Mynd i'r cynnwys

Crynodeb sector

Prentisiaethau dysgu yn y gwaith

2022-2023


Addysgu a dysgu

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae bron bob dysgwr yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am eu rhaglenni.
  • Gwna’r rhan fwyaf o ddysgwyr gynnydd cadarn. Maent yn datblygu eu medrau ymarferol a’u gwybodaeth ddamcaniaethol ac maent yn aelodau gwerthfawr o weithlu eu cyflogwr.
  • Mae athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn defnyddio ystod eang o ddulliau cyflwyno ac asesu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith.
  • Mae’r rhan fwyaf o aseswyr yn cynllunio asesiadau a sesiynau i ffwrdd o’r gwaith yn dda.
  • Mae aseswyr yn defnyddio strategaethau gwahanol yn hyblyg i ennyn diddordeb dysgwyr ac yn cynnal ymweliadau a gweithleoedd, yn ôl y gofyn.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae deilliannau dysgwyr, gan gynnwys cyfraddau cyflawni amserol, yn enwedig mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn rhy isel.
  • Ychydig iawn o ddysgwyr sy’n ymgymryd ag unrhyw waith ysgrifenedig yn y Gymraeg.
  • Mae ychydig o gyflogwyr yn amharod i ryddhau dysgwyr i fynychu sesiynau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein i ffwrdd o’r gwaith, yn enwedig gweithgareddau Sgiliau Hanfodol Cymru.
  • At ei gilydd, nid yw tiwtoriaid ac aseswyr yn cynnwys dysgwyr yn llwyddiannus mewn gweithgareddau i ddatblygu eu dealltwriaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth yn ddigon da.

Gofal, cymorth a lles

Beth sy'n mynd yn dda

  • Mae gan bob un o’r tri darparwr a arolygwyd ffocws cryf ar gefnogi lles dysgwyr ac maent wedi datblygu rhwydwaith cynhwysfawr o gymorth arbenigol.
  • Mae aseswyr a thiwtoriaid yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac mae llawer ohonynt yn rhoi lefelau cryf o gymorth personol.
  • Mae pob un o’r tri darparwr wedi cryfhau eu trefniadau i gydnabod a chefnogi anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr.
  • Mae trefniadau ar gyfer nodi problemau yn ymwneud â gorbryder ymhlith dysgwyr yn effeithiol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw lleiafrif o ddysgwyr lefel 3 yn dwyn perchenogaeth dros eu rhaglenni ac maent yn dibynnu gormod ar gymorth gan aseswyr.

Arwain a gwella

Beth sy'n mynd yn dda

  • Ar draws y tri darparwr a arolygwyd, mae gweithio mewn partneriaeth rhwng darparwyr arweiniol, partneriaid ac isgontractwyr yn gryf.
  • Mae uwch reolwyr yn ystyried blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn dda.
  • Mae gan bob un o’r tri darparwr ffocws clir ar ddysgu proffesiynol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae darparwyr yn dibynnu gormod ar eu rhwydwaith sefydledig o gyflogwyr. Nid ydynt yn ymgysylltu’n ddigon da â chyflogwyr nad ydynt wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant prentisiaeth o’r blaen.
  • Mae nifer y prentisiaid sy’n cael eu recriwtio, yn enwedig mewn sectorau allweddol fel iechyd a gofal cymdeithasol, yn rhy isel. Mae gostyngiad mewn recriwtio prentisiaid ledled Cymru yn her sy’n wynebu’r sector.

Trosolwg o argymhellion o arolygiadau

3

Arolygwyd tri darparwr prentisiaethau yn 2022-2023.

  • Arweiniodd pob un o’r tri arolygiad at argymhelliad i’r darparwyr wella cyfraddau llwyddo a chyfraddau cwblhau amserol dysgwyr mewn rhaglenni a meysydd dysgu sy’n tanberfformio.
  • Ar draws y tri arolygiad, rhoddwyd argymhellion i sicrhau bod pob tiwtor ac aseswr yn cefnogi dysgwyr yn effeithiol â’r agweddau ehangach ar eu datblygiad, gan gynnwys medrau llythrennedd a rhifedd, eu gallu o ran y Gymraeg a’u dealltwriaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth.

Cwestiynau myfyriol

Cwestiynau i helpu i lywio prosesau cynllunio gwelliant darparwyr:

  • Pa mor glir yw nodau ac amcanion unrhyw gynlluniau sy’n ymwneud â mentrau gwella allweddol?
  • I ba raddau y mae cynlluniau prosiectau’n pennu amcanion penodol sydd â mesurau effaith priodol, ynghyd ag amserlenni clir ac arweinwyr dynodedig?
  • Pa mor effeithiol y mae’r darparwr yn dyrannu adnoddau, gan gynnwys amser aelodau staff, i sicrhau llwyddiant ei waith gwella?
  • Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn monitro cynnydd yn erbyn eu cynlluniau gwella ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i nodi camau gweithredu sydd angen sylw pellach?
  • Pa mor effeithiol y mae gwerthusiadau cyffredinol yn nodi’r gwersi allweddol sy’n cael eu dysgu pan gaiff prosiectau eu cwblhau?
  • Sut caiff gwersi sy’n cael eu dysgu eu defnyddio i fod o fudd wrth gynllunio prosiectau neu fentrau yn y dyfodol?
  • Pa mor dda y mae’r darparwr yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i lywio ei waith gwerthuso a gwella?
  • I ba raddau y mae’r ystod lawn o randdeiliaid yn cyfrannu at werthuso effaith mentrau gwella allweddol?

Arfer effeithiol

I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023