Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

2022-2023

Darparwyr

22

Nifer o ddarparwyr 2023


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 4

Cyfrwng Cymraeg: 2

Cyfrwng Saesneg: 2

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 2

Gweithgarwch dilynol

Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022

AAPS: 3

Nifer a dynnwyd allan 2022-2023

AAPS: 2

Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023

AAPS: 3

Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023

AAPS: 1



Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys y rhai sy’n cael eu darparu neu eu comisiynu gan un awdurdod lleol, yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill. Caiff gwasanaethau gwella ysgolion eu darparu ar y cyd â chonsortia rhanbarthol, yn bennaf, neu drwy bartneriaethau ar ran awdurdodau lleol, er bod y model ar gyfer sut mae hyn yn gweithio yn amrywio ledled Cymru. Mae 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru.

Cyflawnodd ein harolygwyr cyswllt awdurdodau lleol eu gwaith arferol ag awdurdodau lleol. Addasom ein hymagwedd at ymweliad yr arolygydd cyswllt â chonsortia rhanbarthol trwy ganolbwyntio ar agwedd benodol yn ystod tymor yr hydref a thymor yr haf. Roedd hyn yn ein galluogi i ystyried eu hymagweddau at werthuso a gwella yn fanylach.

Yn ystod 2022-2023 ac yn enwedig yn ystod tymor yr hydref, bu’n rhaid i wasanaethau addysg llywodraeth leol ymateb i lawer o heriau a oedd yn parhau ar ôl pandemig COVID-19. Roedd y rhain yn cynnwys absenoldebau staff a disgyblion a achoswyd gan achosion lleol o COVID-19. Yn ogystal, bu’n rhaid i swyddogion awdurdodau lleol gynorthwyo ysgolion â phroblemau ychwanegol o ran ymddygiad a phresenoldeb y tu hwnt i’r hyn a oedd yn arferol cyn y pandemig. Bu ychydig o awdurdodau lleol yn araf wrth ailgydio yn eu goruchwyliaeth flaenorol o bresenoldeb, ac mae awdurdodau lleol eraill sydd wedi ailddechrau eu harferion cyn-COVID wedi gweld gwelliannau o ran lefelau presenoldeb. Yn gyffredinol, parhaodd absenoldebau disgyblion, yn enwedig ymhlith y rhai o gyd-destunau sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, yn ystyfnig o uchel. Roedd prosesau awdurdodau lleol i fonitro, gwerthuso a sicrhau ansawdd eu gwaith yn wendid cyffredinol. Arweiniodd hyn at argymhellion ym mhob un o’r pedwar arolygiad a gynhaliwyd. Roedd prosesau i sicrhau ansawdd a chynorthwyo i wella addysg mewn darpariaeth heblaw yn yr ysgol (AHY) yn ddiffyg mewn lleiafrif o awdurdodau lleol. Roedd pob awdurdod lleol yn cydnabod heriau cynnal lefelau eu gwasanaethau yng ngoleuni toriadau cyllidol arfaethedig.


Arolygiadau

Rhwng mis Medi 2022 a mis Gorffennaf 2023, cynhaliom bedwar arolygiad o wasanaethau addysg llywodraeth leol. Gofynnwyd i ddau awdurdod lleol lunio astudiaethau achos yn amlinellu arfer effeithiol mewn agweddau ar eu gwaith. Gofynnwyd i awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf lunio astudiaeth achos yn canolbwyntio ar ei ddefnydd cryf o ddata a gwybodaeth, a gofynnwyd i awdurdod lleol Gwynedd lunio astudiaeth achos ar gefnogi disgyblion ag addysg dysgu ychwanegol (ADY) trwy gyfrwng y Gymraeg.

Llyfrau yn y llyfrgell

Deilliannau a gwasanaethau addysg

Ym mhob arolygiad, parhaom i werthuso pa mor dda roedd awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion i wella. Ym mhob un o’r awdurdodau lleol a arolygwyd y llynedd, canfuom fod perthnasoedd gwaith wedi’u hen sefydlu â’u gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol. Yn gyffredinol, roedd gan dri o’r pedwar awdurdod lleol drosolwg addas o’u hysgolion a defnyddiwyd y wybodaeth a roddwyd iddynt gan y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol i gefnogi a herio ysgolion yn briodol. Helpodd hyn swyddogion awdurdodau lleol i ymyrryd a chynnig cymorth ar ôl nodi ysgolion oedd yn peri pryder iddynt.

