Adroddiad sector
Ysgolion arbennig a gynhelir
2022-2023
Ffynhonnell: Rhestr gyfredol o ysgolion Llywodraeth Cymru. Cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) Llywodraeth Cymru.
Darparwyr
39
Nifer o ddarparwyr 2023
40
Nifer o ddarparwyr 2022
40
Nifer o ddarparwyr 2021
Disgyblion
5,684
Cyfanswm disgyblion
5,473
Cyfanswm disgyblion 2021-22
5,220
Cyfanswm disgyblion 2020-21
46%
Canran o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
Arolygiadau craidd
Nifer o arolygiadau craidd: 7
Cyfrwng Cymraeg: 1
Cyfrwng Saesneg: 6
Astudiaethau achos
Nifer o astudiaethau achos: 6
Gweithgarwch dilynol
Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022
MA: 1
GS: 0
AE: 1
Nifer a israddwyd
MA: 0
GS: 0
AE: 0
Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023
MA: 0
GS: 0
AE: 1
Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023
MA: 1
GS: 0
AE: 2
Dolenni defnyddiol:
Gweld crynodeb o’r adroddiad sector
Darllenwch drosolwg o’r argymhellion o’n harolygiadau
Cwestiynau myfyriol ar gyfer y sector
Darllenwch am arfer effeithiol o’r sector
Mae ysgolion arbennig a gynhelir yn darparu addysg i blant ag anghenion cymhleth. Mae llawer o’r ysgolion hyn yn darparu ar gyfer disgyblion ar draws ystod oed eang, o 3 i 19 oed. Oherwydd anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cymhleth a lluosog disgyblion mewn ysgolion arbennig, mae eu hystod gallu yn amrywio’n sylweddol ac nid yw’n gysylltiedig â’u hoedran, o reidrwydd.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023, cynyddodd nifer y disgyblion mewn ysgolion arbennig yng Nghymru. At ei gilydd, roedd y gofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion yn y sector yn gryfder o hyd. Canfu arolygwyr fod ysgolion wedi cynnal perthynas waith gadarnhaol rhwng aelodau staff a disgyblion, a gafodd effaith fuddiol ar y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion. Ym mhob ysgol a arolygwyd eleni, roedd ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn gryfder.
Er i lawer o ddisgyblion wneud cynnydd cadarn o’u mannau cychwyn, mewn tair o’r ysgolion a arolygwyd, nid oedd sicrwydd ansawdd a gweithgareddau hunanwerthuso yn canolbwyntio’n ddigon da ar gynnydd disgyblion nac ansawdd yr addysgu.
Yn gyffredinol, crybwyllodd ysgolion arbennig fod effaith pandemig COVID-19 wedi parhau i leihau yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd heriau o hyd, fel cyfraddau presenoldeb is na’r arfer ymhlith rhai disgyblion. Yn ogystal, crybwyllodd ysgolion fod proffil y disgyblion a atgyfeiriwyd iddynt yn dod yn fwy cymhleth, ar y cyfan, er enghraifft oherwydd anghenion iechyd meddwl cynyddol.
Addysgu a dysgu
Ym mhob ysgol arbennig a gynhelir a arolygwyd, gwnaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion gynnydd addas o leiaf o’u mannau cychwyn. Ar draws yr holl ysgolion yr ymwelwyd â nhw, gwnaeth disgyblion gynnydd priodol o ran datblygu eu medrau annibyniaeth yn unol â’u galluoedd. Roedd hyn yn amrywio o fod yn hyderus ac yn fedrus o ran eu hunanofal a gwisgo, i goginio prydau a siopa’n annibynnol gyda chyllideb.
Canfu arolygwyr fod llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd arbennig o gryf o ran gwella eu medrau cyfathrebu. Roedd hyn yn eu galluogi i fanteisio ar y cwricwlwm, ymgysylltu â’i gilydd, gwneud dewisiadau a mynegi eu hunain yn effeithiol. Yn gyffredinol, roedd disgyblion yn defnyddio technoleg ddigidol yn addas i gyfathrebu ac i gefnogi eu dysgu. Lle’r oedd yn briodol, roeddent yn defnyddio technoleg gynorthwyol wedi’i rheoli â’u llygaid a llechi cyfrifiadurol yn llwyddiannus i gefnogi eu hanghenion cyfathrebu. Fodd bynnag, mewn dwy o’r ysgolion a arolygwyd, nid oedd aelodau staff yn defnyddio strategaethau cyfathrebu dewisol disgyblion yn ddigon cyson i gefnogi eu hymgysylltiad a’u cyfranogiad yn eu dysgu. At ei gilydd, lle’r oedd yn berthnasol, roedd datblygiad medrau Cymraeg disgyblion yn anghyson ar draws yr ysgolion a arolygwyd. Canfu arolygwyr fod disgyblion mewn un ysgol yn gwneud cynnydd cryf o ran datblygu’r medrau hyn, ond bod cynnydd disgyblion yn rhy gyfyngedig mewn dwy ysgol.
