Adolygiad o ddatblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Adolygiad o ddatblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Ym mis Medi 2024, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar ddatblygiad medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14oed. Ysgrifennwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn llythyr cylch gwaith blynyddol Estyn 2023 i 2024 fel y’i diweddarwyd ym mis Hydref 2023. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar fedrau darllen Saesneg disgyblion 10-14 oed gan Estyn yn Mai 2023, fe aethom ati i lunio adroddiad ar sut mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm.
Mae ein hadroddiad yn defnyddio canfyddiadau o ymweliadau ag ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn ogystal ag ychydig o unedau trochi. Cynhaliom gyfarfodydd gydag uwch arweinwyr, cydlynwyr llythrennedd, athrawon a disgyblion. Cynhaliom deithiau dysgu, edrychom ar waith disgyblion ac unrhyw ddogfennau oedd gan yr ysgol ar ddatblygu medrau darllen ac ar drefniadau pontio. Yn ogystal, cynhaliom arolwg disgyblion yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin 2023 a dosbarthwyd holiadur i’r ysgolion hynny o fewn y sampl. Gwnaethom hefyd dynnu ar dystiolaeth o arolygiadau cynradd, uwchradd a phob oed o ysgolion y tu allan i’r sampl yn ystod 2023-24.
Ein hargymhellion
Dylai arweinwyr mewn ysgolion ystyried:
- Cryfhau’r cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu amrywiaeth o fedrau darllen, gan gynnwys uwch-fedrau darllen, mewn pynciau ar draws y cwricwlwm yn ogystal â’r Gymraeg
- Defnyddio ystod eang o wybodaeth o amrywiaeth o weithgareddau hunanwerthuso i fonitro a gwerthuso medrau darllen disgyblion er mwyn adnabod yn glir pa agweddau o ddarllen sydd angen eu gwella neu’u cryfhau
- Cynllunio’n strategol a strwythuro cyfleoedd i gynyddu awydd, dygnwch a hyder disgyblion pan yn darllen yn y Gymraeg
Dylai awdurdodau lleol ystyried:
- Hwyluso trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd a goresgyn unrhyw rwystrau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cydweithio’n fuddiol i ddatblygu medrau darllen disgyblion
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried:
- Creu cyfleoedd i awduron Cymraeg ymgysylltu ag ysgolion a siarad â disgyblion am y math o lyfrau yr hoffent eu darllen yn y Gymraeg
- Gweithio gyda phartneriaid fel ‘Adnodd’ i wella a chynyddu’r adnoddau darllen cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gan gynnwys llyfrau ffeithiol
Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?
Mae ein hadroddiad ar fedrau darllen Cymraeg yn amlinellu nifer o gryfderau a’r meysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw i sicrhau gwelliannau. Yn ychwanegol i’r enghreifftiau o arfer dda yn yr ysgolion, rydym wedi cynnwys canllawiau penodol er mwyn helpu ysgolion i gryfhau eu harferion wrth ddatblygu medrau darllen disgyblion.
Mae’r bennod gyntaf, ‘Safonau ac agweddau disgyblion’ yn canolbwyntio ar ddatblygiad medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm ac agweddau disgyblion tuag at ddarllen. Y prif ganfyddiadau yma oedd bod bron pob disgybl yn deall pwysigrwydd darllen i gefnogi eu dysgu a’u cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae effaith negyddol y pandemig yn parhau yn glir ar safonau darllen Cymraeg a hyder disgyblion yn gyffredinol.
Mae’r ail bennod sy’n ddwy ran, yn ystyried yr arlwy sy’n cael ei gynnig gan ysgolion i gryfhau medrau darllen disgyblion yn ogystal â nodi sut mae arweinwyr yn blaenoriaethu darllen yn eu hysgolion. Fe nodom bod:
- llawer o bobl ifanc 10 i 14 oed yn defnyddio medrau darllen sylfaenol yn llwyddiannus i ganfod prif negeseuon a gwybodaeth allweddol
- y cyfleoedd mwyaf buddiol i ddatblygu medrau darllen i’w gweld mewn gwersi Cymraeg neu sesiynau iaith ac o fewn pynciau’r dyniaethau
- arweinwyr ym mron pob ysgol yr ymwelwyd â nhw yn cydnabod pwysigrwydd blaenoriaethu datblygiad medrau darllen disgyblion
- unedau trochi a’r canolfannau iaith yn gwneud gwaith effeithiol yn datblygu medrau Cymraeg disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr
Gwelwyd fod angen gwelliannau yn y meysydd canlynol:
- cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion ddatblygu’u huwch-fedrau darllen ar draws y cwricwlwm
- y gwaith o gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn y mwyafrif o ysgolion uwchradd
- defnydd rhai arweinwyr o ystod digon eang o dystiolaeth i adnabod yr union agweddau o ddarllen sydd angen eu gwella a chynllunio camau gweithredu perthnasol
- cynlluniau i ddatblygu medrau darllen disgyblion o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7
Mae’r drydedd bennod, ‘Hybu diwylliant o ddarllen’ yn disgrifio’r modd y mae ysgolion effeithiol yn creu diwylliant darllen yn llwyddiannus ac yn ennyn diddordeb disgyblion yn llawn. Gwelwyd yma bod lleihad sylweddol wedi bod yn y profiadau i hybu darllen sy’n digwydd tu hwnt i’r stafell ddosbarth ers cyfnod y pandemig, yn enwedig yn y sector uwchradd.