Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Cymraeg i Oedolion

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae bron pob un o’r dysgwyr yn cyfranogi’n frwdfrydig ac yn cyfrannu’n dda at eu dysgu.
  • Mewn un o’r ddau ddarparwr a arolygwyd, mae’r addysgu’n hynod effeithiol ac, o ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn siarad Cymraeg yn ddigymell â thiwtoriaid a chyda’i gilydd, heb droi at y Saesneg.
  • Mae’r ddau ddarparwr yn cynnig ystod lawn o gyrsiau prif ffrwd, o lefel mynediad i hyfedredd, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Mae un darparwr hefyd yn cynnig darpariaeth bwrpasol, werthfawr yn y gweithle ar gyfer ystod eang o gyrff yn y sector cyhoeddus a phreifat.
  • Mewn un darparwr, mae llawer o ddysgwyr yn elwa ar ddarpariaeth ychwanegol y tu allan i’w sesiynau arferol, sy’n eu cefnogi i ddod yn siaradwyr Cymraeg mwyfwy annibynnol a gweithredol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o achosion, nid yw tiwtoriaid yn cefnogi ynganu dysgwyr yn ddigon da.
  • Mewn un darparwr, nid oes gan diwtoriaid ddisgwyliadau digon uchel o ddysgwyr ac maent yn troi at y Saesneg wrth gyflwyno gweithgareddau a rhoi cyfarwyddiadau. Mae hyn yn arafu cynnydd dysgwyr o ran caffael a defnyddio medrau iaith newydd, yn enwedig ar gyrsiau lefel is.
  • Mewn un darparwr, nid yw tiwtoriaid yn llwyddo i annog dysgwyr i gymryd rhan mewn cyfleoedd i ddefnyddio eu medrau Cymraeg y tu allan i sesiynau ffurfiol ac mae hyn yn effeithio ar eu cynnydd.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae bron pob un o’r dysgwyr yn mwynhau eu profiadau dysgu ac maent yn gadarnhaol ynglŷn â dysgu a defnyddio’r Gymraeg.
  • Mae darparwyr yn llwyddo i greu cymunedau dysgu clos a chynhwysol sy’n cynnig cymorth effeithiol a gofalgar i ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau dysgwyr at ddysgu a’i deilliannau.
  • Mae darparwyr yn cyfathrebu’n effeithiol â dysgwyr ac mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo bod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried ac y gweithredir arnynt.
  • Mae tiwtoriaid yn cynnig cymorth effeithiol i ddysgwyr ddal i fyny â’u gwaith er mwyn iddynt allu parhau â’u dysgu yn llwyddiannus.

Beth sydd angen ei wella

  • Trefniadau ffurfiol un darparwr i olrhain a monitro presenoldeb dysgwyr.

Arweinyddiaeth

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae darparwyr yn llwyddiannus o ran hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu sefydliadau lletyol.
  • Mewn un darparwr, mae’r arweinyddiaeth yn hynod effeithiol. Mae arweinwyr ar bob lefel yn deall eu rolau ac yn cydweithio’n dda â’i gilydd i gynnig profiadau o ansawdd uchel i ddysgwyr.
  • Mae un darparwr wedi ymwreiddio hunanwerthuso parhaus ym mhob agwedd ar ei waith i ysgogi gwelliannau a datblygu proffesiynol parhaus pwrpasol, wedi’i dargedu i staff.
  • Mae un darparwr yn dadansoddi data’n effeithiol i wella deilliannau dysgwyr.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw un darparwr yn defnyddio’r data sydd ar gael i gynllunio darpariaeth a blaenoriaethu meysydd i’w gwella.
  • Nid yw arlwy dysgu proffesiynol un darparwr yn cefnogi tiwtoriaid yn ddigon bwriadus i wella arferion addysgu a dysgu penodol a rhannu arfer dda.
  • Nid yw prosesau un darparwr i sicrhau ansawdd yr addysgu a dysgu yn ddigon gwerthusol a chadarn i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

2

Arolygwyd dau ddarparwr yn 2022-2023.

Mae natur yr argymhellion yn adlewyrchu deilliannau arolygu gwahanol y ddau ddarparwr.

Yn y darparwr cryfach, roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar barhau i rannu ac ymwreiddio’r arfer dda a arsylwyd. Argymhellom hefyd y dylai’r darparwr ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu dysgwyr ymhellach.

Yn y gwannaf o’r ddau ddarparwr, roedd pedwar argymhelliad yn adlewyrchu’r prif feysydd i’w gwella.

  • Cryfhau arweinyddiaeth a hunanwerthuso
  • Cydweithio â’r Ganolfan Genedlaethol i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddata i wella penderfyniadau strategol a blaengynllunio
  • Datblygu rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus sy’n mynd i’r afael â’r meysydd i’w gwella mewn addysgu
  • Datblygu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg y tu allan i wersi ffurfiol

Cwestiynau myfyriol

Pa mor dda ydych chi fel darparwr yn defnyddio data fel sail ar gyfer blaengynllunio a chynllunio ar gyfer gwelliant strategol?

  • Pa mor dda ydych chi’n adnabod eich darpariaeth? Er enghraifft, beth mae tueddiadau data yn ei ddweud wrthych am eich darpariaeth?
  • Pa mor dda y mae darparwyr yn defnyddio data’n weithredol i wella profiad a deilliannau dysgwyr?
  • Pa mor dda ydych chi’n casglu ac yn dadansoddi data y tu allan i brosesau casglu data’r Ganolfan Genedlaethol?
  • Pa mor dda ydych chi’n defnyddio data, yn lleol ac yn genedlaethol, i flaengynllunio darpariaeth a blaenoriaethu meysydd i’w gwella yn strategol?
  • Pa mor dda y mae data’n dylanwadu ar arlwy eich darpariaeth yn y dyfodol? Pa mor dda y mae’n arwain at hunanwerthuso effeithiol a myfyrio’n ystyrlon ar batrymau cyflwyno hanesyddol a’u herio?
  • Pa mor dda y mae dadansoddi data yn arwain at ddatblygiad proffesiynol parhaus a sut caiff yr effaith ei dadansoddi?
  • Pa mor effeithiol ac aml ydych chi’n trafod data â’r Ganolfan Genedlaethol y tu allan i’r prosesau monitro? A yw hyn yn cynnig cyfleoedd digonol i’r darparwr ofyn am gymorth neu herio’r ffyrdd y caiff data ei gasglu a’i ddefnyddio?
  • Pa mor dda ydych chi’n cyfrannu at drafodaethau strategol am ddata ar lefel genedlaethol sy’n dylanwadu ar ddarpariaeth a methodoleg y dyfodol ar draws y sector?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023