Adroddiad sector
Pob oed
2022-2023
Ffynhonnell: Rhestr gyfredol o ysgolion Llywodraeth Cymru. Cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) Llywodraeth Cymru.
Darparwyr
27
Nifer o ddarparwyr 2023
15
Nifer o ddarparwyr cyfrwng Cymraeg 2023
15
Nifer o ddarparwyr sydd â chweched dosbarth
Disgyblion
26,168
Cyfanswm disgyblion
22,516
Cyfanswm disgyblion 2021-22
22,308
Cyfanswm disgyblion 2020-21
5,836
Nifer o ddisgyblion oed cynradd
16,726
Nifer o ddisgyblion oed uwchradd (addysg orfodol)
1,734
Nifer o ddisgylblion chweched dosbarth
20%
Canran o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
2%
Canran gyda Saesneg fel iaith ychwanegol (A,B,C)
34%
Canran o ddisgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg
11%
Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Arolygiadau craidd
Nifer o arolygiadau craidd: 6
Cyfrwng Cymraeg: 2
Cyfrwng Saesneg: 4
Astudiaethau achos
Nifer o astudiaethau achos: 3
Gweithgarwch dilynol
Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022
MA: 1
GS: 0
AE: 0
Nifer a dynnwyd allan 2022-23
MA: 0
GS: 0
AE: 0
Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023
MA: 0
GS: 0
AE: 1
Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023
MA: 1
GS: 0
AE: 1
Dolenni defnyddiol:
Gweld crynodeb o’r adroddiad sector
Darllenwch drosolwg o’r argymhellion o’n harolygiadau
Cwestiynau myfyriol ar gyfer y sector
Darllenwch am arfer effeithiol o’r sector
Yn ystod 2022-2023, gweithiodd ysgolion pob oed yn galed i gynnig mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llefaredd ac ailsefydlu arferion yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys gwaith mewn parau a grwpiau. Yn yr achosion cryfaf, sicrhaodd cynllunio gofalus arweinwyr i ddatblygu medrau disgyblion ar draws yr ystod oed gyfan bod disgyblion, wrth symud trwy’r ysgol, yn adeiladu’n effeithiol ar beth roeddent wedi’i ddysgu pan roeddent yn iau. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o ysgolion ar draws y sector, nid oedd cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion wedi’i gydlynu’n ddigon da bob tro. Er gwaethaf perthnasoedd gwaith cryf rhwng staff a disgyblion ar draws y sector, mewn tua hanner yr ysgolion a arolygwyd, roedd ansawdd yr addysgu’n anghyson o hyd, yn bennaf oherwydd y diffyg her a’r disgwyliadau isel o ran yr hyn y gallai disgyblion ei gyflawni. Roedd llawer o ysgolion wedi goresgyn y rhwystrau cychwynnol a oedd ynghlwm â sefydlu ysgol newydd ac roedd morâl staff wedi gwella. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr achosion, nid oedd arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon da ar effaith darpariaeth ar ddysgu disgyblion. Er enghraifft, wrth werthuso ansawdd yr addysgu, nid oeddent yn ystyried ei effaith ar gynnydd disgyblion yn ddigon manwl.
Addysgu a dysgu
Yn yr ysgolion a arolygwyd, roedd medrau iaith a chymdeithasol disgyblion wrth iddynt ddechrau yn yr ysgol yn gyffredinol is na’r rhai a ddisgwyliwyd ar gyfer eu hoed. Roedd hyn yn arbennig o wir o ran llafaredd, y cafodd y cyfnodau clo a’r diffyg cysylltiad cymdeithasol yn ystod pandemig COVID-19 effaith niweidiol arno. Gweithiodd ysgolion yn galed i gynnig mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llafaredd ac ailsefydlu arferion yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys gwaith mewn parau a grwpiau. Ar draws yr ysgolion, gwnaeth mwyafrif y disgyblion gynnydd addas, o leiaf, dros gyfnod a gwnaeth ychydig ohonynt gynnydd cryf. Yn gyffredinol, gwnaeth disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gynnydd priodol o’u mannau cychwyn.
