Gwasanaethau addysg llywodraeth leol
Mewnwelediadau cynnar 2025-2026
Mae’r crynodeb hwn yn defnyddio tystiolaeth o arolygiadau, gweithgarwch dilynol, ymweliadau manylach gan arolygwyr cyswllt awdurdodau lleol, gwaith thematig a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026 a gwaith parhaus arolygwyr cyswllt ag awdurdodau lleol.
Gwasanaethau addysg a’u heffaith
Dangosodd arweinwyr ymrwymiad strategol clir i wella deilliannau, wedi’i gefnogi gan gyd-weithio effeithiol mewn partneriaeth a gryfhaodd y cymorth i ddysgwyr bregus. Fodd bynnag, roedd hunanwerthuso’n parhau’n rhy amrywiol, yn enwedig wrth werthuso effaith gwaith ar addysgu, presenoldeb a deilliannau.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae perthnasoedd cadarnhaol ag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn cefnogi ymddiriedaeth, cydweithio a chyfrifoldeb ar y cyd am wella.
- Mae gweithio mewn partneriaeth, cydweithio rhwng ysgolion a dysgu proffesiynol yn helpu i gryfhau arweinyddiaeth, cynhwysiant a datblygiad y cwricwlwm.
- Mae cynhwysiant yn flaenoriaeth glir, wedi’i gefnogi gan seicoleg addysg, gwasanaethau arbenigol, partneriaethau amlasiantaethol a dulliau effeithiol o adnabod ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
- Mae ymagweddau cydweithredol yn cefnogi diwylliannau diogelu, arfer sy’n ystyriol o drawma, monitro presenoldeb a chymorth effeithiol i deuluoedd.
- Mae darpariaeth arbenigol a rhaglenni wedi’u targedu yn helpu llawer o blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol neu gymhleth i wneud cynnydd cryf.
- Mae cynllunio strategol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn cryfhau, gyda chymorth ymgysylltiad partneriaid a datblygu’r gweithlu.
Beth sydd angen ei wella
- Roedd ansicrwydd a diffyg eglurder ynghylch y newidiadau i drefniadau gwella ysgolion a’r hyn y byddai hyn yn ei olygu i alluogi awdurdodau lleol i gefnogi a herio ysgolion.
- Mae hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn rhy amrywiol ac nid ydynt bob amser yn canolbwyntio’n ddigon craff ar effaith fesuradwy a deilliannau i blant a phobl ifanc.
- Mae angen cryfhau prosesau sicrhau ansawdd a pha mor drylwyr yw’r her a ddarperir i rai ysgolion
- Mae’r cymorth ar gyfer datblygu’r cwricwlwm yn parhau’n anghyson, ac adlewyrchir hyn yn ansawdd yr addysgu a’r dysgu.
- Mae pwysau ariannol a’r galw cynyddol yn peri risgiau i gynaliadwyedd gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau cymorth, yn enwedig i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.
- Nid yw gwerthusiadau strategol o ddarpariaeth ADY i fodloni galw yn y dyfodol bob amser yn ddigon manwl, ac mae darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg yn parhau’n gyfyngedig, er enghraifft mewn darpariaethau arbenigol ac ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (EOTAS).
- Mae presenoldeb yn parhau’n rhy isel ar gyfer llawer o grwpiau bregus ac mae cyfraddau gwaharddiadau yn rhy uchel. Nid yw effaith hirdymor strategaethau presenoldeb a lles bob amser yn cael ei gwerthuso’n ddigon trylwyr.
- Mae angen gwella darpariaeth y Gymraeg mewn llawer o ysgolion cyfrwng Saesneg, ac mae mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a dilyniant ynddi yn parhau’n rhy gyfyngedig.
Arwain a gwella
Yn gyffredinol, darparodd uwch arweinwyr gyfeiriad strategol clir, wedi’i gefnogi gan bartneriaethau cryf a ffocws ar gynhwysiant a diogelu. Fodd bynnag, roedd hunanwerthuso’n parhau’n anghyson, yn enwedig wrth werthuso effaith ar addysgu, presenoldeb a deilliannau.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn gyffredinol, mae uwch arweinwyr yn darparu arweinyddiaeth glir a gweladwy ac yn hyrwyddo diwylliannau cydweithredol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a chyfrifoldeb ar y cyd.
- Mae cynllunio strategol fel arfer yn gydlynus ac wedi’i alinio’n briodol â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
- Mae llawer o awdurdodau wedi cryfhau systemau monitro ac yn datblygu ymagweddau mwy cydlynol at wella.
