Adolygiad o weithwyr arweiniol ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Adolygiad o weithwyr arweiniol ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar rôl y gweithiwr arweiniol ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid yng Nghymru. Ysgrifennwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn Llythyr cylch gwaith blynyddol Estyn 2023 i 2024, fel y’i diweddarwyd ym mis Hydref 2023.
Mae’r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (YEPF) wedi’i gynllunio i hwyluso unigolion ifanc i fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae pennu gweithiwr arweiniol sy’n rhoi cymorth i bobl ifanc nad ydynt yn ymgysylltu ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NACH) neu sydd mewn perygl o fod yn bobl NACH, yn ganolog i’r fframwaith hwn. Mae ein hadroddiad yn defnyddio canfyddiadau o gyfres o ymweliadau a chyfarfodydd rhithwir â rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys 11 awdurdod lleol, 9 ysgol uwchradd, 5 coleg, 5 darparwr hyfforddiant a thimau Gyrfa Cymru. Roedd ein ffocws ar werthuso effeithiolrwydd ac effaith rôl y gweithiwr arweiniol mewn cynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl trwy eu cyfnod pontio i addysg ôl-16, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Ein hargymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol a’r holl bartneriaid eraill sy’n ymwneud â chefnogi pobl ifanc trwy weithwyr arweiniol:
- Wella cymorth pontio ôl-16 trwy sicrhau parhad yng ngweithiwr arweiniol person ifanc tan 31 Ionawr ar ôl i berson ifanc symud i’w gyrchfan ôl-16, p’un a yw hyn yn yr ysgol, yn y coleg, gyda darparwr hyfforddiant, neu gyflogaeth
- Datblygu ffyrdd o fesur llwyddiant gwaith i atal pobl ifanc rhag bod yn bobl NACH, sydd wedi’u seilio ar werthusiadau tymor hirach ac nad ydynt yn gor-bwysleisio gwerth data arolwg cyrchfan gychwynnol
- Cefnogi rhannu data yn well am amgylchiadau pobl ifanc unigol i hwyluso cydweithio cryfach rhwng yr holl bartneriaid, gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant, a galluogi pobl ifanc i gael cymorth perthnasol ac amserol
- Cefnogi anghenion dysgu proffesiynol gweithwyr arweiniol ym mhob asiantaeth a rhannu arfer effeithiol wrth ddarparu cymorth gweithwyr arweiniol
- Gwella arfer yn unol ag arfer effeithiol a geir yn yr adroddiad hwn, a mynd i’r afael â’r diffygion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn
Beth mae ein hadroddiad thematig yn ei ddweud?
Ym mywyd person ifanc, y gweithiwr arweiniol yn aml oedd yr unig bresenoldeb cyson a dibynadwy. Roedd yn chwarae rôl ganolog yn darparu cymorth personoledig ar gyfer pobl ifanc o ran eu sefyllfa bresennol, ac elwa ar gyfleoedd cynnydd. Wrth addasu i heriau ar ôl y pandemig, roedd gweithwyr arweiniol yn aml yn mynd i’r afael â materion fel gorbryder cymdeithasol, iechyd meddwl, a thrafferthion ariannol. Roedd dylanwad gweithwyr arweiniol yn aml yn ymestyn y tu hwnt i’r person ifanc gan fod y cymorth yr oeddent yn ei ddarparu hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd a’r gymuned ehangach. Dyma beth rannodd rai o’r bobl ifanc gyda ni.
“Rydw i’n teimlo bod hi wir wedi’n helpu ni, ac rydym ni yn yr ysgol bob dydd. Os na fyddai gennym ni weithiwr arweiniol, fydden ni ddim yn gwneud cystal ag yr ydym ni’n gwneud nawr.”
“Roeddwn i’n gallu troi at Megan, roedd hi bob amser yn tecstio ac yn ffonio, hyd yn oed pan doeddwn i ddim yn ateb. Dydw i ddim yn gweld Megan mor aml nawr. Rydw i’n rhoi cynnig ar ‘Ysbrydoli’, a gobeithio y bydda’ i’n mynd ar leoliad ac yn cael swydd.”