Yn Rhondda Cynon Taf, adeg yr arolygiad, roedd un ysgol gynradd yr oedd angen mesurau arbennig arni ac nid oedd angen gweithgarwch dilynol ar unrhyw ysgol uwchradd nac ysgol pob oed. Canfuom fod gan yr awdurdod lleol ddisgwyliadau clir ac uchel o waith ei wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol a’i fod yn ei herio’n dda i wella llawer o agweddau ar ei waith. Roedd arweinwyr yn cynnig her gadarn ac amserol o ran effeithiolrwydd gwaith partneriaid gwella ac yn gofyn i bob partner gwella gasglu ystod o dystiolaeth uniongyrchol i werthuso ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth yn eu hysgolion. Fodd bynnag, nid oedd ansawdd y cymorth i ysgolion wedi gwella’n ddigon cyflym.

Cydweithio effeithiol i deilwra systemau a phrosesau i anghenion Rhondda Cynon Taf

Mae uwch arweinwyr yn Rhondda Cynon Taf yn cyfleu eu blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion yn glir, fel yr amlinellir yn y cynllun strategol addysg cyfredol. Mae uwch arweinwyr a swyddogion yn cydweithio’n rhagweithiol â’r consortiwm rhanbarthol i deilwra systemau a phrosesau i anghenion yr awdurdod lleol. Er enghraifft, maent yn rhoi adborth manwl ar addasrwydd prosesau adrodd o ran rhannu gwybodaeth am y cymorth a’r her y mae’r gwasanaeth rhanbarthol yn eu cynnig i bob ysgol ac UCD. O ganlyniad, erbyn hyn, mae gofynion penodol i bartneriaid gwella adrodd ar effeithiolrwydd prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant ysgol neu UCD, yn ogystal ag ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth.

Ym Mlaenau Gwent, nid oedd unrhyw ysgolion cynradd na lleoliadau nas cynhelir yr oedd angen gweithgarwch dilynol arnynt ar ôl arolygiad. At ei gilydd, roedd yr awdurdod lleol a’i wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol wedi darparu cymorth defnyddiol i alluogi ysgolion cynradd targedig i wella. Fodd bynnag, mewn un ysgol uwchradd ac un ysgol pob oed, ni nododd swyddogion ddiffygion pwysig yn ddigon cyflym. O ganlyniad, bu cyflymdra’r gwelliant mewn dwy o’r ysgolion hyn yn rhy araf.

Yng Ngwynedd, ni farnwyd bod angen unrhyw weithgarwch dilynol ar unrhyw ysgolion a arolygwyd o fis Chwefror 2022 hyd at adeg yr arolygiad llywodraeth leol. Canfuom fod swyddogion yr awdurdod lleol a swyddogion rhanbarthol yn gweithio’n gynhyrchiol â’i gilydd a bod ganddynt wybodaeth gyffredinol gref am eu hysgolion. Roedd swyddogion yn trafod cryfderau a meysydd i’w gwella mewn ysgolion yn rheolaidd ac yn blaenoriaethu cymorth yn briodol. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o achosion, nid oedd ymyrraeth a chymorth yn ddigon amserol ac nid oeddent yn arwain at welliant digonol yn yr ysgolion hyn.

Yn Sir Gâr, barnwyd bod angen gweithgarwch dilynol statudol ar ddwy ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd ers i ni ailddechrau arolygiadau ym mis Chwefror 2022. Canfuom fod gan swyddogion drosolwg addas o gryfderau a meysydd i’w gwella yn eu hysgolion cynradd. Roeddent yn gweithio’n rhagweithiol â’r ysgolion hyn ac yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella, yn gyffredinol. Yn yr achosion gorau, roedd swyddogion yn brocera cymorth effeithiol a rheolaidd a oedd yn arwain at welliant cryf. Fodd bynnag, roedd y cymorth ar gyfer ysgolion uwchradd yn yr awdurdod lleol hwn yn rhy amrywiol. Nid oedd Ymgynghorwyr Cymorth Addysg yn nodi meysydd i‘w gwella mewn ysgolion uwchradd yn ddigon cyflym ac nid oeddent yn ymyrryd yn llwyddiannus bob tro. Yn ogystal, nid oedd prosesau sicrhau ansawdd wedi bod yn ddigon cadarn i sicrhau effeithiolrwydd gwaith yr holl swyddogion dros amser.

