Mynd i'r cynnwys

PISA 2022

2022-2023


Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) a gynhelir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yw’r astudiaeth addysg ryngwladol fwyaf yn y byd. Bob tair blynedd, caiff profion eu rhoi i sampl gynrychioliadol o ddisgyblion 15 oed o ysgolion mewn gwledydd sy’n cymryd rhan, i asesu eu gallu i ddefnyddio eu medrau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth mewn heriau bywyd go iawn. Yn ystod pob cylch, mae PISA yn canolbwyntio’n fanylach ar un o’r tri maes hyn. Yn ystod y cylch diweddaraf o asesiadau, a gynhaliwyd yn hwyr yn nhymor yr hydref 2022, mathemateg oedd y prif faes. Er mwyn gallu cynnal dadansoddiad manwl o ganlyniadau’r asesiad, gofynnwyd cwestiynau i’r disgyblion am eu profiad yn yr ysgol a’u bywyd ehangach, hefyd.

Mae Cymru wedi bod yn rhan o astudiaeth PISA ers 2006. Yn 2022, cwblhaodd 2,568 o ddisgyblion o 89 ysgol, a oedd yn cynrychioli 7% o holl blant 15 mlwydd oed yng Nghymru, yr asesiad cyfrifiadurol dwy awr a’r holiadur dysgwyr. Mynychai 97% o’r dysgwyr a gwblhaodd yr asesiad yng Nghymru ysgolion a gynhelir o gymharu gyda 83% o ddysgwyr ar draws gwledydd yr OECD. Ers y cylch blaenorol o asesiadau yn 2018, mae perfformiad disgyblion a ymgymerodd â’r asesiadau mewn mathemateg, darllen, a gwyddoniaeth yng Nghymru wedi gostwng mwy na chyfartaledd yr OECD. Yn 2022, roedd perfformiad disgyblion yng Nghymru mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD (Ingram et al, 2023; OECD, 2023).


Mathemateg

Roedd perfformiad disgyblion yng Nghymru yn asesiadau mathemateg PISA wedi cynyddu’n sylweddol rhwng 2012 a 2018, gan arwain at gau’r bwlch rhwng perfformiad Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae’r bwlch hwnnw wedi tyfu yn 2022. Yn 2022, sgôr gyfartalog gymedrig gyffredinol Cymru mewn mathemateg oedd 466. Roedd hyn yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 472. Yn 2018, roedd perfformiad Cymru yn agos i gyfartaledd yr OECD, ac yn agos i sgôr yr Alban a Gogledd Iwerddon. Er bod tuedd gyfartalog gwledydd yr OECD wedi gostwng 15 pwynt ar gyfartaledd rhwng 2018 a 2022, roedd perfformiad Cymru wedi gostwng 21 pwynt.

Mae PISA yn disgrifio perfformiad disgyblion yn erbyn chwe lefel hyfedredd wahanol; lefel hyfedredd 6 yw’r mwyaf heriol ac ystyrir bod lefel 2 yn hyfedredd sylfaenol yn y maes hwnnw.

Y ganran a gyflawnodd wahanol lefelau hyfedredd mewn mathemateg, 2022

Roedd cyfran y disgyblion yng Nghymru a gyflawnodd lefel hyfedredd sylfaenol o 2 neu uwch mewn mathemateg wedi gostwng yn sylweddol rhwng 2018 a 2022, o 79% i 68%. Yn 2018, roedd canran y disgyblion yng Nghymru â lefel hyfedredd sylfaenol o 2 neu uwch mewn mathemateg yn uwch na chyfartaledd yr OECD, ond yn 2022 roedd y gyfran yn unol â chyfran yr OECD.

Gwelwyd tuedd debyg o ran perfformiad disgyblion gallu canolig, wrth i ganran y disgyblion a gyflawnodd lefel hyfedredd 3 neu uwch ostwng o 53% yn 2018 i 42% yn 2022. Yn 2018, roedd cyfran y disgyblion a gyflawnodd lefel hyfedredd 3 neu uwch yn unol â chyfartaledd yr OECD, ond yn 2022 roedd y gyfran hon wedi gostwng i fod yn bedwar pwynt canran oddi tano.

