Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Unedau cyfeirio disgyblion

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Darparwyr

22

Nifer o ddarparwyr 2023

21

Nifer o ddarparwyr 2022

22

Nifer o ddarparwyr 2021


Disgyblion

969

Cyfanswm disgyblion

857

Cyfanswm disgyblion 2021-22

886

Cyfanswm disgyblion 2020-21


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 4

Cyfrwng Cymraeg: 0

Cyfrwng Saesneg: 4

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 1

Gweithgarwch dilynol

Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022

MA: 0

GS: 0

AE: 0

Nifer a dynnwyd allan 2022-23

MA: 0

GS: 0

AE: 0

Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023

MA: 1

GS: 1

AE: 1

Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023

MA: 1

GS: 1

AE: 1



Yn ystod y flwyddyn academaidd 2022-2023, cafodd 2,396 o ddisgyblion fynediad i ryw fath o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Y ddarpariaeth AHY a ddefnyddiwyd fwyaf oedd unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), gyda 49.8% o’r holl gofrestriadau AHY. Ers y pandemig, mae awdurdodau lleol yn crybwyll y bu cynnydd yn y cyfraddau atgyfeirio ar gyfer darpariaeth AHY. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer gwasanaethau tiwtora awdurdodau lleol. Bu cynnydd hefyd yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer disgyblion cynradd iau. Mae gan fwy o’r disgyblion sy’n cael eu hatgyfeirio anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl sylweddol, yn hytrach nag anghenion ymddygiadol, a oedd yn wir yn hanesyddol.

Yn gyffredinol, canfu arolygwyr fod UCDau yn gwneud cynnydd priodol tuag at gyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Roedd ehangder a chydbwysedd arlwy’r cwricwlwm ar draws UCDau yn briodol ac yn gwella. Roedd bron pob UCD wedi cryfhau ei hymagweddau darpariaeth gyfan at iechyd a lles emosiynol er mwyn ymateb i anghenion eu disgyblion.

Roedd gan lawer o’r disgyblion mewn UCDau gofnodion presenoldeb gwael o’u hysgolion blaenorol. Roedd gwella presenoldeb disgyblion mewn UCDau yn her o hyd a gwaethygwyd hyn gan y pandemig.

Er bod awdurdodau lleol yn disgwyl i ddisgyblion AHY fanteisio ar arlwy cwricwlwm amser llawn lle bo hynny’n briodol, roedd gormod o ddisgyblion yn cael mynediad at addysg ran-amser yn unig. Roedd gormod o ddisgyblion cynradd a disgyblion uwchradd iau yn aros mewn UCDau am gyfnod hirdymor. O ganlyniad, ychydig iawn o ddisgyblion oedd yn dychwelyd i’w hysgol brif ffrwd yn llwyddiannus.

Arolygwyd pedair UCD eleni. Roedd pob un ohonynt yn bodloni ystod eang o anghenion ac oedrannau disgyblion. Roedd un o’r UCDau yn darparu ar gyfer disgyblion cynradd hŷn a disgyblion uwchradd. Roedd dwy o’r UCDau yn bodloni anghenion disgyblion oed cynradd ac uwchradd. Yn olaf, roedd y bedwaredd UCD yn bodloni anghenion disgyblion uwchradd hŷn, hyd at ac yn cynnwys disgyblion 18 oed. Roedd dwy o’r UCDau yn rhai aml-safle ac roedd un ohonynt wedi’i leoli mewn ysbyty.

Yn ystod 2022-2023, cwblhaom adolygiad thematig hefyd ar Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Ymwelom ag wyth UCD ar gyfer yr adolygiad hwn.

Disgyblion yn eistedd yn y dosbarth

Addysgu a dysgu

Fe wnaeth mwyafrif y disgyblion gynnydd digonol o’u mannau cychwyn gwreiddiol. Fel yr adroddom y llynedd, roedd angen cymorth ychwanegol ar y rhan fwyaf o ddisgyblion o hyd ar gyfer eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl. Roedd problemau parhaus yn ymwneud â phresenoldeb yn her o hyd ac yn effeithio ar gynnydd disgyblion. Hefyd, roedd gormod o ddisgyblion yn cael mynediad at addysg ran‑amser yn unig.

