Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Cymraeg i oedolion

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Darparwyr

11

Nifer o ddarparwyr


Dysgwyr

15,260

Cyfanswm dysgwyr 2021-22

14,965

Cyfanswm dysgwyr 2020-21


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 2

Cyfrwng Cymraeg: 2

Cyfrwng Saesneg: 0

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 1



Symudodd y sector Cymraeg i oedolion yn gyflym i gyflwyno cyrsiau ar-lein ar ddechrau pandemig COVID-19. Parhaodd i gynnig ystod o ddysgu ar-lein, yn ogystal â chyrsiau wyneb-yn-wyneb, yn ystod 2022-2023. At ei gilydd, mae dysgwyr yn uchel eu cymhelliant ac yn cymryd rhan yn eu dysgu â brwdfrydedd ac mae safon y gofal, cymorth ac arweiniad yn parhau i fod yn gryfder yn y sector hwn.

Myfyrwyr yn trafod eu gwaith

Addysgu a dysgu

Roedd y ddau ddarparwr a arolygwyd yn cynnig ystod lawn o gyrsiau, o lefel mynediad i lefel hyfedredd, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Roedd hyn yn galluogi dysgwyr i ddewis cyrsiau a dulliau dysgu a oedd yn bodloni eu hanghenion unigol a’u hamgylchiadau personol. Roedd un darparwr yn cydweithio’n effeithiol â chyrff lleol a chenedlaethol i ddarparu cyrsiau gwerthfawr, teilwredig yn y gweithle ar gyfer staff mewn ystod o gyflogwyr, a oedd yn cyfrannu’n gadarnhaol at y genhadaeth genedlaethol i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er enghraifft, roedd cyrsiau’n cael eu darparu ar gyfer Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Roedd bron pob un o’r dysgwyr ym mhob math o ddarpariaeth yn uchel eu cymhelliant ac yn cyfrannu’n frwdfrydig yn ystod eu gwersi. Roedd dysgwyr yn gwneud cynnydd da neu well yn eu medrau siarad a gwrando pan roeddent yn cael eu herio’n effeithiol gan diwtoriaid i ymestyn eu hatebion a manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio eu medrau Cymraeg y tu allan i wersi ffurfiol.

Mewn un darparwr a arolygwyd, roedd yr addysgu’n hynod effeithiol ac, o ganlyniad, roedd dysgwyr yn dyfalbarhau i ddefnyddio’r Gymraeg â’u tiwtoriaid ac â’i gilydd yn ystod gwersi, heb droi at y Saesneg. Roedd llawer o’r dysgwyr yn y darparwr hwn hefyd yn elwa ar ddarpariaeth ychwanegol y tu allan i’w gwersi arferol. Roedd hyn yn eu cefnogi’n dda i ddod yn siaradwyr Cymraeg mwyfwy annibynnol a gweithredol.

Yn y darparwr arall, nid oedd disgwyliadau tiwtoriaid o ddysgwyr mewn lleiafrif o wersi yn ddigon uchel. Roedd tiwtoriaid yn rhy barod i droi at y Saesneg wrth gyflwyno gweithgareddau a rhoi cyfarwyddiadau ac, mewn ychydig o achosion, nid oedd tiwtoriaid yn cefnogi ynganiad dysgwyr yn ddigon da. Yn ogystal, er iddynt gael eu hannog i ymarfer siarad Cymraeg yn rheolaidd, nid oedd lleiafrif o ddysgwyr yn achub ar y cyfleoedd a gynlluniwyd. O ganlyniad, nid oedd lleiafrif o’r dysgwyr hyn yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent dros gyfnod.

Oedolion yn cael trafodaeth

Gofal, cymorth a lles

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, roedd safon y gofal, cymorth ac arweiniad yn gryfder o hyd yn y ddau ddarparwr a arolygwyd. Llwyddodd darparwyr i greu cymunedau dysgu clos a chynhwysol a oedd yn cynnig cefnogaeth effeithiol i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol. Cafodd hyn effaith gadarnhaol ar agweddau dysgwyr at ddysgu a’u mwynhad o brofiadau dysgu.

Roedd staff yn y ddau ddarparwr yn cynnig cymorth ychwanegol gwerthfawr i ddysgwyr i barhau i ddysgu os oeddynt yn colli gwersi neu’n disgyn ar ei hôl hi. Roedd darparwyr yn cyfathrebu’n effeithiol gyda dysgwyr ac, o ganlyniad, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn teimlo bod eu safbwyntiau’n cael eu clywed ac y gweithredwyd arnynt yn briodol.

Mewn un o’r ddau ddarparwr a arolygwyd, nid oedd system ffurfiol ar waith i olrhain presenoldeb dysgwyr a’i fonitro’n rheolaidd i hwyluso blaengynllunio effeithiol a sicrhau cynnydd.

Myfyrwyr yn trafod eu gwaith

Arwain a gwella

Roedd gan y ddau ddarparwr a arolygwyd weledigaeth glir, yn unol â gweledigaeth y Ganolfan Genedlaethol a pholisi Llywodraeth Cymru, i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Maent yn cyflawni rôl bwysig yn eu sefydliadau lletyol o ran hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Un enghraifft nodedig yw’r rhaglen o gyrsiau blasu ar gyfer dros 100 o fyfyrwyr meddygol o’r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd i ddysgu ymadroddion sylfaenol cyn iddynt dreulio amser gyda chleifion ar wardiau ysbytai.

Roedd arweinyddiaeth mewn un darparwr yn hynod effeithiol. Roedd arweinwyr ar bob lefel yn deall eu rolau ac yn cydweithio’n dda â’i gilydd i ddarparu profiadau o ansawdd uchel i ddysgwyr. Roedd diwylliant ymgorfforedig o hunanwerthuso a gwella’n barhaus ym mhob agwedd o waith. Gwellodd y ddarpariaeth dros gyfnod er budd i’r dysgwyr, wedi’i hategu gan gynllunio bwriadus ar gyfer gwella, dadansoddi data’n effeithiol a datblygiad proffesiynol parhaus targedig. Yn y darparwr arall a arolygwyd, nid oedd prosesau i sicrhau ansawdd yr addysgu a dysgu yn ddigon gwerthusol i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. O ganlyniad, nid oedd yr arlwy dysgu proffesiynol yn cefnogi tiwtoriaid yn ddigon bwriadus i wella arferion addysgu a dysgu penodol. Yn ogystal, nid oed dysgwyr yn defnyddio data’n effeithiol i gynllunio darpariaeth a blaenoriaethu meysydd i’w gwella.