Mynd i'r cynnwys

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru

2022-2023


Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Mae ein hadroddiad yn defnyddio canfyddiadau o ymweliadau wyneb‑yn‑wyneb â phob un o’r deuddeg coleg addysg bellach yng Nghymru. Cynhaliom weithdai â dysgwyr, siarad ag arweinwyr, athrawon a staff cymorth mewn colegau, ac edrych ar ystod eang o ddogfennau yn ymwneud â phrosesau presennol a oedd yn cynnwys achosion posibl o aflonyddu rhywiol.

Mae ein hargymhellion yn cynnwys:

Dylai colegau addysg bellach:

  1. Sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a thrafodaethau yn ymwneud â ffurfio a chynnal perthnasoedd iach
  2. Datblygu strategaethau i atal a mynd i’r afael ag agweddau a diwylliannau misogynistaidd sy’n datblygu ymhlith grwpiau o ddysgwyr
  3. Sicrhau bod yr holl aelodau staff perthnasol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol sy’n eu galluogi i nodi ac ymateb yn hyderus i aflonyddu rhywiol, yn ogystal â helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o berthnasoedd iach
  4. Sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ym mhob ardal o adeiladau, tir, mannau rhithiol a thrafnidiaeth y coleg
  5. Cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu, ymosodiadau a cham-drin rhywiol mewn ffordd gyson sy’n galluogi arweinwyr i nodi tueddiadau a chymryd camau priodol i ymateb iddynt

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Ei gwneud yn glir pa agweddau ar arweiniad addysg Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol sy’n berthnasol i golegau addysg bellach a chadarnhau unrhyw wahaniaethau rhwng y gofynion mewn ysgolion a cholegau addysg bellach
  2. Darparu arweiniad priodol i golegau i’w helpu i fabwysiadu ymagwedd gydlynus a chyson tuag at gofnodi a chategoreiddio achosion o aflonyddu rhywiol

Beth oedd ein hadroddiad thematig yn ei ddweud

Canfuom fod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau yn fater cymhleth nad yw’n cael ei gofnodi’n ddigonol, gyda llawer o ddysgwyr yn dewis peidio rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol neu ddim yn siŵr sut i roi gwybod amdanynt, am amrywiol resymau. Mae gan golegau bolisïau a phrosesau sefydledig ar gyfer disgyblu dysgwyr ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin yn effeithiol â’r achosion mwyaf difrifol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion y rhoddir gwybod amdanynt.

Nid yw systemau colegau i gofnodi a dadansoddi aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn gywir wedi’u datblygu’n ddigonol. Yn rhy aml, caiff achosion o aflonyddu rhywiol eu cofnodi a’u categoreiddio o fewn dosbarthiadau bwlio cyffredinol. Dywedodd llawer o staff wrthym nad ydynt yn hyderus a’u bod yn teimlo bod angen mwy o ddatblygiad proffesiynol a diweddariadau yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol.

Lle mae colegau wedi cynnal sesiynau hyfforddiant penodol ar fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, mae’r rhain wedi helpu staff i nodi achosion a mynd i’r afael â nhw’n briodol. At ei gilydd, mae prinder adnoddau penodol ar gyfer addysg bellach i gynorthwyo staff colegau i ymdrin ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion hefyd. Mae gwaith cydweithredol i fynd i’r afael â’r pryderon hyn wedi dechrau’n ddiweddar, ond mae’n rhy gynnar i werthuso ei effeithiolrwydd a’i effaith.

Mae ein trafodaethau â dysgwyr a staff yn awgrymu y gallai dysgwyr sy’n ystyried eu hunain yn fenywod, LHDTC+ a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol fod yn fwy tebygol o gael profiad o aflonyddu rhywiol. Mae achosion o aflonyddu rhywiol yn cynnwys cymysgedd o faterion wyneb-yn-wyneb ac ar-lein.

Adroddiad llawn