Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Addysg bellach

2022-2023


Darparwyr

12

Nifer o ddarparwyr 2023


Dysgwyr

99,925

Cyfanswm dysgwyr 2021-2022

90,395

Cyfanswm dysgwyr 2020-21


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 1

Cyfrwng Cymraeg: 0

Cyfrwng Saesneg: 1

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 1



Ymatebodd colegau addysg bellach (AB) yn hyblyg i’r pandemig i gynnal parhad mewn dysgu a chymorth i ddysgwyr, yn enwedig o ran hwyluso cyflwyno addysg o bell ac ar-lein. Pan ailddechreuodd arolygiadau, canfuom fod y rhan fwyaf o weithgareddau dysgu wedi dechrau dychwelyd i gael eu cyflwyno wyneb-yn-wyneb yn raddol. Roedd hyn yn cael ei groesawu gan y rhan fwyaf o ddysgwyr ac aelodau staff ar draws yr holl golegau. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r dysgwyr lleiaf galluog yn disgyn ymhellach ar ei hôl hi, roedd y bylchau medrau mewn llythrennedd, ac yn enwedig mewn rhifedd, yn parhau’n sylweddol ehangach nag ar gyfer carfanau tebyg o ddysgwyr cyn y pandemig.

Dau fyfyrwraig yn defnyddio llaw robotig

Addysgu a dysgu

Yn ystod ein hymweliadau a galwadau ymgysylltu gan arolygwyr cyswllt â cholegau addysg bellach (AB), canolbwyntiom ar ddysgu digidol ac ar-lein. Yn dilyn cyfnod y cyfyngiadau a oedd yn gysylltiedig â phandemig COVID-19, roedd colegau naill ai wedi dychwelyd yn llawn i gyflwyno wyneb-yn-wyneb neu wedi cadw ychydig iawn o gyflwyno ar-lein. Roedd y rhan fwyaf o athrawon a dysgwyr yn croesawu dychwelyd i gyflwyno wyneb-yn-wyneb. Roedd dysgu o bell ar gael o hyd ar gyfer ychydig o raglenni masnachol a phroffesiynol, lle’r oedd dysgwyr a chyflogwyr yn gwerthfawrogi’r ymagwedd hyblyg hon. Roedd ychydig iawn o golegau’n cynnig cyrsiau TGAU mathemateg a Saesneg rhan-amser ar-lein.

Parhaodd colegau a’u dysgwyr i elwa ar y buddsoddiadau gweddol fawr a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru mewn offer ac adnoddau yn ystod y pandemig. Roedd yr adnoddau digidol hyn yn cael eu defnyddio i gefnogi a gwella cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth a chynnig gweithgareddau ymestyn a gwaith cartref. Roeddent hefyd yn galluogi ymagwedd wrthdro at ddysgu, lle y gallai dysgwyr fanteisio ar adnoddau cyn gwersi i’w paratoi ar gyfer gweithgareddau a thrafodaethau yn y dosbarth. Roedd ychydig o wersi’n cael eu recordio hefyd, a oedd yn galluogi dysgwyr i ailedrych arnynt neu fynd atynt yn ddiweddarach os oeddent yn absennol.

Lle’r oedd ymagwedd ymgorfforedig at ddysgu digidol wedi’i hen sefydlu, roedd llawer o ddysgwyr yn gwerthfawrogi’n arbennig y cyfleoedd roedd hyn yn eu cynnig. Roedd enghreifftiau defnyddiol yn cynnwys defnyddio nodiadau llais gan athrawon i ategu adborth ysgrifenedig, offer ar y we ar gyfer gweithgareddau cydweithredol a defnyddio pensetiau realiti rhithwir fel offeryn dysgu.

