Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Dysgu yn y gwaith

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Darparwyr

10

Nifer o ddarparwyr 2023

10

Nifer o ddarparwyr 2022

17

Nifer o ddarparwyr 2021


Dysgwyr

39,370

Cyfanswm dysgwyr Prentisiaeth (pob lefel) 2021-2022

46,040

Cyfanswm dysgwyr Prentisiaeth (pob lefel) 2020-21

15,635

Dysgwyr Prentisiaeth Sylfaen 2021-2022

16,395

Dysgwyr Prentisiaeth lefel 3 2021-22

7,340

Dysgwyr Prentisiaeth Uwch 2021-22


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 3

Cyfrwng Cymraeg: 0

Cyfrwng Saesneg: 3

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 3



Mae darparwyr prentisiaethau wedi gweithio yn dda i gynnal ymgysylltiad dysgwyr â’u rhaglenni yn yr amser ers cychwyn y pandemig COVID-19. Serch hynny, cymerodd ychydig o ddysgwyr gyfnod rhy hir i gwblhau eu rhaglenni. At ei gilydd, roedd darparwyr yn gofalu am les dysgwyr yn dda ac yn cefnogi eu hanghenion dysgu unigol. Fodd bynnag, nid oedd darparwyr yn cefnogi dysgwyr yn ddigon da i ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd, eu gallu Cymraeg a’u dealltwriaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth.

Myfyriwr yn gweithio gyda phren

Addysgu a dysgu

Yn ystod 2022-2023, fe ganfu arolygwyr fod pob un o’r tri darparwr prentisiaethau a arolygwyd wedi gweithio’n dda i gefnogi dysgwyr i barhau a’u rhaglenni, ag i ddenu dechreuwyr newydd i raglenni prentisiaeth yn dilyn tarfu’r pandemig COVID-19. O ganlyniad, roedd llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn o ran datblygu eu gwybodaeth ddamcaniaethol a’u medrau ymarferol. Fodd bynnag, nid oedd ychydig o ddysgwyr a fu ar y rhaglen ers anterth y pandemig wedi gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent. Yn aml, roedd y dysgwyr hyn yn aros ar y rhaglen ymhell y tu hwnt i ddyddiadau cwblhau disgwyliedig eu prentisiaeth, yn enwedig y prentisiaid hynny yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i effeithiau aflonyddgar y pandemig, a oedd yn golygu nad oedd aseswyr yn gallu mynd at leoliadau gofal yn gorfforol am gyfnodau estynedig. Roedd ffactorau eraill yn cynnwys y pwysau sylweddol ar y gweithlu yn y sector hyn a chyflwyno cymwysterau newydd ar gyfer y sectorau hyn. Er bod deilliannau dysgwyr yn dechrau gwella, arweiniodd pob un o’r tri arolygiad at argymhelliad i wella cyfraddau llwyddo a chwblhau amserol dysgwyr mewn meysydd dysgu sy’n tanberfformio.

Ym mhob un o’r tri darparwr, canfu arolygwyr fod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cryf yn eu rolau gwaith, gan ddatblygu ystod eang o fedrau galwedigaethol penodol. Roedd dysgwyr hefyd yn datblygu medrau gwaith ehangach gwerthfawr dros ben, gan gynnwys cyfathrebu’n effeithiol ag uwch gydweithwyr, cyfoedion a chwsmeriaid. O ganlyniad, roedd prentisiaid yn gallu gwneud cyfraniadau cryf i fusnesau eu cyflogwyr ac yn cydnabod manteision y gwelliannau hyn yn eu medrau. Mewn ychydig o achosion, roedd cyflogwyr yn anfodlon rhyddhau dysgwyr i fynychu sesiynau i ffwrdd o’r gwaith neu sesiynau ar-lein, yn enwedig gweithgareddau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Roedd gan fwyafrif yr athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr, gan eu hannog a’u cefnogi i gwblhau asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Yn yr achosion hyn, roeddent yn cynllunio gweithgareddau’n ystyriol, a oedd yn adeiladu’n dda ar ddysgu ac asesu blaenorol. Roeddent yn cefnogi dysgwyr mewn ffordd unigol, gan ymweld â gweithle’r dysgwr yn aml i gynnal asesiadau a chynnig cymorth personol wedi’i deilwra i anghenion dysgwyr unigol. Roedd aseswyr yn monitro cynnydd dysgwyr yn rheolaidd, yn diweddaru dogfennau olrhain cynnydd dysgwyr ac, yn yr achosion gorau, yn pennu targedau cytûn a heriol ar gyfer cwblhau gwaith ysgrifenedig neu asesiadau ymarferol. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymwybodol o’r cynnydd roeddent yn ei wneud a’r hyn roedd angen iddynt ei wneud nesaf, er nad oedd y mwyafrif ohonynt yn ymwybodol o’u targedau ar gyfer eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol. Roedd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn rhoi adborth ysgrifenedig defnyddiol i ddysgwyr a oedd, yn yr achosion gorau, yn adeiladol ac yn fanwl ac yn helpu dysgwyr i wella eu perfformiad. Yn yr achosion gorau, roedd darparwyr wedi datblygu a defnyddio ystod gynhwysfawr o adnoddau addysgu a dysgu yn dda i gefnogi cynnydd, er enghraifft, gweler astudiaeth achos am Educ8 yn datblygu amgylchedd dysgu rhithwir cynhwysfawr.