- Rhoddir blaenoriaeth briodol i ddysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth.
- At ei gilydd, mae gweithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau ac asiantaethau yn gryfder nodedig mewn awdurdodau lleol.
- Mae trefniadau diogelu yn gadarn yn gyffredinol, gyda llywodraethiant cryf, hyfforddiant effeithiol a phrosesau uwch gyfeirio clir.
- Mae awdurdodau’n defnyddio buddsoddiad cyfalaf a rhaglenni moderneiddio ysgolion yn fwyfwy strategol i wella amgylcheddau dysgu a chefnogi Cwricwlwm i Gymru.
- Mae arweinwyr yn dangos ymrwymiad clir i gynhwysiant, tegwch a mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.
Beth sydd angen ei wella
- At ei gilydd, nid yw’r cymorth a’r her i ysgolion yn ddigon cadarn.
- Nid yw prosesau hunanwerthuso’n ddigon gwerthusol ac maent yn canolbwyntio’n ormodol ar weithgarwch yn hytrach nag ar yr effaith ar wella deilliannau i blant a phobl ifanc.
- Nid yw cynlluniau gwella a meini prawf llwyddiant bob amser yn ddigon manwl na mesuradwy.
- Nid yw trefniadau sicrhau ansawdd ar gyfer gwaith gwella ysgolion a gwerthusiadau swyddogion yn ddigon cadarn.
- Nid yw adroddiadau i aelodau etholedig a phwyllgorau craffu bob amser yn ddigon dadansoddol i gefnogi her gadarn.
- Mae pwysau ariannol a diffygion cynyddol yng nghyllidebau ysgolion yn peri risgiau sylweddol i gynnal gwelliant.
- At ei gilydd, mae prosesau craffu, llywodraethiant a gwneud penderfyniadau yn arafu cyflymder newid strategol a gwelliant.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, arolygwyd gwasanaethau addysg mewn tri awdurdod lleol. Roedd un yn peri pryder sylweddol.
- Arolygwyd tri darparwr yn y sector gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026.
- Roedd yn ofynnol i bob un o’r tri awdurdod lleol gryfhau ansawdd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant a’u heffaith ar ddeilliannau i blant a phobl ifanc.
- Amlygwyd pwysau ariannol a diffygion yng nghyllidebau ysgolion fel risgiau sylweddol mewn dau awdurdod.
- Mae presenoldeb yn parhau’n faes allweddol i’w wella mewn un awdurdod lleol, yn enwedig ar gyfer grwpiau bregus a disgyblion oed uwchradd.
- Mae gwella’r cymorth a’r her i ysgolion yn parhau’n faes allweddol i’w wella mewn un awdurdod lleol.
- Roedd yn ofynnol i un awdurdod lleol wella effeithiolrwydd craffu fel bod aelodau etholedig yn canolbwyntio’n adeiladol, ar y cyd â swyddogion, ar risgiau strategol, deilliannau dysgwyr a gwella gwasanaethau addysg yn yr hirdymor.
- Roedd angen i un awdurdod lleol fynd i’r afael â’r pryderon diogelu a nodwyd yn ystod yr arolygiad ar lefel gorfforaethol ac ar lefel gwasanaeth.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Darllenwch sut mae darpariaeth hynod effeithiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn galluogi bron bob un o’r disgyblion i ail-ymgysylltu â dysgu, ennill cymwysterau a symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg ôl-16, cyflogaeth neu hyfforddiant. Yn ogystal, mae llywodraethiant cryf a goruchwyliaeth effeithiol o leoliadau y tu allan i’r sir yn sicrhau bod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu haddysgu’n briodol o fewn yr awdurdod lleol, gan wella parhad a chynhwysiant. At hynny, mae’r awdurdod yn cysylltu cyllid cyfalaf yn effeithiol â blaenoriaethau’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol i wella ymagweddau addysgu ac amgylcheddau dysgu ar gyfer plant mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar.
Cyngor Sir Fynwy
Darllenwch sut mae model Gwasanaeth Cymorth Awtistiaeth Sir Fynwy (MASS), sydd wedi’i hen sefydlu, yn dod â gweithwyr proffesiynol ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i ddarparu cymorth integredig ac amserol i blant a phobl ifanc ag awtistiaeth. Mae’r ymagwedd gydlynol hon yn cryfhau’r cymorth i blant a phobl ifanc ac yn gwella cyfathrebu ag ysgolion, UCDau a’u teuluoedd, gan gyfrannu at ddeilliannau gwell o ran lles, ymgysylltiad a chynhwysiant.