Mynd i'r cynnwys

Themâu allweddol

Lliniaru effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol

2022-2023


Mam yn dal ei phlentyn y tu allan

Fel rhan o’n hadroddiad blynyddol 2021-2022 (Estyn, 2022), cyhoeddom drosolwg o waith darparwyr a oedd yn hynod effeithiol o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfantais ar eu dysgwyr. Eleni, rydym yn ymhelaethu ar y trosolwg hwnnw trwy ddarparu mwy o enghreifftiau o arferion cryf ac amlygu’r hyn y mae angen ei wella yn gyffredinol, hefyd.

Mae lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol plant yn parhau i fod yn her sylweddol yng Nghymru, ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2022). Ystyrir bod plant a’u teuluoedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol os yw cyfanswm incwm yr aelwyd yn llai na 60% o gyfartaledd canolrifol incwm aelwyd yn y DU (ar ôl costau tai). Canfu adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru fod tua 28% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn ystod cyfnod y tair blwyddyn ariannol yn gorffen ym mis Ebrill 2022 (Llywodraeth Cymru, 2023a).

Mae adolygiad o ymchwil tlodi yn y DU a gynhaliwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn awgrymu, yn gyffredinol, bod bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol yn ôl lefel incwm rhieni, sy’n parhau trwy gydol gwahanol gamau addysg plentyn (Sefydliad Joseph Rowntree, 2023, tud. 107). Mae’r adroddiad hwn yn awgrymu bod bwlch cyrhaeddiad 27 pwynt canran rhwng disgyblion 16 oed sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys yng Nghymru (tud.109). Maent yn nodi bod pandemig COVID-19 wedi ehangu’r bwlch cyrhaeddiad yn gyffredinol rhwng y disgyblion mwyaf a lleiaf difreintiedig yn y DU, o ganlyniad i ffactorau fel bwlch digidol, amgylcheddau dysgu amrywiol yn y cartref, a thlodi dyfnach. (tud. 111).

Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r angen i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. Caiff hyn ei gryfhau gan y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (Llywodraeth Cymru, 2020), a ddaeth i rym ar 31 Mawrth 2021 ac mae’n gwneud mynd i’r afael ag effaith tlodi yn ddyletswydd statudol i awdurdodau lleol.

Menyw yn gweini bwyd yn yr ysgol

Beth sy’n mynd yn dda

Mae ein gwaith arolygu yn rhoi mewnwelediad i ymagweddau darparwyr at fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Dangosodd ein tystiolaeth o arolygiadau yn 2022-2023 yn glir fod arweinyddiaeth gref, lle roedd arweinwyr yn deall yr heriau, wedi nodi camau priodol ac wedi gwerthuso’u heffeithiolrwydd, yn allweddol i liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Dangosodd arweinwyr effeithiol y canlynol:

