Mynd i'r cynnwys

Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed

2022-2023


Mae gwella medrau darllen disgyblion yn flaenoriaeth gan weinidogion y llywodraeth. Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn yn dilyn cais gan y Gweinidog Addysg yn ei lythyr cylch gwaith 2022-2023 i Estyn. Ymwelom â 23 o ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed, yn ogystal â dadansoddi tystiolaeth o 98 o arolygiadau craidd a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr 2021 a mis Hydref 2022.

Ein hargymhellion

Dylai arweinwyr ysgolion:

  1. Ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel am strategaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth i staff, i ddatblygu medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm
  2. Monitro a gwerthuso effaith strategaethau ac ymyriadau darllen yn drylwyr
  3. Cynllunio o fewn eu clwstwr ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn gynyddol o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, gan gynnwys gwneud defnydd priodol o adborth ac adroddiadau cynnydd o asesiadau personoledig

Dylai athrawon a staff cymorth mewn ystafelloedd dosbarth:

  1. Gynllunio cyfleoedd ystyrlon a difyr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau darllen yn raddol
  2. Defnyddio testunau o ansawdd uchel, sy’n briodol o heriol, i ddatblygu medrau darllen disgyblion ochr yn ochr ag addysgu’r strategaethau sydd eu hangen ar ddisgyblion i ddarllen y testunau hyn, ac ymgysylltu â nhw

Dylai partneriaid gwella ysgolion:

  1. Weithio gyda’i gilydd yn agos i sicrhau cysondeb a synergedd gwell mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol ynghylch darllen ar gyfer arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Barhau i hyrwyddo a datblygu’r ymagwedd ysgol gyfan at y pecyn cymorth llafaredd a darllen

Beth ddywedodd ein hadolygiad thematig

Mae tystiolaeth o’r ysgolion yn ein sampl yn awgrymu y cafodd y pandemig effaith negyddol ar fedrau darllen disgyblion, yn enwedig y rhai oedd dan anfantais yn sgil tlodi, ond roedd safonau darllen yn gwella eto, yn enwedig mewn ysgolion oedd wedi nodi diffygion mewn medrau penodol, ac yn canolbwyntio eu darpariaeth ar lenwi’r bylchau hyn.

Mae llawer o ddisgyblion 10-14 mlwydd oed yn defnyddio medrau darllen sylfaenol, a thua hanner ohonynt yn datblygu medrau darllen uwch yn hyderus. Fodd bynnag, mae cyfran uwch yn gwneud hynny ar ddiwedd y sector cynradd nag ar ddechrau’r sector uwchradd. Yn gyffredinol, mae gan athrawon cynradd ffocws cryf ar ddatblygu medrau darllen disgyblion, ac maent yn defnyddio strategaethau priodol i gyflawni hyn. Mewn ysgolion uwchradd, mae’r rhan fwyaf o athrawon yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc disgyblion. Mae’n fwy heriol cynllunio a chydlynu datblygiad medrau disgyblion yn dda ar draws y cwricwlwm yn y sector uwchradd.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd a llawer o ysgolion uwchradd yn y sampl wedi nodi strategaethau yn seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu medrau darllen disgyblion, fel addysgu geirfa anghyfarwydd ymlaen llaw neu holi disgyblion yn ofalus i wirio eu dealltwriaeth. Fodd bynnag, lleiafrif o ysgolion uwchradd yn unig sy’n gweithredu’r strategaethau hyn yn gyson ar draws y cwricwlwm.

Pan mae’r ddarpariaeth ar ei chryfaf, ceir cydbwysedd da o ran dulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion, gan gynnwys darllen dan arweiniad, darllen ar y cyd, darllen cilyddol a darllen yn annibynnol. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn darparu cyfleoedd ystyrlon rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu medrau darllen, ond lleiafrif o ysgolion uwchradd yn unig sy’n gwneud hynny.

Yn y ddau sector, lleiafrif o arweinwyr yn unig sy’n monitro ac yn gwerthuso effaith strategaethau darllen yn ddigon trylwyr. Ychydig iawn o glystyrau ysgolion sy’n cynllunio’n effeithiol ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7.

Mae mwyafrif yr ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn y sampl yn datblygu diwylliant lle rhoddir blaenoriaeth i ddarllen er pleser ochr yn ochr â dysgu darllen, a darllen i ddysgu. Mae cymorth uwch arweinwyr yn elfen hanfodol yn effeithiolrwydd y mentrau hyn.

Gellir gweld nodweddion allweddol rhaglen effeithiol i ddatblygu medrau darllen disgyblion yma. Gellir gweld yr elfennau allweddol mewn datblygu diwylliant darllen yma.

Adroddiad llawn