Cyfiawnder
Adroddiad sector 2023 - 2024
Carchardai i Oedolion a Sefydliadau Troseddwyr Ifanc
Nifer: 5 carchar i oedolion ac 1 sefydliad troseddwyr ifanc
Darpariaeth
Mae pob carchar a sefydliad troseddwyr ifanc yng Nghymru ar gyfer oedolion neu bobl ifanc gwrywaidd sy’n droseddwyr. Mewn llawer o garchardai yng Nghymru, caiff addysg ei darparu gan staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y carchar ei hun. Mae Novus Cambria yn darparu addysg a hyfforddiant yng Ngharchar EF y Berwyn ac mae Novus Gower yn darparu’r gwasanaethau hyn yng Ngharchar EF Parc.
Arolygiadau
Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi yn arwain arolygiadau o garchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc ledled Cymru a Lloegr. Cydweithiodd Estyn â phartneriaid eleni i arolygu Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc a Charchar EF Caerdydd. Mae adroddiadau arolygu cyhoeddedig Arolygiaeth Carchardai EF i’w gweld yma: Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid
Nifer: 17
Darpariaeth
Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n mynd i drafferth â’r gyfraith ac yn ceisio eu cefnogi i gadw draw oddi wrth droseddu. Mae cymorth addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn un agwedd ar waith y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid sy’n cael ei darparu mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill.
Arolygiadau
Mae Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi yn goruchwylio arolygiadau o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rhan fwyaf o arolygiadau yn arolygiadau unigol sy’n cael eu cynnal gan Arolygiaeth Prawf EF. Cynhaliodd Arolygiaeth Prawf EF chwe arolygiad unigol o’r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir y Fflint a Chasnewydd. Lle mae maint y gwasanaeth a ffactorau eraill yn cyfiawnhau, mae Estyn yn cymryd rhan mewn arolygiadau ar y cyd o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Eleni, cynhaliwyd un arolygiad ar y cyd yng Nghymru o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid cyfunol Conwy a Sir Ddinbych. Mae adroddiadau arolygu cyhoeddedig Arolygiaeth Prawf EF i’w gweld yma: Arolygiaeth Prawf EF
Cartrefi Plant Diogel
Nifer: 1
Darpariaeth
Mae cartrefi plant diogel yn darparu lleoliadau diogel i blant rhwng 10 a 17 oed ac yn cynnwys gofal preswyl llawn, cyfleusterau addysgol a darpariaeth gofal iechyd.
Arolygiadau
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn arwain arolygiadau o’r cartrefi plant diogel yng Nghymru. Cynhaliodd timau Estyn un arolygiad ar y cyd o gartref plant diogel eleni gydag AGC.
Crynodeb
Daw’r canfyddiadau cryno hyn o ganfyddiadau arolygwyr Estyn yn ystod arolygiadau o Sefydliad Troseddwyr Ifanc EF Parc, Carchar EF Caerdydd a’r arolygiad ar y cyd o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych. Mae’r crynodeb hefyd yn adlewyrchu materion cenedlaethol o adroddiad blynyddol 2023-2024 Prif Arolygydd Carchardai Ei Fawrhydi.
Lle roedd yr addysgu’n gryf, bu llawer o ddysgwyr yn datblygu sgiliau gwerthfawr ac yn gwneud cynnydd diogel. Fodd bynnag, mae ansawdd yr addysgu yn anghyson ar draws y sector. Lle mae’n wan, nid yw’n diwallu anghenion dysgwyr nac yn cyfrannu’n ddigon da at eu rhagolygon o lwyddiant wrth gael eu rhyddhau. Mae cyfraddau presenoldeb wedi gwella ers y pandemig. Fodd bynnag, mae’r gefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn anghyson. Mae arweinwyr yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i sicrhau bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael digon o amser y tu allan i’r gell i ddilyn ystod o weithgareddau. Fodd bynnag, lle mae’r cynnig cwricwlwm yn wan, nid oes digon o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn dysgu neu hyfforddiant ystyrlon a phriodol.
Addysgu a dysgu
Lle’r oedd addysgu wedi’i gynllunio’n dda a lle’r oedd athrawon yn defnyddio dulliau addysgu effeithiol, roedd llawer o ddysgwyr yn ymgysylltu â’u dysgu, yn gwneud cynnydd cryf tuag at nodau cymwysterau ac yn datblygu medrau a gwybodaeth werthfawr. Yng Ngharchar EF Caerdydd, roedd ychydig o ddysgwyr yn dangos medrau uwch mewn celf ac adeiladu. Roedd medrau llythrennedd a rhifedd yn aml yn cael eu hintegreiddio’n ystyrlon ac yn effeithiol mewn meysydd trawsgwricwlaidd. Roedd hyn yn cefnogi carcharorion i ddatblygu eu medrau ysgrifennu a rhifedd sylfaenol yn dda yn eu cyd-destun. At ei gilydd, nid oedd mwyafrif y carcharorion a’r plant yn datblygu eu medrau digidol yn ddigon da.