Lle’r oedd prosesau gwella ysgolion yn llai effeithiol, roedd hyn yn gyffredinol oherwydd nad oedd swyddogion yn monitro cynnydd yn ddigon gofalus nac yn sicrhau bod partneriaid gwella ysgolion yn gosod meini prawf llwyddiant digon manwl a phenodol y gellid mesur cynnydd yn eu herbyn. Nodom hefyd fod cymorth ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn amrywio a chafodd tair o’r pedair UCD a arolygom yn ystod 2022-2023 eu rhoi mewn categori gweithgarwch dilynol statudol.

Yn ystod y flwyddyn, ystyriom pa mor dda roedd awdurdodau lleol yn ceisio darparu profiadau addysg cyfartal i blant sy’n byw mewn tlodi. Yn gyffredinol, canfuom fod pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i wella deilliannau i bob unigolyn ifanc, ac roedd arweinwyr yn canolbwyntio ar sut gall gwasanaethau wella darpariaeth i liniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn gyffredinol, roedd gan awdurdodau lleol brosesau priodol ar gyfer nodi disgyblion bregus gan ddefnyddio ystod addas o wybodaeth. Roedd y wybodaeth hon yn helpu gwasanaethau i flaenoriaethu cymorth i ddisgyblion a phobl ifanc ar draws yr awdurdod.

Ym Mlaenau Gwent, canfuom fod swyddogion yn cydweithio’n dda â’i gilydd, ar draws cyfarwyddiaethau, ar faterion yn ymwneud â threchu tlodi ac yn sicrhau eu bod yn targedu eu hadnoddau at yr angen mwyaf. Roedd hyn yn cynnwys gweithio’n dda ag asiantaethau allanol ac ysgolion. Canfuom hefyd fod swyddogion yn gweithio’n gadarnhaol i sicrhau bod ysgolion yn gwario eu grant datblygu disgyblion yn addas ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am dargedu adnoddau lle maent yn debygol o gael yr effaith orau. Aeth yr awdurdod lleol hwn y tu hwnt i ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer prydau ysgol am ddim i bawb trwy eu darparu ar gyfer pob disgybl hyd at Flwyddyn 2.

Yn Rhondda Cynon Taf, ystyriom ba mor dda roedd yr awdurdod lleol yn gweithio â’i gymunedau i gefnogi disgyblion bregus. Canfuom fod ganddo ddealltwriaeth gref o anghenion dysgwyr unigol a’i fod yn nodi bregusrwydd yn dda. Roedd swyddogion yn gallu manteisio ar ystod eang o ddata a gwybodaeth ac yn eu defnyddio’n dda i dargedu cymorth i ddisgyblion a phobl ifanc. Er enghraifft, roeddynt yn defnyddio data presenoldeb yn effeithiol wrth ymweld ag ysgolion.

Canolbwyntiodd swyddogion yn Rhondda Cynon Taf yn dda ar gefnogi plant a’u teuluoedd cyn iddynt gyrraedd oedran ysgol statudol. Roedd hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer iaith a lleferydd a chyflwyno teuluoedd i’r rhaglenni cymunedol un i un sydd ar gael. Roedd gwasanaethau ieuenctid yn yr awdurdod lleol hwn yn cydweithio’n effeithiol ag ysgolion a chymunedau. Roeddent yn targedu eu gwaith at yr ardaloedd â’r anghenion mwyaf ac, yn benodol, yn darparu cymorth cryf i’r bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Yn Sir Gâr, canfuom fod gan swyddogion ddealltwriaeth gref o anghenion pobl ifanc yn eu hawdurdod lleol. Yn ogystal, roedd polisi clir ar gyfer cynorthwyo pobl ifanc i wella eu presenoldeb a’u hymddygiad, wedi’i sylfaenu â’r nod o sicrhau tegwch i bob unigolyn ifanc gyflawni ei orau. At ei gilydd, roedd yr awdurdod lleol yn cynnig cymorth defnyddiol i ysgolion a phobl ifanc. Fodd bynnag, nid oedd hyn wedi cael effaith ddigon cryf ar wella lefelau presenoldeb i bob disgybl bregus.