Mewn sesiynau yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith, fel ei gilydd, roedd llawer o ddysgwyr yn dangos medrau gwrando effeithiol. Roeddent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau’n frwdfrydig, yn enwedig sesiynau ymarferol. Roedd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn defnyddio technegau holi buddiol yn y rhan fwyaf o sesiynau. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, ni ddefnyddiwyd holi’n ddigon da i wirio gwybodaeth dysgwyr na phrocio uwch ddealltwriaeth. Nid oedd tiwtoriaid ac aseswyr yn cynnwys dysgwyr yn llwyddiannus mewn gweithgareddau i ddatblygu eu dealltwriaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth yn ddigon da.

Roedd llawer o ddarparwyr ac isgontractwyr wedi dechrau datblygu ystod o adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog ac wedi gwneud cynnydd o ran cydnabod a chynyddu gallu eu haelodau staff i gyflwyno’n ddwyieithog. Fodd bynnag, roedd nifer y dysgwyr a oedd yn dewis cwblhau agweddau ysgrifenedig ar eu gwaith yn y Gymraeg yn isel o hyd. Roedd dysgwyr â lefelau uchel o ruglder yn sgwrsio yn Gymraeg ag unrhyw aseswyr neu diwtoriaid Cymraeg eu hiaith a oedd ar gael iddynt o’u gwirfodd.

Person ifanc yn helpu person mewn oed

Gofal, cymorth a lles

Cryfhawyd y gofal, cymorth a lles sydd ar gael i ddysgwyr prentisiaethau yn sylweddol yn ystod y pandemig ac ar ei ôl. Roedd gan bob un o’r tri darparwr a arolygwyd drefniadau cadarn i nodi dysgwyr yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt. Yn aml, roedd hyn yn canolbwyntio ar les dysgwyr ac roedd y rhan fwyaf o aelodau staff wedi datblygu eu medrau i’w galluogi i roi cymorth cychwynnol ystyrlon. Roedd y cymorth personol hwn yn helpu dysgwyr a oedd mewn perygl o adael eu prentisiaethau yn effeithiol. Er bod y dysgwyr hyn yn aros ar ei hyfforddiant, at ei gilydd, roeddent yn cymryd llawer mwy o amser na’r bwriad i gwblhau eu fframweithiau prentisiaeth.

Roedd gan bob un o’r tri darparwr naill ai eu gwasanaethau cymorth mewnol eu hunain neu roeddent yn gallu manteisio ar asiantaethau cymorth allanol i roi cymorth arbenigol i ddysgwyr unigol pan nodwyd angen. Roedd y gwasanaethau hyn yn cynnwys cymorth â materion personol, ariannol a lles. Un o gryfderau penodol y darparwyr oedd y cymorth personol roedd aseswyr, fel y man cyswllt cyntaf, yn ei roi i ddysgwyr. Roedd y cydymddiriedaeth a’r cyd-barch a ddatblygwyd fel rhan o’r berthynas gynhyrchiol rhwng dysgwyr ac aseswyr yn golygu y gallai aseswyr helpu dysgwyr ag ystod eang o anghenion lles mewn modd sensitif. Yn y pen draw, roedd hyn yn cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd yn eu hastudiaethau galwedigaethol a’u rolau gwaith. Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am ei dysgu, gyda’r mwyafrif ohonynt yn bwriadu symud ymlaen i’r lefel nesaf. Roedd y dysgwyr hyn yn rhagori yn eu gweithleoedd ac yn dod yn aelodau cynhyrchiol a gwerthfawr o staff eu cyflogwyr yn gyflym.

