Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Ysgolion arbennig annibynnol

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Ffynhonnell – Rhestr gyfredol o ysgolion Llywodraeth Cymru. Nodyn – Mae tair ysgol arbennig yng Nghymru nad ydynt yn cael eu harddangos ar y map hwn; mae Estyn wedi cytuno i beidio â chyhoeddi cyfeiriadau’r ysgolion hyn.

Darparwyr

42

Nifer o ddarparwyr 2023


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 3

Cyfrwng Cymraeg: 0

Cyfrwng Saesneg: 3

Ymweliadau monitro: 25

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 1



Yn ystod 2022-2023, parhaodd ysgolion arbennig annibynnol i ddarparu addysg i ddysgwyr o Gymru a Lloegr sydd ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol (ADY). O gymharu â’r flwyddyn academaidd flaenorol, roedd cyfran uwch o’r ysgolion hyn yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003.

Yn gyffredinol, canfu arolygwyr fod ysgolion arbennig annibynnol yn darparu amgylchedd meithringar a bod ganddynt ddealltwriaeth gref o’u disgyblion. Roedd staff yn defnyddio’r wybodaeth hon i ennyn diddordeb disgyblion yn eu dysgu a chynnig cwricwlwm eang a chytbwys. Fodd bynnag, mewn tua hanner yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw yn ystod y flwyddyn, nid oedd prosesau asesu wedi’u datblygu’n ddigonol ac roedd ymagweddau strategol cyfyngedig i sicrhau datblygiad medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Ym mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, bu newidiadau o ran arweinyddiaeth ers adeg yr arolygiad neu ymweliad monitro diweddaraf. Yn ogystal â’r newidiadau mewnol hyn, roedd ysgolion arbennig annibynnol yn ymwybodol o newidiadau allanol, er enghraifft gwaith cyfredol i ddiweddaru safonau ysgolion annibynnol (Cymru) a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol i gael gwared ar elw o ofalu am blant sy’n derbyn gofal. Er mwyn ymateb i ddiwygio ADY, roedd ysgolion arbennig annibynnol wedi dechrau’r broses o gofrestru’n ffurfiol â Llywodraeth Cymru fel ysgolion sy’n gallu cynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol.

Yn gyffredinol, adroddodd ysgolion arbennig annibynnol fod effaith pandemig COVID-19 wedi parhau i leihau yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd heriau o hyd, er enghraifft o ran ailfeithrin perthnasoedd â darparwyr lleoliadau profiad gwaith. Yn ogystal, adroddodd yr ysgolion hyn, at ei gilydd, fod proffil y disgyblion sy’n cael eu hatgyfeirio iddynt yn dod yn fwy cymhleth, er enghraifft oherwydd anghenion iechyd meddwl cynyddol.

Plentyn yn gwenu mewn cadair olwyn

Addysgu a dysgu

Ym mhob un o’r tair ysgol a arolygwyd, yn ogystal ag yn ystod lleiafrif o ymweliadau monitro blynyddol, canfu arolygwyr fod llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu dysgu. Gwnaeth lawer ohonynt gynnydd mewn meysydd pwysig, fel eu medrau llythrennedd, rhifedd, annibyniaeth a bywyd a, lle’r oedd yn briodol, enillodd disgyblion ystod o achrediadau perthnasol. Fodd bynnag, roedd presenoldeb isel disgyblion mewn ychydig iawn o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw ac mewn dwy o’r ysgolion a arolygwyd yn rhwystro cynnydd y disgyblion dan sylw. Yn ogystal, ym mhob un o’r tair ysgol a arolygwyd eleni, roedd cyfleoedd cyfyngedig i ddisgyblion ddatblygu eu medrau TGCh yn gynyddol dros gyfnod.

Mewn tua hanner yr ymweliadau monitro, nodwyd asesu yn faes i’w ddatblygu. Yn yr ysgolion hyn, roedd ymagweddau strategol cyfyngedig i sicrhau datblygiad medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn ogystal, nid oedd arweinwyr ac athrawon yn yr ysgolion hyn yn olrhain y camau cynnydd graddol a wnaed gan ddisgyblion yn ddigon cyson ac, yn rhy aml, nid oedd gwybodaeth asesu’n llywio cynllunio athrawon na’r camau nesaf y dylai disgyblion eu cymryd yn eu dysgu.