Yng Ngwynedd, canolbwyntiom ar y ffordd yr oedd yr awdurdod lleol yn bodloni anghenion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Roedd yr awdurdod lleol hwn wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cryfhau gwasanaethau cymorth ymddygiad ac roedd prosesau wedi gwella’n addas dros gyfnod. Canfuom fod ystod yr ymyriadau sydd ar gael i gynorthwyo disgyblion i wella eu hymddygiad yn briodol, ar y cyfan. Roedd staff ar draws yr awdurdod yn gweithio’n dda i ddarparu ystod eang o brofiadau cwricwlaidd a oedd yn ennyn diddordeb disgyblion targedig yn dda ac yn eu helpu i gael profiadau cadarnhaol o fywyd ysgol. Fodd bynnag, at ei gilydd, nid oedd y gwerthusiad o effaith y cymorth a ddarperir gan ganolfannau arbenigol yn ddigon cryf. O ganlyniad, nid oedd teilwra darpariaeth ar gyfer yr ystod eang o anghenion yn ddigon effeithiol bob tro.

Cyhoeddom adroddiad thematig ym mis Mehefin 2023 a oedd yn ystyried profiad cwricwlwm disgyblion sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol (AHY). Yn yr adroddiad hwn, canfuom yn yr enghreifftiau gorau fod awdurdodau lleol yn cydweithio ag ysgolion i fod â chynllun clir i ddisgyblion sy’n mynychu darpariaeth AHY ddychwelyd i addysg brif ffrwd sy’n amserol ac yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd disgyblion sy’n mynychu darpariaeth AHY yn aros yno’n rhy hir. Nid oedd awdurdodau lleol yn gwerthuso ansawdd darpariaeth y cwricwlwm mewn AHY yn ddigon da. Roedd gormod o awdurdodau lleol nad oeddynt yn nodi’n glir hyd disgwyliedig lleoliadau i ddisgyblion mewn darparwyr AHY. Yn ogystal, nid oedd prosesau adolygu ar gyfer lleoliadau disgyblion mewn darparwyr AHY wedi’u datblygu’n ddigonol mewn llawer o awdurdodau lleol.

Pobl mewn ystafell gyfarfod yn edrych ar sgrin

Arwain a gwella

Ym mhob awdurdod lleol a arolygwyd rhwng mis Medi 2022 a mis Gorffennaf 2023, rhoddodd arweinwyr flaenoriaeth uchel i wella deilliannau i blant a phobl ifanc. Yn aml, adlewyrchwyd hyn yng nghynlluniau corfforaethol ac ariannol yr awdurdodau lleol unigol.

Yn Rhondda Cynon Taf, roedd arweinyddiaeth ar bob lefel yn effeithiol, ar y cyfan. Yn yr awdurdod lleol hwn, roedd gan uwch arweinwyr ac aelodau etholedig ddealltwriaeth gref o weledigaeth a gwaith y gyfarwyddiaeth addysg ac roedd swyddogion ac aelodau’n cydweithio â’i gilydd yn fwriadus i nodi a mynd i’r afael ag agweddau pwysig ar eu gwaith. Roedd arweinwyr a swyddogion yn gwneud defnydd cryf o ddata i lywio eu gwaith. Darllenwch sut yr oeddynt yn defnyddio’r defnyddio’r data hwn i’w helpu i gael dealltwriaeth gref o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn eu gwasanaethau a thargedu cymorth yn effeithiol.

Ym Mlaenau Gwent, nodom fod gan arweinwyr ffocws cryf ar adfywio a gwella deilliannau i bobl ifanc, ond nid oedd aelodau etholedig, swyddogion na staff mewn ysgolion yn deall y weledigaeth hon yn ddigon da. Nodom nad oedd arweinyddiaeth gorfforaethol yn ddigon effeithiol o ran gwerthuso neu wella agweddau pwysig ar y gwaith hwn. Er gwaethaf y diffygion hyn, roedd gan uwch arweinwyr ym Mlaenau Gwent berthynas waith gref â swyddogion sydd, trwy eu harweinyddiaeth weithredol, wedi galluogi gwasanaethau i gryfhau dros gyfnod.

