Mynd i'r cynnwys

Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY)

2022-2023


Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o brofiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n mynychu darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) ledled Cymru. Mae’n gwerthuso tegwch arlwy’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n cael eu lleoli mewn darpariaethau addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys eu cyfle i fanteisio ar arlwy cwricwlwm amser llawn neu ran-amser. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn gwerthuso a gwella ansawdd ac effaith y ddarpariaeth, ac yn adrodd ar y cyfnod pontio rhwng darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac ysgolion neu ddarpariaeth ôl-16. Rydym yn amlygu enghreifftiau o arfer dda mewn awdurdodau lleol lle mae ansawdd arlwy’r cwricwlwm yn cefnogi anghenion y disgyblion yn llwyddiannus, ac yn cefnogi eu dychweliad i addysg brif ffrwd, addysg bellach, hyfforddiant, neu gyflogaeth, yn effeithiol.

Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o 17 o ymatebion a dderbyniom o arolygon a anfonwyd at yr holl awdurdodau lleol. Yn ychwanegol, gwnaethom gyfarfod â swyddogion arweiniol ar gyfer AHY o 19 awdurdod lleol. O ganlyniad, casglom wybodaeth gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, ar wahân i un. Gwnaethom gyfarfod hefyd â chynrychiolwyr o wasanaethau gwella ysgolion ac ymweld ag wyth UCD. Yn ystod yr ymweliadau hyn, gwnaethom gyfarfod ag arweinydd yr UCD ac arweinwyr ar gyfer y cwricwlwm. O ran cyfanswm, ymgysylltom â thros 40 o ddisgyblion ar draws yr wyth UCD. Mae tystiolaeth o’r naw arolygiad UCD er mis Ionawr 2019 wedi’i chynnwys hefyd.

Ein hargymhellion:

Dylai UCDau ac ysgolion prif ffrwd:

  1. Rannu arfer â’i gilydd a gweithio gydag awdurdodau lleol, disgyblion, a rhieni i gryfhau cyfleoedd i ddisgyblion ddychwelyd i addysg brif ffrwd
  2. Monitro presenoldeb disgyblion yn agos i sicrhau eu bod yn elwa ar eu darpariaeth lawn ac, yn benodol, i ddiogelu disgyblion lle maent yn cael addysg ran-amser mewn gwahanol ddarparwr

Dylai awdurdodau lleol a’u gwasanaethau gwella ysgolion:

  1. Gynorthwyo mwy o ddisgyblion i ddychwelyd i ysgol brif ffrwd lle bo’n briodol trwy:
    • gryfhau cymorth dwys tymor byr mewn darpariaeth AHY
    • sicrhau bod penderfyniadau am leoliadau’n cael eu gwneud yn brydlon ac yn nodi hyd cytunedig, rolau a chyfrifoldebau clir a dyddiad adolygu
  2. Sicrhau darpariaeth cwricwlwm mewn UCDau sy’n diwallu anghenion pob un o’r disgyblion, gan weithio gyda’r pwyllgor rheoli a’r athro sydd â gofal
  3. Sicrhau darpariaeth cwricwlwm mewn darparwyr AHY heblaw UCDau
  4. Cryfhau’r prosesau sicrhau ansawdd a monitro i sicrhau bod arlwy’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno’n effeithiol mewn darparwyr AHY
  5. Herio a monitro presenoldeb disgyblion yn drylwyr ar draws darparwyr AHY, gan gynnwys defnydd priodol o amserlenni rhan-amser a rhaglenni cymorth bugeiliol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Ddiweddaru a sicrhau bod y Fframwaith ar gyfer Gweithredu AHY yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys yr holl ganllawiau atodol perthnasol ar AHY, i adlewyrchu argymhellion yr adroddiad hwn

Beth ddywedodd ein hadolygiad thematig

Weithiau, mae angen i awdurdodau lleol drefnu i ddisgyblion gael mynediad at addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Gallai hyn fod oherwydd bod disgybl yn sâl, mae wedi cael ei wahardd, neu mewn perygl o gael ei wahardd, neu’n cael trafferth manteisio ar ysgol oherwydd ei anghenion cymdeithasol ac emosiynol neu les.

Ers y pandemig, dywed awdurdodau lleol y bu cynnydd yn y cyfraddau atgyfeirio ar gyfer darpariaeth AHY. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar gyfer gwasanaethau tiwtora wedi’u trefnu gan awdurdodau lleol. Bu cynnydd hefyd mewn atgyfeiriadau ar gyfer disgyblion oedran cynradd iau. Mae gan fwy o ddisgyblion sy’n cael eu hatgyfeirio anghenion cymdeithasol, emosiynol, ac iechyd meddwl (CEIM) sylweddol, yn hytrach nag anghenion ymddygiadol, sydd wedi bod yn wir yn hanesyddol.