Roedd ein hymweliadau a’n galwadau ymgysylltu hefyd yn canolbwyntio ar drefniadau colegau ar gyfer ymweliadau addysgol. Roedd colegau’n cydnabod gwerth ac effaith gadarnhaol ymweliadau addysgol i bob dysgwr, o ran cyfoethogi eu dysgu yn ogystal â’u datblygiad personol a chymdeithasol. Roedd cyfleoedd i gymryd rhan mewn teithiau ac ymweliadau yn amrywio rhwng meysydd gwahanol o’r cwricwlwm. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd nifer yr ymweliadau addysgol, gan gynnwys teithiau dramor, wedi dychwelyd i’r un drefn â chyn y pandemig, yn gyffredinol. Fel arfer, gwnaed hyn yn raddol gan flaenoriaethu meysydd penodol o’r cwricwlwm a grwpiau penodol o ddysgwyr. Er enghraifft, roedd colegau wedi blaenoriaethu dysgwyr yr oedd angen iddynt fynychu digwyddiadau neu ymgymryd â gweithgareddau y tu allan i’r coleg i gwblhau eu cymwysterau. Roeddent hefyd yn blaenoriaethu dysgwyr a fyddai’n elwa’n benodol ar fanteisio ar weithgareddau i ffwrdd o’r safle, fel dysgwyr medrau byw’n annibynnol. Roedd colegau yn benodol yn croesawu’r cyfle i ddysgwyr a staff dreulio amser dramor fel rhan o raglen cyfnewid dysgu rhyngwladol, sef Taith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod arolygiad craidd Coleg Cambria, canfuom fod llawer o ddysgwyr galwedigaethol yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau ymarferol a oedd yn datblygu eu medrau i gyfateb i anghenion diwydiant. Roedd dysgwyr academaidd a galwedigaethol ar draws ystod eang o alluoedd yn cyflawni graddau da yn gyson, yn berthynol i’w mannau cychwyn unigol. Fodd bynnag, nid oedd medrau rhifedd dysgwyr wedi’u datblygu cystal â charfanau tebyg cyn y pandemig.

Roedd cwricwlwm Coleg Cambria yn cynnig ystod eang o gyrsiau, a oedd yn amrywio o ddarpariaeth gyswllt ag ysgolion i ddisgyblion lleol ym Mlynyddoedd 10 ac 11, i gyrsiau addysg uwch. Roedd y rhan fwyaf o athrawon yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn cynllunio gweithgareddau a oedd yn ennyn eu diddordeb yn effeithiol. Fodd bynnag, ar draws y coleg, nid oedd llawer o athrawon yn cynllunio’n ddigon da i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgwyr.

Profiad gwaith wedi’i dargedu yn Coleg Cambria

Mae Coleg Cambria yn datblygu partneriaethau effeithiol gyda chyflogwyr lleol i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith go iawn sy’n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch. Un enghraifft o hyn yw’r rhaglen cadetiaid nyrsio ar gyfer y GIG, lle mae’r coleg wedi meithrin cysylltiadau cryf â’r bwrdd iechyd lleol i alluogi dysgwyr iechyd a gofal cymdeithasol lefel 3 i ymgymryd â lleoliadau gwaith. Mae’r rhain ar wardiau llawfeddygol a meddygol mewn ysbytai ac yn digwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio, mae dysgwyr yna’n dewis maes arbenigol i symud ymlaen iddo yn ystod eu hail flwyddyn.

Myfyrwyr yn denfyddio offer ymarfer corff

Gofal, cymorth a lles

Yn ystod yr arolygiad craidd yng Ngholeg Cambria, canfu arolygwyr fod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn frwdfrydig am eu cyrsiau ac wedi’u cymell i gyflawni eu cymwysterau, gyda llawer ohonynt yn ceisio symud ymlaen i’r lefel nesaf. Roedd dysgwyr yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi’n dda gan eu hathrawon ac aelodau staff eraill wrth fynychu’r coleg. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo bod y coleg yn lle cynhwysol a chroesawgar lle’r oeddent yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd bron pob un ohonynt yn cydweithio’n dda â’i gilydd a’u hathrawon ac aelodau staff eraill.

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymwybodol o ystod eang o gefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol ac yn elwa arni. Roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi’r diwylliant a oedd yn hybu eu hannibyniaeth ac yn cefnogi eu cynnydd. Roedd llawer ohonynt yn dangos dealltwriaeth glir o beryglon eithafiaeth a radicaleiddio.