Wedi iddynt ddechrau yn yr ysgol, datblygodd medrau cyfathrebu disgyblion yn dda. Erbyn Blwyddyn 6, roedd llawer o ddisgyblion yn darllen yn hyderus ac yn rhugl o ystod addas o destunau, gan ddefnyddio goslef yn dda. Roedd disgyblion o oed uwchradd, i raddau amrywiol, yn dadansoddi testunau ac yn defnyddio rhesymiad a dod i gasgliad, yn ogystal â nodi safbwyntiau gwahanol. Fodd bynnag, nid oedd uwch fedrau darllen disgyblion wedi’u datblygu cystal. Yn aml, roedd hyn yn gysylltiedig â diffyg cyfleoedd pwrpasol i ddarllen mewn gwersi, heblaw gwersi iaith. Roedd hyn yn debyg wrth ddatblygu medrau ysgrifennu disgyblion. Pan roddwyd y cyfle iddynt, roedd disgyblion yn ysgrifennu ag ymdeimlad clir o ddiben a chynulleidfa, tra’r oedd y disgyblion mwy abl yn ysgrifennu’n fwyfwy soffistigedig i ennyn diddordeb y darllenydd. Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, datblygodd disgyblion eu medrau cyfathrebu yr un mor dda yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, nid oedd disgyblion yn cael digon o gyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu eu medrau Cymraeg y tu allan i wersi Cymraeg. Roedd hyn yn aml oherwydd nad oedd arweinwyr yn rhoi digon o bwyslais ar ddatblygu Cymraeg disgyblion ac ddim yn cynnwys cyfeiriadau at y Gymraeg yn eu cynlluniau gwella.
At ei gilydd, roedd medrau rhifedd sylfaenol disgyblion yn gadarn. Mewn pedair o’r chwe ysgol a arolygwyd, cafodd disgyblion gyfleoedd addas i ddatblygu eu medrau mewn pynciau perthnasol y tu allan i fathemateg. Yn yr achosion gorau, roedd athrawon yn cynllunio cyfleoedd buddiol i ddisgyblion gymhwyso eu medrau rhifedd mewn cyd-destunau bob dydd. Mewn hanner yr ysgolion, roedd athrawon yn cynnig cyfleoedd da i ddisgyblion ddatblygu eu medrau digidol. Lle’r oedd hyn yn wir, o oed cynnar, roedd disgyblion yn ymgysylltu â dyfeisiau digidol ac yn meithrin y medrau sydd eu hangen i gynhyrchu, golygu a datblygu eu gwaith. Wrth iddynt gyrraedd oedran uwchradd, roedd disgyblion yn elwa lle’r oedd cynllunio ysgolion ar gyfer dilyniant mewn medrau digidol yn gadarn. O ganlyniad, roedd disgyblion yn yr ysgolion hyn yn gallu dangos medrau mwy datblygedig, fel rhaglennu, trin data a chreu delweddau a fideos.
Datblygu medrau digidol disgyblion, Ysgol Caer Elen
Mae disgyblion ar draws yr ysgol yn gwneud cynnydd cryf o ran datblygu eu medrau digidol. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion oed cynradd yn ymchwilio’n hyderus ar y we, er enghraifft i ddod o hyd i wybodaeth am adar a chreu ffeil o ffeithiau hwyliog. Erbyn Blwyddyn 2, mae disgyblion yn rhaglennu’n gywir i symud teclyn digidol ar hyd llwybr penodol. Mae llawer o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn cyflwyno gwybodaeth yn gymwys. Er enghraifft, maent yn cyrchu gwybodaeth ar y we am organau’r corff, gan gynnwys recordiad llais yn disgrifio diben yr organau.
Mae medrau digidol disgyblion oed uwchradd yn adeiladu’n llwyddiannus ar eu profiadau blaenorol. Mae gan lawer o ddisgyblion fedrau digidol tra chymwys. Er enghraifft, maent yn creu siart addas i ddangos y data ar y newid cyfraneddol mewn disgwyliad oes mewn gwledydd yn Affrica. Mae llawer ohonynt yn defnyddio meddalwedd gymhleth yn fedrus i gyfansoddi cerddoriaeth, creu gemau digidol a dylunio pecynnau o faint a gosodiad penodol. Mae llawer o ddisgyblion yn dangos medrau codio pwrpasol, er enghraifft i greu eu gwefannau ynni adnewyddadwy eu hunain.
Yn yr achosion cryfaf, sicrhaodd cynllunio gofalus arweinwyr i ddatblygu medrau disgyblion ar draws yr ystod oed gyfan, fod disgyblion yn adeiladu’n effeithiol ar yr hyn y gwnaethant ei ddysgu pan roeddent yn iau wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Arweiniodd hyn at ddisgyblion yn gwneud cynnydd cyflym yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol. Darllenwch sut mae Ysgol Caer Elen yn defnyddio cynllunio cydlynus i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o ysgolion ar draws y sector, nid oedd cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion wedi’i gydlynu’n ddigon da bob tro.
Roedd athrawon yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf â disgyblion ac yn sicrhau rhediad priodol i’r dysgu a oedd yn bodloni anghenion unigolion. Fodd bynnag, yn hanner yr ysgolion a arolygwyd, roedd ansawdd yr addysgu yn anghyson, yn bennaf oherwydd diffyg her a disgwyliadau isel o ran yr hyn y gallai disgyblion ei gyflawni. Roedd ansawdd adborth ac asesu athrawon yn amrywio gormod hefyd ac nid oeddent yn helpu disgyblion i wella eu gwaith bob tro. Mae hyn wedi arwain at argymhelliad i wella agweddau ar addysgu ar gyfer yr ysgolion hyn.