Yn gyffredinol, ar draws mwyafrif yr ysgolion yr ymwelom â nhw, roedd staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn defnyddio hyn yn effeithiol i ennyn eu diddordeb yn eu dysgu. Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd athrawon yn cynllunio gwersi yn ofalus i gynnwys gweithgareddau dysgu perthnasol a difyr. Yn yr ysgolion hyn, cyfoethogwyd arlwy’r cwricwlwm gan ystod gynhwysfawr o brofiadau dysgu, gan gynnwys gweithgareddau oddi ar y safle a rhyngweithiadau ag ymwelwyr â’r ysgol.

Profiadau dysgu difyr yn Ysgol Therapiwtig Amberleigh, Powys

Yn ogystal â’r cwricwlwm craidd, darparodd yr ysgol ystod helaeth o brofiadau dysgu go iawn a difyr. Er enghraifft, gwnaeth disgyblion gyffeithiau a chynhyrchion pren wedi’u saernïo i’w gwerthu’n lleol, trwsio beiciau a thyfu eu bwyd eu hunain. O ganlyniad, datblygodd disgyblion ystod o fedrau buddiol ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys medrau ymarferol a rhai yn gysylltiedig â gwaith.

Roedd dwy o’r tair ysgol a arolygwyd, ynghyd â llawer o’r ysgolion yr ymwelodd arolygwyr â nhw fel rhan o’r broses fonitro, yn bodloni holl ofynion Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003. Roedd yr ysgolion hyn yn darparu ystod eang a chytbwys o brofiadau dysgu i’w disgyblion. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o’r ysgolion yn bodloni’r gofynion. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd profiadau dysgu yn cyfateb yn ddigon da i anghenion disgyblion, yn enwedig y rhai sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig neu gynllun datblygu unigol (CDU).

Plentyn yn chwrae gyda thegan

Gofal, cymorth a lles

Roedd pob un o’r tair ysgol a arolygwyd, ynghyd â lleiafrif o ysgolion yr ymwelwyd â nhw fel rhan o weithgarwch monitro blynyddol, yn darparu amgylchedd meithringar i ddisgyblion. O ganlyniad, roedd llawer o ddisgyblion yn ymdawelu’n gyflym i’w dysgu ac yn ymgysylltu’n dda â’u cyd-ddisgyblion ac aelodau staff. Roedd llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn yr ysgol ac yn mwynhau eu dysgu. Ym mhob un o’r tair ysgol a arolygwyd gennym, roedd staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol wedi’u seilio ar gydymddiriedaeth a pharch cytûn.

Ym mhob un o’r tair ysgol a arolygwyd, gwnaeth disgyblion gynnydd addas yn eu hannibyniaeth a’u paratoadau ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, yn un o’r ysgolion a arolygwyd ac mewn ychydig o ysgolion lle y cynhaliom ymweliadau monitro, nid oedd rhaglenni addysg bersonol a chymdeithasol wedi’u datblygu’n ddigonol ac nid oeddent yn cynnwys meysydd pwysig fel gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith.

Ar draws y sector hwn, roedd diogelu’n agwedd gref ar waith yr ysgol, yn gyffredinol. Roedd y tair ysgol a arolygwyd wedi datblygu diwylliannau diogelu lle’r oedd gan staff ddealltwriaeth dda o’u rôl o ran cadw disgyblion yn ddiogel. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion yr ymwelwyd â nhw yn ystod gweithgarwch monitro, nid oedd arweinwyr yn monitro’r modd y cymhwyswyd polisïau a gweithdrefnau yn ddigon manwl. Mewn tair o’r ysgolion hyn, roedd polisïau pwysig sy’n llywio gwaith yn ymwneud â diogelu yn rhy gyffredinol ac nid oeddent yn rhoi ystyriaeth ddigonol i arweiniad Llywodraeth Cymru.

Helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer bywyd fel oedolion, Ysgol Greenfields, Casnewydd

Roedd disgyblion yn elwa ar ystod o weithgareddau ystyrlon a oedd yn cefnogi eu paratoadau ar gyfer profiadau bywyd fel oedolion. Roedd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn ffug gyfweliadau, ynghyd â gweithgareddau i ddatblygu medrau bywyd pwysig, fel rheoli arian neu goginio cinio i’w cyfoedion fel rhan o ‘Feed me Friday’.

