Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Pob oed

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae rhoi agweddau ar Cwricwlwm i Gymru ar waith, yn enwedig defnyddio’r ardal leol (cynefin) a chyfleoedd yn yr awyr agored, yn datblygu’n dda.
  • Yn yr ychydig o achosion gorau, mae cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion ar draws yr ystod oedran yn gryfder.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae’r addysgu yn gyson dda. Lle mae hyn yn wir, mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf ac yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau cymhleth ac yn gwella eu gwybodaeth bynciol yn sylweddol. Mae cryfderau cyffredin mewn addysgu yn cynnwys perthnasoedd gwaith cryf rhwng disgyblion a staff, gwybodaeth bynciol gref, rhediad priodol i’r dysgu a bodloni anghenion disgyblion unigol.

Beth sydd angen ei wella

  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, nid yw cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion wedi’i gydlynu’n ddigon da bob tro.
  • Mewn tua hanner yr ysgolion a arolygwyd, mae gormod o anghysondebau yn ansawdd yr addysgu.
  • Mae ansawdd adborth athrawon yn rhy amrywiol ac, yn aml, nid yw’n helpu disgyblion i wella eu gwaith.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac yn gwybod at bwy i droi os oes angen cymorth a chyngor arnynt.
  • Yn gyffredinol, mae gofal bugeiliol a chymorth ar gyfer lles disgyblion yn gryfder. Mae ysgolion wedi canolbwyntio’r bwrpasol ar fynd i’r afael â materion lles ar ôl y pandemig.
  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn arwain at ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw gwaith i wella presenoldeb wedi arwain at gynnydd amlwg mewn presenoldeb, yn enwedig ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr yn ystyried yr ystod oedran gyfan mewn polisïau ysgol (yn hytrach na pholisïau cynradd ac uwchradd ar wahân).
  • Yn gynyddol, mae gan fwy o arweinwyr gyfrifoldebau ysgol gyfan sy’n cwmpasu’r ystod oedran gyfan.
  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae trefniadau dysgu proffesiynol wedi’u teilwra i anghenion unigolion a’r ysgol.
  • Yn gyffredinol, mae ysgolion wedi goresgyn y rhwystrau cychwynnol wrth sefydlu fel ysgolion newydd ac mae morâl staff wedi gwella.
  • Mae gan arweinwyr ddealltwriaeth gadarn o fanteision posibl ysgol pob oed ac yn dechrau gwireddu rhywfaint o’r potensial hwnnw.
  • Mae arweinwyr yn y rhan fwyaf o ysgolion yn mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol yn addas, yn enwedig o ran lliniaru effaith tlodi ar les a chyrhaeddiad disgyblion.

Beth sydd angen ei wella

  • Ym mwyafrif yr ysgolion, nid yw arweinwyr yn defnyddio prosesau hunanwerthuso a gwella yn ddigon da.
  • Mewn ychydig o achosion, nid yw llywodraethwyr yn ddigon gwybodus i allu herio arweinwyr ysgolion.
  • Mewn ychydig o achosion, caiff cyfnodau cynradd ac uwchradd eu hystyried yn unedau ar wahân ac nid ydynt yn adlewyrchu gwir natur ysgol pob oed.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

6

Arolygwyd chwe ysgol pob oed yn 2022-2023

4

Cafodd pedair ysgol argymhelliad i wella hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella. Fel arfer, roedd hwn yn gysylltiedig â gwerthuso addysgu a darpariaeth o ran eu heffaith ar safonau disgyblion.

3

Roedd yn ofynnol i dair ysgol wella ansawdd yr addysgu ac roedd angen i’r un gyfran wella agweddau ar asesu ac effaith adborth.

5

Roedd angen i bum ysgol a arolygwyd wella darpariaeth i ddatblygu medrau disgyblion ar draws yr ysgol. Roedd yr argymhellion hyn yn cyfeirio’n bennaf at gynllunio cydlynus i ddatblygu medrau disgyblion. Fodd bynnag, mewn un ysgol, gwnaed hyn yn arbennig o dda ac fe arweiniodd at astudiaeth achos.

3

Mewn tair ysgol, roedd nifer ac amrywiaeth y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yng nghyfnod allweddol 4 yn gyfyngedig, yn enwedig yr amser sy’n cael ei glustnodi ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh).

3

Ers y pandemig, mae lefelau presenoldeb wedi gostwng yn sylweddol. Mae angen i lefelau presenoldeb mewn tair o’r ysgolion a arolygwyd wella, er gwaethaf y ddarpariaeth a’r gweithdrefnau cadarn yr oedd ganddynt ar waith.

1

Un ysgol yn unig a gafodd argymhelliad yn ymwneud ag iechyd a diogelwch a chyhoeddwyd llythyr lles.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu ysgolion i fyfyrio ar addysgu a medrau:

  • Pa mor dda y mae addysgu’n herio ac yn ennyn diddordeb disgyblion o bob oed a gallu?
  • Pa mor gywir yw’r gwerthusiad o ansawdd yr addysgu? Pa mor dda y mae’r gwerthusiad o addysgu’n ystyried ei effaith ar gynnydd disgyblion?
  • Pa effaith y mae dysgu proffesiynol yn ei chael ar ansawdd yr addysgu?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion yn gynyddol ar draws yr ysgol?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn sicrhau bod disgyblion yn cael digon o gyfleoedd ystyrlon i ymarfer a datblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a Chymraeg?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn gwerthuso effaith y cynllunio hwn ar gyfer medrau ar fedrau llythrennedd, rhifedd, digidol a Chymraeg disgyblion?
  • A yw’r cwricwlwm yn bodloni anghenion disgyblion i’w paratoi ar gyfer eu cam dysgu nesaf?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023