Yng Ngwynedd, canfuom fod gan arweinwyr weledigaeth gref ar gyfer addysg yn eu hawdurdod lleol. Roeddent yn dangos eu bod wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob plentyn ac unigolyn ifanc fanteisio’n gyfartal ar ddarpariaeth o ansawdd uchel. Roedd arweinwyr a swyddogion yn gweithio’n greadigol i fynd i’r afael â heriau, fel recriwtio, mewn ysgolion. Roeddent hefyd yn gweithio’n rhagweithiol i nodi a lleihau’r rhwystrau rhag ymgysylltu i’r bobl ifanc fwyaf bregus mewn ysgolion a darpariaethau eraill. Serch hynny, ni fu arweinwyr yn ddigon strategol wrth fynd i’r afael ag ychydig o feysydd pwysig o’u gwaith. Er enghraifft, nid oedd arweinwyr a swyddogion wedi nodi’n ddigon da yr angen i dargedu a gwella presenoldeb nac wedi gwerthuso’n ddigon da effaith darpariaeth gyffredinol ar gyfer y disgyblion hynny ag anghenion ymddygiadol ac emosiynol.

Yn Sir Gâr, canfuom fod gan arweinwyr ar draws yr awdurdod weledigaeth glir a’u bod yn cyfathrebu’n effeithiol ar draws y sefydliad. Helpodd hyn i ddatblygu timau ymgysylltiedig ac effeithiol a oedd yn cydweithio’n gadarnhaol â’i gilydd i nodi heriau a sut byddent yn eu goresgyn. Roedd arweinwyr wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth cryf i gefnogi pobl ifanc ac yn gwerthuso llawer o agweddau ar eu gwaith yn addas.

Ym mhob awdurdod lleol, roedd swyddogion ac aelodau’n cydweithio’n gadarnhaol â’i gilydd i ystyried eu gwaith. Lle’r oedd prosesau craffu’n fwyaf effeithiol, roedd aelodau’n cael gwybodaeth amserol ac effeithiol am effaith eu gwaith. O ganlyniad, roedd aelodau craffu yn herio gwaith yr awdurdod lleol yn gadarn ac yn sicrhau eu bod yn dwyn aelodau i gyfrif. Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid oedd prosesau gwerthuso a gwella yn ddigon effeithiol ac, yn aml, roedd hyn yn golygu nad oedd gan aelodau craffu wybodaeth ddigonol bob tro i gefnogi a herio’r awdurdod lleol yn effeithiol.

Roedd awdurdodau lleol yn y camau cynnar o roi eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ar waith. Gofynnom i awdurdod lleol Gwynedd ddarparu astudiaeth achos am ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag ADY a’u teuluoedd.

Rhoesom argymhelliad i bob awdurdod lleol yn ymwneud â phrosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant. Bu’r maes hwn yn wendid dros gyfnod maith. Yn gyffredinol, roedd hyn oherwydd bod ansawdd gwerthuso a chynllunio gwelliant yn rhy amrywiol o fewn cyfarwyddiaethau addysg. Yn aml, nid oedd cynlluniau’n pennu meini prawf llwyddiant clir ac, yn rhy aml, roedd swyddogion yn monitro os oedd camau gweithredu wedi’u cwblhau ai peidio, yn hytrach na’r effaith yr oeddynt wedi’u cael ar wella darpariaeth a deilliannau i blant a phobl ifanc. Roedd hyn yn ei gwneud yn anodd i awdurdodau lleol nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn ddigon manwl i sicrhau gwelliannau mwy effeithiol.

Day ddynes yn edrych ar gyfriadur

Gwaith parhaus ag awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion

Mae gan bob awdurdod lleol a gwasanaeth gwella ysgolion arolygydd cyswllt penodedig. Mae arolygwyr cyswllt yn ymweld ag awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion yn rheolaidd i gynnal trosolwg o’u gwaith. Rydym yn ystyried ystod o wasanaethau a meysydd yn ystod y flwyddyn ac wedi dod â rhai canfyddiadau cyffredin o ychydig o’r meysydd hynny at ei gilydd isod. Yn ystod 2022-2023, ystyriom sut roedd sampl o awdurdodau lleol yn cefnogi rhieni a phobl ifanc a oedd wedi dewis addysg yn y cartref.

