Pontio a dilyniant disgyblion
Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
Ym mis Medi 2024, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar bontio a dilyniant disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Ysgrifennwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn llythyr cylch gwaith blynyddol Estyn 2023 i 2024.
Aethom ati i lunio adroddiad ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Buom yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eu cwricwla a’u haddysgu yn datblygu gwybodaeth, medrau, dealltwriaeth ac ymddygiadau dysgu disgyblion yn effeithiol ar draws y cyfnod pontio. Buom hefyd yn ystyried sut mae ysgolion yn cefnogi lles dysgwyr yn y cyfnod pontio pwysig hwn. Rydym wedi nodi nodweddion darpariaeth effeithiol, wedi amlygu lle mae arfer yn llai llwyddiannus, ac wedi archwilio’r rhesymau pam.
Mae ein hadroddiad yn defnyddio tystiolaeth o’n canfyddiadau arolygu a’n canfyddiadau dilynol, ac ymweliadau â 41 o ysgolion mewn 15 awdurdod lleol. Roeddent yn cynnwys 23 ysgol gynradd, 13 ysgol uwchradd a 3 ysgol bob oed. Cynhaliwyd 14 o’r rhain trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod ymweliadau ag ysgolion, cyfarfuom ag arweinwyr ysgolion, arweinwyr y cwricwlwm a disgyblion o Flwyddyn 6, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8. Edrychom ar ystod o ddogfennau, yn cynnwys cynllunio’r cwricwlwm, dysgu disgyblion a chynlluniau pontio. Cawsom dystiolaeth trwy gyfarfodydd rhithwir gan dri gwasanaeth cymorth rhanbarthol a thri awdurdod lleol.
Ein hargymhellion
Dylai ysgolion:
- Ddatblygu dealltwriaeth gliriach ar y cyd o ddilyniant o fewn eu clystyrau o ysgolion, ac ar eu traws
- Gweithio’n agosach fel clystyrau i sicrhau bod ymagweddau at rannu gwybodaeth, addysgu a’r cwricwlwm yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu gwybodaeth, medrau ac ymddygiadau dysgu yn raddol rhwng 3 ac 16 oed
Dylai Llywodraeth Cymru:
- Roi canllawiau clir ar gymhwyso sut i ddatblygu dilyniant yn ymarferol trwy’r cwricwlwm, ac ar ei draws
- Sicrhau bod cymorth digonol i alluogi arweinwyr ac athrawon i ddatblygu cwricwlwm cydlynus a graddol sy’n gosod disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion
Dylai awdurdodau lleol a phartneriaid cymorth rhanbarthol:
- Annog a chefnogi cydweithio cryfach ymhlith clystyrau i fynd i’r afael â’r argymhellion yr ydym wedi’u nodi ar gyfer ysgolion, gan ganolbwyntio ar sefydlu clystyrau diffiniedig ag amcanion penodol a chlir
Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?
Mae ein hadroddiad yn amlygu ystod o wahanol arferion ledled Cymru, ac yn nodi’r cryfderau a’r meysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw i gefnogi cyfnod pontio disgyblion a’u dysgu.
Dangosodd ein canfyddiadau fod penaethiaid neu uwch arweinwyr o’r rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod Cwricwlwm i Gymru a sut i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, ac am amrywiaeth o resymau, nid yw gwaith pontio yn ddigon effeithiol i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd systematig a pharhaus yn eu gwybodaeth, eu medrau, eu dealltwriaeth a’u hymddygiadau dysgu o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Mewn lleiafrif o achosion, mae clystyrau wedi sefydlu grwpiau o athrawon i ystyried enghreifftiau o ddysgu disgyblion, i’w helpu i ddechrau datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant ar draws eu hysgolion. Fodd bynnag, nid oes dealltwriaeth gref o hyd o sut beth yw dilyniant yn y rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion. O ganlyniad, nid yw’r arferion hyn wedi gwella pa mor dda y mae dysgu’n datblygu o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd yn ddigon cryf.
Mewn ychydig o achosion, mae clystyrau o ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gweithio gyda’i gilydd yn gadarnhaol i amlinellu gwybodaeth, medrau a phrofiadau ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad ac wedi defnyddio hyn i ddechrau datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant. Fodd bynnag, hyd yn oed pan mae hyn ar waith, nid yw ysgolion uwchradd bob amser yn ei ddefnyddio i ystyried dysgu blaenorol disgyblion yn ddigon da. Mewn ysgolion pob oed, er gwaethaf potensial yr ymagwedd bob oed at ddysgu, nid oedd cydlynu’r cwricwlwm a chynllunio ar gyfer dilyniant yn gryf bob amser.
Mae llawer o ysgolion wedi darparu ystod o ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon i gefnogi cyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion yn unig yr oedd clystyrau o ysgolion wedi rhannu ymagweddau at addysgu neu wedi ystyried sut gallent sicrhau bod strategaethau addysgu yn cynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd effeithiol a pharhaus o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Bron ym mhob achos, roedd ysgolion cynradd yn trosglwyddo ystod eang ac amrywiol o wybodaeth am ddysgu a chynnydd disgyblion i ysgolion uwchradd cyn eu cyfnod pontio. Roedd lleiafrif o glystyrau yn dechrau ystyried sut i rannu gwybodaeth am gynnydd disgyblion, yn unol â Chwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, ni wnaeth y prosesau hyn rhyw lawer i gefnogi parhad yn nysgu’r disgyblion.
Bron ym mhob achos, roedd ysgolion yn cefnogi cyfnod ymsefydlu disgyblion i’r ysgol uwchradd yn dda. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd clystyrau o ysgolion yn cefnogi llawer o agweddau ar les disgyblion yn effeithiol, ac roedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn gweithio gyda’i gilydd yn gydwybodol i gefnogi cyfnod pontio disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.