Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Colegau arbenigol annibynnol

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Darparwyr

7

Nifer o ddarparwyr 2023


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 5

Cyfrwng Cymraeg: 0

Cyfrwng Saesneg: 5

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 2



Yn ystod 2022-2023, roedd colegau arbenigol annibynnol yn parhau i ddarparu cymorth addysg a lles i ddysgwyr ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol (ADY). At ei gilydd, canfuom fod gan y darparwyr hyn ddealltwriaeth gref o anghenion eu dysgwyr a’u bod yn eu cynorthwyo i ddatblygu medrau pwysig, fel medrau cymdeithasol ac annibyniaeth, yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Fodd bynnag, roedd ansawdd yr addysgu yn rhy amrywiol ar draws y sector hwn ac, yn aml, roedd wedi’i gyfyngu gan ofynion achrediadau neu orddibyniaeth ar daflenni gwaith.

Roedd hwn yn gyfnod o newid ar draws y sector. Ym mhob un o’r pum coleg a arolygwyd yn ystod y flwyddyn academaidd, bu newidiadau nodedig yn eu harweinyddiaeth ers eu harolygiad neu ymweliad monitro diweddaraf. Yn fwy cyffredinol, bu newidiadau o ran arweinyddiaeth ym mhob un o’r colegau arbenigol annibynnol ers dechrau pandemig COVID-19.

Yn ogystal â’r newidiadau mewnol hyn, roedd colegau arbenigol annibynnol yn ymwybodol o newidiadau allanol sylweddol. Er enghraifft, mae’r cyfrifoldeb dros ddyrannu cyllid ar gyfer lleoliadau yn y colegau hyn yn symud o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, yn unol â diwygio ADY.

Yn gyffredinol, adroddodd colegau fod effaith pandemig COVID-19 wedi parhau i leihau yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd rhai heriau o hyd, er enghraifft o ran ailfeithrin perthnasoedd â darparwyr lleoliadau profiad gwaith. Yn ogystal, adroddodd colegau arbenigol annibynnol fod proffiliau’r dysgwyr sy’n cael eu hatgyfeirio iddynt yn dod yn fwy cymhleth, ar y cyfan, yn rhannol oherwydd effaith y pandemig ar ddatblygiad dysgwyr unigol.

Dyn gyda ffon yn derbyn help yn y llyfrgell

Addysgu a dysgu

At ei gilydd, fe wnaeth llawer o ddysgwyr yn y pum coleg arbenigol annibynnol ar arolygwyd yn ystod 2022-2023 gynnydd cyson yn eu dysgu. Canfu arolygwyr fod llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cryf, yn gyffredinol, o ran datblygu medrau cyfathrebu, cymdeithasol a medrau byw’n annibynnol. Fe wnaeth llawer o ddysgwyr gynnydd cadarn o ran datblygu medrau creadigol, corfforol a medrau byw’n annibynnol. Ar draws y colegau a arolygwyd, lle’r oedd yn briodol, cyflawnodd llawer o ddysgwyr ystod o unedau achredu, er enghraifft mewn medrau llythrennedd neu fedrau byw’n annibynnol. Fodd bynnag, mewn tair o’r pum coleg, rhwystrwyd cynnydd dysgwyr gan bresenoldeb gwael.

Canfu arolygwyr fod pob un o’r pum coleg a arolygwyd yn cynnig cwricwlwm eang i’w dysgwyr. Roedd tri o’r colegau hyn yn defnyddio eu hadeiladau a’u tir yn dda i ddarparu gweithgareddau pwrpasol ac ymarferol i ddysgwyr. Er enghraifft, roedd dysgwyr yn gofalu am eifr y coleg, yn gweini cwsmeriaid yng nghaffi’r coleg ac yn cyfrif enillion siop y coleg. Roedd tri o’r pum coleg yn ychwanegu at arlwy’r cwricwlwm gydag ystod o weithgareddau difyr a buddiol yn y gymuned. Er enghraifft, roedd dysgwyr yn manteisio ar hwb lles yr awdurdod lleol i ddefnyddio’r ystafell synhwyraidd neu gymryd rhan mewn gwersi gwaith crosio. Mewn tri o’r pum lleoliad, yn rhannol oherwydd effaith pandemig COVID-19, roedd ystod gyfyngedig o weithgareddau yn y gymuned neu weithgareddau’n gysylltiedig â gwaith ar gael.

Mewn pedwar o’r colegau, roedd staff yn meithrin perthnasoedd cryf a gofalgar â dysgwyr, wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a chyd-barch. Mewn tri choleg, roedd staff yn ymwreiddio arferion defnyddiol yn niwrnod y coleg i gynorthwyo dysgwyr i bontio rhwng gweithgareddau a datblygu eu hannibyniaeth. Roedd yr aelodau staff hyn yn rhoi canmoliaeth anogol ac adborth llafar defnyddiol i ddysgwyr i symud eu dysgu yn ei flaen. Mewn tri o’r colegau, canfu arolygwyr fod staff yn rhoi cyfarwyddiadau clir i ddysgwyr ac yn defnyddio holi’n effeithiol i ddatblygu gallu dysgwyr i alw dysgu blaenorol i gof.