Canfu arolygwyr fod y tri darparwr a arolygwyd wedi cryfhau eu prosesau i nodi anghenion cymorth dysgwyr mewn modd amserol ac, o ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn manteisio ar y cymorth roedd ei angen arnynt yn gyflym. Roedd hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y dysgwyr a oedd yn datgan bod ganddynt angen dysgu ychwanegol. Yn sgil y pandemig, roedd y darparwyr wedi nodi tuedd gynyddol yn nifer y dysgwyr yr oedd angen cymorth arnynt â materion yn ymwneud â hyder a gorbryder. Roedd yr angen hwn yn arbennig o ddifrifol yn ystod cyfnodau arholiadau allanol ac asesiadau pwysig eraill. Roedd hefyd yn nodedig bod cyfran y dysgwyr lefel 3 a oedd yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu yn rhagweithiol yn is na’r arfer cyn y pandemig. Roedd y dysgwyr hyn yn fwy tebygol o fod angen sicrwydd a chefnogaeth wrth gasglu tystiolaeth asesu, cwblhau gwaith ysgrifenedig neu baratoi ar gyfer asesiadau allanol nag yn y gorffennol.

Canfu arolygwyr fod darparwyr yn cefnogi eu haelodau staff yn dda, gan eu galluogi i ddatblygu eu medrau a’u galluoedd eu hunain o ran cefnogi dysgwyr. Defnyddiwyd hyfforddiant arbenigol i wella’r gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr. Yn gynyddol, roedd darparwyr yn ehangu’r ystod o gymorth oedd ar gael i brentisiaid. Fel rhan o’r arolygiad o Grŵp Llandrillo Menai, gofynnwyd i’r darparwr lunio astudiaeth achos ar y cymorth cofleidiol effeithiol a’r mynediad cyfartal i ddysgwyr ar draws y grŵp. Roedd prentisiaid yn gallu manteisio ar gymorth a chyfleusterau ar draws safleoedd gwahanol, fel canolfannau adnoddau dysgu, campfeydd a chyfleusterau cwnsela.

Roedd gan bob un o’r tri darparwr drefniadau a hyfforddiant addas ar waith i ddiogelu eu dysgwyr ac roedd staff ar bob lefel yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau perthnasol. Roedd gan ddysgwyr ddealltwriaeth briodol o ddiogelu ac roeddent yn gwybod pwy i’w hysbysu am ddigwyddiadau yn y gweithle ac â’r darparwr. Fodd bynnag, nid oedd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn cynnwys dysgwyr mewn gweithgareddau i ddatblygu eu dealltwriaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth yn ddigon da.

Myfyriwr yn ymarfer i fod yn filfeddyg

Arwain a gwella

Roedd arweinwyr y tri darparwr a arolygwyd yn cefnogi meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol â phartneriaid, isgontractwyr a chyflogwyr lleol. Roedd eu cynllunio strategol yn cyd-fynd yn dda â thargedau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Ategwyd gwaith partneriaeth cryf a sefydledig gan gyfathrebu clir a rheolaidd rhwng rheolwyr ac aelodau staff ar bob lefel. Rhannodd partneriaid ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol yn ymwneud â chyflwyno eu contractau prentisiaeth. Yn yr achosion gorau, rhannwyd data pennawd ar gynnydd a deilliannau dysgwyr yn agored â phartneriaid ac isgontractwyr. Hwylusodd hyn y gwaith o werthuso perfformiad ar draws pob darparwr yn y bartneriaeth. Yn yr achosion hyn, roedd arfer effeithiol yn cael ei chydnabod a’i rhannu. Roedd pob un o’r tri darparwr a arolygwyd yn rhoi gwerth uchel ar ddysgu proffesiynol i’w haelodau staff. Yn yr achosion gorau, roedd hyn yn cael ei rannu â phartneriaid ac isgontractwyr ac roedd wedi arwain at staff yn cael eu cefnogi’n dda i wella eu dulliau cyflwyno ac asesu. Yn arolygiad Grŵp Llandrillo Menai, nodwyd astudiaeth achos a oedd yn esbonio sut roedd y darparwr wedi datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol cynhwysol ar gyfer aelodau staff ei hun a staff ei isgontractwyr.