Yn gyffredinol, mae unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn gwneud cynnydd priodol tuag at gyflwyno Cwricwlwm i Gymru, a gefnogir yn briodol gan wasanaethau gwella ysgolion mewn llawer o achosion. Mae ehangder a chydbwysedd arlwy’r cwricwlwm ar draws UCDau yn briodol ac yn gwella. Mae hyn yn hynod amlwg ar gyfer disgyblion oedran uwchradd hŷn, sydd â llwybrau cymhwyster cynyddol amrywiol sy’n cefnogi disgyblion i fanteisio ar addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae bron pob un o’r UCDau wedi cryfhau eu hymagweddau o ran y ddarpariaeth gyfan at iechyd a lles emosiynol i ymateb i anghenion eu disgyblion. Mae arweinwyr UCDau wedi buddsoddi mewn dysgu proffesiynol i wella dealltwriaeth staff o ymagweddau penodol at gefnogi iechyd a lles emosiynol eu disgyblion. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r ymagweddau hyn yn ategu arlwy’r cwricwlwm yn gryf.

Er bod yr holl awdurdodau lleol yn disgwyl i ddisgyblion AHY gael mynediad at arlwy cwricwlwm amser llawn, lle bo’n briodol, mae gormod o ddisgyblion yn cael mynediad at addysg ran-amser yn unig. Ledled Cymru, mae ansawdd y rhaglenni cymorth bugeiliol i gefnogi trefniadau rhan-amser, a’r defnydd ohonynt, yn anghyson. Nid yw awdurdodau lleol yn monitro’r trefniadau hyn yn ddigon trylwyr ac mae hyn yn effeithio ar hawl plant a phobl ifanc i gael addysg amser llawn.

Trwyddi draw yn bendant, mae’n well gan ddisgyblion fynychu eu UCD nag ysgol brif ffrwd. Ychydig iawn o ddisgyblion a gafodd eu cyfweld oedd yn hiraethu am eu hysgol brif ffrwd neu eisiau dychwelyd yno. Maent yn teimlo y gwrandewir arnynt a’u bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y cwricwlwm, yn enwedig disgyblion oedran uwchradd hŷn. Maent yn mynegi eu pryderon ar gyfer dychwelyd i addysg brif ffrwd yn dda ac yn siarad yn wybodus am yr hyn y maent yn eu dirnad yw’r rhwystrau. Maent yn credu’n gryf fod eu lles yn cael blaenoriaeth mewn UCDau, ac o ganlyniad, yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, y gwrandewir arnynt a’u bod yn gallu dysgu trwy gael cymorth arbenigol. Mae hyn yn aml mewn cyferbyniad â’r hyn a brofon nhw yn eu hysgol brif ffrwd. O ganlyniad, mae ymddygiad y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwella yn ystod eu cyfnod yn eu UCD.

Bu gwelliannau o ran y defnydd o banelau gwneud penderfyniadau ar draws bron pob un o’r awdurdodau lleol i bennu’r ddarpariaeth AHY sydd ei hangen ar gyfer disgyblion unigol. Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys ystod ehangach o aelodau panel sy’n meddu ar arbenigedd priodol ac ansawdd gwell o wybodaeth a gyflwynir gan ysgolion prif ffrwd i lywio’r broses gwneud penderfyniadau yn fwy cywir.

Mae prosesau awdurdodau lleol ar gyfer cytuno ar hyd lleoliadau AHY ac adolygu trefniadau lleoliadau yn parhau i fod yn anghyson. Pan mae arfer yn fwyaf effeithiol, caiff hyd y lleoliadau a threfniadau sicrhau ansawdd, gan gynnwys dyddiadau adolygu ar gyfer lleoliadau disgyblion, eu cytuno fel rhan o gyfarfod panel cychwynnol yr awdurdod lleol. Mae hyn yn darparu disgwyliadau, rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer y darparwr AHY, yr ysgol brif ffrwd a swyddogion monitro awdurdodau lleol.

Mae gormod o ddisgyblion oedran cynradd ac oedran uwchradd iau yn aros mewn darparwyr AHY dros y tymor hir. O ganlyniad, ychydig iawn o’r disgyblion hyn yn unig sy’n dychwelyd i ysgol brif ffrwd yn llwyddiannus. Mae disgyblion uwchradd hŷn yn aros mewn darparwyr AHY gyda ffocws ar ennill cymwysterau, sy’n eu harfogi â’r medrau angenrheidiol ar gyfer eu cyrchfannau nesaf. At ei gilydd, dywedodd yr awdurdod lleol fod niferoedd y disgyblion sy’n gadael darparwyr AHY nad ydynt yn cael mynediad at addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, yn isel.

Mae’r prif rwystrau rhag ailintegreiddio disgyblion yn llwyddiannus i ysgolion prif ffrwd yn cynnwys lefelau a chymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion, yn enwedig ar gyfer anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl (CEIM), anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (ACEY), yn ogystal ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gwaelodol eraill. O ganlyniad, gall y lefelau angen hyn effeithio ar hyd y lleoliad ar gyfer disgyblion. Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae UCDau yn gweithredu’n debycach i ysgolion arbennig, ac mae lleoliadau disgyblion yn rhai tymor hir yn yr UCD.

Nid yw lleiafrif o brosesau awdurdodau lleol i sicrhau ansawdd a chefnogi gwelliant mewn darparwyr AHY wedi’u datblygu’n ddigonol. Mae sicrhau ansawdd arlwy’r cwricwlwm mewn unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn fwy trylwyr nag ydyw mewn darparwyr AHY allanol wedi’u comisiynu gan awdurdodau lleol.

Adroddiad llawn