Dywedodd awdurdodau lleol y bu cynnydd yn nifer y rhieni sydd wedi dewis addysgu eu plant yn y cartref ers y pandemig. Cododd y ffigurau ar gyfer dysgwyr addysg ddewisol yn y cartref yng Nghymru o 2,626 yn 2018-2019 i 5,330 yn 2022-2023 (Llywodraeth Cymru, 2023c).  Roedd y cynnydd hwn yn nifer y dysgwyr sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref yn ei gwneud yn fwy heriol i awdurdodau lleol fodloni eu gofyniad statudol i sicrhau bod yr addysg y mae rhieni’n ei darparu yn ‘addysg amser llawn effeithlon sy’n addas ar gyfer oed, gallu a doniau’r plentyn ac unrhyw angen addysgol arbennig’ (Deddf Addysg 1996). Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o anghenion dysgu ychwanegol (ADY), lle y gofynnir amdanynt, a chynnig cymorth priodol i ddysgwyr ag ADY sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref, yn ôl yr angen. Darparodd Llywodraeth Cymru £1.7 miliwn o gyllid yn 2022-2023 i helpu awdurdodau lleol i gyflawni’r dyletswyddau hyn, a oedd yn cynnwys £50,000 i bob awdurdod lleol a £160 pellach fesul dysgwr sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau i gyflwyno ‘arlwy craidd’ o gymorth, y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ei ddarparu i ddysgwyr sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref.

Roedd pob awdurdod lleol yr ymwelom af eg fel rhan o’r gwaith targedig hwn yn darparu’r lefel leiaf o gymorth i ddysgwyr sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref, ac roedd y lleiafrif ohonynt yn darparu ystod eang o gymorth, sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr a chyfleoedd buddiol i ehangu dysgu. Er enghraifft, darparodd lleiafrif o awdurdodau lleol adnoddau addysgol am ddim, talebau llyfrau a chardiau ar gyfer cyfleusterau hamdden ac amrywiaeth o weithgareddau lleol, fel gweithgareddau awyr agored a sesiynau celf, Cymraeg a garddwriaeth i ddysgwyr sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref. Rhoddodd ychydig o awdurdodau lleol fynediad estynedig i ddysgwyr sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref at lyfrgelloedd cyhoeddus, gwasanaethau chwaraeon a cherddoriaeth neu gydweithio â cholegau lleol i gynnig cyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol. Fodd bynnag, dim ond lleiafrif o deuluoedd addysg ddewisol yn y cartref a oedd yn manteisio ar y cyfleoedd hyn ac nid oedd awdurdodau lleol yn monitro nac yn gwerthuso effaith y cymorth yr oeddynt yn ei gynnig i ddysgwyr sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref. Cynhaliodd ychydig iawn o awdurdodau lleol arolwg â theuluoedd addysg ddewisol yn y cartref am y cymorth yr hoffent ei gael. Roedd yr awdurdodau hyn yn ceisio teilwra eu darpariaeth i fodloni’r anghenion hynny neu’n cynnig cyfleoedd i deuluoedd addysg ddewisol yn y cartref gyfarfod i helpu ei gilydd.

Mae llawer o awdurdodau lleol wedi codi ymwybyddiaeth ymhlith aelodau etholedig o’r cyd-destun lleol o ran addysg ddewisol yn y cartref, ond dim ond lleiafrif ohonynt sy’n adrodd arno’n flynyddol i’r pwyllgor craffu addysg. Mae cyfyng-gyngor cenedlaethol a lleol allweddol, sef po fwyaf o gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu a gorau oll yw’r gefnogaeth i ddysgwyr sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref yn lleol, y mwyaf deniadol y daw addysg ddewisol yn y cartref fel opsiwn i rieni. Fodd bynnag, mae’r dewis hwn yn ei gwneud yn fwy heriol i awdurdodau lleol sicrhau y gall dysgwyr fanteisio ar addysg addas.

