Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Twf Swyddi Cymru+ (rhaglen cyflogadwyedd ieuenctid)

2022-2023


Crynodeb sector

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae darparwyr yn cynllunio rhaglenni’n dda, gan ystyried y rhwystrau y mae llawer o gyfranogwyr yn eu hwynebu.
  • Mae tiwtoriaid yn gyfarwydd â’r carfannau ac yn cyflwyno addysgu a dysgu’n fedrus i gynyddu ymgysylltiad.
  • Mae darparwyr yn meithrin cysylltiadau effeithiol â phartneriaid allanol i sicrhau bod cymorth yn gadarn, cynhwysfawr ac wedi’i deilwra i ofynion penodol y cyfranogwyr.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae angen i ddarparwyr ddatblygu cyfleoedd profiad gwaith mwy ystyrlon i gyfranogwyr.
  • Mae angen i ddarparwyr archwilio ffyrdd y gallant feithrin cysylltiadau â chymunedau ac unigolion nad ydynt yn ymgysylltu.
  • Mae angen i ddarparwyr fabwysiadu ymagwedd fwy rhanbarthol at gynllunio, cyflwyno a rhannu gwybodaeth ac arfer dda.

Trosolwg o argymhellion o ymweliadau monitro

Ymwelsom â’r bedair partneriaeth rhanbarthol yn ystod 2022-2023 a gwnaethom yr argymhellion canlynol i ddarparwyr ledled Cymru:

  • Parhau i archwilio sut i ymgysylltu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy anghysbell.
  • Datblygu ymhellach gysylltiadau â chymunedau penodol sydd ag ymgysylltiad cyfyngedig iawn neu nad ydynt yn ymgysylltu â’r rhaglen o gwbl.
  • Ystyried sut gallant ymgysylltu’n well â chyflogwyr ar draws y rhanbarth a’u cefnogi, gyda’r bwriad o gynyddu cyfleoedd i gyfranogwyr.
  • Mabwysiadu ymagwedd fwy rhanbarthol at gynllunio, cyflwyno a rhannu gwybodaeth ac arfer dda ym mhob rhanbarth.

Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu darparwyr i nodi ac ymgysylltu â darpar gyfranogwyr:

  • Pa wybodaeth sydd gennych i awgrymu bod unigolion a chymunedau sy’n addas ar gyfer y rhaglen hon ond nad ydynt yn manteisio arni?
  • Pa strategaethau sydd ar waith i godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen a chysylltu â chyfranogwyr neu gymunedau?
  • Sut gallech chi ddatblygu’r strategaethau hyn ymhellach i sicrhau mwy o gyrhaeddiad gan arwain at fwy o ymrestriadau?
  • Pa mor dda ydych chi’n cydweithio â phartneriaid i sicrhau ymagwedd gydlynus a chydweithredol at recriwtio cyfranogwyr? A oes unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt yn cydweithio â nhw a all gynorthwyo â recriwtio?
  • A oes unrhyw heriau sy’n benodol i’ch ardal neu ranbarth? Os felly, sut ydych yn mynd i’r afael â nhw? A oes unrhyw beth pellach y gallech ei wneud i ymateb i heriau rhanbarthol?
  • A ydych chi’n gallu manteisio ar ddata a gwybodaeth ddibynadwy am ddarpar gyfranogwyr? Os na, beth allwch chi ei wneud i sicrhau eich bod yn gallu manteisio’n well ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch?
  • Sut ydych chi’n sicrhau eich bod yn rhannu llwyddiannau a heriau recriwtio â darparwyr eraill ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol, lle bo hynny’n briodol?