Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Meithrinfeydd nas cynhelir

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Gwna’r rhan fwyaf o blant gynnydd da yn ystod eu cyfnod mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir.
  • Mae nifer gynyddol o leoliadau’n arddel athroniaeth Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir nas Cynhelir yn llwyddiannus. Mae’r lleoliadau hyn yn darparu mwy o gyfleoedd dysgu wedi’u harwain gan y plentyn ac ystod dda o brofiadau i blant chwarae am gyfnodau estynedig.
  • Mae llawer o arweinwyr ac ymarferwyr yn cynllunio ystod gyffrous o weithgareddau a phrofiadau perthnasol ar draws yr holl feysydd dysgu a datblygu. Maent yn ystyried cyfareddau a diddordebau plant, yn ogystal â’u camau nesaf mewn dysgu.
  • Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae ymarferwyr yn ymrwymo i hwyluso chwarae wedi’i arwain gan y plentyn ac yn dod i wybod yn fedrus pa bryd i gymryd cam yn ôl a pha bryd i annog plant i ddyfalbarhau neu feddwl drostyn nhw’u hunain.
  • Mae mwyafrif yr ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau manwl i nodi’r camau nesaf yn nysgu plant yn effeithiol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o leoliadau meithrin nas cynhelir, nid yw ymarferwyr yn darparu digon o gyfleoedd i blant glywed neu ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u harferion bob dydd.
  • Nid yw lleiafrif o ymarferwyr yn defnyddio arsylwadau ac asesiadau o blant yn ddigon da i lywio’r camau nesaf yn nysgu plant yn effeithiol. Nid ydynt yn ystyried chwarae ac archwilio plant yn ddigon da i gynorthwyo â’r broses gynllunio.
  • Nid yw lleoliadau’n cynllunio’n ddigon da bob tro i ddatblygu medrau plant yn yr ardal y tu allan neu’n caniatáu i blant fynd i’r ardaloedd tu allan yn ddirwystr.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Yn debyg i flynyddoedd blaenorol, mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn parhau i gynnig gofal, cefnogaeth ac arweiniad cryf i blant. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar les plant.
  • Mae bron ymarferydd yn rhyngweithio’n dda â phlant ac yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol. Maent yn rhyngweithio mewn modd cynnes a chyfeillgar, gan helpu i greu amgylchedd tawel a hamddenol.
  • Mae ymarferwyr yn sylwgar ac yn cynorthwyo plant i ymgysylltu mwy a bod yn fwy annibynnol. Maent yn creu ymdeimlad cryf o berthyn.
  • Mae plant yn cael cyfleoedd gwerthfawr i fynegi eu hunain yn glir ac yn cael cyfleoedd i wneud dewisiadau am eu chwarae a datblygu ei syniadau.
  • Ym mron pob lleoliad, mae arweinwyr yn datblygu ystod gynhwysfawr o bolisïau a gweithdrefnau perthnasol i gynorthwyo ymarferwyr i gadw plant yn ddiogel.
  • Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn adnabod plant a all fod ag anghenion dysgu ychwanegol yn gywir ac maent ganddynt systemau effeithiol i’w cefnogi nhw a’u teuluoedd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig iawn o leoliadau, nid oes gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddigonol o bolisi a gweithdrefnau diogelu’r lleoliad ac nid ydynt yn eu rhoi ar waith yn ddigon da.
  • Nid oes gan ychydig iawn o leoliadau weithdrefnau iechyd a diogelwch digon cadarn, fel llofnodi oedolion i mewn ac allan o’r lleoliad a chofnodi damweiniau ac ymarferion tân.
  • Nid yw ychydig iawn o ymarferwyr yn annog plant i wneud dewisiadau bwyta ac yfed iach bob tro o’r opsiynau sydd ar gael iddynt.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae bron pob arweinydd yn darparu gweledigaeth glir ar gyfer eu lleoliad. Yn yr enghreifftiau cryfaf, maent yn rhannu eu gweledigaeth â’r holl staff a rhieni ac yn adolygu eu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod y rhain yn adlewyrchu eu gweledigaeth.
  • Mae’r lleoliadau mwyaf effeithiol yn defnyddio gwybodaeth gynhwysfawr a gesglir am eu hymarfer, darpariaeth a chynnydd plant yn dda i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. Mae’r lleoliadau hyn yn cysylltu’r blaenoriaethau maent yn eu nodi a’u cynlluniau datblygu yn dda. Maent yn nodi camau gweithredu clir i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.
  • Mae llawer o arweinwyr yn cynnal goruchwyliaethau ac arfarniadau rheolaidd ag ymarferwyr. Maent yn sicrhau bod ymarferwyr yn deall eu rolau a chyfrifoldebau’n dda ac yn crynhoi’r rhain mewn swydd ddisgrifiadau manwl.
  • Lle mae hyn yn fwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn nodi anghenion hyfforddiant ymarferwyr a chyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol parhaus yn effeithiol. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i wella eu perfformiad trwy fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau.
  • Mae gan y rhan fwyaf o leoliadau cysylltiadau cryf â rhieni a gwarcheidwaid. Maent yn darparu gwybodaeth werthfawr iddynt allu cefnogi dysgu eu plant gartref a deall y cynnydd mae eu plentyn yn ei wneud yn y lleoliad.

