Gwaith ieuenctid
Adroddiad Sector 2023 - 2024
Darparwyr GI
Cynhaliom beilot o’n trefniadau newydd mewn dau ddarparwyr, sef un darparwr cenedlaethol yn y sector gwirfoddol ac un darparwr awdurdod lleol.
Nifer y bobl ifanc
Roedd 81,293 o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth y sector gwaith ieuenctid statudol yn 2023-2024. Fodd bynnag, mae miloedd yn fwy o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan y sector gwirfoddol.
Darpariaeth
Caiff gwaith ieuenctid ei gyflwyno mewn ystod eang o leoliadau a mannau ledled Cymru, wedi’i lywio gan anghenion a diddordebau pobl ifanc a medrau gweithwyr ieuenctid. Mae Estyn yn arolygu gwaith ieuenctid sy’n digwydd mewn lleoliadau a ariennir yn gyhoeddus sy’n cael eu cynnal gan y sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol.
Arolygiadau craidd
Nifer yr arolygiadau: Cynhaliwyd 2 arolygiad craidd peilot yn ystod 2023-2024.
Un awdurdod lleol:
Adroddiad arolygu Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg 2024 (llyw.cymru)
Un corff gwirfoddol cenedlaethol:
Adroddiad arolygu Clybiau Bechgyn a Merched Cymru 2024 (llyw.cymru)
Astudiaethau achos
Gweithgarwch dilynol
Nid oes unrhyw un mewn categori gweithgarwch dilynol.
Crynodeb
Mae darparwyr gwaith ieuenctid yn cynnig cymorth addysgol a bugeiliol i ystod eang o bobl ifanc. Mae darpariaeth yn amrywio’n fawr, o sesiynau targedig mewn addysg ffurfiol i glybiau ieuenctid cymunedol ac o waith ar y stryd lle mae pobl ifanc yn ymgynnull i gymryd rhan mewn chwaraeon i glybiau wedi’u seilio ar weithgareddau. Y llinyn cyffredin yw bod yr holl weithgareddau hyn yn canolbwyntio ar bobl ifanc ac mae anghenion a safbwyntiau pobl ifanc wrth wraidd arlwy a chynlluniau’r ddarpariaeth.
Darpariaeth a dysgu
Yn y sesiynau yr ymwelwyd â nhw, roedd gweithwyr ieuenctid yn helpu ac yn arwain pobl ifanc mewn sesiynau targedig ac agored i ddod yn fwy gwydn ac ennill y medrau, y wybodaeth a’r agweddau i gefnogi eu datblygiad personol ac addysgol eu hunain. Roedd pobl ifanc yn cyfrannu’n gadarnhaol at weithgareddau ac yn elwa ar gyfleoedd amrywiol, fel crefftau a gweithgareddau chwaraeon, i ddatblygu eu potensial personol a chreadigol wrth ddysgu i fynegi eu hunain.
Prosiect menig yn y gampfa
‘Nid yw dim ond i’r bechgyn, sy’n dda’
Mae Menig yn y Gampfa yn brosiect sy’n seiliedig ar weithgareddau corfforol gyda’r nod o gynyddu iechyd a lles drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cadarnhaol, herio ymddygiadau negyddol, magu hyder a hunan-barch ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o fod yn aelod gweithredol o’u cymuned. Mae’r prosiect yn cynnal 7 sesiwn bwrpasol yr wythnos ar draws gwahanol ysgolion a lleoliadau cymunedol ym Mro Morgannwg. Mae’r tîm o staff yn cyflwyno sesiynau seiliedig ar atgyfeirio mewn ysgolion prif ffrwd, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, i’r Ganolfan Adnoddau yn Whitmore ar gyfer pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a Chlwb Lles ar ôl Ysgol a sesiynau mynediad agored yn y gymuned ar gyfer amser hamdden cadarnhaol gyda’r nos. Yn ogystal â hyn, mae’r prosiect Menig yn y Gampfa yn darparu gweithgareddau ym mhob digwyddiad cymunedol a gynhelir gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro, ynghyd â chynnig cymorth wedi’i dargedu o fewn y gyfarwyddiaeth addysg p’un ai mewn sesiynau un-i-un neu sesiynau grŵp.
Roedd llawer o bobl ifanc yn dysgu am bwysigrwydd cyfranogiad cadarnhaol mewn cymdeithas. Trwy weithgareddau gwleidyddol gwerthfawr, fel fforymau ieuenctid, roeddent yn datblygu’n ddinasyddion gweithgar a chydwybodol. Er enghraifft, roedd y prosiect ‘Coda dy Lais’ yn cefnogi pobl ifanc ar y cyrion yn dda i fagu hyder a chyd-ddatblygu gwefan gyda gwybodaeth am sut gall pobl ifanc gymryd rhan mewn prosesau democrataidd.
Ar draws y darparwyr a arolygwyd, roedd pobl ifanc yn gwella eu dealltwriaeth o bwysigrwydd cyd-barch a goddefgarwch ac yn datblygu’r medrau cymdeithasol i ryngweithio’n llwyddiannus â phobl eraill.