Yn 2022, bu gostyngiad bach yng nghanran y disgyblion yng Nghymru a gyflawnodd lefel hyfedredd 5 neu uwch mewn mathemateg. Cyflawnwyd y lefel hon gan chwech y cant o ddisgyblion yng Nghymru, sy’n parhau i fod yn is na chyfartaledd yr OECD, sef naw y cant. Yng Nghymru, roedd bechgyn wedi perfformio’n arwyddocaol well na merched o naw pwynt yn 2022, gyda bechgyn yn cyflawni sgôr o 470 a merched yn cyflawni 461. Roedd hefyd fwlch o naw pwynt yng nghyfartaleddau’r OECD ar gyfer bechgyn a merched yn 2022. Yn 2018, perfformiodd bechgyn yn well na merched o ddau bwynt yn unig yng Nghymru.

Yn Adroddiad Blynyddol PAEF Estyn ar gyfer 2021-2022, dywedom, ym mwyafrif yr ysgolion uwchradd, fod diffygion yn y ddarpariaeth yn golygu nad oedd disgyblion yn datblygu eu medrau rhifedd yn ddigon da ar draws y cwricwlwm (Estyn, 2023a). Yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023, nododd ein harolygwyr fod addysgu mathemateg a rhifedd yn aneffeithiol mewn lleiafrif sylweddol o wersi, gyda gormod o bwyslais ar rwyddineb gweithdrefnol a digon dim o bwyslais ar ddatblygu hyfedredd mathemategol disgyblion. Adlewyrchwyd hyn ym mherfformiad gwan disgyblion yng Nghymru yn elfen fathemateg PISA 2022. Yn ein rhyngweithiadau ag arweinwyr ysgolion, un o’u pryderon mwyaf o hyd yw recriwtio athrawon mathemateg arbenigol (Llywodraeth Cymru, 2023).

Yn 2022, mathemateg oedd prif faes yr asesiadau PISA. Felly, mae gwybodaeth ar gael am berfformiad mewn mathemateg mewn gwahanol is-raddfeydd. Cafodd llythrennedd mathemategol ei asesu mewn perthynas â phedwar categori cynnwys, sef newid a pherthnasoedd; maint; gofod a siâp; ansicrwydd a data.

Perfformiad yn yr isfeysydd cynnwys mathemateg, 2022

Perfformiodd disgyblion yng Nghymru yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD ym mhob un o’r categorïau cynnwys newid a pherthnasoedd, maint, gofod a siâp, ond gwnaethant yn well na’u cymheiriaid yng ngwledydd eraill yr OECD yn y categori ansicrwydd a data.

Canfu ein harolygiadau o ysgolion uwchradd yn ystod 2022-2023 fod disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â dadansoddi data, yn enwedig graffiau. Fodd bynnag, yn gyffredinol nid yw’r cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau rhifedd eraill, fel eu dealltwriaeth o rif a materion yn ymwneud â siapiau a mesurau, a’u gallu i ddatrys problemau mewn cyd-destunau bywyd go iawn, wedi’u datblygu digon ar draws ysgolion uwchradd yng Nghymru.


Gwyddoniaeth

Yn 2022, sgôr gyfartalog gymedrig gyffredinol Cymru mewn gwyddoniaeth oedd 473. Roedd hyn yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 485. Yn 2018, roedd perfformiad Cymru yn agos i gyfartaledd yr OECD. Fodd bynnag, er bod tuedd gyfartalog gwledydd yr OECD wedi gostwng dau bwynt ar gyfartaledd rhwng 2018 a 2022, roedd perfformiad Cymru wedi gostwng 15 pwynt, sy’n ostyngiad sylweddol. Er gwaethaf cynnydd bach rhwng 2015 a 2018, mae sgorau gwyddoniaeth disgyblion yng Nghymru wedi bod yn mynd i lawr yn gyffredinol ers i Gymru gymryd rhan yn astudiaeth PISA gyntaf yn 2006.