Cafodd prinder staff a gwendidau mewn arfer addysgu effaith negyddol ar gynnydd dysgwyr yn y ddau sefydliad, er bod y materion hyn yn llawer mwy amlwg yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc EF Parc. Yma, arweiniodd diffygion yn y ddarpariaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd, a’u haddysgu, at leiafrif o ddysgwyr yn peidio â gwneud cynnydd digonol neu amserol wrth ddatblygu’r medrau hollbwysig hyn. Roedd hyn yn adleisio’r darlun mewn sefydliadau troseddwyr ifanc yn genedlaethol, fel y crybwyllwyd gan Brif Arolygydd Carchardai EF, a ganfu, yn gyffredinol, “nid oedd safon yr addysgu yn ddigon da yn yr holl sefydliadau troseddwyr ifanc, yn enwedig dysgu Saesneg a mathemateg” (Prif Arolygydd Carchardai EF, 2024, t. 46). Yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, roedd gormod o amrywiaeth yng nghynnydd dysgwyr ar draws y cwricwlwm ac nid oedd arlwy’r cwricwlwm yn cynnig gallu digonol i ddysgwyr fanteisio ar lwybrau dysgu ystyrlon a oedd yn sicrhau dilyniant ac yn cefnogi eu dyheadau.
Roedd y rheolwr addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a gweithwyr achos yng ngwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn cydweithio’n dda â phartneriaid i rannu gwybodaeth a chynnig cymorth i sicrhau bod plant yn ymgysylltu ag addysg. Fodd bynnag, roedd amserlenni rhan-amser yn cael eu gorddefnyddio ac nid oedd plant yn cael ystod briodol o wasanaethau o ansawdd da wedi’u personoli. Nid oedd unrhyw lwybrau addysg systematig na strategaeth i fynd i’r afael â gwendidau mewn llythrennedd a rhifedd plant i gefnogi cynnydd llwyddiannus mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Gofal, cymorth ac arweiniad a’u heffaith ar les dysgwyrg
At ei gilydd, roedd gan ddysgwyr bresenoldeb da mewn sesiynau addysg a medrau yn y sefydliad troseddwyr ifanc a’r carchar i oedolion. Yng Ngharchar EF Caerdydd, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio’n gynhyrchiol yn annibynnol a gyda’u cymheiriaid ac yn dangos ymddygiad ac ymgysylltiad cadarnhaol yn ystod sesiynau.
Roedd y ddau sefydliad yn cefnogi carcharorion i nodi a lleihau ymddygiad aildroseddu. Yng Nghaerdydd, bu’r dynion yn trafod heriau dibyniaeth a meithrin arferion perthnasoedd cadarnhaol mewn sesiynau pwrpasol. Roedd rhai carcharorion yng Nghaerdydd yn datblygu gwydnwch yn dda wrth ddyfalbarhau â thasgau cymhleth ac roedd eu hyder a’u hymddygiad yn gwella wrth iddynt ymgymryd â swyddi â chyfrifoldeb fel mentoriaid cymheiriaid. Yng ngharchar Parc, roedd yr ystod eang o weithgareddau cyfoethogi yn cael effaith fuddiol iawn ar les ac ymgysylltiad y rhan fwyaf o ddysgwyr.
Roedd gormod o amrywiaeth o ran pa mor dda roedd anghenion unigol dysgwyr yn cael eu nodi, eu cyfleu i staff ac y gweithredwyd arnynt i fynd i’r afael â rhwystrau rhag dysgu. Yng Nghaerdydd, nodwyd anghenion dysgwyr yn briodol, yn gyffredinol, ac roedd rhai staff yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i gefnogi’r dysgwyr hyn i wneud cynnydd da. Yng ngharchar Parc, nid oedd gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr yn cael ei rhannu’n ddigon da â staff ac nid oedd monitro cynnydd y dysgwyr hyn wedi’i ddatblygu’n ddigonol.
Yng Nghaerdydd, roedd dysgwyr yn cael cyngor ac arweiniad defnyddiol ar gyrsiau, hyfforddiant ac opsiynau ar gyfer cymwysterau, ac roeddent yn cael eu cefnogi mewn ystod eang o ffyrdd i fod yn llwyddiannus ar ôl cael eu rhyddhau.
Roedd gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn darparu cyfleoedd da i blant sefydlu eu hunaniaeth a’u diwylliant Cymreig wrth ddarparu gwasanaethau. Fodd bynnag, roedd rhestrau aros hir am gymorth â niwrowahaniaeth. Nid oedd anghenion dysgu ychwanegol plant y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid wedi’u hasesu’n ddigonol nac yn hysbys. Roedd diffyg capasiti a gallu i fanteisio ar gymorth arbenigol.