Ers y pandemig, parhaodd ysgolion â’u datblygiadau i roi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Sefydlodd arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer y cwricwlwm a chanolbwyntio’n glir ar ddatblygu medrau a gwella addysgu. Roeddent yn annog athrawon i dreialu agweddau newydd ar addysgu a, thrwy werthuso systematig a chywir, fe addaswyd eu darpariaeth. Roedd llawer o ysgolion yn defnyddio eu hardaloedd awyr agored a’u cymunedau lleol yn dda i wella profiadau disgyblion. Mae’r astudiaeth achos a ddarparwyd gan Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi yn amlygu sut mae’n gwneud defnydd da o’r ardal leol i wella dysgu disgyblion. Fodd bynnag, mewn tua hanner yr ysgolion, roedd y dewis cyrsiau i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn gyfyngedig ac nid oedd ysgolion yn neilltuo digon o amser ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol i ddisgyblion hŷn bob tro.
Gofal, cymorth a lles
Yn yr ysgolion a arolygwyd, bu’r gofal, cymorth ac arweiniad a roddir i ddysgwyr a’u teuluoedd yn gryfder. Mae lles disgyblion wedi bod yn flaenoriaeth ar ôl y pandemig ac, ers hynny, mae ysgolion wedi creu amgylchedd diogel a chynhwysol i ddisgyblion o bob oed. Fe wnaethant greu diwylliant diogelu a gofal yn llwyddiannus a oedd o fudd i bron pob un o’r disgyblion. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac yn gwybod at bwy i droi pe byddai angen cymorth neu gyngor arnynt.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn bodloni anghenion emosiynol a chymdeithasol disgyblion yn dda. Roeddent yn cydweithio’n dda â phartneriaid allanol i gynnig darpariaeth oedd wedi’i chydlynu’n dda ac yn fuddiol i’r disgyblion a’u teuluoedd. Elwodd ysgolion pob oed ar fod yn gyfarwydd â disgyblion a’u teuluoedd o gyfnod cynnar. Roeddent hefyd yn cydweithio’n agos ag ysgolion cynradd partner i sicrhau pontio rhwydd.
Cefnogaeth ar gyfer strategaethau pontio ac ymyrraeth ar gyfer anghenion cymdeithasol, emosiynol ac academaidd disgyblion, Ysgol Idris Davies
Mae arweinwyr yn cynllunio ystod eang o strategaethau ymyrraeth i fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac academaidd disgyblion. Maent yn cyfateb lefel gywir y gefnogaeth i’w hanghenion a chaiff y ddarpariaeth hon ei chyflwyno gan dîm tra medrus ac ymroddedig o athrawon a staff cymorth.
Un o gryfderau penodol yr ysgol yw’r ymagwedd ystyrlon tuag at gefnogi dysgu a chynnydd disgyblion wrth iddynt bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 yn yr ysgol ac o ysgolion cynradd partner. Er enghraifft, mae dosbarth medrau sylfaenol yr ysgol yn cynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd cryf yn eu medrau llythrennedd a rhifedd, a hefyd gyda’u lles.
Mewn llawer o ysgolion, roedd disgyblion hŷn yn ysgwyddo cyfrifoldebau i gefnogi disgyblion iau yn yr ysgol. Roeddent yn trefnu digwyddiadau a chlybiau, yn ogystal â chwarae rôl arweiniol mewn pwyllgorau a grwpiau. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn darparu cyfleoedd addas i ddisgyblion gyfrannu at benderfyniadau. Roedd disgyblion yn lleisio eu barn ar ystod o faterion. Mewn ychydig o achosion, roedd disgyblion yn dylanwadu ar beth a sut maent yn dysgu, yn enwedig yn is i lawr yr ysgol.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd darpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY yn effeithiol ac yn gryfder. Roedd staff yn darparu cymorth wedi’i gynllunio a’i fonitro’n ofalus i wella medrau disgyblion ac ymateb i’w hanghenion emosiynol. Roeddent yn olrhain cynnydd y disgyblion hyn yn ofalus ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i athrawon i’w helpu i gynllunio i fodloni eu hanghenion mewn gwersi. O ganlyniad, gwnaeth disgyblion ag ADY gynnydd addas o leiaf yn erbyn eu targedau.
Cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), Ysgol Cwm Brombil
Mae staff yn monitro cynnydd disgyblion ag ADY yn effeithiol ac yn adnabod eu disgyblion yn dda. Maent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn bwrpasol i sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth ychwanegol wedi’i theilwra i fodloni anghenion y disgyblion hyn. Mae staff yn cynnwys disgyblion, rhieni ac asiantaethau allanol yn effeithiol i gynllunio camau nesaf disgyblion yn eu dysgu. Mae’r cydlynwyr ADY yn darparu dysgu proffesiynol buddiol ar gyfer yr holl staff.
Roedd pob ysgol wedi canolbwyntio ar gryfhau arferion a systemau i hyrwyddo presenoldeb da. Monitrodd staff bresenoldeb yn ofalus a dilyn gweithdrefnau i fynd i’r afael ag absenoldebau a phrydlondeb gwael. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion parhaus, roedd presenoldeb yn peri pryder o hyd ac ni fu cynnydd nodedig mewn lefelau presenoldeb, yn enwedig ar gyfer grwpiau o ddysgwyr bregus.
Ym mron pob ysgol, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Roeddent yn ymddwyn yn dda, yn parchu ei gilydd ac oedolion ac yn cydweithio’n dda mewn grwpiau a pharau. Fodd bynnag, fe ddywedodd athrawon ac arweinwyr wrthym fod rheoli ymddygiad disgyblion yn fwy heriol o lawer nag yr oedd cyn y pandemig.
Arwain a gwella
Canfu arolygwyr fod gan y rhan fwyaf o benaethiaid weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol yr oedd staff yn ei deall yn dda. Roedd rolau arweinyddiaeth wedi’u diffinio’n dda ac roedd cyfrifoldebau’n rhychwantu’r ystod oed gyfan yn gynyddol. Roedd y rhan fwyaf o arweinwyr yn sylweddoli buddion gweithio ar draws pob oedran a sefydlu polisïau cyffredin, er enghraifft ar addysgu ac asesu. Roedd llawer o ysgolion wedi goresgyn y rhwystrau cychwynnol a oedd ynghlwm â sefydlu ysgol newydd ac roedd morâl staff wedi gwella. Mewn ychydig o achosion yn unig, roedd y cyfnodau cynradd ac uwchradd yn cael eu trin yn gwbl ar wahân ac nid oeddent yn adlewyrchu gwir natur ysgol pob oed.
Roedd arweinwyr yn y rhan fwyaf o ysgolion yn mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol yn dda. Roeddent yn rhoi sylw priodol i ddiwygio ADY a newidiadau i’r cwricwlwm. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, rhoddwyd pwyslais penodol ar liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad a lles disgyblion. Mewn ychydig o achosion, bu ysgolion yn ddyfeisgar o ran sut roeddent yn cefnogi disgyblion a’u teuluoedd. Roedd hyn yn cynnwys darparu bwyd a gwisg ysgol, rhoi cymhorthdal ar gyfer ymweliadau addysgol a gwersi offerynnol am ddim. Roedd arweinwyr yn gweithio’n galed i sicrhau bod disgyblion sy’n cael eu heffeithio gan dlodi yn cael cyfle cyfartal i ffynnu.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn cynnal ystod o weithgareddau gwerthusol priodol a oedd yn casglu tystiolaeth uniongyrchol o graffu ar waith disgyblion, teithiau dysgu ac arsylwi gwersi, yn ogystal â chasglu barnau disgyblion a rhieni. Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd arweinwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon yn briodol i nodi meysydd i’w gwella yn gywir. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr achosion, nid oedd arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon da ar effaith darpariaeth ar ddysgu disgyblion. Er enghraifft, wrth werthuso ansawdd yr addysgu, nid oeddent yn ystyried ei effaith ar gynnydd disgyblion yn ddigon manwl. Yn hytrach, roeddent yn chwilio am gydymffurfiaeth athrawon ac nid oeddent yn nodi yn union beth yr oedd angen mynd i’r afael ag ef i wella darpariaeth.
Roedd arweinwyr yn y rhan fwyaf o ysgolion yn hyrwyddo diwylliant o hunanfyfyrio a dysgu proffesiynol. Roeddent yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i staff gydweithio â’i gilydd ac ysgolion cynradd partner. Roedd dysgu proffesiynol wedi’i deilwra’n addas i anghenion unigolion a’r ysgol. Roedd staff yn elwa ar arbenigedd ei gilydd ar draws cyfnodau, a oedd yn cyfrannu ymhellach at barhad o ran darpariaeth ac ymagweddau ar draws yr ystod oed.
Yn gyffredinol, roedd llywodraethwyr yn gefnogol o’u hysgolion. Roeddent yn rheoli cyllidebau’n ofalus ac yn deall eu rolau statudol o ran diogelu a hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach. Roeddent yn gyfeillion beirniadol addas ond, mewn ychydig o achosion, nid oeddent yn ddigon gwybodus bob tro i allu herio arweinwyr yn llawn.