Yn y pedair UCD a arolygwyd, er mwyn bodloni anghenion tra chymhleth disgyblion a oedd yn mynychu darpariaethau, mabwysiadodd arweinwyr ymagwedd hyblyg tuag at y cwricwlwm, gyda ffocws penodol ar les disgyblion. Roedd UCDau yn ystyried y ffordd orau i roi Cwricwlwm i Gymru ar waith, gan gynnwys arweiniad Cwricwlwm i Gymru ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) (Llywodraeth Cymru, 2021). Roedd hyn ar gamau datblygu amrywiol ac, yn gyffredinol, canfuom fod ansawdd ac effaith y gwaith hwn yn amrywiol dros ben.

Yn yr arfer fwyaf effeithiol, roedd gan arweinwyr a staff ymagwedd strategol tra ystyriol tuag at gynllunio’r cwricwlwm. O ganlyniad, roedd arlwy’r cwricwlwm yn cynnig profiadau dysgu eang a dwfn. Roedd hyn yn cefnogi dysgu, cynnydd, iechyd emosiynol ac anghenion therapiwtig disgyblion mewn modd ystyrlon. Roedd hefyd yn cefnogi pontio disgyblion i’w cyrchfan cynlluniedig nesaf yn dda. Fodd bynnag, roedd ehangder a chydbwysedd arlwy’r cwricwlwm i ddisgyblion cynradd a disgyblion uwchradd iau yn benodol, yn anghyson.

Roedd y cwricwlwm iechyd a lles mewn tua hanner yr UCDau yn datblygu’n addas. O ganlyniad, datblygwyd dealltwriaeth disgyblion o sut i gadw eu hunain yn ddiogel a gwneud dewisiadau gwybodus trwy ystod o weithgareddau gwerth chweil. Roedd UCDau hefyd yn canolbwyntio ar godi dyheadau disgyblion hŷn. Ym mhob un o’r UCDau, cryfhawyd hyn ymhellach trwy drefniadau gweithio ar y cyd ag asiantaethau allanol, er enghraifft y gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS).

Yn y gwersi mwyaf effeithiol, roedd athrawon yn cynllunio’n dda i ddarganfod diddordebau disgyblion ac ennyn eu diddordeb yn eu dysgu. Roedd athrawon yn defnyddio ystod o asesiadau gwerthfawr i gynllunio, olrhain a monitro cynnydd disgyblion.

Cynllunio profiadau dysgu i ennyn diddordeb, herio a chefnogi disgyblion yn Canolfan Addysg Nant-y-Bryniau

Mae’r UCD hon yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru. Mae staff yr UCD yn cynllunio’n greadigol ar gyfer ystod o brofiadau dysgu, sy’n alinio’n agos ag anghenion a diddordeb disgyblion a nodwyd yn glir. Mae’r profiadau hyn yn adeiladu’n systematig ar wybodaeth, dealltwriaeth, anghenion a medrau presennol disgyblion. Mae staff yn cefnogi a herio disgyblion yn effeithiol ac yn eu caniatáu i ymgysylltu â’u dysgu pan maent yn ddigon iach i fynychu’r UCD er mwyn gwneud y cynnydd gorau posibl.

Mewn dwy o’r pedair UCD, nid oedd cynllunio i ddatblygu medrau ar draws y cwricwlwm wedi’i ddatblygu’n ddigonol. Roedd diffyg cyfleoedd i ddefnyddio medrau’n gyson ar draws y cwricwlwm yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion. Roedd cynnydd o ran datblygu medrau llythrennedd a rhifedd yn rhy anghyson a chafwyd effaith benodol ar ddilyniant o ran datblygu medrau TGCh a Chymraeg. Fodd bynnag, yn UCD Canolfan Addysg Nant-y-Bryniau, roedd datblygu a defnyddio medrau Cymraeg ar draws y cwricwlwm yn gryfder.

Lle’r oedd arfer yn gryf, roedd disgyblion yn datblygu medrau cymdeithasol buddiol trwy ystod o weithgareddau pwrpasol. At ei gilydd, fe wnaeth tua hanner y disgyblion gynnydd yn eu medrau cymdeithasol a chyfathrebu, yn unol â’u hanghenion a’u mannau cychwyn.

Datblygu medrau cymdeithasol effeithiol yn UCD Portffolio Sir y Fflint

Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu medrau cymdeithasol effeithiol trwy ystod o weithgareddau pwrpasol. Mewn gwersi, maent yn gweithio’n dda ochr yn ochr â’i gilydd. Maent yn aros eu tro, yn chwarae gemau ac yn dathlu llwyddiannau ei gilydd. Yn ystod amseroedd egwyl, mae disgyblion yn chwarae campau tîm yn llwyddiannus ac yn ymdopi’n dda wrth ennill a cholli. Ar gyfer llawer o ddisgyblion, mae hyn yn cynrychioli cynnydd cryf o’u mannau cychwyn.

Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu medrau cymdeithasol effeithiol trwy ystod o weithgareddau pwrpasol. Mewn gwersi, maent yn gweithio’n dda ochr yn ochr â’i gilydd. Maent yn aros eu tro, yn chwarae gemau ac yn dathlu llwyddiannau ei gilydd. Yn ystod amseroedd egwyl, mae disgyblion yn chwarae campau tîm yn llwyddiannus ac yn ymdopi’n dda wrth ennill a cholli. Ar gyfer llawer o ddisgyblion, mae hyn yn cynrychioli cynnydd cryf o’u mannau cychwyn.

Cefnogaeth ar gyfer medrau cymdeithasol ac emosiynol disgyblion yn Tŷ Dysgu, Merthyr Tudful

Mae staff yn yr UCD yn darparu cymorth priodol i ddatblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae staff yn defnyddio asesiadau lles i ddarparu gwybodaeth fanwl i gefnogi meysydd o angen sydd â blaenoriaeth ar gyfer pob disgybl unigol. Mae bron pob un o’r staff yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf â disgyblion ac yn deall eu hanghenion yn dda. Mae bron pob un o’r staff cymorth yn bodloni anghenion disgyblion mewn modd sensitif ac amserol. At ei gilydd, mae staff yn fodelau rôl cadarnhaol i ddisgyblion.

Disgyblion yn gweithio ar fainc y tu allan

Gofal, cymorth a lles

Ar draws pob un o’r UCDau a arolygwyd, roedd y perthnasoedd gwaith cryf roedd staff yn eu datblygu â’r disgyblion yn eu helpu i deimlo’n ddiogel, yn sicr a’u bod yn cael gofal da. Roedd ethos gofalgar timau staff a’u defnydd o ymagweddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cyfrannu’n effeithiol at les, ymgysylltiad a datblygiad personol disgyblion.

Ym mron pob un o’r UCDau, roedd trefniadau i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn glir ac roedd y rhan fwyaf o’r staff yn eu deall yn dda. Roedd staff yn hyrwyddo strategaethau ymddygiad gwerthfawr yn gyson. O ganlyniad, roedd ymddygiad disgyblion ar draws bron pob un o’r UCDau yn briodol. Yn yr arfer fwyaf effeithiol, roedd llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn o ran rheoli eu hymddygiad eu hunain trwy gefnogaeth ac ymyrraeth fedrus gan staff. Fodd bynnag, lle’r oedd presenoldeb disgyblion yn anghyson a’r defnydd o’r gallu i fanteisio ar drefniadau addysg rhan-amser ar waith yn rhy hir, roedd hyn yn effeithio ar gynnydd.

Defnydd effeithiol o bolisi ymddygiad yn Canolfan Addysg Nant-y-Bryniau

Mae UCD Canolfan Addysg Nant-y-Bryniau wedi’i chyd-leoli â darpariaeth ysbyty Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru. Mae staff yn yr UCD yn rhoi’r polisi ymddygiad ar waith yn gyson ac yn cofnodi digwyddiadau’n briodol, ar y cyd â chydweithwyr iechyd sydd wedi’u lleoli yn narpariaeth yr ysbyty. Mae prosesau i fonitro digwyddiadau a nodi patrymau a thueddiadau yn gadarn ac yn cael eu defnyddio’n rheolaidd fel rhan o gyfarfodydd tîm dyddiol ac i lywio cynllunio. Mae’r UCD yn dangos y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud mewn perthynas â’u hymddygiad yn glir wrth gynllunio cyfleoedd iddynt ddychwelyd i’w darpariaeth brif ffrwd.

Roedd gan lawer o’r disgyblion a oedd yn mynychu’r UCDau gofnodion presenoldeb gwael o’u hysgolion blaenorol. Mewn tair o’r pedair UCD a arolygwyd, gwellodd presenoldeb lleiafrif o ddisgyblion tra’r oeddent yn yr UCD. Lle nad oedd disgyblion yn gallu manteisio ar addysg amser llawn am gyfnodau maith, roedd hyn yn cyfyngu ar y cynnydd a wnaethant yn eu presenoldeb a’u dysgu.

