Adolygiad o’r rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Adolygiad o’r rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru

Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024



Ym mis Mai 2024, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar y rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru. Ysgrifennwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn llythyr cylch gwaith blynyddol Estyn 2023 i 2024 fel y’i diweddarwyd ym mis Hydref 2023.

Mae ein hadroddiad yn defnyddio canfyddiadau o ymweliadau wyneb yn wyneb â phob un o’r pum coleg addysg bellach oedd yn cyflwyno rhaglenni prentisiaethau iau ar yr adeg honno. Cynhaliom grwpiau ffocws gweithdai dysgwyr gyda grwpiau o Flwyddyn 10, Blwyddyn 11 a chyn-ddysgwyr prentisiaethau iau, a buom yn siarad ag uwch arweinwyr a staff y colegau, yr ysgolion a’r awdurdodau lleol dan sylw. Cynhaliom deithiau dysgu yn y colegau i ymweld â dosbarthiadau prentisiaethau iau a’r cyfleusterau y maent yn eu defnyddio. Edrychom hefyd ar ystod o wybodaeth a ddarparwyd gan y colegau yn gysylltiedig â’u rhaglenni prentisiaethau iau.


Ein hargymhellion

Dylai ysgolion:

  1. Ddarparu cyngor ac arweiniad diduedd cynhwysfawr ac amserol i’r holl ddisgyblion a’u rhieni neu’u gofalwyr am holl opsiynau’r cwricwlwm 14-16, gan gynnwys prentisiaethau iau lle mae’r rhain ar gael
  2. Cydweithio â cholegau ac awdurdodau lleol i werthuso cyfleoedd ar gyfer datblygu neu ymestyn rhaglenni prentisiaethau iau er mwyn ehangu eu harlwy cwricwlwm er budd pennaf y dysgwyr     

Dylai colegau addysg bellach:

  1. Weithio’n agos gydag ysgolion i wneud yn siŵr fod cyfrifoldebau am drefniadau diogelu yn glir a bod asesiadau risg unigol yn cael eu cynnal ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau
  2. Rhannu a chytuno ar drefniadau amserlen gydag ysgolion partner ac awdurdodau lleol ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar ddysgwyr unigol, fel trefniadau cynllun bugeiliol

Dylai awdurdodau lleol:

  1. Egluro a chyfleu trefniadau cyllid yn y dyfodol ar gyfer prentisiaethau iau gydag ysgolion a cholegau 
  2. Cydweithio â’u holl ysgolion a cholegau lleol i werthuso’r potensial ar gyfer cyflwyno neu ymestyn darpariaeth prentisiaethau iau i ymestyn cyfleoedd dysgu addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 sy’n cael trafferth ymgysylltu â darpariaeth brif ffrwd bresennol mewn ysgolion 

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Yn sgil sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), egluro a chyhoeddi manylion am gyfrifoldeb parhaus a threfniadau parhaus ar gyfer prentisiaethau iau a’u cyllid 
  2. Adolygu gofynion penodol y cwricwlwm ar gyfer rhaglenni prentisiaethau iau fel yr amlinellir yng nghyfeiriadur rhaglenni Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cymwysterau Saesneg, mathemateg a rhifedd, i sicrhau bod nodau cymhwyster yn gweddu i anghenion a galluoedd dysgwyr unigol, ac yn adlewyrchu’r cymwysterau 14-16 cenedlaethol newydd sydd ar waith o fis Medi 2027

Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?

Mae’r colegau, yr ysgolion a’r awdurdodau lleol dan sylw wedi datblygu ystod o raglenni effeithiol sy’n cyd-fynd â chanllawiau prentisiaethau iau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i alluogi dysgwyr Blwyddyn 10 ac 11 sy’n cymryd rhan i fynychu coleg ar sail amser llawn. Mae’r trefniadau hyn wedi hen ennill eu plwyf mewn 5 o’r 12 coleg yng Nghymru ar ôl cyflwyno’r rhaglen i ddechrau yn 2017. Fodd bynnag, nid yw dysgwyr mewn llawer o ardaloedd o Gymru yn cael cyfleoedd tebyg am nad oes unrhyw drefniadau cydweithredol lleol ar waith o fewn eu hardaloedd i gefnogi cyflwyno rhaglenni prentisiaethau iau.

