Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Dysgu oedolion yn y gymuned

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Darparwyr

13

Partneriaethau rhanbarthol ynghyd ag Addysg Oedolion Cymru sy'n gweithredu'n genedlaethol


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 3

Cyfrwng Cymraeg: 0

Cyfrwng Saesneg: 3

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 3

Gweithgarwch dilynol

Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022: 1

Nifer a dynnwyd allan 2022-23: 1

Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023: 1

Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023: 1



Mae effaith negyddol pandemig COVID-19 ar nifer yr unigolion sy’n cymryd rhan mewn dysgu oedolion yn amlwg o hyd. Serch hynny, mae bron pawb sy’n ymgymryd â dysgu oedolion yn ymgysylltu’n frwdfrydig â’r ddarpariaeth, gan arwain at fanteision clir o ran eu lles, yn ogystal â’u gwybodaeth a medrau. Yn gyffredinol, mae partneriaethau dysgu oedolion yn gwasanaethu eu dysgwyr a’u cymunedau’n dda. Fodd bynnag, mae olrhain cynnydd a chyrchfannau dysgwyr gan arweinwyr yn rhy anghyson ac mae angen gwneud mwy i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Oedolyn y dysgu yn y dosbarth gydag athrawes

Addysgu a dysgu

Darparodd partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned ar gyfer nifer gynyddol o ddysgwyr yn ystod 2021-2022. Roedd hyn yn dilyn tuedd gostyngol hirdymor yn nifer yr oedolion a oedd yn dysgu ar raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ragflaenodd ostyngiadau sydyn yn 2019-2020 a 2020-2021 oherwydd pandemig COVID-19. Roedd y cynnydd yn 2021-2022 yn arbennig o amlwg mewn rhaglenni Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE), yn rhannol oherwydd cofrestriad dysgwyr a oedd yn dod i Gymru o Wcráin a Syria. Yn ogystal â datblygu eu medrau Saesneg, roedd darpariaeth SSIE yn helpu’r dysgwyr hyn i addasu i’w hamgylchoedd a’u diwylliant newydd. Roedd dysgwyr ar raglenni SSIE+ yn elwa ar ddarpariaeth a oedd yn cyfuno dysgu Saesneg â hyfforddiant galwedigaethol a luniwyd i’w cynorthwyo i ddod o hyd i gyflogaeth. Er bod darpariaeth ar draws meysydd rhaglen yn cael ei chyflwyno wyneb-yn-wyneb yn fwyfwy ar ôl yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig, roedd dysgwyr hefyd yn gwerthfawrogi dewisiadau dysgu ar-lein lle’r oeddent ar gael.

Yn ystod yr arolygiadau yn 2022-2023, roedd tiwtoriaid ar draws y meysydd pwnc yn addysgu’n effeithiol, ar y cyfan. Roedd ganddynt wybodaeth bynciol gref ac roeddent yn adnabod eu dysgwyr yn dda. Yn ogystal â gwella medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgwyr, yn yr achosion gorau, roedd cyrsiau a addysgwyd yn dda yn darparu medrau creadigol ac entrepreneuraidd i ddysgwyr i’w helpu i ddod o hyd i gyflogaeth neu sefydlu eu busnesau eu hunain.

Canfu arolygwyr fod partneriaethau dysgu oedolion yn cynnig darpariaeth a oedd yn cyd-fynd yn briodol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Lle’r oedd partneriaethau’n cynnig cyrsiau o ddiddordeb personol, er enghraifft mewn crefftau, iaith arwyddo ac ieithoedd tramor modern, roedd hyn yn helpu i fod o fudd o les meddyliol, emosiynol a chorfforol dysgwyr, yn ogystal â’u galluogi i ennill gwybodaeth a medrau newydd. Fodd bynnag, roedd ychydig iawn o gyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg eu hiaith ymgymryd â chyrsiau llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol neu ddiddordeb personol trwy gyfrwng y Gymraeg.

At ei gilydd, nid oedd partneriaethau’n olrhain ac yn monitro cynnydd dysgwyr yn ddigon da. Roedd olrhain cynnydd dysgwyr yn ystod eu cyrsiau, eu cynnydd i gyrsiau eraill a’u camau nesaf yn allanol wrth iddynt adael y ddarpariaeth yn anghyson ac yn aneffeithlon, yn gyffredinol.