Fodd bynnag, mewn pedwar o’r pum coleg, roedd ansawdd yr addysgu’n rhy amrywiol. Lle’r oedd addysgu’n llai llwyddiannus, nid oedd yn cyfateb yn ddigon da i anghenion dysgwyr. Mewn tri choleg, canfu arolygwyr fod y cwricwlwm ac addysgu wedi’u cyfyngu’n ormodol gan ofynion achrediadau neu orddibyniaeth ar daflenni gwaith. At ei gilydd, nid oedd darpariaeth i wella medrau dysgwyr wedi’i datblygu’n ddigonol ym mhob un o’r pum coleg.

Roedd pob un o’r colegau’n defnyddio ystod briodol o strategaethau i asesu cynnydd dysgwyr, roedd y prosesau hyn newydd gael eu diwygio mewn dau o’r colegau. Nid oedd tri choleg yn defnyddio gwybodaeth felly am gynnydd dysgwyr yn gyson i lywio eu cynllunio.

Digwyddiadau cyfoethogi yng Ngholeg Plas Dwbl, Sir Benfro

Roedd y coleg yn cynllunio dathliadau a digwyddiadau rheolaidd a oedd yn cyfoethogi arlwy craidd y cwricwlwm, er enghraifft trwy wyliau tymhorol, fel gŵyl Martinmas, lle’r oedd yr holl ddysgwyr yn gwneud ac yn goleuo eu llusernau eu hunain. Roedd y coleg yn darparu amgylchedd i ddysgwyr sy’n cydnabod ac yn dathlu ei gyd-destun a diwylliant Cymreig penodol, er enghraifft trwy baratoadau ar gyfer perfformiad y coleg o ‘Y Mabinogi’.

Myfyriwr ifanc mewn darlith

Gofal, cymorth a lles

Roedd pob un o’r pum coleg a arolygwyd eleni wedi datblygu cymunedau meithringar yn llwyddiannus, gyda ffocws cryf ar ddysgwyr. Ym mhob un o’r colegau, roedd gan staff ddealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion dysgwyr a oedd wedi’i thanategu gan y coleg yn mabwysiadu arlwy therapiwtig. Er enghraifft, roedd pob un o’r colegau’n elwa ar gymorth gan therapydd iaith a lleferydd i roi arweiniad ar fodloni anghenion cyfathrebu dysgwyr.

Roedd pob coleg wedi defnyddio ystod o wybodaeth bwysig am anghenion dysgwyr i ddatblygu cynlluniau gofal a chymorth cynhwysfawr. Lle y defnyddiwyd y rhain yn effeithiol, roedd gan staff ddealltwriaeth glir o sut i fodloni’r ystod eang o anghenion eu dysgwyr. Fodd bynnag, mewn dau o’r pum coleg, ni roddwyd y cynlluniau hyn ar waith yn gyson. Roedd gan bedwar coleg brosesau pontio priodol ar waith i gefnogi dysgwyr a oedd i fod i ymuno â’r coleg, yn ogystal â’r rhai a oedd yn paratoi i ymadael.

Yn gyffredinol, roedd llawer o ddysgwyr yn mwynhau mynd i’r coleg. Roeddent yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol ag aelodau staff ac yn dangos agweddau cadarnhaol at eu dysgu. Roedd llawer o ddysgwyr yn mwynhau cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau allgyrsiol, fel clybiau a gweithgareddau yn y gymuned. Er enghraifft, roedd dysgwyr yn mynychu clwb gwaith coed ar ôl coleg ac yn mynd i siopa i baratoi ar gyfer sesiynau coginio. Fe wnaeth llawer o ddysgwyr gynnydd cadarn mewn meysydd pwysig, fel datblygu eu hannibyniaeth a’u medrau cymdeithasol. Fodd bynnag, ar gyfer tri o’r pum coleg, roedd presenoldeb dysgwyr yn faes i’w ddatblygu.

Ym mhob un o’r pum coleg, datblygodd dysgwyr ddealltwriaeth o sut i gadw eu hunain yn ddiogel ac yn iach, er enghraifft trwy ddysgu am fwyta’n iach a pherthnasoedd iach. Fodd bynnag, roedd y ddarpariaeth hon yn anghyson ar draws y colegau. Mewn rhai achosion, nid oedd yn ymdrin â phynciau pwysig fel radicaleiddio ond, mewn colegau eraill, nid oedd cynlluniau dysgu’n cael eu haddasu’n ddigon da i fodloni anghenion pob dysgwr.