Plentyn yn chwarae gêm fwrdd

Arwain a gwella

Ym mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw yn ystod y flwyddyn academaidd hon, bu newidiadau o ran arweinyddiaeth ers yr arolygiad neu’r ymweliad monitro blaenorol. Roedd ansefydlogrwydd estynedig o ran arweinyddiaeth mewn ychydig o ysgolion yn cael effaith negyddol ar addysgu a dysgu, hefyd.

Elwodd mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw ar gymorth a her gan eu sefydliad ehangach fel rhan o brosesau sicrhau ansawdd a chynllunio gwelliant. Ym mhob un o’r tair ysgol a arolygwyd, roedd arweinwyr wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol ac roedd ganddynt broses addas ar waith ar gyfer sicrhau ansawdd. Mewn dwy o’r tair ysgol, roedd gan arweinwyr ddealltwriaeth glir o gryfderau eu hysgol a’i meysydd i’w datblygu.

Fodd bynnag, yn yr ysgolion eraill yr ymwelwyd â nhw fel rhan o’r broses fonitro eleni, roedd diffygion o ran ansawdd arweinyddiaeth yn cyfyngu ar y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion, yn y pen draw. Yn yr ysgolion hyn, roedd diffyg trylwyredd mewn prosesau hunanwerthuso ac nid oedd cynllunio gwelliant yn canolbwyntio’n ddigon craff ar y meysydd pwysicaf i’w gwella. At ei gilydd, nid oedd y prosesau hyn yn canolbwyntio’n gyson ar effaith addysgu a dysgu. O ganlyniad, nid oedd gan arweinwyr ddealltwriaeth glir o gryfderau eu hysgolion a’u meysydd i’w gwella, ac roeddent yn gwneud cynnydd araf o ran symud yr ysgol yn ei blaen.

Yn gyffredinol, mae gan ysgolion arbennig annibynnol arlwy dysgu proffesiynol sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys hyfforddiant staff ar sut i reoli enghreifftiau o ymddygiad heriol. Fodd bynnag, mewn dwy o’r tair ysgol a arolygwyd eleni, nid oedd yr arlwy dysgu proffesiynol yn canolbwyntio’n ddigon da ar addysgu a dysgu. Yn ogystal, nid oedd ysgolion yn defnyddio cysylltiadau â darparwyr eraill yn ddigon cyson i helpu i sbarduno gwelliant.

Mewn ychydig o ysgolion, roedd arweinwyr wedi gwneud newidiadau buddiol i’r amgylchedd dysgu ac wedi cryfhau ystod yr adnoddau sydd ar gael. Er enghraifft, ychwanegodd un ysgol weithdy ac ystafell ddosbarth yn yr ardd. Fodd bynnag, nododd arolygwyr yr amgylchedd dysgu fel maes i’w ddatblygu ar gyfer pob un o’r tair ysgol a arolygwyd, yn ogystal ag ychydig o ysgolion a gafodd ymweliadau monitro. Yn yr ysgolion hyn, nid oedd yr amgylchedd dysgu yn cael ei gynnal a chadw’n dda neu roedd yr amgylchedd yn cyfyngu ar ddysgu.

Pennu targedau disgyblion a’u holrhain yng Nghanolfan Addysg Gwenllian, Sir Gâr

Yng Nghanolfan Addysg Gwenllian, canfu arolygwyr fod targedau disgyblion unigol yn gynyddol ac yn ystyrlon. Roedd staff yn olrhain y camau bach o gynnydd a wnaed gan ddisgyblion yn ystod y dydd yn ofalus. Rhannwyd y wybodaeth werthfawr hon â rhieni a gofalwyr bob dydd.

Roedd gan staff ddisgwyliadau uchel o ddisgyblion. Roeddent yn cynllunio ystod o weithgareddau perthnasol a difyr i fodloni anghenion a diddordebau disgyblion unigol yn dda. Roedd disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol i’r ymagwedd hon. Roeddent yn pontio’n rhwydd rhwng gweithgareddau ac yn ymgysylltu’n fawr â’u dysgu. Yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, roedd bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd rhagorol o’u mannau cychwyn unigol.


Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2022) Cadw dysgwyr yn ddiogel: Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-04/220401-cadw-dysgwyr-yn-ddiogel.pdf [Cyrchwyd 17 Tachwedd 2023]