Ar draws llawer o’r UCDau, ychydig iawn o ddisgyblion a oedd yn dychwelyd i’w ysgolion prif ffrwd. Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer disgyblion cynradd a disgyblion uwchradd iau. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod ychydig iawn o ddisgyblion yn cael cyfleoedd i gynnal cysylltiadau gwerthfawr â’u hysgolion prif ffrwd. Roedd gormod o ddisgyblion yn aros mewn UCDau am gyfnodau rhy hir heb unrhyw gyfleoedd cynlluniedig i’w hailintegreiddio i’w hysgolion prif ffrwd.

Ar gyfer disgyblion uwchradd hŷn, roedd ffocws priodol ar fanteisio ar ystod o gymwysterau yn barod ar gyfer eu cyrchfannau nesaf. Roedd ehangder a chydbwysedd y llwybrau cymhwyster hyn yn amrywio. Yn gyffredinol, roedd cyrchfannau nesaf disgyblion wedi’u cynllunio’n dda ac roeddent yn cael cymorth ac arweiniad priodol gan yr UCD a Gyrfa Cymru. O ganlyniad, roedd nifer y disgyblion a oedd yn gadael UCDau ac nad oeddent yn ymgysylltu ag addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) yn isel.

Mewn tair UCD, roedd y prosesau i olrhain a monitro cynnydd disgyblion yn anghyson. Lle’r oedd arfer yn effeithiol, roedd prosesau wedi’u hen sefydlu ac wedi’u teilwra i anghenion disgyblion. Arweiniodd y prosesau hyn at gynllunio effeithiol ar gyfer dilyniant ym medrau disgyblion, gan alluogi disgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Mewn dwy o’r UCDau, nid oedd prosesau i nodi a phennu targedau disgyblion unigol ar gyfer eu cynlluniau addysg neu ddatblygu unigol (CAUau/CDUau) wedi’u datblygu’n ddigonol. Lle’r oedd arfer yn effeithiol, roedd proffiliau un-dudalen, rhaglenni a thargedau unigol i helpu staff i gefnogi disgyblion â’u dysgu a’u hymddygiad ar waith yn gadarn. Yn yr UCDau hyn, roedd staff yn adolygu cynnydd disgyblion yn gadarn tuag at fodloni’r targedau hyn.

Roedd hanner yr UCDau a arolygwyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr a rheolaidd i ddisgyblion gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau llais y disgybl. O ganlyniad, datblygodd disgyblion ymdeimlad o berchenogaeth dros eu dysgu a’u hymddygiad, ymresymu a medrau arweinyddiaeth a oedd yn briodol i’w galluoedd a’u hoedrannau.

Roedd cyfathrebu â rhieni a gofalwyr ar draws pob un o’r UCDau yn gryf. Roedd staff yn darparu gwybodaeth bwrpasol trwy ystod o ddulliau ac amlderau i roi’r gefnogaeth orau i rieni a sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth drwyadl am eu plentyn.

Cyfathrebu â rhieni a gofalwyr gan Canolfan Ddysgu Glanynant, Caerffili

Mae staff yn yr UCD yn cysylltu â rhieni a gofalwyr yn rheolaidd. Mae’r athro â gofal, ynghyd â gweithwyr proffesiynol perthnasol, yn meithrin perthnasoedd buddiol â rhieni a gofalwyr trwy gynnal llinellau cyfathrebu effeithiol. Mae’r prosiect magu plant sydd wedi’u hen sefydlu yn cefnogi rhieni’n dda. Mae staff yr UCD a’r tîm seicoleg addysg yn darparu strategaethau gwerthfawr i gynorthwyo rhieni i ddeall a rheoli ymddygiad eu plant gartref. Dywed rhieni bod hyn yn cryfhau’r berthynas rhwng yr UCD a’r cartref ac yn cynorthwyo staff a rhieni i gydweithio â’i gilydd i gefnogi dysgu.

Ym mhob un o’r UCDau a arolygwyd, roedd gweithio mewn partneriaeth yn gadarn. Roedd pob UCD yn cydweithio ag ystod o asiantaethau, fel yr heddlu cymunedol lleol, gweithwyr proffesiynol iechyd, Gyrfa Cymru, y gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) a’r gwasanaethau cymdeithasol. Roedd y trefniadau gwaith amlasiantaeth yn cefnogi ymagwedd gydgysylltiedig i gefnogi disgyblion a’u teuluoedd yn dda.