“Byddwn i wedi’i chael yn anodd pe bai’r cymorth gan fy ngweithiwr arweiniol wedi dod i ben pan oeddwn i ym Mlwyddyn 10.”
“Rydym ni’n gallu siarad am unrhyw beth, a fyddai hi ddim yn barnu. Os ydw i’n ei gweld hi yn y coridor, rydym ni’n cael sgwrs.”
Dangosodd ein tystiolaeth fod amrywiad sylweddol, ond priodol yn aml, o ran rôl y gweithiwr arweiniol ledled Cymru. Dylanwadwyd ar ddulliau gan gyd-destunau lleol fel daearyddiaeth a demograffeg, yn ogystal ag asiantaethau cymorth sydd ar gael. Roedd arweinwyr a rheolwyr mewn awdurdodau lleol yn wynebu heriau yn gysylltiedig ag asesu graddfa’r angen a’r math o gymorth sydd ei angen, yn ogystal â diwallu angen. Roedd cymhlethdod yr angen a chyfraddau’r atgyfeiriadau yn cynyddu.
Roedd gweithgareddau pontio i golegau ôl-16 wedi’u strwythuro’n dda, yn nodweddiadol, ond roedd y cydweithio rhwng darparwyr ôl-16 a gweithwyr arweiniol yn aml yn ddiffygiol wedi i berson ifanc gofrestru, ac nid oedd llawer o ddarparwyr hyfforddiant yn ymwybodol o rôl y gweithiwr arweiniol a’i manteision. Roedd trosglwyddo yn y cyfnod hwn yn aml yn achosi risg gan fod pobl ifanc yn aml yn colli parhad mewn cymorth. Nid oedd unrhyw weithdrefnau systematig i sicrhau bod myfyrwyr yn cadw eu lleoedd, a phan nodwyd bod pobl ifanc mewn perygl, roedd gweithiwr arweiniol newydd yn aml yn cael ei bennu iddynt yn hytrach na’u bod yn ailgysylltu â’u gweithiwr arweiniol blaenorol.
Roedd cydweithio lleol i gefnogi rôl y gweithiwr arweiniol yn amrywio, gyda’r achosion gorau yn cynnwys cynrychiolaeth gref o asiantaethau perthnasol ar lefelau strategol a gweithredol ac arweinwyr yn ymrwymo i rannu data tryloyw. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, roedd heriau oherwydd gorbryderon ynghylch GDPR a diffyg dealltwriaeth am ba wybodaeth y gellid ac na ellid ei rhannu. Roedd cydweithio ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yn gyfyngedig, gydag ychydig iawn o enghreifftiau o rannu gwybodaeth, profiadau a dysgu proffesiynol ledled Cymru.
Roedd arweinwyr yn monitro a gwerthuso effaith gwasanaethau gweithwyr arweiniol yn defnyddio dulliau amrywiol, gan gynnwys olrhain data, arolygon lles dysgwyr, astudiaethau achos, ac adborth gan bobl ifanc a gweithwyr arweiniol. Fodd bynnag, roedd priodoli deilliannau llwyddiannus, fel lle cynaledig mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth y tu hwnt i 16 oed, i ymyriadau gweithwyr arweiniol yn unig yn heriol oherwydd nifer y gwasanaethau eraill yr oedd person ifanc yn aml yn derbyn cymorth ganddynt.
Roedd heriau o ran recriwtio a chadw gweithwyr arweiniol yn deillio o gontractau tymor byr ac anawsterau yn recriwtio gweithwyr ieuenctid â chymwysterau addas. Roedd recriwtio siaradwyr Cymraeg yn hynod heriol, gan gyfyngu ar wasanaethau cymorth yn Gymraeg. Fodd bynnag, roedd y galw am gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg yn isel, ac felly nid oedd diwallu’r angen yn achosi heriau adeg ein hymweliad.