Mewn astudiaeth achos a gyhoeddwyd yn ddiweddar, amlinellom sut roedd Coleg Cambria wedi nodi cynnydd sylweddol mewn datgeliadau ac atgyfeiriadau iechyd meddwl a lles, yn enwedig wrth ymateb i bwysau pandemig COVID-19. Yn ogystal, roedd y coleg wedi nodi nifer fawr o achosion disgyblu a oedd yn cynnwys dysgwyr o aelwydydd ag incwm isel. O ganlyniad, cyflwynodd y coleg ymagwedd gynhwysfawr ar draws y coleg at arfer sy’n ystyriol o drawma sy’n cyd-fynd â’r fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma (Hyb ACE Cymru, 2022). Datblygwyd yr ymagweddau hyn trwy ‘fethodoleg sy’n ystyriol o drawma’ a chânt eu cefnogi gan staff arbenigol a ‘Strategaeth Coleg Cynhwysol’. Mae’r fenter yn paratoi staff i gefnogi dysgwyr a chydweithwyr, fel ei gilydd.

Fel rhan o’i dull sy’n ystyriol o drawma datblygodd a gweithredodd Coleg Cambria gynllun gweithredu, gan gynnwys rhaglen o hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ar draws y coleg. Arweiniodd hyn at staff yn cael eu hyfforddi’n dda i ddefnyddio strategaethau cadarnhaol ac effeithiol a oedd yn cefnogi lles ac yn helpu dysgwyr i barhau i ymgysylltu â’u dysgu. Ar ôl cael eu hadolygu o safbwynt sy’n ystyriol o drawma, roedd prosesau’r coleg, ynghyd â’u dull addysgu a dysgu, wedi arwain at arwyddion cynnar o les gwell ymhlith dysgwyr ac aelodau staff.

Fel rhan o’n hadolygiad thematig o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, fe ymwelsom â phob coleg AB yng Nghymru i ganolbwyntio ar y mater cymhleth hwn. Adolygom y prosesau a oedd ar waith i helpu i ddiogelu a chefnogi’r rhai 16 i 18 oed, y diwylliant ymhlith dysgwyr mewn colegau a’r ddarpariaeth yr oedd gan golegau ar waith i hyrwyddo perthnasoedd iach. Canfuom nad oedd aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn cael ei gofnodi’n ddigonol, yn gyffredinol. Am amrywiol resymau, roedd llawer o ddysgwyr yn dewis peidio â rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol neu ddim yn siŵr sut i wneud hynny. Roedd achosion o aflonyddu rhywiol yn digwydd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Roedd ein trafodaethau â dysgwyr ac aelodau staff yn awgrymu bod dysgwyr sy’n ystyried eu hunain yn fenywod neu’n LHDTC+ a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o gael profiad o aflonyddu rhywiol o gymharu â’r garfan gyffredinol o ddysgwyr.

Roedd gan golegau bolisïau a phrosesau sefydledig i ddisgyblu dysgwyr ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin yn effeithiol â’r achosion mwyaf difrifol o aflonyddu rhywiol honedig rhwng cyfoedion y rhoddwyd gwybod iddynt amdanynt. Canfuom nad oedd systemau colegau i gofnodi a dadansoddi aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn gywir wedi’u datblygu’n ddigonol. Yn rhy aml, roedd achosion o aflonyddu rhywiol yn cael eu cofnodi a’u categoreiddio gan ddefnyddio dosbarthiadau cyffredinol o fwlio.

Myfyrwyr yn gweithio ar gyfrifiaduron

Arwain a gwella

Yn ystod arolygiad Coleg Cambria, canfuom fod y prif swyddog gweithredol, gyda chefnogaeth gan ei huwch dîm arweinyddiaeth, llywodraethwyr a staff, wedi sefydlu cyfeiriad strategol ar gyfer y coleg yn seiliedig ar weledigaeth, cenhadaeth a nodau strategol ar y cyd. Roedd llawer o’r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys ac yn teimlo’n gadarnhaol am y cyfeiriad strategol ac yn gwerthfawrogi’r ffocws cryf ar les a chymorth.

Canfu arolygwyr fod y coleg yn gwasanaethu anghenion ei gymunedau’n dda. Roedd ganddo bartneriaethau datblygedig ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, colegau addysg bellach eraill, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, y bartneriaeth medrau rhanbarthol a chyflogwyr. Roedd gan uwch dîm arweinyddiaeth ffocws clir ar wella profiadau dysgu i wneud yn siŵr fod yr holl ddysgwyr yn cyrraedd eu llawn botensial. Roedd y coleg yn defnyddio gweithdrefnau cynhwysfawr i sicrhau ansawdd ac yn casglu ystod eang o wybodaeth i lywio ei arferion. Adeg yr arolygiad, roedd sawl menter allweddol yn newydd ac nid oedd rheolwyr yn mesur cynnydd ac effaith camau gweithredu yn ddigon da bob tro.