Mewn tair o’r UCDau, roedd diwylliant diogelu cadarn. Roedd staff yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau’n glir ac yn dilyn eu gweithdrefnau diogelu yn briodol. O ganlyniad, yn yr UCDau hyn, roedd trefniadau i gadw disgyblion yn ddiogel yn bodloni’r gofynion.

Disgyblion yn gweithio gyda'u gilydd

Arwain a gwella

Mewn dwy o’r UCDau a arolygwyd, roedd gan arweinwyr weledigaeth ac ethos clir ar gyfer eu UCD. Roedd y rhain yn cael eu cyfleu’n glir i’r holl staff. O ganlyniad, roedd staff yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau’n dda. Roedd arweinwyr yn cydweithio’n fuddiol â’r awdurdod lleol i sicrhau gwelliant parhaus.

Roedd prosesau hunanwerthuso yn gadarn mewn un o’r pedair UCD a arolygwyd. Roedd system gref o brosesau sicrhau ansawdd wedi’i hen sefydlu. O ganlyniad, roedd gan arweinwyr ddealltwriaeth fanwl gywir o gryfderau’r UCD a’i meysydd i’w datblygu. Mewn un o’r UCDau, er bod y pennaeth yn newydd i’r swydd, roedd uwch arweinwyr wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella yn brydlon, gyda staff yn cyfrannu at y broses. Nid oedd prosesau hunanwerthuso wedi’u datblygu’n ddigonol mewn tair o’r UCDau. At ei gilydd, nid oedd deilliannau gweithgareddau hunanwerthuso yn cael eu defnyddio’n ddigon da gan arweinwyr i nodi diffygion yn gywir.

Prosesau sicrhau ansawdd effeithiol yn Canolfan Addysg Nant-y-Bryniau

Mae’r athro mewn gofal wedi sefydlu system gadarn o brosesau sicrhau ansawdd. Mae’r rhain yn cynnwys teithiau dysgu, craffu ar lyfrau a monitro fforensig wythnosol o’r offeryn olrhain gweithrediad iechyd meddwl mewn addysg (MHFE) ar gyfer pob disgybl. O ganlyniad, mae gan arweinwyr ddealltwriaeth fanwl gywir o gryfderau’r UCD a’i meysydd i’w gwella.

Mae arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cryf o fyfyrio a chydweithio, sy’n cefnogi staff i werthuso eu harfer a nodi sut gallent wneud gwelliannau.

Caiff rolau a chyfrifoldebau staff eu dosbarthu’n hynod effeithiol i fanteisio i’r eithaf ar fedrau unigol ar draws yr UCD. Mae athrawon a staff cymorth yn ysgwyddo cyfrifoldeb am wahanol agweddau ar waith yr UCD, er enghraifft meysydd dysgu a phrofiad, dulliau sy’n ystyriol o drawma, gwaith therapiwtig â chydweithwyr iechyd, a datblygu medrau iaith Gymraeg dysgwyr. Mae hyn yn golygu bod gan yr holl staff ymdeimlad clir o gydweithio â’i gilydd i sbarduno gwelliant.

At ei gilydd, roedd ystod ac ansawdd y cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff yn rhy amrywiol. Lle’r oedd arfer yn gryf mewn un o’r UCDau, roedd pwyslais cadarn ar wella medrau staff yn amlwg. Roedd gan arweinwyr yn yr UCD ddealltwriaeth fanwl gywir o gryfderau staff ac roeddent yn darparu cyfleoedd perthnasol a rheolaidd i staff ddatblygu eu medrau’n unol â phrosesau hunanwerthuso.

Mewn tair o’r UCDau a arolygwyd, roedd angen cryfhau rôl y pwyllgor rheoli ymhellach i sicrhau ansawdd gwaith yr UCD yn effeithiol. Roedd y berthynas waith â gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol yn amrywio. Yn yr arfer fwyaf effeithiol, roedd partneriaid gwella ysgolion yn adnabod yr UCD yn dda. Roeddent yn deall ystod anghenion y disgyblion, yn cynnig cymorth ac arweiniad cwricwlaidd buddiol ac yn cydweithio’n dda ag arweinwyr a staff.


Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2021) Cwricwlwm i Gymru: Addysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein] Ar gael yn: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm/addysg-heblaw-yn-yr-ysgol-ahy/  [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]