Beth sydd angen ei wella

  • Yn rhy aml, mae prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn wan. Nid yw arweinwyr yn creu cysylltiadau rhwng canfyddiadau prosesau hunanwerthuso a meysydd i’w datblygu yn ddigon cryf. Mewn ychydig o achosion, nid yw’r meysydd i’w datblygu yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar fedrau a datblygiad plant.
  • Nid oes gan leoliadau asesiadau risg digon cadarn ar waith bob tro i nodi a lliniaru peryglon gellir eu rhagweld. Yn aml, mae angen i’r rhain gael eu diweddaru neu eu teilwra i anghenion penodol y lleoliad unigol.
  • Nid yw arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon cryf bob tro ar nodi cryfderau, targedau ar gyfer gwella neu anghenion hyfforddiant yn ystod arfarniadau staff.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

92

Arolygwyd naw deg dau o leoliadau nas cynhelir yn 2022-2023.

31

Cafodd 31 (34%) o’r lleoliadau a gafodd eu harolygu argymhelliad yn ymwneud â’r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg. Roedd wyth o’r lleoliadau hyn yn rhai cyfrwng Cymraeg a 23 ohonynt yn rhai cyfrwng Saesneg.

31

Cafodd 31 (34%) o’r lleoliadau argymhellion yn ymwneud ag arsylwadau. Roedd y rhain yn cysylltu arsylwadau â chynllunio dysgu pellach i blant.

19

Cafodd 19 (21%) o’r lleoliadau argymhelliad yn ymwneud â gwella profiadau dysgu, fel dysgu am eu hardal leol neu fywydau a diwylliannau pobl eraill.

16

Cafodd 16 (17%) o’r lleoliadau argymhellion yn ymwneud â hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

15

Cafodd 15 (16%) o’r lleoliadau argymhelliad yn cyfeirio at lle nad oeddent yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

15

Cafodd 15 (16%) o’r lleoliadau argymhelliad yn ymwneud ag asesiadau risg.

12

Cafodd 12 (13%) o’r lleoliadau argymhelliad yn ymwneud ag ansawdd a dulliau addysgu, fel defnyddio dulliau holi effeithiol i annog dysgu plant.

12

Cafodd 12 (13%) o’r lleoliadau argymhelliad yn ymwneud â chynyddu annibyniaeth dysgwyr.

10

Cafodd 10 (11%) o’r lleoliadau argymhelliad yn ymwneud ag ardaloedd awyr agored.


Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu darparwyr i fyfyrio ar eu prosesau hunanwerthuso a chynllunio

  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn cynnwys yr holl ymarferwyr, rhieni a phartneriaid eraill wrth werthuso gwaith y lleoliad?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn cymryd sylwadau ac awgrymiadau gan y rhanddeiliaid hyn o ddifrif ac yn defnyddio’r rhai mwyaf perthnasol wrth ddatblygu eu darpariaeth?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn ystyried yr holl dystiolaeth uniongyrchol sydd ar gael iddynt wrth gynllunio gwelliannau?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cysylltu â blaenoriaethau’r lleoliad?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn ystyried anghenion datblygu proffesiynol yr holl staff wrth ystyried hyfforddiant staff?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn ystyried y meysydd i’w datblygu yng nghynlluniau datblygu’r lleoliad wrth ystyried cyfleoedd dysgu proffesiynol?
    • Sut mae arweinwyr yn ystyried effaith dysgu proffesiynol ar y plant yn y lleoliad?
  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn monitro effeithiolrwydd y newidiadau a wnânt neu effeithiolrwydd mentrau newydd?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn monitro effaith y newidiadau a wnânt ar ddarpariaeth neu’r plant?
    • Pa mor dda y mae arweinwyr yn addasu eu harfer neu gynlluniau wrth fonitro’r newidiadau a wnaed ganddynt?
  • I ba raddau y mae arweinwyr yn sefydlu diwylliant effeithiol o arferion hunanwerthuso parhaus a chynllunio gwelliant?
    • A yw arweinwyr yn siarad â staff yn rheolaidd am eu darpariaeth a beth mae plant yn ei wneud?
    • A yw ymarferwyr yn defnyddio eu harsylwadau i werthuso eu darpariaeth a’r hyn mae plant yn ei ddysgu?
    • A yw arweinwyr yn dilyn cynllun neu amserlen i sicrhau eu bod yn ystyried effaith eu gweithredoedd yn rheolaidd?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023