Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Cynradd

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae ychydig o ysgolion wedi gwneud cynnydd cryf o ran rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Yn aml, bu’r ysgolion hyn ar eu taith ddiwygio ers sawl blwyddyn ac mae hyn yn golygu bod gan athrawon ddealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion y tu ôl i’r newidiadau.
  • Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu medrau a’u gwybodaeth yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol gynradd.
  • Mae medrau llefaredd disgyblion yn gynyddol gryf mewn llawer o ysgolion. Yn aml, mae hyn yn adlewyrchu newidiadau o ran addysgeg sy’n rhoi mwy o amser i ddisgyblion gydweithio a thrafod, yn ogystal ag athrawon yn cynllunio mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ymarfer eu medrau llefaredd i wneud iawn am effeithiau negyddol y pandemig.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth dda o nodweddion gwahanol fathau o ysgrifennu.
  • Fel y nodom y llynedd, mae disgyblion yn dangos ystod eang o fedrau digidol effeithiol, gan gynnwys y gallu i ysgrifennu rhaglenni syml a rheoli symudiad dyfeisiau.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae cynnydd o ran datblygu medrau llefaredd Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn peri pryder o hyd ac mae hyn wedi’i lesteirio ymhellach gan effaith y pandemig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
  • Mae lleiafrif yr ysgolion yn y camau cynnar o roi Cwricwlwm i Gymru ar waith o hyd. Mae llawer o’r ysgolion hyn wedi addasu eu cynllunio i ganolbwyntio ar beth mae disgyblion yn ei ddysgu yn hytrach na sut maent yn dysgu, a dim ond lleiafrif o ysgolion sy’n cynllunio’n effeithiol i sicrhau dilyniant ym medrau a gwybodaeth disgyblion dros gyfnod.
  • Yn yr un modd â’r llynedd, mewn gormod o ysgolion, nid yw disgyblion yn ysgrifennu’n estynedig yn ddigon aml ac maent yn gwneud gwallau sylfaenol o ran gramadeg ac atalnodi na eir i’r afael â nhw’n ddigon da drwy adborth gan athrawon.
  • Yn rhy aml, mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau annibynnol i ddisgyblion nad ydynt yn eu herio’n ddigonol nac yn eu helpu i wneud cynnydd â’u dysgu. O ganlyniad, yn enwedig o ran rhifedd, nid yw disgyblion yn cymhwyso eu medrau ar lefel ddigon uchel mewn gwaith ar draws y cwricwlwm.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae disgyblion yn mwynhau’r ysgol, yn dangos agweddau cadarnhaol at eu dysgu ac yn ymddwyn yn dda.
  • Mae ysgolion wedi mynd i’r afael â diwygio ADY mewn modd cadarnhaol ac wedi gwneud cynnydd da tuag at roi gofynion y Ddeddf ADY ar waith.
  • Ers y pandemig, mae ysgolion yn fwy ymwybodol o anghenion lles disgyblion ac mae llawer ohonynt wedi rhoi camau ychwanegol ar waith i fynd i’r afael â gorbryder a sicrhau y gall disgyblion rannu unrhyw ofnau neu bryderon.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae disgyblion yn cael cyfleoedd mwyfwy ystyrlon i gyfrannu at fywyd a gwaith yr ysgol trwy grwpiau llais y disgybl. Yn yr achosion gorau, mae arweinwyr yn cynnwys disgyblion yn bwrpasol pan yn gwerthuso ansawdd yr addysgu a dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae cyfraddau presenoldeb islaw’r lefelau cyn y pandemig o hyd ac mae presenoldeb disgyblion sydd mewn perygl o ddifreintedd yn peri pryder penodol.
  • Nid yw ysgolion yn cynnig cyfleoedd digonol i ddisgyblion ddysgu am natur amrywiol eu cymunedau, Cymru a’r byd ehangach.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mewn llawer o achosion, yn enwedig lle maent wedi gwneud cynnydd da o ran diwygio’r cwricwlwm, mae ysgolion wedi cryfhau eu perthynas â rhieni a’r gymuned ehangach.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae arweinwyr yn ystyried cyd-destun eu hysgol yn ofalus ac yn sicrhau eu bod yn mabwysiadu’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny yn unig sy’n fwyaf perthnasol i anghenion eu disgyblion.
  • Erbyn hyn, mae llawer o ysgolion yn cydweithredu’n dda ag ysgolion eraill yn eu clwstwr lleol a thu hwnt i rannu arfer effeithiol mewn addysgu a dysgu a mynd i’r afael â gofynion diwygio’r cwricwlwm ac ADY.
  • Mewn mwyafrif o ysgolion, mae arweinwyr yn sicrhau y caiff cost y diwrnod ysgol a’r effaith y gall hyn ei chael ar bob teulu ei hystyried.