Cydweithio ag arolygiaethau eraill ar faterion diogelu ac amddiffyn plant

Yn ystod 2022-2023, parhaom i weithio ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) mewn arolygiadau ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) mewn dau awdurdod lleol. Cynhaliom arolygiadau ar y cyd yng Nghyngor Sir Ddinbych ym mis Chwefror a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin. AGC sy’n arwain pob arolygiad ar y cyd, ac mae gan bob arolygiaeth arall, gan gynnwys Estyn, rôl gyfartal yn y broses arolygu . Caiff adroddiad aml-asiantaeth ei gyflwyno i’r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd rhanbarthol a chwnstabliaeth yr heddlu ar ddiwedd y broses arolygu yn amlinellu’r cryfderau a’r meysydd i’w datblygu ac yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwella. Yn y ddau arolygiad, nodom fod gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn darparu hyfforddiant rheolaidd, pwrpasol i arweinwyr diogelu dynodedig mewn darparwyr addysg ac yn eu cefnogi’n dda yn eu rolau. At ei gilydd, roedd ysgolion a lleoliadau nas cynhelir yn hyrwyddo lles plant a phobl ifanc yn gryf ac, yn aml, yn cyflwyno rhaglenni ymyrraeth llwyddiannus i gefnogi eu hiechyd emosiynol a’u hiechyd meddwl. Roedd uwch swyddogion yn cydweithio’n addas â’u cymheiriaid mewn gwasanaethau eraill i gynllunio ac adolygu trefniadau amddiffyn plant ar lefel strategol. Fodd bynnag, roedd rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau iechyd, yr heddlu a gwasanaethau plant ar lefel weithredol, yn enwedig wrth wneud penderfyniadau pwysig, yn amrywio.

Gwahoddodd Llywodraeth Cymru ni i gymryd rhan mewn adolygiad cyflym aml-asiantaeth o benderfyniadau ynghylch amddiffyn plant hefyd, er mwyn ymateb i nifer o farwolaethau trasig ymhlith plant ledled Cymru a Lloegr. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys AGC ac AGIC ac fe’i cynhaliwyd ym mis Ebrill 2023. Diben yr arolwg hwn oedd darganfod i ba raddau y mae’r strwythurau a’r prosesau cyfredol yng Nghymru yn sicrhau y caiff enwau plant eu rhoi’n briodol ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, a’u tynnu oddi arni pan fydd tystiolaeth ddigonol i ddangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Roedd yr adolygiad yn cynnwys gweithgarwch targedig mewn saith awdurdod lleol a phedwar bwrdd iechyd a chanfuwyd fod dealltwriaeth o’r trothwyon o ran a yw plentyn yn profi, neu mewn perygl o brofi, niwed sylweddol, a rhoi’r trothwyon hynny ar waith, yn dda, ar y cyfan. Fodd bynnag, nid oedd asiantaethau partner ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn deall hyn yn gyson bob tro. At ei gilydd, roedd prosesau rhannu gwybodaeth yn effeithiol ac yn gyson â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio ledled Cymru. Yn gyffredinol, mae trefniadau aml-asiantaeth yn gweithio’n dda mewn llawer o feysydd, ond mae angen i rai meysydd gael eu cryfhau ymhellach.

Cynigion Trefniadaeth Ysgolion – Medi 2022 hyd Gorffennaf 2023

Eleni, ymgynghorodd 11 o awdurdodau lleol ar gyfanswm o 15 o gynigion ad-drefnu ysgolion. Roedd nifer y cynigion a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn yn sylweddol llai nag yn ystod blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys yn ystod pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi darlun cywir o’r newidiadau arfaethedig i addysg ledled Cymru, gan i ychydig o awdurdodau lleol gyflwyno ymgynghoriadau unigol sy’n cynnig newidiadau i ddarparwyr lluosog. Pan fydd hyn yn digwydd, nid yw’r ymgynghoriadau lluosog hyn yn rhoi cymaint o wybodaeth ddefnyddiol am newidiadau arfaethedig bob tro.

Nod tua 40% o gynigion yw sefydlu darpariaeth newydd ar gyfer ADY neu ymestyn darpariaeth bresennol. Roedd hyn yn cynnwys y cynnig i sefydlu ysgol arbennig 3 i 19 newydd yn Rhondda Cynon Taf. Roedd tua thraean o’r cynigion eleni yn canolbwyntio ar gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Roedd y cynigion hyn yn parhau i ymgynghori ar ystod o strategaethau i wella’r gallu i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.


Gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol

Eleni, fe wnaethom beilota ein hymagwedd newydd at waith ein harolygwyr cyswllt â’r gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol. Roedd hyn yn cynnwys dau ymweliad a oedd yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar eu gwaith, sef cymorth pwrpasol i ysgolion. Ar ddiwedd yr ymweliadau hyn, rhoesom adborth unigol wedi’i seilio ar ein canfyddiadau. At ei gilydd, canfuom fod y consortia rhanbarthol yn dechrau ymateb i’r argymhellion yn ein hadroddiad o 2022, Cwricwlwm i Gymru: Sut mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion?

