Mynd i'r cynnwys

Llywodraethwyr Ysgol: gweithredu fel ffrindiau beirniadol ac effaith hyfforddiant i lywodraethwyr

2022-2023


Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn yn dilyn cais gan y Gweinidog Addysg yn ei lythyr cylch gwaith 2022 i Estyn. Cynhaliom gyfweliadau â phenaethiaid a llywodraethwyr mewn 41 o ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig. Hefyd, anfonom arolwg ar-lein i gyrff llywodraethol mewn 250 o ysgolion a derbyn 363 o ymatebion. Ymgynghorom ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys gwasanaethau gwella ysgolion a swyddogion awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda chyrff llywodraethol yng Nghymru, ac yn eu cefnogi.

Ein hargymhellion

Dylai Cyrff Llywodraethol ac ysgolion:

  1. Wella gallu llywodraethwyr i herio uwch arweinwyr am bob agwedd ar waith yr ysgol
  2. Sicrhau bod llywodraethwyr yn cael cyfleoedd rheolaidd a gwerthfawr i arsylwi’n uniongyrchol y cynnydd y mae eu hysgol yn ei wneud tuag at gyflawni ei blaenoriaethau
  3. Cynnal hunanwerthusiad rheolaidd o waith y corff llywodraethol i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella
  4. Gwerthuso effaith hyfforddiant i lywodraethwyr ar eu rôl fel arweinwyr strategol effeithiol a nodi gofynion hyfforddi yn y dyfodol

Dylai awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion:

  1. Werthuso ansawdd eu hyfforddiant i lywodraethwyr yn fwy trylwyr i wneud gwelliannau lle mae angen
  2. Cydweithio i sicrhau cydlyniant a chysondeb gwell mewn cyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel rhwng gwahanol rannau o’r wlad
  3. Darparu cymorth a chyngor mwy effeithiol i gyrff llywodraethol i’w helpu yn eu rôl fel arweinwyr strategol effeithiol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Ddiweddaru’r arweiniad i awdurdodau lleol ar beth i’w gynnwys mewn hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol ar ddeall rôl data mewn cefnogi hunanwerthuso a gwelliant mewn ysgolion, yn unol â newidiadau cenedlaethol i arferion asesu
  2. Cynhyrchu gwybodaeth am rôl bwysig rhiant-lywodraethwyr i helpu annog rhieni, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gwahanol, i wneud cais i fod yn rhiant-lywodraethwr
  3. Creu fframwaith cymwyseddau i gynorthwyo cyrff llywodraethol i wella’u heffeithiolrwydd

Beth ddwedodd ein hadroddiad thematig?

O’r dystiolaeth a gasglwyd gennym, canfuom fod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn frwdfrydig ac yn angerddol am eu cyfrifoldebau. Maent yn hynod ymrwymedig i’r rôl sydd ganddynt yn eu hysgol. Mae llawer o lywodraethwyr yn siarad yn wybodus am y cymunedau a wasanaethir gan eu hysgolion, ac maent yn aml yn deall anghenion y cymunedau hynny. Fodd bynnag, nid yw mwyafrif y cyrff llywodraethol yn adlewyrchu cyfansoddiad amrywiol eu cymuned leol yn ddigon da.

Mae cael y cydbwysedd cywir o her a chymorth ar gyfer uwch arweinwyr yn agwedd bwysig ar rôl corff llywodraethol. Yn aml, bod yn ffrind beirniadol yw’r enw am hyn. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae llywodraethwyr yn gweithio’n gynhyrchiol gyda’r uwch arweinwyr ac maent yn gefnogol i’w gwaith. Fodd bynnag, canfuom mewn mwyafrif o ysgolion nad yw llywodraethwyr yn dwyn arweinwyr i gyfrif am berfformiad addysgol yn ddigon da. Yn ychwanegol, nid oes ganddynt ddealltwriaeth ddigon eang o’u rôl mewn sicrhau disgwyliadau uchel ym mhob agwedd ar waith yr ysgol. Mae hyn oherwydd nad ydynt yn herio uwch arweinwyr yn ddigon da.

Mewn llawer o ysgolion, mae gan lywodraethwyr drosolwg o flaenoriaethau eu hysgol ar gyfer gwella, ac mae ganddynt ddealltwriaeth fras o sut maent wedi cael eu nodi trwy hunanwerthuso. Mae llywodraethwyr yn dilyn hynt a helynt y cynnydd y mae’r ysgol yn ei wneud tuag at gyflawni eu blaenoriaethau trwy wybodaeth reolaidd y mae arweinwyr yn ei darparu ar eu cyfer. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, yn dilyn y cyfyngiadau o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae llywodraethwyr wedi ailddechrau cynnal eu hymweliadau. Fodd bynnag, mewn gormod o achosion, nid yw llywodraethwyr yn defnyddio eu hymweliadau ag ysgolion yn bwrpasol i gasglu tystiolaeth uniongyrchol i lywio’u gwerthusiadau o waith yr ysgol.

Er bod hunanwerthuso ysgol gyfan fel arfer yn cael ei ymgorffori mewn ysgolion, lleiafrif o gyrff llywodraethol yn unig sydd wedi cynnal unrhyw hunanwerthusiad o’u gwaith eu hunain yn ddiweddar. Mae mwyafrif y cyrff llywodraethol yn cydnabod bod hwn yn faes sydd angen ei wella. Yn ychwanegol, lleiafrif o gyrff llywodraethol yn unig sy’n cynnal archwiliad rheolaidd o fedrau eu haelodau fel bod ganddynt ddarlun cyfredol o ystod eu medrau a’u profiadau.

Mae hyfforddiant o ansawdd uchel yn bwysig i sicrhau bod llywodraethwyr yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf mewn addysg. Mae’r rhan fwyaf o lywodraethwyr yn cael hyfforddiant gan staff ysgol a gan ddarparwyr allanol, sef awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion fel arfer. Ceir cyrsiau hyfforddi gorfodol y mae’n rhaid i lywodraethwyr eu mynychu, yn ogystal â sesiynau dewisol.  Mae argaeledd ac ansawdd yr hyfforddiant yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol rannau o Gymru. Mae rhai awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o sesiynau hyfforddiant buddiol i lywodraethwyr bob tymor, tra bod llai o sesiynau o lawer ar gael mewn rhannau eraill o’r wlad. Yn bwysig, mae’r hyfforddiant data gorfodol y mae’n rhaid i bob llywodraethwr ei fynychu wedi dyddio ac nid yw’n helpu llywodraethwyr i ddeall arferion asesu presennol. Lleiafrif o lywodraethwyr yn unig sy’n gwerthuso’r hyfforddiant a gânt a’i effaith ar wella’u rôl fel llywodraethwyr effeithiol.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae llywodraethwyr yn teimlo eu bod wedi cael gwybodaeth ddigonol i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o faterion addysgol pwysig, fel Cwricwlwm i Gymru a’r newidiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET).

Mae gan lywodraethwyr rwymedigaethau statudol pwysig. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae llywodraethwyr yn deall eu rôl mewn diogelu disgyblion. Fodd bynnag, nid oes ganddynt ddealltwriaeth ddigonol o’u holl rwymedigaethau, er enghraifft o ran bwyta ac yfed yn iach.

Adroddiad llawn