Trwy ein hymweliadau a’n galwadau ymgysylltu, canfuom yr eir i’r afael â sicrhau ansawdd dysgu ar-lein a digidol trwy fwy nag un llwybr a’i fod yn amrywio rhwng colegau. Roedd gan bob coleg raglen arsylwi, a oedd yn cynnwys dysgu ar-lein a digidol. Roedd gan y rhan fwyaf o golegau dimau digidol neu unigolion ar waith i gefnogi’r agwedd hon ar y cwricwlwm. Roedd hyn yn cynnwys timau arbenigol a oedd yn creu cynnwys, yn ogystal â mentoriaid unigol sy’n canolbwyntio ar y cwricwlwm, a oedd yn aml yn athrawon neu’n aelodau staff cymorth a dyrannwyd amser iddynt ar gyfer y rôl hon. Roedd cymorth cymheiriaid anffurfiol rhwng athrawon yn ffurf werthfawr ar ddatblygu, hefyd.

Roedd colegau’n parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu i aelodau staff ddiweddaru eu medrau mewn dysgu digidol ac ar-lein. Roedd arweinwyr yn cydnabod yr awydd am ddatblygu digidol ar draws y gweithlu ac yn nodi’r effaith gadarnhaol roedd hyn yn ei chael ar addysgu, dysgu ac asesu, yn ogystal â gwasanaethau ehangach. Roedd colegau’n rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth am ddysgu digidol trwy rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol. Er enghraifft, sefydlwyd rhwydwaith arweinwyr digidol ar gyfer y sector i gefnogi cydweithio.

Canfu arolygwyr fod colegau wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion o’n hadolygiad thematig o bolisïau ymweliadau mewn AB, a gyhoeddwyd yn 2015. Roedd darparwyr wedi defnyddio canfyddiadau’r adroddiad fel sail i adolygu eu polisïau a’u gweithdrefnau ar gyfer ymweliadau ac wedi rhoi arweiniad cam-wrth-gam manwl ar waith ar gyfer ymweliadau addysgol, yn ôl yr angen, gan fynd i’r afael â phob un o’r argymhellion. Er enghraifft, roeddent wedi cyflwyno codau ymddygiad ffurfiol a oedd yn cael eu rhannu a’u llofnodi cyn cynnal ymweliadau, ac wedi cyflwyno cyfeiriadau penodol at ymweliadau mewn arweiniad a pholisïau perthnasol.

Rhoddwyd diweddariadau rheolaidd i aelodau staff a oedd yn gyfrifol am ymweliadau dysgwyr ac roedd yn ofynnol i aelodau staff dibrofiad ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol, gan gynnwys, mewn rhai achosion, cysgodi neu gynorthwyo staff mwy profiadol cyn arwain ymweliadau eu hunain. Nid oedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn casglu adborth ffurfiol gan ddysgwyr yn gysylltiedig â theithiau, er bod dysgwyr yn rhannu’n anffurfiol fod y profiadau’n werthfawr ac yn gadarnhaol.

Yn ystod ein hymweliadau a cholegau fel rhan o’r adolygiad thematig ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, dywedodd llawer o aelodau staff wrthym eu bod yn brin o hyder ac yn teimlo bod angen mwy o ddatblygiad proffesiynol a diweddariadau, yn hyn o beth. At ei gilydd, canfuom fod prinder adnoddau penodol ar gyfer AB i gynorthwyo aelodau staff colegau i ymdrin ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae gwaith cydweithredol i fynd i’r afael â’r pryderon hyn wedi dechrau’n ddiweddar, ond mae’n rhy gynnar i werthuso ei effeithiolrwydd neu ei effaith.


Cyfeiriadau

ACE Hub Wales (2022) Trauma-Informed Wales: A societal approach to understanding, preventing and supporting the impacts of trauma and adversity. Caerdydd: ACE Hub Wales. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://acehubwales.com/wp-content/uploads/2022/03/V11-Wales-Trauma-Informed-Approach-and-Practice-Framework-5.pdf [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]