Mynd i'r cynnwys

Y system anghenion dysgu ychwanegol newydd: Cynnydd ysgolion ac awdurdodau lleol o ran cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

2022-2023


Ysgrifennwyd yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2022-2023. Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o ba mor dda y mae’r ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu agweddau allweddol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ADYTA) a’r Cod ADY cysylltiedig. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol a gymerodd ran yn yr adolygiad rhan wedi cefnogi ysgolion.

Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o drafodaethau â 29 o ddarparwyr, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion cynradd, ysgolion pob oed ac ysgolion uwchradd. Cynhaliwyd 12 o’r trafodaeth hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae chwech o’r ysgolion, gan gynnwys dwy ysgol cyfrwng Cymraeg, yn cynnal darpariaeth dosbarth arbenigol awdurdod lleol ar gyfer disgyblion ag ADY. Dewiswyd ysgolion ar sail eu maint, eu math, eu lleoliad daearyddol, a’u cyd-destun economaidd-gymdeithasol.   Hefyd, defnyddiom dystiolaeth o drafodaethau rhwng ein harolygwyr cyswllt awdurdodau lleol a swyddogion awdurdodau lleol. Yn ychwanegol, cyfarfuom â Chynghrair Anghenion Dysgu Ychwanegol y Trydydd Sector (TSANA). Mae TSANA yn cynrychioli gwahanol grwpiau o bobl ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd.

Ein hargymhellion:

  1. Wella ansawdd y wybodaeth a ddarperir i rieni er enghraifft, a datgan yn glir beth mae’r ysgol yn ei hystyried yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
  2. Sicrhau bod Cydlynwyr ADY yn cael digon o amser ac adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau
  3. Sicrhau bod dysgu proffesiynol staff ysgol yn canolbwyntio’n ddigonol ar addysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion ag ADY

Dylai awdurdodau lleol:

  1. Sicrhau bod pob un o’r ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan  Ddeddf ADYTA
  2. Darparu gwybodaeth glir, gywir a chyfoes i randdeiliaid, yn enwedig o ran:
    • beth mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn ei olygu mewn ysgolion
    • y cynlluniau datblygu unigol (CDU) hynny a fydd yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol a’r rhai a fydd yn cael eu cynnal gan ysgolion
  3. Parhau i sicrhau ansawdd ac adolygu arfer a darpariaeth ddysgu ychwanegol i sicrhau bod cyllid a dysgu proffesiynol yn darparu cefnogaeth effeithiol ar gyfer:
    • arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
    • cynlluniau datblygu unigol
    • gwasanaethau, adnoddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg
  4. Datblygu a chyhoeddi eu strategaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag ADY

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Sicrhau bod yr holl leoliadau yn meddu ar ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf ADYTA a’r Cod ADY, ac yn darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo dealltwriaeth
  2. Gwerthuso’n llawn effaith y cyllid ychwanegol a ddyrannir i awdurdodau lleol
  3. Sicrhau bod arweiniad a chyllid yn cael eu darparu mewn modd amserol yn y dyfodol i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio’n ddigonol

Dyma beth ddywedodd ein hadolygiad thematig:

Heb amheuaeth, mae gweithredu diwygio ADY a diwygio’r cwricwlwm yn ystod cyfnod o her ddigynsail a sylweddol wedi bod yn gamp anodd ac uchelgeisiol i bawb dan sylw. Mae gweithio yn unol â fframweithiau deddfwriaethol anghenion addysgol arbennig (AAA) ac ADY wedi bod yn her ychwanegol i awdurdodau lleol ac ysgolion.

At ei gilydd, mae nifer y disgyblion y nodwyd bod ganddynt ADY neu AAA wedi gostwng. Fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer y disgyblion y nodwyd eu darpariaeth ddysgu ychwanegol / darpariaeth addysgol arbennig mewn cynllun statudol, naill ai drwy CDU neu ddatganiad o AAA. Yn gyffredinol, o ganlyniad i’r gwaith sensitif rhwng Cydlynwyr ADY ysgolion a rhieni, yn enwedig lle ystyrir nad oes gan ddisgyblion ADY lle byddai ganddynt AAA o’r blaen, mae rhieni yn dawelach eu meddwl fod y ddarpariaeth a drefnir yn diwallu anghenion y disgybl.

Yn gyffredinol, roedd ysgolion a gymerodd ran yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o’r ddarpariaeth y maent yn ei threfnu ar gyfer disgyblion, ac maent fel arfer wedi addasu hyn yn dda i ddiwallu anghenion disgyblion. Fodd bynnag, roedd y graddau y caiff y ddarpariaeth ei dosbarthu’n gyfreithiol yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) yn aneglur. Felly, mae’n debygol nad yw ysgolion yn cymhwyso’r gyfraith yn gyson.

Roedd cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY) sy’n aelodau o uwch dîm arweinyddiaeth yr ysgol yn defnyddio’u swyddi’n dda i hyrwyddo ADY ar draws pob agwedd ar waith yr ysgol. Roedd datblygu gweithio mewn clystyrau wedi cefnogi gweithio o ysgol i ysgol. Roedd arweinwyr clwstwr wedi cynorthwyo â rhannu arferion ac adnoddau arbenigol.

Roedd awdurdodau lleol ac ysgolion yn unfryd yn eu brwdfrydedd am arferion a chynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. O ganlyniad, mae perthnasoedd rhwng ysgolion a theuluoedd wedi gwella. Mae arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cyd-fynd yn dda â’r cyfeiriad cyffredinol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru sy’n anelu at fod yn gynhwysol. Mae llwyddiant diwygio ADY a Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â gwella ansawdd yr addysgu fel y gall ystafelloedd dosbarth prif ffrwd gefnogi cynnydd priodol disgyblion unigol yn well, ni waeth beth yw eu ADY. At ei gilydd, nid oedd digon o feddwl cyd gysylltiedig wedi bod naill ai ar lefel polisi ac arfer i bwysleisio’r cysylltiad rhwng Cwricwlwm i Gymru a diwygio ADY.

Roedd diffyg eglurder a thryloywder ynghylch pa gynlluniau datblygu unigol (CDUau) (heblaw am y rhai a nodwyd gan Lywodraeth Cymru) fyddai yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.

Mae awdurdodau lleol yn gwella darpariaeth ADY ar gyfer disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg yn raddol. Fodd bynnag, mae diffyg adnoddau, asesiadau, staffio a darpariaeth ddigonol.

Bu cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn cyllid ADY dros sawl blwyddyn, gyda £77m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar ôl y pandemig. Roedd ymagweddau cyffredinol at werthuso effaith y cyllid ar ddisgyblion ag ADY yn wan. Dywedodd arweinwyr ysgolion nad oes ganddynt ddealltwriaeth ddigon clir o sut caiff penderfyniadau am gyllid eu gwneud gan eu hawdurdodau lleol.

Adroddiad llawn