Roedd gan bob un o’r pum coleg dimau staff a oedd yn dangos dealltwriaeth gref o’u rôl o ran cadw dysgwyr yn ddiogel. Roedd tri choleg wedi datblygu prosesau hynod effeithiol yn y maes hwn. Fodd bynnag, cafodd dau o’r colegau a arolygwyd lythyr lles gan Estyn oherwydd pryderon penodol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch neu ddiogelu.

Datblygu annibyniaeth dysgwyr yng Ngholeg Aspris Gogledd Cymru, Wrecsam

Roedd darpariaeth y coleg i ddatblygu medrau cymdeithasol, annibyniaeth a medrau byw’n annibynnol yn gryfder. Er enghraifft, lle y bo’n briodol, cynorthwywyd mwyafrif y dysgwyr yn dda i ddatblygu medrau perthnasol mewn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn annibynnol ac yn hyderus.

Darparodd y coleg ystod bwrpasol o gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu hannibyniaeth a’u medrau gwaith trwy ymgymryd â phrofiad allanol perthnasol yn gysylltiedig â gwaith. Er enghraifft, roedd dysgwyr yn elwa ar leoliadau gwaith mewn cyndai cŵn, ffatrïoedd cyfagos neu yn yr amgueddfa leol.

Menyw yn gwneud arwyddion gyda'i dwylo

Arwain a gwella

Er gwaethaf y cyd-destun heriol a’r ansefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth ar draws y sector, mewn tri o’r pum coleg a arolygwyd, roedd arweinwyr wedi gosod gweledigaeth glir ar gyfer y coleg, yr oedd aelodau staff yn ei deall yn dda. Roedd gan bob un o’r colegau a arolygwyd ffocws cryf ar ddiogelu ac roeddent yn datblygu diwylliant diogelu cadarnhaol. Roedd tri o’r colegau hefyd yn cynnig cymorth gofalgar i’w haelodau staff, er enghraifft trefniadau cymorth lles ac ariannol gwerthfawr, ochr yn ochr â rhaglenni cymorth ehangach i gyflogeion. Mewn tri choleg, gweithiodd arweinwyr newydd yn ddiwyd i wneud gwelliannau cyflym. Fodd bynnag, at ei gilydd, fe wnaeth pob un o’r pum coleg a arolygwyd gynnydd araf neu anghyson yn erbyn yr argymhellion o’u harolygiadau a’u hymweliadau monitro diweddaraf.

Roedd llawer o brosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant y colegau newydd eu sefydlu mewn pedwar o’r colegau a arolygwyd. Roedd uwch arweinwyr mewn dau goleg yn defnyddio data’n effeithiol i werthuso gwaith eu colegau. Fodd bynnag, mewn tri choleg, nid oedd uwch arweinwyr yn gwerthuso’r gwaith hwn ar lefel coleg cyfan. Yn rhy aml, roedd gwaith yn y maes hwn yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth ac nid oedd yn canolbwyntio’n ddigon da ar effaith addysgu ar ddysgu.

Mae pob un o’r pum coleg a arolygwyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon yn rhan o sefydliadau ehangach sy’n cynnig addysg neu ofal i ddysgwyr ledled Cymru a Lloegr. Roedd pob un o arweinwyr y colegau yn elwa ar ystod o gymorth a gwasanaethau gan y sefydliadau ehangach hyn. Er enghraifft, roeddent yn cael cymorth â recriwtio mwy diogel, sicrhau ansawdd a llywodraethu, yn ogystal ag agweddau gweithredol fel TGCh. Fodd bynnag, mewn pedwar o’r colegau, nid oedd y cymorth a’r arweiniad hwn yn rhoi ystyriaeth ddigon da i gyd-destun Cymreig penodol y coleg nac yn rhoi digon o ystyriaeth i arweiniad Llywodraeth Cymru.

Roedd pob un o’r colegau a arolygwyd yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol i staff, yn arbennig o ran ADY dysgwyr, fel anghenion dysgwyr sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig neu’r rhai sydd wedi cael profiad o drawma. Fodd bynnag, mewn pedwar lleoliad, nid oedd y cyfleoedd hyn yn canolbwyntio’n ddigon effeithiol ar addysgu a dysgu, ac nid oedd trefniadau pedwar lleoliad i ddysgu o arfer dda mewn mannau eraill wedi’u datblygu’n ddigonol.

Ers eu harolygiad neu eu hymweliad diwethaf, roedd dau goleg wedi gwneud gwelliannau i’w hadnoddau a’u hamgylcheddau dysgu. Er gwaethaf y gwelliannau hyn, roedd angen i dri o’r pum lleoliad a arolygwyd wneud gwelliannau yn yr agweddau hyn.