mewn gormod o ysgolion lle roedd presenoldeb yn wannach, fod arweinwyr naill ai ddim yn cydnabod effaith y broblem, neu fod prosesau i fynd i’r afael ag absenoldebau parhaus o’r fath yn aneffeithiol. Er enghraifft, yn aml, cyflawnwyd cam cyntaf y polisi presenoldeb, ond nid oedd y camau dilynol a nodwyd gan gyfnodau diweddarach bob amser yn cael eu rhoi ar waith, er eu bod yn briodol.

Yn yr ysgolion lleiaf effeithiol, yn aml, nid oedd uwch arweinwyr yn cydnabod, yn dadansoddi nac yn ymchwilio i batrymau absenoldebau disgyblion yn ddigon da. Pan fyddai materion yn cael eu nodi, roedd ysgolion llai effeithiol yn aml yn rhy ddibynnol ar drefniadau traddodiadol, a oedd yn aml yn araf ac anymatebol, i gynnwys rhieni a gweithio gyda theuluoedd i wella presenoldeb. Mewn achosion o’r fath, nid oedd arweinwyr wedi addasu eu trefniadau i ystyried natur newidiol rhwystrau presenoldeb, gan gynnwys costau byw cynyddol ac sgileffeithiau pandemig COVID-19. Mewn ychydig o achosion, roedd polisïau ac arferion yn dibynnu ar drothwyau presenoldeb, a ddefnyddir i sbarduno mwy o ymyrraeth ar gyfer disgyblion a’u teuluoedd, a oedd yn rhy isel. Er enghraifft, mewn rhai ysgolion, roedd cymorth ehangach gan swyddog lles awdurdod lleol yn cael ei sbarduno ar gyfer disgybl os oedd ei bresenoldeb yn disgyn islaw 60%. Mewn ysgolion eraill sydd â chyfraddau presenoldeb cyffredinol uwch, roedd cymorth o’r fath ar gael os oedd presenoldeb disgybl yn disgyn islaw 80% neu 85%.

Roedd arolygwyr yn bryderus am nifer yr amserlenni llai a oedd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer disgyblion. Pan roeddent yn cael eu defnyddio’n dda, roedd amserlenni llai ar y cyd â chynlluniau cymorth bugeiliol, yn offeryn effeithiol i gefnogi disgyblion, er enghraifft wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol yn raddol ar ôl cyfnod o absenoldeb. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, nododd arolygwyr fod disgyblion yn dilyn amserlenni llai am gyfnod rhy hir, a heb adolygiadau priodol, a oedd yn golygu eu bod yn methu amser gwerthfawr yn eu hysgol neu UCD. O fewn UCDau, yn gyffredinol, roedd disgyblion a oedd yn mynd am gyfnodau maith heb gael mynediad at addysg amser llawn yn gwneud cynnydd cyfyngedig yn eu dysgu, ar y cyfan. Mewn ychydig o achosion, nid oedd awdurdodau lleol yn monitro’r defnydd o amserlenni llai yn ddigon manwl nac yn herio unrhyw ddefnydd amhriodol ohonynt.

Mewn rhai ysgolion, roedd arweinwyr yn cydweithio’n llwyddiannus â chynrychiolwyr disgyblion i gynllunio a gweithredu mentrau penodol i hyrwyddo presenoldeb ac ymgysylltu. Roedd ychydig ohonynt wedi llwyddo i wella presenoldeb disgyblion trwy weithio i wneud y diwrnod ysgol yn fwy difyr i ddisgyblion. Yn aml, roedd yr ysgolion hyn yn cymell disgyblion i wella’u presenoldeb trwy gyflwyno cystadlaethau a oedd yn cynnwys cynnig gwobrau bach am bresenoldeb da. Roedd hyn yn helpu gwella ymdeimlad disgyblion o berchnogaeth o’u cofnodion presenoldeb. Roedd dulliau ymarferol eraill yn cynnwys ‘bws cerdded’ lle roedd disgyblion yn cerdded i’r ysgol ar hyd llwybr wedi’i bennu ymlaen llaw dan oruchwyliaeth, gan aros i gasglu eu cyfoedion ar y ffordd. Roedd hyn yn helpu hyrwyddo presenoldeb a gweithgarwch corfforol, yn ogystal â lleihau ôl-troed carbon cymudo i’r ysgol ac oddi yno.

