Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Uwchradd

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • O ganlyniad i addysgu difyr sydd wedi’i gynllunio’n dda, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth bynciol a’u medrau llythrennedd yn briodol ar draws y cwricwlwm; gwna ychydig o ddisgyblion gynnydd cryf.
  • Mae mwyafrif o ysgolion yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion ymarfer a datblygu eu medrau llythrennedd.
  • Mae mwyafrif o ysgolion wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer Cwricwlwm i Gymru ac yn arbrofi’n briodol ag ymagweddau newydd.
  • Mae llawer o ysgolion yn cynnig darpariaeth addas i ddisgyblion bregus i’w cynorthwyo i ymgysylltu â dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o wersi, mae disgwyliadau isel a diffyg cynllunio gofalus yn lleihau cynnydd disgyblion.
  • Mewn lleiafrif o achosion, nid yw cynllunio ysgolion ar gyfer Cwricwlwm i Gymru yn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau dysgu disgyblion.
  • Nid yw lleiafrif o ysgolion yn cynllunio’n ddigon da i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion yn gynyddol.
  • Mewn mwyafrif o ysgolion, mae diffygion mewn darpariaeth yn golygu nad yw disgyblion yn datblygu eu medrau llythrennedd yn ddigon da ar draws y cwricwlwm.
  • Yn gyffredinol, nid yw darpariaeth i ddatblygu medrau digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm wedi’i datblygu’n ddigonol.
  • Ym mwyafrif yr ysgolion, nid yw disgyblion yn gwneud digon o gynnydd yn eu medrau Cymraeg neu eu dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Cymorth bugeiliol cryf mewn llawer o ysgolion.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac yn gwybod i bwy y dylid gofyn am gymorth.
  • Mae llawer o ddisgyblion yn ymgysylltu’n dda mewn gwersi ac maent yn ddysgwyr annibynnol, gwydn.
  • Mae darpariaeth ADY yn gryfder mewn llawer o ysgolion.
  • Mae gan lawer o ysgolion ddiwylliant diogelu cryf.
  • Mewn llawer o achosion, mae disgyblion yn elwa ar gyfleoedd i ddylanwadu ar fywyd ysgol a datblygu medrau arweinyddiaeth.

Beth sydd angen ei wella

  • Presenoldeb disgyblion, yn enwedig disgyblion ag ADY a’r rhai sydd o aelwydydd ag incwm isel.
  • Mae lleiafrif y disgyblion yn rhy oddefol mewn gwersi o hyd, yn enwedig lle nad yw’r addysgu’n ddigon heriol neu ddifyr.
  • Nid yw ychydig o ddisgyblion yn teimlo yr eir i’r afael â bwlio / aflonyddu yn ddigon da.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw prosesau diogelu’n ddigon cadarn.
  • Nodwyd materion iechyd a diogelwch mewn tuag un o bob tri o arolygiadau.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw cyfleoedd i ddisgyblion leisio eu barn ac ymgymryd â rolau arweinyddiaeth wedi’u datblygu’n ddigonol.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae gan lawer o benaethiaid weledigaeth glir ar gyfer gwella ysgolion sy’n cael ei deall yn dda gan staff.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae dyraniad y cyfrifoldebau a’r trefniadau rheolaeth linell yn helpu arweinwyr i gyflawni eu rolau’n addas.
  • Yn gyffredinol, mae ysgolion yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau hunanwerthuso addas; mae gan ychydig o ysgolion brosesau gwella cadarn, manwl sy’n cael effaith gynaledig ar ddeilliannau disgyblion.
  • Mae llawer o ysgolion wedi datblygu ffocws addas ar godi dyheadau a chyflawniadau disgyblion o aelwydydd ag incwm isel.
  • Mae diwylliant cadarnhaol o ddysgu proffesiynol yn nodwedd mewn llawer o ysgolion.
  • Mae llawer o arweinwyr wedi sicrhau diwylliant diogelu cryf.
  • Yn gyffredinol, mae llywodraethwyr yn gefnogwyr hynod ymrwymedig i’r ysgol ac mae llawer ohonynt yn herio arweinwyr yn briodol.

Beth sydd angen ei wella

  • Ym mwyafrif yr achosion, nid yw prosesau hunanwerthuso’n canolbwyntio’n ddigon da ar effaith ac nid yw arweinwyr yn cynllunio’n ddigon manwl ar gyfer gwella.
  • Nid yw lleiafrif o arweinwyr yn cael eu dwyn i gyfrif yn ddigon cadarn ac nid ydynt yn cael digon o effaith yn eu rôl.
  • Yn rhy aml, nid yw arweinwyr yn gwerthuso strategaethau sydd wedi’u llunio i gynyddu presenoldeb neu wella deilliannau i ddisgyblion o aelwydydd ag incwm isel yn ddigon trylwyr.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw arweinwyr yn sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cael effaith gyson ar ddeilliannau disgyblion.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

28

Arolygwyd dau ddeg wyth o ysgolion uwchradd yn 2022-2023.

24

Cafodd 24 (86%) o’r ysgolion a gafodd eu harolygu argymhelliad yn ymwneud â phrosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant, yn enwedig o ran pa mor fanwl maent yn canolbwyntio ar effaith darpariaeth ar gynnydd disgyblion.

18

Cafodd 18 (64%) o’r ysgolion argymhelliad i wella effeithiolrwydd addysgu.

15

Mewn 15 (54%) o’r ysgolion, argymhellodd arolygwyr y dylent gryfhau trefniadau i wella presenoldeb disgyblion.

14

Cafodd 14 (50%) o’r ysgolion argymhelliad i wella cynllunio a chydlynu darpariaeth ar gyfer medrau disgyblion.

7

Nododd 7 (25%) o arolygiadau fater iechyd a diogelwch yr oedd angen mynd i’r afael ag ef.

7

Cafodd 7 (25%) o ysgolion argymhelliad i wella medrau Cymraeg disgyblion, yr oedd dwy ohonynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu ysgolion uwchradd i fyfyrio ar eu prosesau hunanwerthuso:

  • Pa mor dda y mae prosesau hunanwerthuso’n canolbwyntio ar effaith darpariaeth ar gynnydd a lles disgyblion?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn rhoi sylw i effaith darpariaeth ar ddisgyblion i aelwydydd ag incwm isel?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn dadansoddi cyfraddau presenoldeb – gan gynnwys grwpiau o ddisgyblion fel y rhai o aelwydydd ag incwm isel? Pa mor gadarn y mae arweinwyr yn gwerthuso effaith strategaethau i wella presenoldeb?
  • Wrth werthuso addysgu, pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn canolbwyntio ar ba mor dda mae’n helpu disgyblion i wneud cynnydd yn eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau?
  • A oes gan yr ysgol systemau cadarn ar waith i werthuso’r effaith y mae dysgu proffesiynol yn ei chael ar ansawdd addysgu ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn sicrhau bod ei gwerthusiad o asesu ac adborth yn canolbwyntio ar ba mor dda mae’n helpu disgyblion i wella eu dysgu?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn deall sut i werthuso effaith eu harweinyddiaeth ar ddysgu a lles disgyblion?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn gwybod bod disgyblion yn cael digon o gyfleoedd heriol, ystyrlon i ddatblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn addasu a gwella’r cwricwlwm yn sgil ystod o dystiolaeth uniongyrchol, gadarn?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023