Mynd i'r cynnwys

Cefnogi’r Gymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon

2022-2023


Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom gwblhau  ein harolwg thematig  ar sut mae partneriaethau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i wella eu medrau Cymraeg, gan gynnwys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r adroddiad hwn yn arbennig o berthnasol wrth ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru i wireddu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a’i rhaglen i ddatblygu’r gweithlu.

Mae ein hadroddiad yn tynnu ar ganfyddiadau arolygiadau AGA, ymweliadau thematig â phartneriaethau a holiaduron ar gyfer myfyrwyr ac athrawon sydd newydd gymhwyso. Roedd ymweliadau â phartneriaethau yn cynnwys trafodaethau gydag arweinwyr, ymweliadau ag ysgolion a chyfweliadau â grwpiau o fyfyrwyr. Yn ogystal, buom yn siarad â chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, gwasanaethau gwella ysgolion a phartneriaid allweddol eraill.

Mae ein hargymhellion yn cynnwys:

Dylai partneriaethau addysg gychwynnol athrawon:

  1. gynllunio’n fwriadus i ddatblygu’r Gymraeg ymhob agwedd o’r rhaglenni addysg gychwynnol athrawon er mwyn sicrhau cefnogaeth gyson i fyfyrwyr trwy gydol eu profiad, gan gynnwys pan ar brofiad mewn ysgolion.
  2. sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi medrau Cymraeg yn datblygu medrau personol ac addysgu myfyrwyr i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion. Dylai hyn gynnwys addysgeg caffael a datblygu iaith mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog.
  3. monitro a gwerthuso effaith y ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r Gymraeg gan ystyried sut mae myfyrwyr yn defnyddio eu medrau Cymraeg a’u haddysgeg caffael iaith i gefnogi cynnydd disgyblion mewn ysgolion.
  4. greu cyfleoedd i bartneriaethau AGA gydweithio er mwyn datblygu ac ehangu’r gefnogaeth ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dylai arweinwyr mewn ysgolion partneriaeth:

  1. flaenoriaethu a chreu strategaeth bendant ar gyfer datblygu’r Gymraeg gan ymateb i ddisgwyliadau’r partneriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. sicrhau eglurder yn nisgwyliadau’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth fel bod ffocws clir ar effaith ymarfer athrawon ac arweinwyr ar fedrau Cymraeg disgyblion.
  2. sicrhau bod partneriaethau AGA yn cydweithio gyda phartneriaid gwella ysgolion fel bod darpariaeth fwy cyson, cydlynol ac arbenigol ar gyfer datblygu medrau Cymraeg y gweithlu addysg fel rhan o’r continwwm dysgu proffesiynol.

Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?

Yn gyffredinol, canfuom fod y gefnogaeth i ddatblygu sgiliau Cymraeg myfyrwyr, gan gynnwys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio. Yn gyffredinol, mae partneriaethau’n canolbwyntio ar ddarparu sesiynau penodol i wella sgiliau Cymraeg myfyrwyr yn ystod y rhaglen a addysgir yn y brifysgol. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynegi barn gadarnhaol am y sesiynau hyn gan nodi eu bod yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr iddynt ymarfer eu sgiliau ieithyddol personol o dan arweiniad tiwtor Cymraeg. Fodd bynnag, yn aml nid yw’r sesiynau hyn yn cael eu cysylltu yn ddigonol gyda sesiynau pwnc neu oedran penodol. Yn ogystal, mae argaeledd sesiynau pwnc uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio.

Dim ond ychydig o bartneriaethau sy’n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr wneud cysylltiadau clir rhwng yr hyn y maent wedi’i ddysgu am fethodoleg addysgu Cymraeg mewn sesiynau a addysgir ac ymarfer yn yr ystafell ddosbarth pan fyddant ar brofiad ysgol. O ganlyniad, er bod llawer o fyfyrwyr yn gwneud cynnydd addas yn eu sgiliau Cymraeg personol mewn sesiynau medrau Cymraeg, nid ydynt bob amser yn cymhwyso eu dysgu am addysgu’r Gymraeg pan fyddant ar brofiad ysgol.

Mewn llawer o bartneriaethau, nid oes gweledigaeth a rennir na dealltwriaeth glir a chyson o ddisgwyliadau’r bartneriaeth ar gyfer y Gymraeg ymhlith ysgolion partner. Yn aml, nid yw partneriaethau’n cynllunio’n ddigon strategol y ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r Gymraeg ar draws y rhaglenni. Mae hyn yn golygu bod darpariaeth yn dameidiog, neu mae’r Gymraeg yn cael ei hystyried fel agwedd ar wahân. Yn gyffredinol, nid yw partneriaethau’n gwerthuso’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r Gymraeg ar draws rhaglenni’n ddigon effeithiol. Nid ydynt yn ystyried y cynnydd y mae myfyrwyr yn ei wneud wrth ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg wrth addysgu. Yn ogystal, nid ydynt yn ystyried effaith addysgu myfyrwyr ar sgiliau a phrofiadau disgyblion.  O ganlyniad, nid ydynt yn nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu’n ddigon miniog i’w galluogi i wneud gwelliannau.

Mae’r dysgu proffesiynol a gynigir gan bartneriaid gwella ysgolion mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi ymarferwyr addysg i ddatblygu eu medrau Cymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio ledled Cymru. Mae hyn yn golygu nad yw athrawon, yn enwedig yn y sector uwchradd, bob amser yn hyderus wrth gefnogi disgyblion i gaffael a datblygu eu medrau Cymraeg ar draws pynciau’r cwricwlwm. Yn ogystal, mae hyn yn cael effaith ar hyder a gallu athrawon wrth iddynt fentora myfyrwyr AGA I’w helpu i ddatblygu eu haddysgu i gefnogi medrau Cymraeg disgyblion.

Adroddiad llawn