Hyrwyddo uchelgais ac ymrwymiad disgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r dulliau a fabwysiadwyd gan Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn cyfrannu’n sylweddol at fwynhad disgyblion o ran mynd i’r ysgol. Mae’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn arddel nodweddion ‘Dysgwyr Llan’, sef ‘llwyddiannus, arweiniol a phwerus’, yn gryfder. Mewn gwersi, mae disgyblion yn meithrin meddylfryd bod yn unigolion llwyddiannus; mae bron pob un o’r disgyblion yn cyrraedd gwersi’n brydlon, ac mae eu presenoldeb, gan gynnwys ymhlith y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, uwchlaw’r gyfradd genedlaethol.

Mae clybiau prynhawn dydd Gwener yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 9 feithrin perthnasoedd â’i gilydd a mwynhau cymdeithasu. Mae hyn wedi cyfrannu at welliannau mewn agweddau at ddysgu, yn ogystal â phresenoldeb cyffredinol. Mae’r ysgol yn defnyddio gwasanaethau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddisgyblion am lefelau presenoldeb mewn dosbarthiadau dros y chwe wythnos flaenorol. Mae hyn yn symbylu ymateb cadarnhaol a chystadleuol ymhlith y disgyblion ac yn eu cymell i wella ymhellach.

I ymateb i’r heriau ychwanegol a achoswyd gan y pandemig, mae aelodau staff wedi datblygu system lwyddiannus i olrhain a gwella presenoldeb. Mae cydweithio effeithiol â swyddog addysg a lles yr awdurdod lleol, wedi’i gyfuno â gwaith y swyddog cyswllt â theuluoedd a benodwyd yn ddiweddar, yn sicrhau ymateb cyflym ac effeithiol i absenoldebau.


Cyfeiriadau

Burtonshaw, S., Dorrell, E. (2023) Listening to, and learning from, parents in the attendance crisis. England: Public First. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.publicfirst.co.uk/wp-content/uploads/2023/09/ATTENDANCE-REPORT-V02.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Estyn (2023) Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.gov.wales/system/files/2023-06/Tegwch%20profiadau%E2%80%99r%20cwricwlwm%20ar%20gyfer%20disgyblion%20sy%E2%80%99n%20derbyn%20addysg%20heblaw%20yn%20yr%20ysgol%20%28AHY%29.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

John, A., Friedmann, Y., Del Pozo Banos, M., Frizzati, A., Ford, T., Thapar, A. (2021) Association of school absence and exclusion with recorded neurodevelopmental disorders, mental disorders or self-harm: a nationwide e-cohort study of children and young people in Wales. Cymru: Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.adruk.org/fileadmin/uploads/adruk/Documents/Data_Insights/Data_Insights_Diagnosis_and_absence_November_2021.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023a) Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi 2022 i 24 Gorffennaf 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/presenoldeb-disgyblion-mewn-ysgolion-gynhelir-5-medi-2022-i-24-gorffennaf-2023 [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023b) Gwaharddiadau o ysgolion a gynhelir: Medi 2021 i Awst 2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/11/4/1699522294/gwaharddiadau-o-ysgolion-gynhelir-medi-2021-i-awst-2022.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023c) Disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/9/3/1695198689/disgyblion-syn-derbyn-addysg-heblaw-yn-yr-ysgol-medi-2022-i-awst-2023.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023d) Absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/10/4/1697706994/absenoldeb-o-ysgolion-uwchradd-medi-2022-i-awst-2023-diwygiedig.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]