Ar draws y saith ysgol a arolygwyd, gwnaeth arolygwyr ddarganfod bod cynllunio cwricwlwm ar y cyd yn nodwedd gref, yn gyffredinol, a oedd yn ymgorffori syniadau ar gyfer beth i’w ddysgu gan ddisgyblion ac aelodau staff. Roedd pob un o’r ysgolion yn darparu cwricwlwm a oedd yn briodol o eang a chytbwys ac yn paratoi disgyblion yn dda, yn gyffredinol, ar gyfer y cam nesaf yn eu bywyd a’u dysgu. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion hŷn yn ennill ystod eang o achrediadau a chymwysterau ystyrlon i’w cynorthwyo i bontio i’r cam nesaf yn eu bywydau. Roeddent yn symud ymlaen yn llwyddiannus i gyrchfannau cynlluniedig a oedd yn adlewyrchu eu hanghenion a’u galluoedd yn dda, yn gyffredinol. Fodd bynnag, mewn dwy ysgol, nid oedd profiadau dysgu yn gweddu’n ddigon da i anghenion disgyblion. Yn ogystal, roedd capasiti staffio mewn un ysgol yn annigonol i fodloni anghenion cymhleth rhai disgyblion yn llawn. Mae recriwtio a chadw aelodau staff cymorth â medrau addas yn her i’r sector o hyd.
Lleoliadau gwaith ar gyfer disgyblion yn Ysgol Uwchradd Woodlands, Caerdydd
Datblygodd ychydig iawn o ddisgyblion hŷn yn Ysgol Uwchradd Woodlands fedrau annibynnol buddiol dros ben wrth iddynt fynychu lleoliadau gwaith, a oedd yn cyfateb yn dda i’w personoliaethau, eu medrau a’u diddordebau. Roedd disgyblion yn ennill profiad gwerthfawr wrth wneud cais, a chael eu cyfweld ar gyfer, lleoliadau mewn ystod o leoliadau galwedigaethol gan gynnwys cartref cŵn, amgueddfa leol a theatr. Yn ogystal, roedd interniaethau tymor hwy mewn ysbytai a phrifysgolion lleol yn rhoi ystod ehangach o brofiadau i ddisgyblion, gan gynnwys gwaith labordy, arlwyo a gwasanaethau gwybodaeth. Roedd hyn yn eu helpu i fagu’r hyder i ymaddasu i sefyllfaoedd, tasgau a heriau newydd a fydd yn eu gwasanaethu’n dda mewn agweddau amrywiol ar eu bywydau personol a phroffesiynol.
Canfu arolygwyr fod tair o’r ysgolion a arolygwyd yn defnyddio amgylcheddau dysgu awyr agored yn fwyfwy creadigol ac yn hynod effeithiol. Roedd disgyblion yn dysgu am natur, roeddent yn tyfu planhigion a llysiau, yn adeiladu cuddfannau, yn cymryd rhan mewn chwarae mwdlyd ac yn coginio bwyd ar ben tân y tu allan. Fodd bynnag, canfu arolygwyr fod yr ardal awyr agored mewn ysgol arall yn anniogel i ddisgyblion ac arweiniodd hyn at anfon llythyr lles at yr ysgol.
Roedd pob un o’r saith ysgol wedi datblygu systemau priodol i olrhain y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion dros gyfnod. Lle’r oedd yn briodol, roedd y rhain yn cael eu haddasu yn unol â newidiadau i’r cwricwlwm. Fodd bynnag, nid oedd tair o’r saith ysgol a arolygwyd yn defnyddio’r wybodaeth hon yn ddigon da i gynllunio profiadau cwricwlaidd a phennu targedau unigol ar gyfer gwella.
Yn gyffredinol, roedd staff yn rhoi adborth llafar effeithiol i ddisgyblion. Fodd bynnag, mewn dwy o’r ysgolion, nid oedd adborth ysgrifenedig yn ddigon clir i ddisgyblion wybod sut i wella.
Asesu dysgwyr yn Ysgol Pen Coch, Sir y Fflint
Mae Ysgol Pen Coch yn ymddangos yn ein adroddiad thematig ar ymagweddau effeithiol wrth asesu sy’n gwella addysgu a dysgu. Nodom fod yr ysgol wedi ail-lunio asesu yn rhan o naratif cyfannol o’r plentyn. Symleiddiwyd ymagweddau at asesu i gysylltu’n agosach â chynllunio’r cwricwlwm. Roeddent wedi cyfuno ystod o fframweithiau presennol i gefnogi cynllunio ar gyfer dysgu ar draws y meysydd dysgu a phrofiad. Roedd aelodau staff wedi datblygu eu fframweithiau eu hunain i gefnogi disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog neu anghenion synhwyraidd. Roedd rhannu’r cynllunio o ran addysgu ac asesu â chynorthwywyr addysgu, yn caniatáu maes ehangach o asesiadau a ffocws cliriach ar sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd ar gyflymdra priodol. Gwellodd dealltwriaeth pob ymarferydd o’r dysgu bwriadedig ar gyfer pob gweithgaredd, hefyd.