Gofal, cymorth a lles

Canfu arolygwyr fod darparwyr partneriaethau’n llwyddo i greu amgylcheddau diogel a gofalgar a oedd yn cefnogi datblygiad addysgol a phersonol dysgwyr. Roeddent yn darparu’n dda ar gyfer anghenion unigol eu dysgwyr ac yn cynnig cymorth ychwanegol defnyddiol, yn ôl y gofyn.

Roedd partneriaethau’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn amlygu pwysigrwydd y cysyniadau hyn yn y gymdeithas yng Nghymru yn llwyddiannus. Roedd darparwyr yn canolbwyntio hefyd ar hyrwyddo dewisiadau iach o ran ffordd o fyw. Mae astudiaeth achos arfer effeithiol partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned Caerdydd a’r Fro yn darparu enghraifft o weithio mewn partneriaeth i helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth dysgwyr SSIE o symptomau canser a sut i fanteisio ar ofal iechyd. Cynorthwyodd partneriaethau y nifer uwch na’r arfer o ddysgwyr a oedd yn profi gorbryder, sef mater a oedd wedi dod yn fwy cyffredin ar ôl y pandemig.

Roedd bron pob un o’r dysgwyr yn dangos lefelau uchel o gymhelliant ac ymrwymiad i’w dysgu. Roeddent yn cyfrannu’n frwdfrydig i sesiynau ac yn mwynhau eu profiadau dysgu. At ei gilydd, roedd partneriaethau’n cynnig cyfleoedd ystyrlon i farnau dysgwyr gael eu clywed ac iddynt ddylanwadu ar ddarpariaeth ac arfer.


Arwain a gwella

Mae strwythurau arweinyddiaeth a rheolaeth y partneriaethau gwahanol yn amrywio ar draws y sector, gan adlewyrchu anghenion a natur wahanol yr ardaloedd daearyddol maent yn eu gwasanaethu. Roedd dwy o’r tair partneriaeth yn cyfleu gweledigaeth glir ac ethos cytûn. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd partneriaethau’n alinio eu gwaith a’u hadnoddau’n effeithiol yn unol â’u gweledigaeth a’u hethos. I weld enghreifftiau o hyn, gweler astudiaethau achos arfer effeithiol Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a’r Fro ar trawsnewid ei phartneriaeth a’i hacademïau sgiliau sector blaenoriaethol.

Yn gyffredinol, roedd partneriaethau’n deall anghenion eu cymunedau amrywiol a’u dysgwyr yn dda. Roeddent yn darparu ar gyfer y rhain yn briodol, ochr yn ochr â’u gwaith i fodloni blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Er enghraifft, roedd darparwyr yn cydweithio’n effeithiol â’i gilydd i sicrhau y cynhaliwyd dosbarthiadau rhifedd a Saesneg ar draws ystod eang o leoliadau cyfleus a hygyrch yn eu cymunedau lleol. Fodd bynnag, mewn un bartneriaeth, nid oedd prosesau i graffu ar ansawdd darpariaeth a’i wella, yn ogystal â deilliannau dysgwyr, yn ddigon cryf.


Cyfeiriadau

Addysg Oedolion Cymru (2022) Report and Financial Statements: Year ended 31st July 2022. Caerdydd: Addysg Oedolion CymruAdult Learning Wales. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.adultlearning.wales/userfiles/files/Public_Documents/Report_and_Financial_statements_to_31_July_2022_English.pdf [Cyrchwyd 17 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2021) Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion: Awst 2019 i Orffennaf 2020. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/addysg-bellach-dysgu-seiliedig-ar-waith-dysgu-oedolion-awst-2019-i-orffennaf-2020 [Cyrchwyd 17 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2022) Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2020 i Orffennaf 2021. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/addysg-bellach-dysgu-seiliedig-ar-waith-dysgu-cymunedol-awst-2020-i-orffennaf-2021 [Cyrchwyd 17 Tachwedd 2023]