At ei gilydd, roedd perfformiad pob un o wledydd y Deyrnas Unedig wedi gostwng rhwng 2018 a 2022. Fodd bynnag, roedd y gostyngiad yn sgôr Cymru yn fwy o lawer na phob un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Roedd cyfran y disgyblion a gyflawnodd lefel hyfedredd sylfaenol o 2 neu uwch mewn gwyddoniaeth wedi gostwng yn sylweddol rhwng 2018 a 2022, o 81% i 74%. Ar gyfer yr un cyfnod, roedd y gyfran gyfatebol ar gyfer yr OECD wedi gostwng dau bwynt canran yn unig. Roedd perfformiad disgyblion gallu canolig wedi dilyn tuedd debyg, gyda chanran y disgyblion a gyflawnodd lefel hyfedredd 3 neu uwch yn gostwng o 52% yn 2018 i 44% yn 2022, tra bod canran yr OECD wedi gostwng dau bwynt canran yn unig.

Y ganran a gyflawnodd wahanol lefelau hyfedredd mewn gwyddoniaeth, 2022

Yn 2022, bu cynnydd bach yng nghanran y disgyblion yng Nghymru a gyflawnodd hyfedredd lefel 5 neu uwch mewn gwyddoniaeth. Cyflawnodd chwech y cant o ddisgyblion yng Nghymru y lefel hon, sy’n agos i gyfartaledd yr OECD, sef saith y cant.

Mae perfformiad gwan disgyblion yng Nghymru yn elfen wyddoniaeth asesiadau PISA yn adlewyrchu casgliadau Estyn yn adroddiad thematig 2017 ar wyddoniaeth yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 (Estyn, 2017), lle y dywedom er bod addysgu’n well yng Nghyfnod Allweddol 4, fod disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn tua hanner y gwersi yn unig yng Nghyfnod Allweddol 3. Mewn lleiafrif o ysgolion cynradd, nid yw disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wyddonol yn ddigon da. Yn ogystal, mae ysgolion yng Nghymru wedi’i chael hi’n anodd iawn recriwtio athrawon gwyddoniaeth arbenigol yn ddiweddar, yn enwedig ar gyfer ffiseg a chemeg (Llywodraeth Cymru, 2023).

Heblaw am 2018, mae bechgyn yng Nghymru bob tro wedi perfformio’n well na merched yn asesiadau gwyddoniaeth PISA. Roedd hynny’n wir unwaith eto yn 2022, wrth i fechgyn berfformio’n well na merched o saith pwynt, er nad oedd y bwlch hwn mewn perfformiad yn sylweddol. Roedd hyn yn debyg i’r darlun ar draws gweddill y Deyrnas Unedig wrth i fechgyn gyflawni sgorau uwch na merched, ar gyfartaledd, er bod hyn yn wahanol i’r cyfartaledd ar gyfer yr OECD lle nad oes gwahaniaeth rhwng perfformiad bechgyn a merched.


Darllen

Yn 2022, sgôr gyfartalog gymedrig gyffredinol Cymru ar gyfer darllen oedd 466. Roedd hyn yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD, sef 476. Rhwng 2015 a 2018, roedd perfformiad Cymru wedi gwella ac roedd y bwlch rhwng perfformiad Cymru a chyfartaledd yr OECD wedi lleihau. Fodd bynnag, rhwng 2018 a 2022, roedd perfformiad Cymru mewn darllen wedi gostwng mwy na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig a chyfartaledd yr OECD. Roedd hyn yn golygu bod perfformiad disgyblion yng Nghymru yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD ac yn sylweddol is na chyfartaleddau gweddill y Deyrnas Unedig.

