Mynd i'r cynnwys

Cyflwyniad y Prif Arolygwr

Mae Estyn yn chwarae rhan bwysig yng ngwelliant parhaus addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein canfyddiadau mor hygyrch, amserol a defnyddiol â phosib ar gyfer ymarferwyr. I’r perwyl hwn, rydym yn parhau â’r dull gweithredu a gyflwynwyd gennym y llynedd drwy gyhoeddi crynodebau sector yn fuan ym mis Hydref i amlinellu negeseuon sector-benodol adroddiad blynyddol 2022-2023. Cyhoeddir yr adroddiad llawn ym mis Ionawr.

Wrth i ddarparwyr yng Nghymru barhau i weithio i fynd i’r afael â heriau cyfredol y pandemig COVID-19, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu, mewn modd clir, yr arfer effeithiol yr ydym wedi’i weld ynghyd â’r heriau y mae darparwyr yn eu hwynebu. Ar gyfer pob sector, rydym yn nodi beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella, ac rydym yn darparu trosolwg o’r argymhellion mwyaf cyffredin o’n harolygiadau. Yn ogystal, rydym yn cynnwys set gryno o gwestiynau myfyriol sydd â’r nod o helpu darparwyr i ystyried y ffordd orau o ddatblygu un o’r meysydd i’w gwella. Mae’r crynodebau sector yn cloi gyda dolenni at astudiaethau achos ac adroddiadau arolwg sy’n disgrifio detholiad o’r arfer effeithiol yr ydym wedi’i weld yn ystod y flwyddyn.

Yn ogystal ag archwiliad mwy manwl o’n canfyddiadau sector, yn y flwyddyn newydd byddaf hefyd yn tynnu sylw at rai o’r themâu allweddol ar draws y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Y chwe thema byddaf yn ymhelaethu arnynt ym mis Ionawr yw: lliniaru effeithiau tlodi ac anfantais; presenoldeb dysgwyr ac agweddau at ddysgu; y Gymraeg mewn addysg a hyfforddiant; PISA; gweithredu Cwricwlwm i Gymru; a darpariaeth a chefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Fel bob amser, bydd yr adroddiad llawn yn rhoi darlun cyflawn o addysg a hyfforddiant yng Nghymru i ddarparwyr, llunwyr polisi a’r cyhoedd ehangach. Fe fydd hefyd yn cefnogi ymhellach ein darparwyr a’n hymarferwyr gyda’u gwaith gwella.

__

Trawsgrifiad:

Mae’n hyfryd i fod yma yng Nghaer Elen, a diolch i Dafydd a’r tîm am eu croeso.

O’n i’n sôn, rhai misoedd yn ôl, wnes i dderbyn galwad gan Estyn, a phan ddywedais i fod Estyn wedi ffonio, a chi’n gwybod beth ddywedon nhw oedd, “O na, ddim eto!”

Mae’r crynodebau a gyhoeddwyd gennym heddiw yn ffordd amserol i ddarparwyr ddysgu am y negeseuon a welsom yn ystod y flwyddyn fel rhan o’n harolygiadau.

Da ni wedi bod yn ceisio gwneud ein gwaith ni yn agosach i anghenion y sector.

Mae wedi bod yn hyfryd cael croesawu’r tîm o Estyn i’r ysgol, i Ysgol Caer Elen heddiw, i gael trafodaeth ynglŷn â sut y’n ni wedi bod yn datblygu strategaethau i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y continwwm iaith yn yr ysgol, ac i gael cyfle i drafod a rhannu ein syniadau ar gyfer y dyfodol.

Mae Estyn wedi datblygu modelau diweddar o arolygu ysgolion, yn fy marn i, sy’n symud yn sicr i’r cyfeiriad cywir.

Felly, yn ogystal â beth sy’n mynd yn dda, ‘da ni’n rhestru beth sydd angen gwella, da ni’n paratoi crynodeb o’n hargymhellion yn ystod y flwyddyn, a hefyd yn rhoi cyfres o gwestiynau adlewyrchol, myfyriol, a fydd yno i helpu darparwyr i wella eu gwaith.

Da ni’n gorffen efo nifer o esiamplau o arfer dda da ni wedi’i hadnabod yn ystod y flwyddyn.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i staff a disgyblion yr ysgol.

Mae wedi bod yn gyfle gwych heddiw i ymweld â’r Senedd, i sgwrsio gyda nhw, i ymweld â dosbarthiadau, a gweld y gwaith sy’n digwydd ar draws yr ysgol i hyrwyddo’r Gymraeg.

Rhowch adborth i ni.

Da ni eisiau ffeindio mas, yw e o werth, yw e o ddefnydd i chi.

Ac os, unwaith eto, os nag yw e, beth yw pwrpas ei wneud e?

Bu’n ddiwrnod ffantastig, a diolch eto i Dafydd a’r tîm.

Mae’n dda gweld beth sy’n digwydd.

Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi.

Gobeithiwn y bydd o ddefnydd i chi, felly ewch ati i’w ddarllen.

Cyhoeddir yr adroddiad llawn ym mis Ionawr.

Mae’r ddogfen gryno hon ar gael ar-lein ar ein gwefan.

Gallwch ei darllen a deall beth sy’n dda, a beth sydd angen ei ystyried er mwyn gwella addysg.