Beth sydd angen ei wella

  • Yn rhy aml, mae diffyg trylwyredd mewn prosesau hunanwerthuso a gwella, nid ydynt yn canolbwyntio ar ddeilliannau i ddisgyblion ac nid ydynt yn nodi meysydd allweddol i’w gwella o ran ansawdd addysgu, yn enwedig yn nosbarthiadau’r disgyblion ieuengaf.
  • Mewn llawer o achosion, ar ôl y pandemig, nid yw llywodraethwyr wedi dychwelyd i’w harferion rheolaidd o gasglu tystiolaeth uniongyrchol o ansawdd gwaith yr ysgol. Mae hyn yn rhwystro eu gallu i herio a chynorthwyo’r ysgol, gan eu bod yn dibynnu gormod ar y wybodaeth y mae uwch arweinwyr yn ei rhoi iddynt.
  • Mewn lleiafrif o achosion, nid yw arweinwyr yn sicrhau bod dysgu proffesiynol i wella medrau Cymraeg staff yn arwain at welliannau o ran y safonau a’r cynnydd y mae disgyblion yn eu cyflawni.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau:

219

Arolygwyd dau gant, un deg a naw o ysgolion cynradd yn ystod 2022-2023.

94

Cafodd 94 (43%) o’r ysgolion cynradd a gafodd eu harolygu argymhelliad yn ymwneud â gwella effeithiolrwydd gweithgareddau hunanwerthuso a gwella ysgol. Yn aml, roedd y rhain yn ymwneud â’r angen i arweinwyr ganolbwyntio eu gweithgareddau’n fanylach ar yr effaith ar ddeilliannau i ddisgyblion.

64

Cafodd 64 (29%) o’r ysgolion cynradd argymhelliad yn ymwneud â gwella cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu hannibyniaeth.

61

Rhoddwyd argymhellion yn ymwneud ag ansawdd ac effeithiolrwydd adborth mewn 61 (28%) o’r ysgolion cynradd.

60

Cafodd 60 (27%) o’r ysgolion argymhelliad i wella eu cwricwlwm i sicrhau y caiff medrau disgyblion eu datblygu’n gynyddol ac yn systematig.

46

Mewn 46 (21%) o’r ysgolion cynradd, nododd arolygwyr yr angen i wella lefel yr her sy’n cael ei chynnig yn ystod gwersi a gweithgareddau.

46

Cafodd 46 (21%) o ysgolion cynradd argymhelliad a oedd yn ymwneud â gwelliannau i fedrau llythrennedd, gyda 37 (17%) ohonynt yn cael argymhelliad yn ymwneud â medrau rhifedd.

51

Nododd arolygwyr fod angen i 51 (30%) o’r 160 o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg a arolygwyd wella datblygu medrau Cymraeg disgyblion, yn enwedig Cymraeg llafar. Yn y 50 o ysgolion cyfrwng Cymraeg arolygwyd, cafodd naw (18%) argymhelliad am y Gymraeg.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu ysgolion i fyfyrio ar sut maent yn cefnogi datblygiad medrau llefaredd Cymraeg disgyblion:

Pa mor dda y mae arweinwyr yn deall y cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn y ddarpariaeth gyfredol?

  • Pa mor gryf yw medrau llefaredd Cymraeg disgyblion a sut ydych chi’n gwybod hynny? Beth gall disgyblion ei wneud yn dda a beth sydd angen ei wella?
  • Pa mor frwdfrydig yw disgyblion am y Gymraeg? Sut gall yr ysgol wella hyn?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu disgyblion i siarad a deall Cymraeg?
  • Pa mor effeithiol yw trefniadau’r ysgol i sicrhau bod disgyblion yn meithrin eu medrau’n gynyddol mewn gwersi, gweithgareddau dysgu a thros gyfnod?
  • I ba raddau y mae’r ysgol yn defnyddio cyfleoedd y tu allan i sesiynau Cymraeg penodol i annog disgyblion i gymhwyso a datblygu eu medrau?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn cynllunio i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ystod o feysydd dysgu? Pa mor dda y mae’r ysgol yn sicrhau bod y defnydd o’r Gymraeg mewn gwersi eraill yn adeiladu ar y medrau mae disgyblion wedi’u datblygu’n flaenorol ac yn cynnig her ddigonol?
  • Pa mor gryf yw medrau Cymraeg staff? A yw staff yn dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad i addysgu’r iaith ac yn deall manteision datblygu dwyieithrwydd?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn sicrhau dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer y Gymraeg ac yn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gryfderau ymhlith aelodau staff i gynorthwyo aelodau staff eraill sy’n llai hyderus?
  • Pa mor dda y mae aelodau staff yn deall addysgeg effeithiol ar gyfer datblygu’r Gymraeg?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn creu naws gadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg? A ydynt yn dangos disgwyliadau uchel o staff a disgyblion?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023