New Dragons
Mae clwb iaith a lleferydd New Dragons yn cynnig amgylchedd diogel a phriodol i bobl ifanc ag amrywiaeth eang o anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu, anhwylder y sbectrwm awtistig neu anghenion dysgu ychwanegol eraill. Unwaith yr wythnos, mae pobl ifanc yn manteisio ar amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio’n ofalus ac sy’n briodol o ysgogol, gan gynnwys amrywiaeth o gelf a chrefft mynegiannol a chyfleoedd gemau. Mae pobl ifanc yn rhyngweithio’n gymdeithasol ac yn dysgu mewn ffordd a allai fod yn heriol iddynt rywle arall. O ganlyniad, maent yn datblygu’u medrau cyfathrebu a’u hyder cymdeithasol yn ogystal â gwneud ffrindiau.
Mewn nifer o brosiectau targedig yr ymwelwyd â nhw, daeth llawer o bobl ifanc yn fwy hyderus wrth fynegi eu safbwyntiau a chymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dewisiadau personol eu hunain. Ym mhrosiect Ei Llais Cymru, datblygodd menywod ifanc yn hyrwyddwyr cydraddoldeb ac yn eiriolwyr dros ferched yn eu cymuned. Datblygodd y prosiect arweiniad ac adnoddau defnyddiol i hybu ymwybyddiaeth menywod ifanc o faterion a allai effeithio ar eu diogelwch a’u lles.
Roedd gweithwyr ieuenctid yn y ddau ddarparwr yn ymroddedig ac yn frwdfrydig ac yn cynnig cymorth gwerthfawr i ddemograffig eang o bobl ifanc, gan gynnwys rhai bregus a’r rhai yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt. Roedd staff yn cynnwys pobl ifanc yn dda mewn gweithgareddau a oedd yn fuddiol i’w datblygiad personol ac addysgol a’u lles. Roedd hyn yn helpu’r bobl ifanc i ddatblygu’r medrau rhyngbersonol a oedd yn eu galluogi i fwynhau ac elwa ar ryngweithio â chyfoedion ac oedolion. Roedd ansawdd ac ystod y ddarpariaeth yn dda yn y ddau ddarparwr. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd y gallu i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig ac nid oedd gan staff Cymraeg eu hiaith yr hyder na chyfeiriad strategol gan arweinwyr a rheolwyr o ran y ffordd orau i ddefnyddio eu medrau Cymraeg â phobl ifanc.
Mae pawb yn caru’r bws
Y V-Pod yw darpariaeth symudol Bro Morgannwg, ac mae’n brofiad cadarnhaol a difyr ar gyfer pobl ifanc sy’n galluogi gweithwyr ieuenctid i addasu eu hymagwedd ar sail anghenion a diddordebau uniongyrchol y gymuned y maent yn ymweld â hi. Mae’r bws yn helpu cynnal proffil y gwasanaeth ieuenctid ar draws yr awdurdod lleol. Mae staff yn fedrus o ran nodi a thrafod y lleoliadau gorau i barcio ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r gofod ar y bws. Mae’r bws yn cario amrywiaeth o offer, gan gynnwys gasebos ar gyfer digwyddiadau dros dro, offer chwaraeon, celf a cherddoriaeth. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig hyblygrwydd i gyrraedd pobl ifanc nad ydynt efallai’n cael cyfle i fynychu clwb neu wasanaeth ieuenctid oherwydd rhwystrau daearyddol, cymdeithasol, neu economaidd. Mae’r uned symudol yn sicrhau cynwysoldeb ac yn galluogi pobl ifanc sydd wedi’u hynysu i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Er enghraifft, caiff un person ifanc sy’n derbyn gofal lliniarol ei galluogi i fynychu sesiynau gyda chymorth ei gofalwr a’r gweithwyr ieuenctid, sy’n mynd i’r afael â’r rhwystr rhag cyfranogi.
Arwain a gwella
Roedd arweinwyr a rheolwyr yn y ddau ddarparwr yn sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd eu cynllunio strategol. Roedd ganddynt weledigaeth glir ar gyfer sut i gefnogi pobl ifanc i ddod yn aelodau gweithgar o gymdeithas a allai gyfranogi’n adeiladol yn eu cymunedau. At ei gilydd, roedd arweinwyr yn darparu datblygiad proffesiynol parhaus gwerthfawr a pherthnasol i weithwyr a oedd, yn ei dro, yn helpu i ddenu a chadw gweithlu â chymwysterau proffesiynol. Fodd bynnag, mewn un darparwr, nid oedd gwybodaeth am ansawdd darpariaeth uniongyrchol ac anghenion datblygu staff yn cael ei chasglu’n ddigon systematig i lywio blaenoriaethau, hyfforddiant a chymorth.
Gweithgarwch dilynol
Nid oedd angen gweithgarwch dilynol ar unrhyw ddarparwyr.
Trosolwg argymhellion
- Cafodd y ddau ddarparwr argymhellion yn ymwneud â’r angen i ddatblygu darpariaeth gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn strategol.
- Cafodd un darparwr argymhellion i sicrhau defnydd mwy systematig o wybodaeth rhwng y darparwr canolog a chlybiau cysylltiedig i gefnogi materion sy’n codi ac anghenion hyfforddiant yn well.