Roedd gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i ddatblygu ymagweddau i ddarparu cymorth mwy teilwredig i ysgolion. Mewn dau o’r pedwar awdurdod lleol a arolygwyd, roedd ysgolion yn dechrau cael cymorth defnyddiol. Fodd bynnag, roedd y cymorth pwrpasol hwn a’i effaith yn rhy amrywiol o hyd ledled Cymru.

Yn gyffredinol, roedd gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol yn dechrau datblygu ymagweddau at werthuso effaith eu gwaith, ond dim ond megis dechrau cael eu cyflwyno oedd y gwaith hwn ac roedd yn rhy gynnar i fesur pa wahaniaeth yr oedd yr ymagweddau hyn wedi ei wneud. Mewn rhai ardaloedd, canfuom fod swyddogion yn dibynnu’n rhy drwm o hyd ar adborth gan gyfranogwyr ac nad oeddent yn defnyddio digon o dystiolaeth uniongyrchol i werthuso effaith dysgu proffesiynol. Yn ogystal, nid oedd meini prawf llwyddiant yn ddigon manwl bob tro i gefnogi prosesau gwerthuso a gwella.

Gweithdai Risg a Sicrwydd Blynyddol

Fel rhan o waith parhaus ein harolygwyr cyswllt â gwasanaethau addysg llywodraeth leol, cyfrannom at weithdai risg a sicrwydd blynyddol ar y cyd ag Archwilio Cymru ac AGC. Ar sail y gwaith hwn ag awdurdodau lleol, darparom lythyr yn amlinellu’r sicrwydd a’r risgiau a nodom ym mhob awdurdod lleol.

Sicrwyddau allweddol

Mewn llawer o awdurdodau lleol, nodom fod deilliannau arolygu yn gadarnhaol, yn gyffredinol, mewn ysgolion cynradd a lleoliadau nas cynhelir. Ym mwyafrif yr awdurdodau lleol, amlygom sicrwyddau yn ymwneud ag arweinyddiaeth yn yr awdurdod lleol. Siaradom am uwch arweinyddiaeth gref yn yr awdurdodau hyn, gan gynnwys uwch swyddogion ac aelodau etholedig. Ym mwyafrif yr awdurdodau, nodom fod ganddynt gynlluniau addas ar waith i ddatblygu darpariaeth Gymraeg yn eu hawdurdod lleol. Er enghraifft, nodom fod gan un awdurdod lleol Gynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg uchelgeisiol, a oedd yn cynnwys sefydlu pwyllgorau i ymateb i bob un o’r saith o ddeilliannau’r cynllun.

Risgiau allweddol

Ym mwyafrif yr awdurdodau lleol, amlygom risgiau yn ymwneud â deilliannau arolygu darparwyr, yn enwedig nifer yr ysgolion uwchradd a roddwyd mewn categorïau statudol a’r rhai a fu yn y categorïau hyn ers cryn amser. Mewn tua hanner yr awdurdodau lleol, nodom risgiau yn ymwneud â chyllid a chyllidebau. Mynegodd awdurdodau lleol bryder ynghylch cyllidebau yn y dyfodol. Mewn lleiafrif o awdurdodau lleol, nodwyd bod darpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn risg. Roedd y risg yn cynnwys sicrhau y caiff staff addas eu recriwtio, gan gynnwys athrawon sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Nodom hefyd fod presenoldeb yn risg mewn lleiafrif o awdurdodau lleol.


Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2023a) Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi 2022 i 24 Gorffennaf 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/presenoldeb-disgyblion-mewn-ysgolion-gynhelir-5-medi-2022-i-24-gorffennaf-2023 [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023b) Absenoldeb o ysgolion Uwchradd: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/absenoldeb-o-ysgolion-uwchradd-medi-2022-i-awst-2023-diwygiedig-html[Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023c) Disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2022 i Awst 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/disgyblion-syn-derbyn-addysg-heblaw-yn-yr-ysgol-medi-2022-i-awst-2023[Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]

Senedd Cymru (2022) Cwestiwn Senedd – Pa brosesau yngynghori sydd wedi’u cynnal, neu a fydd yn cael eu cynnal, mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth arfaethedig ar addysg yn y cartref? WQ85742 (e) Caerdydd: Senedd Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://record.senedd.wales/WrittenQuestion/85742 [Cyrchwyd 17 Tachwedd 2023]