Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Prif ffrwd annibynnol

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Darparwyr

37

Nifer o ddarparwyr 2023


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 4

Cyfrwng Cymraeg: 0

Cyfrwng Saesneg: 4

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 1



Ymatebodd ysgolion prif ffrwd annibynnol yn gadarn i’r pandemig a sefydlu dulliau’n gyflym i sicrhau bod dysgu a gofal bugeiliol yn parhau’n effeithiol. O ganlyniad, pan ailddechreuodd arolygiadau, canfuom fod cynnydd a lles disgyblion yn nodweddion cryf o’r ysgolion hyn o hyd. Fodd bynnag, yn yr holl ysgolion a arolygwyd, nid oedd arweinwyr wedi ail-sefydlu ystod lawn o waith sicrhau ansawdd effeithiol ac, o ganlyniad, nid oedd eu hunanwerthusiadau’n nodi’r ychydig o feysydd a allai elwa ar gael eu gwella yn gywir bob tro.

Disgyblion yn ysgrifennu ra y bwrdd electronig

Addysgu a dysgu

Ar draws yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, roedd cynnydd disgyblion yn gryf. Roedd medrau cyfathrebu yn gryfder penodol ac roedd bron pob un o’r disgyblion hŷn yn huawdl, yn hyderus ac yn sicr wrth siarad ag ymwelwyr. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu eu medrau darllen yn dda ac roedd disgyblion iau, yn benodol, yn dangos eu bod yn mwynhau darllen. Roedd disgyblion hŷn yn defnyddio eu medrau darllen yn effeithiol i gywain gwybodaeth a datblygu eu dealltwriaeth o gyd-destunau pynciau’n dda.

Mewn tair o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw, roedd safon Saesneg ysgrifenedig yn gryf. Roedd disgyblion iau yn ysgrifennu’n hyderus ac yn estynedig mewn amrywiaeth o arddulliau ac yn cael cyfleoedd helaeth i ailddrafftio a gwella eu gwaith. Roedd disgyblion hŷn yn defnyddio prosesau sy’n cael eu deall yn dda i ysgrifennu darnau o waith estynedig, yn aml er mwyn ymateb i gwestiynau arholiad. Fodd bynnag, lle’r oedd ysgrifennu’n llai cadarn, nid oedd disgyblion yn cymhwyso eu medrau ysgrifennu’n gywir yn gyson ac, wrth ysgrifennu mewn pynciau ar draws y cwricwlwm, nid oeddent yn ysgrifennu i’r un safon uchel ag yn eu gwersi Saesneg bob tro.

At ei gilydd, ar draws yr ysgolion a arolygwyd, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu medrau mathemategol cryf. Roedd y disgyblion ieuengaf yn mwynhau defnyddio adnoddau ffisegol, fel cardiau rhif neu rodenni rhif. Fodd bynnag, mewn un ysgol, nid oedd disgyblion yn gweithio i’r un safon uchel na lefel o gywirdeb bob tro wrth gymhwyso eu medrau mathemategol mewn pynciau ar draws y cwricwlwm.

Roedd cynnydd o ran medrau digidol disgyblion yn amrywio ar draws y pedair ysgol. Mewn un enghraifft, roedd hyn yn adlewyrchu athroniaeth addysg yr ysgol, lle mae llai o bwyslais ar fedrau digidol, yn enwedig ymhlith disgyblion iau. Mewn un ysgol, roedd disgyblion yn datblygu medrau byw annibynnol rhagorol, tra yn y tair ysgol arall, roedd medrau creadigol ac artistig yn arbennig o gryf.

Roedd y cynnydd cryf a wnaed gan ddisgyblion yn yr ysgolion a arolygwyd wedi’i hwyluso gan gwricwlwm eang. Yn aml, roedd hyn wedi’i deilwra’n dda i anghenion a diddordebau disgyblion. Mewn un ysgol, roedd y cwricwlwm wedi’i sylfaenu ar athroniaeth a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu medrau a gwerthoedd ar gyfer dysgu gydol oes. Mewn ysgol arall, roedd ffocws cryf ar yr amgylchedd awyr agored fel adnodd i symbylu dysgu.

Roedd staff yn yr ysgolion hyn yn adnabod anghenion, galluoedd a diddordebau eu disgyblion yn arbennig o dda ac yn meithrin perthnasoedd meithringar cryf â’u dosbarthiadau. Roedd gwersi wedi’u cynllunio’n dda, roedd rhediad da iddynt ac roeddent yn defnyddio ystod o adnoddau symbylol. Roedd athrawon yn defnyddio ystod o strategaethau asesu i ddeall cynnydd disgyblion a rhoi adborth amserol i symud dysgu yn ei flaen. Lle nad oedd cynnydd yr un mor gryf, roedd hyn yn aml oherwydd bod athrawon yn sgaffaldio gweithgareddau’n ormodol ac nid oeddent yn rhoi digon o gyfleoedd i ddisgyblion weithio’n annibynnol.

Myfyrwyr yn y dosbarth cerdd

Gofal, cymorth a lles

Roedd pob un o’r ysgolion a arolygwyd yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i les eu disgyblion. Roedd perthnasoedd gwaith rhwng staff a disgyblion yn barchus, gofalgar ac yn gefnogol bron bob tro. Roedd staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn bodloni eu hanghenion yn hynod effeithiol. Roedd hyn yn hyrwyddo ymdeimlad cryf o gymuned.