Gofal, cymorth a lles
Roedd y gofal, cymorth a lles a ddarparwyd gan bob un o’r ysgolion arbennig a gynhelir a arolygwyd yn gryfder sylweddol. Roedd pob un o’r ysgolion yn adnabod eu disgyblion a’u teuluoedd yn dda ac roeddent i gyd yn cydweithio’n effeithiol â gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu gwasanaeth a oedd yn gweddu’n dda iawn i anghenion disgyblion, yn gyffredinol.
Cymorth i rieni a theuluoedd yn ysgolion Riverbank a Tŷ Gwyn, Caerdydd
Mae ysgolion Riverbank a Tŷ Gwyn, sy’n rhan o Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin, wedi datblygu arferion effeithiol i ymgysylltu â rhieni. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd rheolaidd i rieni gyfarfod mewn ystod o leoliadau gwahanol, er enghraifft boreau coffi anffurfiol, yn ogystal â gweithdai i deuluoedd yn ystod y dydd ar gyfer cymorth cyntaf paediatrig a datblygu iaith. Mae Tŷ Gwyn hefyd yn darparu cymorth i rieni disgyblion ag ADY o ysgolion eraill. Mae yn cynllunio’n effeithiol i gynorthwyo rhieni a gofalwyr sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, gan sicrhau y caiff eu hanghenion iaith eu bodloni. O ganlyniad, mae rhieni a gofalwyr yn gwerthfawrogi’r cymorth a ddarperir gan y ddwy ysgol yn fawr.
Y panel darpariaeth a chymorth ysgol yn Ysgol Sant Christopher, Wrecsam
Sefydlodd staff yn Ysgol Sant Christopher banel darpariaeth a chymorth o ganlyniad i’r newidiadau cyflym o ran cymhlethdod anghenion disgyblion yn gysylltiedig â rhoi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith. Nododd arweinwyr fod angen i’r ysgol ddatblygu ei chymorth ar gyfer lles dysgwyr a’i hymagwedd at ddysgu proffesiynol staff yn gyflym hefyd er mwyn rheoli’r heriau hyn. Caiff y fforwm amlddisgyblaethol hwn ei ddefnyddio i ystyried yn fanwl y cymorth y mae’r ysgol yn ei ddarparu i fodloni anghenion disgyblion. Pan fydd yn gwneud atgyfeiriadau i bartneriaid allanol, gwneir yn siŵr fod y rhain yn briodol. O ganlyniad, dywed arweinwyr bod staff yn teimlo’n fwy hyderus wrth gynllunio ar gyfer anghenion disgyblion ag ystod o anghenion ychwanegol cymhleth a’u bodloni. Erbyn hyn, mae’r ysgol mewn sefyllfa gref i gefnogi disgyblion, rhieni ac aelodau staff wrth i broffil y garfan disgyblion newid.
Ym mhob un o’r ysgolion a arolygwyd, canfu arolygwyr fod aelodau staff wedi meithrin perthnasoedd hynod effeithiol â disgyblion. Roeddent wedi creu amgylcheddau diogel ac meithringar lle’r oedd disgyblion yn cael eu hannog i ddatblygu a ffynnu. Roedd disgyblion yn ymateb yn dda i’r strwythur a’r drefn a ddarparwyd gan eu hysgolion.
At ei gilydd, roedd y parch roedd disgyblion yn ei ddangos tuag at ei gilydd, aelodau staff ac ymwelwyr yn nodwedd arbennig o gryf ym mhob un o’r ysgolion. Roedd disgyblion yn gweithio’n dda ochr yn ochr â’u cyfoedion, roeddent yn dathlu llwyddiannau ei gilydd ac yn mwynhau cwmni ei gilydd, gan fwyaf. Dros gyfnod, roeddent yn dysgu i ddeall y gallai disgyblion feddwl ac ymddwyn mewn ffyrdd sy’n wahanol iddyn nhw’u hunain.
Ar draws yr ysgolion a arolygwyd, roedd disgyblion yn mwynhau ac yn ymhyfrydu yn y cyfleoedd a gynigiwyd i fod yn rhan o gynghorau ysgol a grwpiau eraill llais y disgybl. Roedd aelodau cynghorau ysgol yn cynrychioli buddiannau disgyblion yn dda. Daethant yn fwyfwy hyderus wrth fynegi eu barn a chyflwyno dadleuon cymhellol o blaid gwelliannau yn eu hysgolion, gan gynnwys datblygu arlwy’r cwricwlwm.