  • Roedd eu gweledigaeth glir a chynhwysol yn rhoi blaenoriaeth allweddol i fynd i’r afael â thlodi. Roedd eu gweledigaeth wedi’i seilio ar gynwysoldeb a’r angen i fynd i’r afael ag annhegwch. Er enghraifft, datblygodd arweinwyr yn Ysgol Gyfun Y Coed-duon eu gweledigaeth o amgylchedd dysgu anogol a dyheadol lle mae disgyblion a staff yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi, a lle maent yn ymdrechu i lwyddo.
  • Roedd gwneud penderfyniadau effeithiol a chydweithredol yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â rhieni i oresgyn rhwystrau rhag dysgu. Er enghraifft, roedd arweinwyr ac aelodau staff yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Borthyn, Sir Ddinbych, yn meithrin perthnasoedd cryf â rhieni a’r gymuned i gefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr dyheadol ac uchelgeisiol. Helpodd hyn y rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, i wneud cynnydd cryf yn eu dysgu ar draws y cwricwlwm. Roedd arweinwyr yn Camau Cyntaf – Cylch Meithrin Rhydyfelin, Pontypridd, yn gweithredu polisi drws agored, ac ymarferwyr yn gweithio’n effeithiol iawn gyda rhieni. Teimlai rhieni’n hyderus i droi at aelodau staff ar unrhyw adeg i ofyn am gyngor. Roedd ymglymiad pob un o’r staff a’r perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid ehangach yn golygu bod mynd i’r afael â thlodi a dileu rhwystrau yn fater i bawb. Roedd hyn hefyd yn amlwg mewn ysgolion a oedd yn mabwysiadu ymagwedd ysgol gymunedol ac yn cydweithio ag ystod o asiantaethau. Er enghraifft, roedd arweinwyr yn Ysgol Arbennig Riverbank, sy’n rhan o Western Learning Federation, Caerdydd, yn gweithio’n bwrpasol gydag ystod o bartneriaid a gofalwyr. Cefnogwyd y gwaith hwn gan swyddog cyswllt â theuluoedd yr ysgol a oedd yn darparu cymorth a chyngor sensitif ar draws ystod o feysydd. Roedd hyn yn cyfrannu’n gadarnhaol at liniaru effaith tlodi ar les a chyrhaeddiad disgyblion.
  • Roeddent yn adnabod eu cymunedau yn dda, gan eu galluogi i dargedu eu cyllid yn effeithiol. Er enghraifft, roedd Ysgol Gynradd Markham, Y Coed-duon, yn cyflogi gweithiwr cymorth disgyblion a theuluoedd a oedd yn sefydlu ac yn ymgorffori rhaglen gynhwysfawr i ymgysylltu â rhieni a theuluoedd. Sicrhaodd ymglymiad ystod eang o asiantaethau perthnasol hefyd, yn ogystal ag aelodau o’r gymuned leol.
  • Fe wnaethant leihau rhwystrau rhag dysgu yn effeithiol ac uchafu’r cyfleoedd dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc. Er enghraifft, sicrhaodd partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned Pen-y-bont ar Ogwr fod bron pob un o’r tiwtoriaid yn ystyried cyfrifoldebau ac ymrwymiadau dysgwyr y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a allai eu rhwystro rhag dysgu. Yn yr un modd, roedd Rhondda Cynon Taf yn defnyddio’i wasanaeth ieuenctid yn effeithiol i gefnogi pobl ifanc yn eu hysgolion ac yn eu cymunedau ar draws ardaloedd yr awdurdod lleol lle mae’r angen mwyaf. Roedd y rhain yn cynnwys cymunedau oedd â chyfleusterau lleol prin.
  • Cymerwyd gofal i ystyried y costau ariannol i rieni yn sgil cyfranogiad eu plentyn yn yr ysgol. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Llwydcoed, Aberdâr, roedd arweinwyr yn gweithio’n ystyriol gydag asiantaethau allanol, fel y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, i archwilio darpariaeth ysgol a nodi a mynd i’r afael â meysydd i’w gwella. O ganlyniad, roedd y newidiadau a wnaed i arfer ysgol yn helpu lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad a lles dysgwyr. Yn yr un modd, yn Ysgol Arbennig Greenhill, Caerdydd, gwnaeth arweinwyr yn sicr nad oedd cyllid teuluoedd yn rhwystr rhag dysgu trwy gyflwyno mentrau fel tripiau ysgol a ariennir. Cyfrannodd hyn at welliannau yn ymgysylltiad a chymhelliant disgyblion i ddysgu.
  • Roedd cyllid grant yn cael ei dargedu’n briodol i gynorthwyo plant a phobl ifanc a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu rai o aelwydydd incwm isel. Roeddent yn dyrannu adnoddau’n ofalus i ddiwallu anghenion yr holl ddisgyblion o bob gallu ac yn cydnabod croestoriadedd effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion. Er enghraifft, yn Ysgol Idris Davies, Abertyswg, lle mae dwy ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd wedi uno, roedd arweinwyr yn ymdrin â blaenoriaethau cenedlaethol yn gadarnhaol, yn enwedig o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi. Roedd arweinwyr yn cynllunio strategaethau pwrpasol i godi dyheadau disgyblion mewn teuluoedd incwm isel o oedran cynnar. Gwnaeth arweinwyr ddefnydd effeithiol o grantiau, gan gynnwys y grant datblygu disgyblion (GDD). Cyfrannodd hyn yn gadarnhaol at y cyfleoedd i ddisgyblion o deuluoedd incwm isel elwa ar brofiadau y byddai cyfyngiadau ariannol yn eu hatal, fel arall.
  • Roedd effeithiau darpariaeth a gwariant grantiau yn cael eu monitro’n ofalus i sicrhau eu bod yn cael yr effaith ddymunol, gan addasu pe bai angen. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Adamsdown, Caerdydd, roedd gweithdrefnau monitro a gwerthuso yn gadarn, ac roedd gan arweinwyr ddarlun clir o gryfderau disgyblion, yn ogystal ag unrhyw rwystrau rhag dysgu. Galluogodd hyn yr ysgol i ddarparu cymorth pwrpasol ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a oedd yn helpu lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion.
  • Roedd disgwyliadau uchel o’r holl blant a phobl ifanc, ni waeth beth oedd eu cefndiroedd, a bod yr ysgol yn cydnabod pwysigrwydd addysgu a dysgu o ansawdd uchel i alluogi pob un o’r bobl ifanc i gyflawni. Er enghraifft, yn Ysgol Uwchradd Coedcae, Llanelli, roedd gan athrawon ddealltwriaeth fanwl o anghenion unigol disgyblion. Mae hyn, ynghyd â chynnig allgyrsiol cynhwysfawr ac ystod eang o ddewisiadau pwnc, yn sicrhau bod disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr a oedd yn darparu’n dda ar gyfer eu hanghenion a’u diddordebau unigol.
  • Roeddent yn targedu dysgu proffesiynol yn briodol. Er enghraifft, yn Ysgol Gynradd Pontyberem, Llanelli, roedd arweinwyr yr ysgol wedi sefydlu rhaglen dysgu proffesiynol gynhwysfawr i helpu aelodau staff i ddelio â thrawma ymhlith plant a chefnogi lles ehangach disgyblion.
  • Roedd ymyrraeth gynnar a chymorth effeithiol ar waith. Er enghraifft, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn defnyddio ystod eang o ddulliau i helpu lliniaru effeithiau tlodi yn y sector cyn ysgol ac ym mlynyddoedd cynnar plant mewn addysg. Dechreuodd hyn cyn geni gyda chymorth i ddarpar famau, er enghraifft annog bwyta’n iach a datblygu medrau cyllidebu.
  • Roeddent yn blaenoriaethu ac yn ystyried effaith tlodi, ni waeth ble oedd yr ardal na beth oedd amgylchiadau economaidd-gymdeithasol yr ysgol. Er enghraifft, mabwysiadodd Ysgol Gynradd Sgeti, Abertawe, ymagwedd yn canolbwyntio ar y gymuned er mwyn mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu’r rhai o deuluoedd incwm isel, yn gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn unigol.
Sigleni

