Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Sector cyfiawnder

2022-2023

(Un carchar yn unig a arolygwyd yng Nghymru yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023, felly nid yw’r canfyddiadau’n cynrychioli’r darlun cenedlaethol ar draws Cymru ar gyfer y sector cyfiawnder.)


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae carcharorion yn elwa ar ystod eang o weithgareddau addysg, hyfforddiant a gwaith perthnasol sy’n gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur.
  • At ei gilydd, mae llawer o ddysgwyr yn ennill cymwysterau priodol yn ystod eu cyfnod yn y carchar.
  • Mae cyfleoedd buddiol i ddysgu ac ymarfer medrau Cymraeg.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw dulliau adnabod a chefnogi darllenwyr newydd yn ddigon cryf.
  • Mae oedi wrth sefydlu gweithdai hyfforddiant yn cyfyngu ar y gallu i fanteisio ar ddarpariaeth gwricwlaidd werthfawr.
  • Mae rhwystrau ac anghysondebau o ran gallu carcharorion i fanteisio ar addysg, sefydlu a dyrannu lleoedd, yn cyfyngu ar nifer y lleoedd sydd ar gael.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae bwrdd a chanolfan gyflogaeth y carchar yn cydweithio’n dda â’i gilydd i gymell dynion i gael cyflogaeth â thâl.
  • Mae mentoriaid carchar yn cynnig cymorth gwerthfawr ar gyfer anghenion dysgu a lles.
  • Mae aelodau staff yn cefnogi carcharorion yn dda i fagu hyder a gwydnwch a datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw anghenion dysgu ychwanegol carcharorion yn cael eu nodi’n ddigon cadarn. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd darganfod yn gywir pa ddarpariaeth a hyfforddiant staff sydd eu hangen i gefnogi’r dysgwyr hyn yn effeithiol.
  • Mae presenoldeb mewn sesiynau addysg, hyfforddiant a gwaith yn rhy amrywiol ac nid yw’r rhesymau am hyn yn cael eu deall yn ddigon da.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Cydweithiodd arweinwyr a staff yn dda â’i gilydd i sicrhau y dychwelwyd i arlwy addysg, hyfforddiant a gwaith amser llawn ar ôl aflonyddwch y pandemig.
  • Mae staff addysgu’n manteisio ar ystod o ddysgu proffesiynol i ddatblygu eu haddysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw’r arlwy dysgu a datblygiad proffesiynol yn darparu’n ddigon da i diwtoriaid galwedigaethol allu diweddaru a datblygu eu medrau galwedigaethol.
  • Nid yw achosion o ddiffyg presenoldeb neu ddiffygion yn y niferoedd sy’n manteisio ar addysg, hyfforddiant a gwaith yn cael eu dadansoddi’n ddigon da i nodi meysydd i’w gwella.

Trosolwg o argymhellion

1

Arolygwyd un darparwr yn 2022-2023

Ymunodd Estyn ag AEF Carchardai i arolygu addysg, medrau a gweithgareddau gwaith yng Ngharchar EF Abertawe yn ystod 2022-2023. Adnabuom yr argymhellion canlynol ar gyfer addysg a hyfforddiant:

  • Defnyddio gwybodaeth o weithgareddau hunanwerthuso yn effeithiol i nodi meysydd manwl i’w gwella.
  • Blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael â diffygion o ran seilwaith a phrosesau i sicrhau dychwelyd yn llawn at weithgareddau addysg, hyfforddiant a gwaith.
  • Gwella’r broses o nodi a chefnogi darllenwyr newydd a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu darparwyr i nodi a datblygu medrau darllen carcharorion yn gywir:

Caiff ei ddeall yn dda bod gan garcharorion yn aml, fedrau llythrennedd is na’r boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol, eu hymgysylltiad â chymdeithas ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o aildroseddu.

  • Pa mor dda y mae arweinyddiaeth ar draws y carchar ac ar bob lefel yn cynorthwyo ac amlygu datblygu medrau darllen carcharorion a’u darllen er pleser yn weithredol?
  • Pa mor dda y mae’r cwricwlwm yn darparu cyfleoedd rheolaidd, cynlluniedig ac ystyrlon i ddatblygu medrau darllen carcharorion, gan gynnwys darllenwyr newydd?
  • Pa mor dda y mae medrau darllen carcharorion yn cael eu datblygu ar draws y cwricwlwm a’r tu allan i sesiynau medrau, gan gynnwys mewn dysgu a hyfforddiant yn y gweithle?
  • A yw asesiadau’n darparu gwybodaeth fanwl gywir am anghenion dysgu carcharorion, gan gynnwys eu galluoedd darllen a’r medrau darllen y mae angen iddynt eu datblygu?
  • Pa mor dda y mae’r wybodaeth o asesiadau darllen yn ategu dylunio’r cwricwlwm a dulliau addysgu, a’r cyngor ac arweiniad a roddir i garcharorion yn ymwneud â’r llwybrau neu’r rhaglenni priodol i’w dilyn?
  • Pa mor dda y mae dysgu proffesiynol yn cynorthwyo staff ar draws y cwricwlwm i ddysgu sut i ddatblygu medrau darllen carcharorion o’u mannau cychwyn?
  • Pa mor dda y mae’r llyfrgell yn bodloni diddordebau darllenwyr newydd?
  • Pa mor effeithiol yw’r cymhellion i annog carcharorion i wella eu darllen a darllen er pleser?