Yn gyffredinol, roedd gan ysgolion drefniadau cadarn iawn i gefnogi presenoldeb rheolaidd. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, roedd presenoldeb cyffredinol islaw’r lefelau cyn y pandemig o hyd.
Arwain a gwella
At ei gilydd, ym mhob un o’r saith ysgol a gafodd eu harolygu, sicrhaodd arweinwyr fod gweledigaeth ac ethos eu hysgolion wedi’u ffurfio o amgylch lles pennaf eu disgyblion. Addasodd arweinwyr ysgolion arbennig a gynhelir y ddarpariaeth yn barhaus i fodloni anghenion cyfnewidiol disgyblion.
Canfu arolygwyr fod trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd gwaith disgyblion wedi dychwelyd i’r arferion cyn y pandemig, i raddau helaeth. Yn yr enghreifftiau gorau, defnyddiwyd ystod lawn o weithgarwch yn dda i fonitro gwaith gwella cyfredol a phennu meysydd i’w gwella yn y dyfodol. Fodd bynnag, yn ystod y teithiau dysgu a’r arsylwadau gwersi yr ymgymerwyd â nhw, nid oedd ychydig o arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon da ar safon gwaith disgyblion a’r cynnydd roeddent yn ei wneud. Hefyd, roedd gwerthusiadau’r arweinwyr hyn o ansawdd yr addysgu yn rhy hael ac nid oedd ganddynt ddigon o ffocws ar nodi meysydd i’w gwella.
Yn gyffredinol, roedd llywodraethwyr yn wybodus am eu hysgol a’i blaenoriaethau. Yn yr enghreifftiau gorau, defnyddiwyd medrau ac arbenigedd eang llywodraethwyr unigol yn dda i helpu i fynd i’r afael â blaenoriaethau gwella. Roedd y llywodraethwyr hyn yn gallu cynnig cymorth a her graff i arweinwyr ysgolion ar y blaenoriaethau hyn.
Rôl y corff llywodraethol mewn hunanwerthuso yn Ysgol Plas Brondyffryn, Sir Ddinbych
Roedd dwy ysgol arbennig yn rhan o’n hadolygiad thematig ar lywodraethwyr ysgol.
Yn Ysgol Plas Brondyffryn, nodom fod gan y corff llywodraethol system sefydledig ar waith i hunanwerthuso ei heffeithiolrwydd. Bob blwyddyn, mae llywodraethwyr yn cwblhau gweithgaredd hunanwerthuso, sy’n eu galluogi i nodi meysydd i’w gwella ar gyfer y corff llywodraethol ei hun. O ganlyniad, cydnabu llywodraethwyr yr angen iddynt fod â phresenoldeb cryf yn yr ysgol a chyfrannu at gasglu tystiolaeth uniongyrchol. Arweiniodd hyn atynt yn diwygio ac ehangu rôl eu llywodraethwyr cyswllt ac mae wedi cryfhau gallu’r corff llywodraethol i werthuso’r cynnydd mae’r ysgol yn ei wneud yn erbyn y blaenoriaethau yn y cynllun gwella ysgol.
Ar draws y sector, canfu arolygwyr fod dysgu proffesiynol aelodau staff yn gryfder, yn gyffredinol, ond nid oedd wedi’i gynllunio’n strategol bob tro. Roedd aelodau staff yn fwyfwy cysylltiedig â rhwydweithiau o arfer broffesiynol. Roeddent yn manteisio ar gyrsiau a digwyddiadau perthnasol i wella a mireinio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o flaenoriaethau cenedlaethol ymhellach, gan gynnwys datblygiadau yn y cwricwlwm. Defnyddiwyd cysylltiadau â darparwyr eraill, er enghraifft colegau addysg bellach lleol, i gefnogi datblygiad proffesiynol staff cymorth.
Roedd yr holl arweinwyr yn rheoli eu cyllidebau ysgol yn effeithiol a defnyddiwyd cyllid grant yn dda at ei ddiben bwriadedig. Fodd bynnag, roedd amrywiad sylweddol yn y cyllid sydd ar gael fesul disgybl i ysgolion arbennig a gynhelir ledled Cymru.
Cyfeiriadau
Llywodraeth Cymru (2023) Gwariant sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/gwariant-sydd-wedii-gyllidebu-ar-gyfer-darpariaeth-anghenion-addysgol-arbennig-ebrill-2022-i-fawrth-2023 [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]
Llywodraeth Cymru (2023) Canlyniadau’r cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/canlyniadaur-cyfrifiad-ysgolion-ionawr-2023 [Cyrchwyd 17 Tachwedd 2023]