Beth sydd angen ei wella

Er mwyn lliniaru’n effeithiol yn erbyn effeithiau andwyol tlodi, roedd angen gwella agweddau ar y gwaith o hyd.

  • Nid oedd arweinwyr yn gwerthuso effaith gwaith i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn ddigon da. Er enghraifft, er bod y rhan fwyaf o ysgolion yn cynllunio eu defnydd o grantiau fel y GDD yn briodol, nid oeddent yn gwerthuso effaith eu defnydd ar gyrhaeddiad addysgol yn ddigon da.
  • Yn gyffredinol, nid oedd darparwyr yn gwneud digon o ddefnydd o dystiolaeth ymchwil i sicrhau eu bod yn cynllunio darpariaeth briodol i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. O ganlyniad, ychydig iawn o ysgolion oedd yn rhoi ystyriaeth ddigonol i effaith y trefniadau addysgu, fel grwpiau disgyblion, ar gyrhaeddiad disgyblion.
  • Nid oedd awdurdodau lleol, rhanbarthau, ysgolion a darparwyr eraill yn canolbwyntio dysgu proffesiynol ar liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn ddigon da. Mewn lleiafrif o ysgolion a lleoliadau, nid oedd arweinwyr yn targedu dysgu proffesiynol yn ddigon da i alluogi pob un o’r staff i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
  • Nid oedd arweinwyr bob amser yn rhoi ystyriaeth ddigon gofalus costau ariannol cyfranogi’n llawn yn yr ysgol ar gyfer teuluoedd. Nid oeddent yn ystyried yn ddigon da sut gallai addysgu effeithiol leihau effaith tlodi. Ni wnaethant sicrhau bod yr holl rwystrau rhag dysgu wedi cael eu lleihau cyhyd ag y bo modd.
  • Nid oedd awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion i ennill dealltwriaeth well o’u cymunedau yn ddigon da. Mewn lleiafrif o ysgolion a lleoliadau, nid oedd arweinwyr yn adnabod eu cymunedau’n ddigon da. Nid oedd gan arweinwyr yn yr ysgolion hyn ddigon o wybodaeth i’w galluogi i gynllunio cymorth effeithiol ar gyfer disgyblion, gan gynnwys y rhai o aelwydydd incwm isel neu rai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Roedd angen gwella presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu ddisgyblion o aelwydydd incwm isel. Yn genedlaethol, roedd presenoldeb yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023 yn waeth ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim na’r rhai nad ydynt yn gymwys (Llywodraeth Cymru, 2023c). Cyfran y sesiynau a gollwyd ymhlith disgyblion oedran ysgol uwchradd oedd 20.6% ar gyfer disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a 10.2% ar gyfer y rhai nad oeddent yn gymwys (Llywodraeth Cymru, 2023b). Mae’r bwlch hwn wedi ehangu’n sylweddol ers dechrau pandemig COVID-19; gweler ein thema allweddol ar bresenoldeb ac agweddau at ddysgu i gael mwy o fanylion.

Cyfeiriadau

Estyn (2022) Adroddiad Blynyddol PAEF 2021-2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2023-10/Estyn-Adroddiad-Blynyddol-PAEF-2021-2022-AA1.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Joseph Rowntree Foundation (2023) UK Poverty 2023: The essential guide to understanding poverty in the UK. England: Joseph Rowntree Foundation. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.jrf.org.uk/work/uk-poverty-2023-the-essential-guide-to-understanding-poverty-in-the-uk [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2020) Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: arweiniad ac adnoddau ar gyfer cyrff cyhoeddus. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/y-ddyletswydd-economaidd-gymdeithasol [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2022) Strategaeth tlodi plant: adroddiad cynnydd 2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: Strategaeth tlodi plant 2015: adroddiad cynnydd 2022 | LLYW.CYMRU [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023a) Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/3/4/1679567852/tlodi-incwm-cymharol-ebrill-2021-i-fawrth-2022.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023b) Absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/10/4/1697706994/absenoldeb-o-ysgolion-uwchradd-medi-2022-i-awst-2023-diwygiedig.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023c) Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi 2022 i 24 Gorffennaf 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/presenoldeb-disgyblion-mewn-ysgolion-gynhelir-5-medi-2022-i-24-gorffennaf-2023 [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]