Addysg bellach – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Addysg bellach

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Dysgu ac addysgu

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymgysylltu’n gadarnhaol, yn datblygu gwybodaeth, medrau ymarferol a medrau ehangach priodol, ac yn elwa ar addysgu strwythuredig ac arbenigedd pwnc athrawon. Fodd bynnag, mae’r addysgu yn rhy amrywiol o hyd, yn enwedig o ran darparu her, addasu dysgu i anghenion dysgwyr, datblygu medrau meddwl lefel uwch a chefnogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu ac yn cyfrannu at sesiynau tawel a phwrpasol.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol priodol sy’n cefnogi eu dysgu, yn enwedig lle mae athrawon yn ymgorffori’r medrau hyn yn effeithiol mewn rhaglenni galwedigaethol ac academaidd.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau ymarferol cadarn ac yn eu cymhwyso’n briodol mewn cyd-destunau galwedigaethol ac academaidd.
  • Mae llawer o ddysgwyr yn gweithio’n dda ar eu pen eu hunain a gyda’u cyfoedion, yn enwedig mewn lleoliadau ymarferol lle maent yn dangos balchder yn eu gwaith.
  • Mae llawer o athrawon yn cynllunio sesiynau strwythuredig ac yn defnyddio eu harbenigedd pwnc yn effeithiol i gefnogi dysgu.
  • Yn y sesiynau cryfaf, mae athrawon yn defnyddio gweithgareddau ymarferol, arddangosiadau ac offer digidol i gefnogi dealltwriaeth a chysylltu dysgu â chyd-destunau perthnasol.
  • Mae llawer o athrawon yn darparu adborth llafar defnyddiol sy’n cefnogi dysgwyr i wella eu gwaith.
  • Mae llawer o athrawon yn dechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial yn briodol i gefnogi dysgu a datblygu adnoddau. Fodd bynnag, mae ymagweddau at ddefnydd derbyniol gan ddysgwyr yn anghyson o hyd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae deilliannau’n amrywio ar draws rhaglenni, gyda pherfformiad yn amrywio o islaw cyfartaleddau cenedlaethol i fod yn unol â nhw.
  • Mae ansawdd yr addysgu yn rhy amrywiol, yn enwedig o ran effeithiolrwydd holi i ddatblygu medrau meddwl lefel uwch dysgwyr.
  • Nid yw athrawon yn ymestyn a herio dysgwyr yn gyson, yn enwedig dysgwyr mwy abl.
  • Nid oes gan athrawon bob amser dealltwriaeth ddigonol o anghenion dysgwyr, gan gynnwys y rhai ag ADY ac, mewn lleiafrif o sesiynau, nid yw’r addysgu wedi’i addasu’n ddigon da i gefnogi’r dysgwyr hyn yn effeithiol.
  • Mae ansawdd adborth ysgrifenedig neu wedi’i gofnodi yn rhy amrywiol.
  • Mae cyfleoedd i ddatblygu medrau Cymraeg yn anghyson ar draws y ddarpariaeth, ac nid yw llawer o ddysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn eu dysgu.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi a’u cynnwys, ac yn elwa ar berthnasoedd cadarnhaol ac ystod eang o wasanaethau cymorth. Fodd bynnag, mae presenoldeb a phrydlondeb yn rhy amrywiol o hyd, ac nid yw colegau’n nodi nac yn bodloni anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn ddigon da.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac mae ganddynt berthnasoedd cadarnhaol a pharchus â staff a chyfoedion.
  • Mae colegau’n darparu amgylcheddau cynhwysol sy’n cefnogi lles dysgwyr a’u hymdeimlad o berthyn.
  • Mae dysgwyr yn elwa ar ystod eang o wasanaethau lles, bugeiliol a chymorth, gan gynnwys cwnsela, arweiniad gyrfaoedd a chymorth astudio.
  • Mae colegau’n cydweithio ag ystod briodol o bartneriaid allanol i ddarparu cymorth cydlynus sy’n ymateb i anghenion penodol dysgwyr.
  • Mae llawer o ddysgwyr yn elwa ar gyfleoedd i ehangu eu profiadau, sy’n cefnogi eu datblygiad personol a’u hyder.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae presenoldeb yn rhy amrywiol, ac nid yw’r lleiafrif o ddysgwyr yn mynychu’n ddigon rheolaidd, sy’n effeithio’n negyddol ar eu cynnydd.
  • Mewn lleiafrif o sesiynau, mae prydlondeb gwael yn tarfu ar ddysgu.
  • Nid yw colegau’n nodi nac yn bodloni anghenion dysgwyr ag ADY yn ddigon da. Mae diffyg eglurder rhwng cymorth i ddysgwyr ag ADY a’r rhai y gellir bodloni eu hanghenion trwy ddarpariaeth gyffredinol.

