Mynd i'r cynnwys

Cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaeth

2022-2023


Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Ym mis Mai a mis Mehefin 2023, ymwelodd arolygwyr â naw o’r deg darparwr arweiniol sy’n cynnig rhaglenni prentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliom gyfarfodydd a siarad gyda dysgwyr, rheolwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr. Arsylwom sesiynau addysgu grŵp ac adolygiadau un-i-un. Cynhaliom arolwg ar-lein dienw i ddysgwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr yn ymchwilio i agweddau ymatebwyr at gymwysterau SHC a datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar raglenni prentisiaeth.

Ein hargymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Gydweithio â Cymwysterau Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i adolygu’r defnydd o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn prentisiaethau
  2. Adnewyddu Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ac adnoddau
  3. Trwy gydweithio â phartneriaid, datblygu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol i wella dealltwriaeth ymarferwyr o’r addysgeg a’r gallu i gyflwyno medrau hanfodol

Dylai darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith:

  1. Ddatblygu ymagweddau gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau:
    • y caiff dysgwyr gyfleoedd ystyrlon i astudio ac ymgymryd ag asesiadau’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg
    • y caiff anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr eu nodi a’u gwerthuso’n brydlon a’u cefnogi’n briodol
  2. Sicrhau bod dysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi’u heithrio trwy ddirprwy yn parhau i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol
  3. ynnig dysgu proffesiynol sy’n datblygu addysgeg tiwtoriaid ac aseswyr i gyflwyno medrau hanfodol

Dylai darparwyr arweiniol:

  1. Sicrhau bod hunanwerthuso’n myfyrio ar effeithiolrwydd y modelau cyflwyno sy’n cael eu defnyddio ar draws partneriaid ac isgontractwyr y darparwr ac yn cymryd camau i leihau’r anfanteision posibl a nodir yn yr adroddiad hwn

Beth ddwedodd ein hadroddiad thematig?

Mae darparwyr wedi datblygu ystod o ddulliau cyflwyno sy’n effeithiol o ran galluogi dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau SHC. Rydym yn categoreiddio’r modelau y mae darparwyr yn eu defnyddio i gyflwyno cymwysterau SHC mewn rhaglenni prentisiaeth yn ôl chwe chategori eang ac yn amlinellu eu manteision a’u hanfanteision.

Rydym yn nodi arweddion nodweddiadol rhaglenni effeithiol, gan gynnwys:

  • rôl asesu cychwynnol, cyfathrebu a chydlynu o fewn darparwyr
  • bod gan ddysgwyr raglen astudio ystyrlon – pa ddull cyflwyno bynnag y mae’r darparwr yn ei ddefnyddio – sy’n eu galluogi i ddatblygu ac ymarfer eu medrau hanfodol a pharatoi ar gyfer asesiadau allanol
  • darpariaeth hyblyg sy’n addasu yn ôl anghenion dysgwyr
  • dysgu proffesiynol ar gyfer staff cyflwyno
  • cefnogaeth gan gyflogwr prentis.

Er bod darparwyr yn effeithiol o ran galluogi dysgwyr i ennill eu cymwysterau SHC, canfuom fod addysgu a dysgu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar brentisiaethau wedi’u gogwyddo’n annefnyddiol tuag at baratoi ar gyfer asesiadau allanol. Mae tri phrif ffactor yn cyfrannu at hyn: yr amser y mae gan brentisiaid i gwblhau eu cymwysterau SHC yn ystod cyfnod cymharol fyr eu prentisiaethau, yr her ddysgu sylweddol y mae dysgwyr yn aml yn ei hwynebu wrth ddatblygu’r medrau sydd eu hangen ar gyfer eu hasesiadau SHC, a model asesu ar gyfer cymwysterau SHC sy’n generig i raddau helaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gymhwyso medrau mewn cyd-destunau nad ydynt yn gysylltiedig â’u cefndir galwedigaethol yn aml.

Roedd neges gyson gan ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr bod medrau llythrennedd, rhifedd a digidol da yn bwysig ar gyfer bywyd a gwaith. Fodd bynnag, mae’n llawer gwell gan ddysgwyr ddysgu’r medrau hyn trwy gyd-destun eu gwaith a’u hastudiaethau galwedigaethol, ac maent yn gwerthfawrogi hynny. Mae hyn yn achosi cyfyng gyngor i ddarparwyr: sut orau i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgwyr, gan ddefnyddio ffafriaeth glir dysgwyr i ddysgu trwy eu cyd-destun galwedigaethol, wrth eu paratoi ar yr un pryd ar gyfer asesiad allanol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gymhwyso medrau mewn cyd destunau nad ydynt wedi’u cysylltu â’u cefndir galwedigaethol yn aml.

Roedd tri maes, yn gysylltiedig â’r ffocws cul ar asesu, lle’r oedd ansawdd dysgu yn peri pryder. Y cyntaf yw gallu dysgwyr i gofio’r medrau maent wedi’u datblygu, a grynhowyd gan un dysgwr fel, ‘Rydw i’n ei ddysgu ar gyfer y prawf ac yna’n ei anghofio ar unwaith.’ Yr ail yw bod dysgu’n canolbwyntio’n bennaf ar baratoi ar gyfer tasgau asesu allanol, gan leihau’r medrau sy’n cael eu dysgu i ‘bethau sydd eu hangen i lwyddo yn y prawf’, yn hytrach na ‘medrau defnyddiol a fydd yn fy helpu yn fy mywyd gwaith neu fywyd ehangach’. Y trydydd yw i ba raddau y gall dysgwyr gymhwyso’r medrau maent wedi’u dysgu i’w helpu yn eu swyddi gwaith neu eu bywydau ehangach.

O ystyried y cyfyngiadau o ran dysgu a amlinellwyd uchod, yn y sesiynau a arsylwom, roedd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr ddealltwriaeth gadarn o’u cryfderau a’u gwendidau mewn medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ac roedd llawer ohonynt yn glir ynghylch eu cynnydd a’r hyn roedd angen iddynt ei wella. Roedd y mwyafrif ohonynt yn gwneud cynnydd cyson o ran datblygu’r medrau yr ymdriniwyd â nhw yn y sesiwn honno. Crybwyllodd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn ein hymweliadau ac yn yr holiadur ar-lein eu bod yn cael cymorth ac adborth defnyddiol gan eu tiwtoriaid neu aseswyr, a oedd yn eu helpu i ddeall yr hyn roedd angen iddynt ei wneud i wella a’r camau gweithredu roedd angen iddynt eu cwblhau i wneud hynny.

Crybwyllodd darparwyr nad yw methu ennill y cymwysterau SHC yn achos sylweddol pam nad yw dysgwyr yn cwblhau eu fframwaith cyffredinol, bellach. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu rwystrau eraill rhag dysgu, fel y rhai nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, yn ei chael hi’n anodd ennill eu cymwysterau SHC, ac mae hyn yn rhwystr iddynt rhag cyflawni llwyddiant cyffredinol yn eu fframwaith.

Ychydig iawn o brentisiaid sy’n cyflawni asesiadau ar gyfer cymwysterau SHC yn ddwyieithog neu yn Gymraeg. At ei gilydd, nid yw darparwyr yn gweithio mewn partneriaeth yn ddigon da i gynorthwyo dysgwyr sy’n dymuno astudio eu cymwysterau SHC yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.

Er bod darparwyr yn effeithiol o ran galluogi dysgwyr i ennill y cymwysterau SHC sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu fframwaith, nid yw dysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi’u heithrio trwy brocsi yn parhau i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd neu ddigidol yn gyson.

Adroddiad llawn