Roedd gan bob un o’r darparwr drefniadau cynhwysfawr ar waith i hunanwerthuso ac adrodd ar ansawdd eu gwaith. Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn dychwelyd i’r ystod lawn o weithgareddau gwerthuso cyn y pandemig, gan gynnwys arsylwi addysgu, hyfforddiant ac asesu ar draws eu darpariaeth. Fodd bynnag, nid oedd cynlluniau gwella a thargedau yn canolbwyntio’n ddigon craff ar feysydd allweddol i’w gwella bob tro, fel cynorthwyo dysgwyr oedd wedi mynd y tu hwnt i’r dyddiad cwblhau disgwyliedig ar gyfer eu prentisiaeth.

Yn rhannol oherwydd y pandemig, roedd recriwtio aseswyr cymwysedig a phrofiadol wedi dod yn fwy heriol i ddarparwyr prentisiaethau. Er mwyn lleddfu’r pwysau hyn, defnyddiodd darparwyr strategaethau amrywiol yn briodol, gan gynnwys gwella amodau gwasanaeth a recriwtio arbenigwyr galwedigaethol profiadol cyn eu hyfforddi a’u cefnogi i ddod yn aseswyr cymwysedig. Roedd heriau ledled y DU yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i roi pwysau mawr ar ddarparwyr. Roedd recriwtio a chadw dysgwyr a chyfraddau cwblhau fframweithiau prentisiaeth yn bryderon allweddol i’r sector. Er syndod, ar draws rhwydwaith y darparwyr prentisiaethau, roedd cofrestru dysgwyr adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig yn is na’r targed o hyd. Roedd hyn ar adeg pan roedd y sector yn fywiog a’r angen am brentisiaid yn uchel ar draws pob un o’r crefftau. Ar draws mwyafrif y meysydd dysgu eraill, roedd darparwyr yn denu niferoedd digonol o ddysgwyr i fodloni’r galw. Roedd gan y rhan fwyaf o ddarparwyr berthynas waith gref â chyflogwyr, yr oeddent yn aml wedi gweithio â nhw ers blynyddoedd lawer. Mae astudiaeth achos Academi Sgiliau Cymru yn disgrifio ffocws cryf y darparwr ar ragweld datblygiadau yn y farchnad lafur ac ymgysylltiad cynnar rhagweithiol i fodloni anghenion gweithlu prosiectau rhanbarthol.

Fodd bynnag, ar draws y rhanbarthau, roedd nifer sylweddol o gyflogwyr o hyd nad oeddent yn manteisio ar gyfleoedd i gael cyflogeion prentis. At ei gilydd, roedd angen i ddarparwyr hyfforddiant wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o fanteision prentisiaethau ac ymgysylltu â’r cyflogwyr hyn.

Roedd y newidiadau yng Nghymru i gymwysterau yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant ac adeiladu a’r amgylchedd adeiledig wedi rhoi pwysau cynyddol ar recriwtio dysgwyr. Yn gyffredinol, mae’r cymwysterau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr barhau i gofrestru ar raglen am gyfnod hwy nag y byddant dan y trefniadau blaenorol. Yn ogystal, rhaid cwblhau gwaith ymarferol a theori ar lefel uwch. Roedd pryderon ynghylch yr argyfwng costau byw a chyfraddau talu prentisiaid yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at yr heriau recriwtio, hefyd. Adroddodd darparwyr fod darpar brentisiaid yn dewis swyddi a oedd yn cynnig cyfraddau talu uwch i ddechrau, ond nad oeddent yn cynnig hyfforddiant ffurfiol neu ragolygon gyrfa gwell yn y tymor hir.