Roedd bron pob un o’r disgyblion yn falch o’u hysgol ac yn gwybod ei bod yn gymuned ofalgar. Roedd disgyblion yn gwrtais ac yn ystyriol. Roedd disgyblion iau yn cydweithio’n dda â’i gilydd, gan gymryd tro ac aros yn amyneddgar i ddechrau gweithgaredd. Roedd disgyblion hŷn yn dangos hyder ac yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr mewn gwersi. Ar draws yr ysgolion, cafodd disgyblion eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu ac roeddent yn ymgymryd â swyddi o gyfrifoldeb, a oedd yn datblygu medrau arweinyddiaeth disgyblion a’u hunanhyder. Roedd disgyblion yn ymfalchïo yn y swyddi hyn.

Roedd gan ddwy ysgol ardaloedd awyr agored helaeth a ddefnyddiwyd yn dda i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’u hamgylchedd a phwysigrwydd corff iach ac ymennydd iach.

Defnydd effeithiol o’r amgylchedd awyr agored yn Ysgol Treffos

Mae Ysgol Treffos yn canolbwyntio’n gryf ar ddefnyddio’r amgylchedd awyr agored fel adnodd i symbylu dysgu. Mae gan yr ysgol ardaloedd awyr agored helaeth sy’n cael eu defnyddio’n dda i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’u hamgylchedd a phwysigrwydd corff iach ac ymennydd iach.

Mae ystod eang o brofiadau dysgu yn digwydd y tu allan, gan gynnwys gweithgareddau datrys problemau fel adeiladu pontydd a chyfeiriannu. Gwna athrawon ddefnydd rheolaidd o deithiau pwrpasol i goedwigoedd a thraethau lleol ac maent yn defnyddio’r rhain yn dda i symbylu trafodaeth bellach a dysgu yn ôl yn yr ysgol.

Mae disgyblion yn llawn cymhelliant a chyffro i ddysgu yn yr awyr agored. Mae gweithgareddau fel tyfu llysiau yn yr ardd neu baratoi toes i bobi yn yr awyr agored yn cyfrannu’n gadarnhaol at les disgyblion. Ar draws yr ysgolion, dangosodd y rhan fwyaf o ddisgyblion eu bod yn gweithio’n dda yn annibynnol. Roeddent hefyd yn mwynhau’r cyfle i weithio mewn parau a grwpiau bach, gan ddangos lefelau cryf o barch tuag at ei gilydd. Fodd bynnag, mewn un ysgol yn benodol, ychydig iawn o ddisgyblion iau a oedd yn dangos gwydnwch a’r gallu i wella eu gwaith a dysgu o’u camgymeriadau.

Roedd un ysgol yr ymwelwyd â hi wedi ymwreiddio diwylliant diogelu cryf, ac roedd yr ysgolion eraill yn gweithio i ymwreiddio diwylliant cadarn. Yn gyffredinol, roedd y problemau a godwyd ag ysgolion yn ymwneud â chadw cofnodion, er enghraifft yn ymwneud â hyfforddiant staff.

Disgyblion yn eistedd o amgylch desg yn y dosbarth

Arwain a gwella

Ar gyfer dwy o’r ysgolion a arolygwyd, dyma oedd eu harolygiad craidd cyntaf ers iddynt gofrestru’n ysgolion annibynnol. Mewn un arall, bu newid i’r pennaeth yn ddiweddar ac, yn y bedwaredd ysgol, roedd yr arweinyddiaeth wedi’i hen sefydlu. Roedd pob un o’r ysgolion yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003.

Roedd gan arweinwyr ym mhob un o’r pedair ysgol weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol, roeddent yn uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion ac roedd ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u staff. Yn y ddwy ysgol newydd, roedd arweinwyr wedi llwyddo i sefydlu cymuned deuluol roedd gan ddisgyblion a rhieni deyrngarwch ac anwyldeb mawr tuag ati.

Roedd arweinwyr yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i staff gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol. Roedd y rhain yn cynnwys hyfforddiant sy’n benodol i ymagwedd addysgegol, hyfforddiant a ddarparwyd trwy fod yn aelod o rwydwaith ysgolion a hyfforddiant a oedd yn benodol i fyrddau arholi. Fodd bynnag, nid oedd dysgu proffesiynol yn cysylltu’n ddigon da ag anghenion datblygu unigol staff bob tro.

Ym mhob un o’r ysgolion a arolygwyd, canfuom ddiffygion yn y broses ar gyfer sicrhau ansawdd a gwella’r ysgol. Mewn dwy o’r ysgolion a arolygwyd, nid oedd arweinwyr wedi ailsefydlu eu hystod o weithgareddau sicrhau ansawdd ar ôl y cyfnod o aflonyddwch a achoswyd gan bandemig COVID-19 hyd yn hyn. Mewn ysgol arall, roedd diffyg ffocws yn y gweithgareddau sicrhau ansawdd cynhwysfawr ac, yn aml, roeddent yn canolbwyntio ar ddarpariaeth yn hytrach na chynnydd disgyblion. Yn y bedwaredd ysgol, roedd llawer o’r gwaith sicrhau ansawdd yn cael ei gynnal yn anffurfiol ac nid oedd yn cael ei gofnodi bob tro. O ganlyniad i’r diffygion hyn, nid oedd cynlluniau datblygu arweinwyr wedi’u seilio ar dystiolaeth gref, nid oeddent wedi nodi’r ychydig o feysydd a allai elwa ar ddatblygiad neu nid oeddent yn canolbwyntio’n ddigon da ar wella deilliannau disgyblion.