Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Twf Swyddi Cymru+ (rhaglen cyflogadwyedd)

2022-2023

Darparwyr

5

Darparwr dysgu yn y gwaith yn gweithredu ar draws 4 partneriaeth ranbarthol


Dysgwyr

5,330

Nifer o ddysgwyr




Mae’r ddarpariaeth hon, a gyflwynwyd yn ddiweddar gyda’r nod o helpu pobl ifanc 16 i 19 oed i ddod o hyd i gyflogaeth neu gymryd rhan mewn hyfforddiant, wedi’i sefydlu ar y cyd ledled Cymru. Er bod sesiynau mewn canolfannau yn gryf, ar y cyfan, nid oedd dysgwyr yn elwa’n ddigonol ar brofiad gwaith go iawn fel rhan o’u rhaglenni ac roedd y niferoedd a gofrestrodd ar y rhaglenni hyn yn isel o hyd.


Canfyddiadau a negeseuon allweddol o’n hadolygiad o Twf Swyddi Cymru+

Roedd darparwyr yn cyflwyno rhaglenni’n dda a thiwtoriaid yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau addysgu a dysgu o ansawdd da yn fedrus. Roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn manteisio ar gymorth personol cryf gan eu tiwtoriaid ac, mewn llawer o achosion, roedd hyn yn eu helpu i barhau ar eu rhaglenni a gwneud cynnydd tuag at eu nodau. Fodd bynnag, nid oedd cyfranogwyr yn manteisio ar gyfleoedd profiad gwaith ystyrlon, hyd yn oed pan roedd hynny’n briodol.

Canfu arolygwyr fod angen i ddarparwyr ystyried sut gallent ymgysylltu’n well â chyflogwyr ar draws eu rhanbarthau a’u cefnogi, gyda’r bwriad o gynyddu cyfleoedd i gyfranogwyr. Yn y dyfodol, dylai darparwyr ddatblygu eu cysylltiadau â chymunedau lleol ymhellach i ymgysylltu â grwpiau addas o gyfranogwyr a chyflogwyr posibl sydd ag ymgysylltiad cyfyngedig neu ddim ymgysylltiad o gwbl â’r rhaglen.

Ar draws darpariaeth Twf Swyddi Cymru+, roedd nifer y cyfranogwyr yn is na’r disgwyl. Nid oedd recriwtio trwy Cymru’n Gweithio wedi arwain at y niferoedd disgwyliedig ac, o ganlyniad, roedd darparwyr wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb o recriwtio’n uniongyrchol er mwyn sicrhau hyfywedd y rhaglen.

Mae angen i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol wneud mwy i gasglu a rhannu gwybodaeth amserol yn ymwneud â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Dylai’r data hwn gynnwys targedau cofrestru rhaglenni, ffigurau cofrestru gwirioneddol a deilliannau cyfranogwyr.