Roedd cyfran y disgyblion a gyflawnodd lefel hyfedredd sylfaenol o 2 neu uwch mewn darllen wedi gostwng yn sylweddol rhwng 2018 a 2022, o 78% i 71%. Yn 2018, roedd cyfran y disgyblion yng Nghymru a chanddynt lefel hyfedredd sylfaenol o 2 neu uwch mewn darllen yn debyg i gyfran yr OECD, ond yn 2022 roedd y gyfran dri bwynt canran yn is. Gostyngodd berfformiad disgyblion gallu canolig hefyd, fel y’i mesurwyd yn ôl y ganran a gyflawnodd lefel hyfedredd 3 neu uwch, o 52% i 44%. Roedd yn parhau i fod islaw cyfartaledd yr OECD, sef 49%. Yn ogystal, gostyngodd ganran y disgyblion yng Nghymru a gyflawnodd lefel hyfedredd 5 neu uwch mewn darllen o saith y cant i bump y cant. Gostyngodd gyfartaledd yr OECD un pwynt canran i saith y cant.

Y ganran a gyflawnodd wahanol lefelau hyfedredd mewn darllen, 2022

Cydnabu ein hadroddiad thematig ‘Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed’ a’n hadroddiadau arolygu, er bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar fedrau darllen disgyblion, dim ond ambell ysgol uwchradd oedd wedi datblygu diwylliant o ddarllen lle’r oedd darllen er pleser yn flaenoriaeth ochr yn ochr â darllen i ddysgu (Estyn, 2023b). Roedd cefnogaeth uwch arweinwyr yn hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd. Ychydig iawn o glystyrau o ysgolion oedd yn cynllunio’n effeithiol ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn gynyddol o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Dim ond lleiafrif o ysgolion uwchradd oedd yn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu medrau darllen ar draws y cwricwlwm neu’n monitro ac yn gwerthuso effaith y cyfleoedd hyn yn ddigon trwyadl. Yn gyffredinol, roedd athrawon ysgolion cynradd yn canolbwyntio’n briodol ar ddatblygu medrau darllen disgyblion, ond mewn ysgolion uwchradd roedd y pwyslais yn bennaf ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau pynciol.

Yn yr un modd ag asesiadau blaenorol PISA, roedd perfformiad merched mewn darllen (475 yn 2022) yn sylweddol uwch na pherfformiad bechgyn (456). Yn gyffredinol, roedd maint y bwlch mewn perfformiad bechgyn a merched yn debyg i’r bwlch a welwyd yng ngwledydd eraill yr OECD a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.


Cyfeiriadau

Estyn (2017) Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.gov.wales/system/files/2020-07/Science%2520at%2520key%2520stage%25203%2520and%2520key%2520stage%25204%25202%2520cy.pdf [Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023]

Estyn (2023a) Adroddiad Blynyddol PAEF 2021-2022. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://annual-report.estyn.gov.wales/app/uploads/2023/08/Estyn-Adroddiad-Blynyddol-PAEF-2021-2022-AA1.pdf [Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023]

Estyn (2023b) Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.gov.wales/system/files/2023-05/Datblygu%20medrau%20darllen%20Saesneg%20disgyblion%20o%2010-14%20mlwydd%20oed.pdf [Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023]

Ingram, J., Stiff, J., Cadwallader, S., Lee, G., Kayton, H. (2023) PISA 2022: Adroddiad Cenedlaethol Cymru: Adroddiad Ymchwil. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2023-12/pisa-2022-adroddiad-cenedlaethol-cymru-605.pdf [Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023]

Organisation for Economic Co-operation and Development (2023) PISA 2022 Results (Volume I): The State of Learning and Equity in Education. OECD Publishing: Paris. [Ar-lein]. Ar gael o: 53f23881-en.pdf (oecd-ilibrary.org) [Cyrchwyd 8 Ionawr 2024]

Llywodraeth Cymru (2023) Myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA addysg uwchradd yng Nghymru yn ôl pwnc a blwyddyn. Caerdydd: StatsCymru [Ar-lein]. Ar gael o: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Higher-Education/Initial-Teacher-Training-ITT/students-in-Wales/FirstyearsonITEcoursesinWales-by-subject-year [Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023]