Arwain a gwella

At ei gilydd, mae colegau’n elwa ar arweinyddiaeth strategol glir, cydweithio effeithiol mewn partneriaeth ac arlwy cwricwlwm eang sy’n cefnogi profiadau cadarnhaol i ddysgwyr. Fodd bynnag, mae gwendidau mewn hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a’r defnydd o ddata yn cyfyngu ar allu arweinwyr i sicrhau gwelliant cyson. Mae pwysau ariannol cynyddol a gwendidau mewn ymagweddau strategol at ADY a datblygu’r Gymraeg yn parhau i fod yn heriau pwysig.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae uwch arweinwyr yn darparu cyfeiriad strategol clir sy’n canolbwyntio ar wella profiadau a deilliannau dysgwyr.
  • Mae arweinwyr yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu darpariaeth ac ymateb i flaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Mae trefniadau llywodraethu yn darparu cymorth, craffu a her briodol i arweinwyr.
  • Mae colegau’n darparu arlwy cwricwlwm eang a phriodol ac yn buddsoddi mewn cyfleusterau ac adnoddau i gefnogi dysgu.
  • Mae llawer o staff yn gweithio ar y cyd ac yn ymgysylltu’n gadarnhaol â dysgu proffesiynol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae arweinwyr yn parhau i nodi pwysau ariannol a gweithredol sy’n effeithio ar eu gallu i ymateb i anghenion cynyddol dysgwyr.
  • Nid yw hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn ddigon manwl nac yn ddigon gwerthusol, ac nid ydynt yn nodi gwendidau allweddol yn gywir yn gyson, yn enwedig mewn perthynas ag ansawdd yr addysgu a deilliannau dysgwyr.
  • Nid yw blaenoriaethau gwella yn cael eu rhoi ar waith na’u monitro’n ddigon cyson, ac nid yw data’n cael ei ddefnyddio’n ddigon effeithiol i gefnogi gwelliant.
  • Nid yw ymagweddau strategol at ADY a datblygu’r Gymraeg yn ddigon effeithiol.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, cynhaliodd Estyn ddau arolygiad o golegau addysg bellach a rhoddwyd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol.

  • Roedd gan y ddau argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu, yn canolbwyntio ar wella ansawdd dulliau holi a sicrhau digon o her i ymestyn dysgwyr.
  • Roedd gan y ddau argymhelliad mewn perthynas â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, i gryfhau’r broses o nodi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a gwella’r cymorth a gânt.
  • Roedd gan y ddau argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella, yn canolbwyntio ar wella effeithiolrwydd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.
  • Roedd gan y ddau argymhelliad i gynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu medrau Cymraeg.
  • Roedd gan un darparwr argymhelliad ychwanegol i wella deilliannau dysgwyr ar draws rhaglenni galwedigaethol ac academaidd.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Coleg Gwent

Darllenwch sut mae Adroddiad arolygu Coleg Gwent wedi datblygu medrau llythrennedd a rhifedd yn effeithiol o fewn cyd-destun pwnc rhaglenni lefel 3.

Darllenwch sut mae Adroddiad arolygu Coleg Gwent yn cefnogi dysgwyr â namau synhwyraidd trwy ei “glwb byddar”.

Darllenwch sut mae Adroddiad arolygu Coleg Gwent wedi cefnogi staff i wella addysgu a dysgu trwy ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol.

Grŵp NPTC Group

Darllenwch sut mae Adroddiad arolygu Grŵp NPTC Group wedi datblygu ymagwedd gydlynus sy’n canolbwyntio ar y dysgwr at weithio mewn partneriaeth.

Darllenwch sut mae gweithio mewn partneriaeth yn Adroddiad arolygu Grŵp NPTC Group wedi cyfoethogi cyfleoedd dysgu ac ymgysylltu â’r gymuned.