Rydym wedi nodi nifer o ffactorau allweddol sy’n sail i sefydlu rhaglenni prentisiaethau iau effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • cydweithio agos, gyda chyfathrebu agored ac effeithiol rhwng colegau, ysgolion ac awdurdodau lleol
  • ystod o lwybrau galwedigaethol amgen ar gyfer dysgwyr
  • hyblygrwydd i fodloni cyd-destunau lleol
  • darparu adnoddau priodol ar gyfer y rhaglenni gan ddefnyddio cyfuniad o gyllid trwy fecanweithiau cyllid awdurdodau lleol, ysgolion ac addysg bellach 

Mae ysgolion ac awdurdodau lleol fel arfer yn gweithio’n agos gyda cholegau i dargedu lleoedd prentisiaethau iau yn bennaf at ddysgwyr Blwyddyn 10 ac 11 sy’n ei chael yn anodd ymgysylltu â chwricwlwm prif ffrwd yn yr ysgol, ac mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn opsiynau galwedigaethol yn gysylltiedig â gwaith. Fodd bynnag, gwelsom nad yw argaeledd gwybodaeth o fewn ysgolion am gyfleoedd prentisiaethau iau yn ddigon cyson, a bod ychydig o ddysgwyr a rhieni / gofalwyr dim ond yn dod yn ymwybodol o’r rhaglen trwy ffrindiau neu deulu yn hytrach nag yn uniongyrchol gan eu hysgolion.

Mae trefniadau o ran cyflwyno ac amserlen yn wahanol rhwng colegau ac ar gyfer gwahanol lwybrau galwedigaethol. Er bod canllawiau’n datgan y dylai rhaglenni fod yn debyg i oriau addysgu ysgol amser llawn, yn ymarferol, roedd lleiafrif o raglenni a dysgwyr wedi’u hamserlennu am lai o oriau nag yn yr ysgol. Nid oedd cynlluniau cymorth bugeiliol unigol a allai ganiatáu hyn bob amser yn cael eu hadolygu’n ddigon effeithiol i gefnogi dychwelyd at addysg a phresenoldeb amser llawn. 

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr a arsylwom yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau prentisiaethau iau dynodedig yng nghyfleusterau galwedigaethol y colegau, fel gweithdai neu salonau, lle cynhelir dosbarthiadau ar gyfer dysgwyr hŷn, hefyd. Yn yr achosion prin iawn lle mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn rhaglenni ôl-16, canfuom nad oedd y trefniadau ar gyfer asesiadau risg diogelu unigol bob amser yn ddigon clir neu drylwyr.    

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn mwynhau’r ffocws cryf ar bynciau galwedigaethol a gweithgareddau ymarferol. Adlewyrchwyd eu hymgysylltiad gwell mewn dysgu mewn cyfraddau llwyddo uchel iawn ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn ei chael yn anodd ennill cymhwyster gradd D neu’n uwch mewn TGAU Saesneg, mathemateg neu rifedd o hyd. 

Nodom ystod o effeithiau cadarnhaol y rhaglen prentisiaethau iau, gan gynnwys:

  • lefelau gwell o ymgysylltu a phresenoldeb
  • cyfraddau llwyddo uchel iawn mewn cymwysterau galwedigaethol a gynigir 
  • adborth cadarnhaol cryf gan ddysgwyr
  • cyfraddau dilyniant cryf i addysg bellach a hyfforddiant

Y trawsnewidiad yn agweddau llawer o ddysgwyr at ddysgu, o ymddieithrio cymharol i wneud dewisiadau brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymrwymo a pharhau i ddysgu ôl-orfodol, oedd effaith gyffredinol fwyaf trawiadol y rhaglen prentisiaethau iau.