Arwain a gwella
Gweithiodd arweinwyr a staff yn y sefydliad troseddwyr ifanc a’r carchar i oedolion gwrywaidd yr ymwelwyd â nhw yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024 yn galed i ddarparu digon o fannau gweithgarwch, er gwaethaf problemau o ran staffio neu adnoddau. Sicrhaodd hyn y cafodd y rhan fwyaf o garcharorion a phlant amser priodol allan o’u celloedd. Roedd hyn yn well na’r darlun ar draws y DU yn gyffredinol.
Er bod rhai bylchau yn y ddarpariaeth, roedd arweinwyr yng Ngharchar EF Caerdydd wedi datblygu cwricwlwm yn llwyddiannus a oedd yn bodloni anghenion addysgol, cyflogadwyedd a datblygiad personol llawer o garcharorion. Yng ngharchar Parc, nid oedd arweinwyr addysg yn cael llawer o ddylanwad ar lwybrau dysgu, a oedd wedi’u llunio’n bennaf i reoli ymddygiad. Roedd hyn yn debyg i’r darlun mewn sefydliadau troseddwyr ifanc yn genedlaethol, lle’r oedd gorddibyniaeth ar gadw plant ar wahân yn effeithio ar ystyrlonrwydd trefniadau’r cwricwlwm. Roedd gwendidau yn y bartneriaeth newydd rhwng y carchar a’r darparwr addysg newydd wedi gwaethygu’r broblem ymhellach ac nid oedd unrhyw fanteision posibl o weithio mewn partneriaeth â choleg lleol wedi trosi i arlwy’r cwricwlwm, trefniadau staffio nac ansawdd yr addysgu adeg yr ymweliad.
Roedd y ddau garchar wedi datblygu strategaethau darllen, ond nid oedd y rhain wedi’u rhoi ar waith adeg yr ymweliadau, felly nid oedd modd i arolygwyr wneud sylwadau ar eu heffaith. Roedd gwendidau yn y ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Roedd arweinwyr a staff yn elwa ar ystod o rwydweithiau datblygiad proffesiynol rhanbarthol a chenedlaethol i rannu arfer a gwella darpariaeth. Roedd arweinwyr yn defnyddio canfyddiadau gweithgareddau hunanwerthuso i nodi cryfderau eang a meysydd i’w datblygu. Roedd y wybodaeth hon yn llywio arlwy’r cwricwlwm ac anghenion dysgu proffesiynol staff yn dda yng Nghaerdydd ac yn helpu arweinwyr yn ngharchar Parc i nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella yn addas.
Er y cafodd data ei ddefnyddio’n dda i fonitro perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol neu olrhain presenoldeb, ni chafodd ei ddefnyddio cystal i nodi union feysydd i’w datblygu er mwyn llywio cynllunio gwelliant.
Roedd tîm arweinyddiaeth newydd yng ngwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych wedi gwella cyfathrebu o fewn y gwasanaeth ac wedi cryfhau dealltwriaeth y bwrdd rheoli o’i garfan a’i gyfrifoldebau. Fodd bynnag, nid oedd y bwrdd yn darparu digon o gyfeiriad strategol na her i waith y gwasanaeth ac nid oedd aelodau’r bwrdd yn defnyddio eu safle’n ddigon da i sicrhau cymorth amserol, wedi’i gydlynu’n dda gan bob partner i blant sy’n cael eu gorchwylio gan y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid. Yn yr un modd â’r canfyddiadau mewn carchardai, nid oedd gan y bwrdd rheoli ddealltwriaeth ddigon clir o’i garfan ac nid oedd yn dadansoddi’r wybodaeth a’r data a oedd ar gael iddo’n ddigon da i ddarganfod ei hanghenion.
At ei gilydd, mae datblygu manwl gywirdeb dulliau hunanwerthuso yn flaenoriaeth o hyd ar gyfer gwaith y sector.
Trosolwg argymhellion
Roedd themâu cyffredin yn yr argymhellion a nodwyd yn ystod arolygiadau o addysg, medrau a gweithgareddau gwaith yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc EF Parc a Charchar EF Caerdydd, er bod pwysau’r meysydd i’w gwella yn amrywio ar draws y ddau sefydliad:
- Gwella manwl gywirdeb prosesau hunanwerthuso i lywio camau gwella yn well
- Gwella ansawdd yr addysgu
- Gwella arlwy’r cwricwlwm i fodloni anghenion dysgwyr
Yng ngharchar Parc, roedd yr argymhelliad ar arweinyddiaeth yn canolbwyntio ar gryfhau trefniadau partneriaeth. Yng Nghaerdydd, y flaenoriaeth oedd gwella trefniadau adrodd ac atebolrwydd rhwng arweinwyr canol ac uwch arweinwyr.
Cyfeiriadau
Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi (2024) Adroddiad Blynyddol 2023-24. Y DU: HMIP. [Ar‑lein]. Ar gael yn: Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Carchardai EF: 2023 i 2024 – GOV.UK (www.gov.uk) (Cyrchwyd 4 Hydref 2024)