Cymraeg i Oedolion – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Cymraeg i Oedolion

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Fe wnaethom arolygu un darparwr Dysgu Cymraeg ac ymweld â phum darparwr Dysgu Cymraeg arall fel rhan o’n hail arolygiad thematig. Gwerthusodd yr arolygiad thematig raglen Cymraeg yn y gweithlu addysg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n anelu at gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg a chryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg trwy ddatblygu medrau Cymraeg ymarferwyr a’u methodoleg addysgu. Mewn ychydig o achosion, nid oedd yr addysgu’n cefnogi dysgwyr yn ddigon da i adalw dysgu blaenorol, datblygu annibyniaeth na deall sut i wella eu gwaith.


Dysgu ac addysgu

Mae’r addysgu ar draws y sector wedi’i gynllunio’n effeithiol ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu medrau iaith yn llwyddiannus a’u defnyddio’n naturiol mewn cyd-destunau personol, cymdeithasol a phroffesiynol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae dysgwyr yn gwneud cynnydd da yn eu medrau Cymraeg ac yn magu hyder i ddefnyddio’r iaith mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
  • Mae perthnasoedd cryf rhwng tiwtoriaid a dysgwyr, ynghyd ag addysgu a chynllunio effeithiol, yn cefnogi’r dysgu yn llwyddiannus.
  • Mae gweithgareddau cymdeithasol ac anffurfiol yn annog llawer o ddysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi.
  • Yn rhaglenni Cymraeg yn y gweithlu addysg, mae’r rhan fwyaf o diwtoriaid yn darparu addysgu effeithiol sy’n cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd da a magu hyder yn eu Cymraeg.
  • Mae strategaethau caffael iaith a rhoi dysgu mewn cyd-destun yn gryfderau nodedig.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw ychydig o diwtoriaid yn darparu cyfleoedd digon bwriadus i ddysgwyr adalw gwybodaeth flaenorol, sy’n arafu cynnydd ychydig o ddysgwyr dros gyfnod.
  • Yn yr arferion llai effeithiol, nid yw rhai tiwtoriaid yn defnyddio dulliau addysgu sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu’n ddigon annibynnol, gan ddibynnu gormod ar gyfieithu i’r Saesneg.
  • Yn rhaglenni Cymraeg yn y gweithlu addysg, nid yw agweddau ar fethodoleg effeithiol Cymraeg i Oedolion ar gyfer caffael iaith yn cael eu gweithredu’n ddigon cyson eto i sicrhau bod ymarferwyr yn gwneud cymaint o gynnydd â phosibl fel siaradwyr annibynnol nac i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u defnydd o addysgeg iaith effeithiol yn eu haddysgu eu hunain.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae tiwtoriaid a darparwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi trwy gydol eu taith ddysgu. Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr ar gyrsiau prif ffrwd yn helpu’n sylweddol i leihau’r rhwystrau ariannol sy’n wynebu darpar ddysgwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae dysgwyr yn mwynhau eu profiadau dysgu ac yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu parchu a’u cefnogi’n effeithiol.
  • Mae darparwyr yn cynnig trefniadau arweiniad, cymorth a dilyniant effeithiol sy’n bodloni anghenion amrywiol dysgwyr.
  • Mae’r ddarpariaeth yn hyrwyddo cynhwysiant, llais y dysgwr a diogelu yn llwyddiannus.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw’r darparwr Dysgu Cymraeg a arolygwyd yn rhoi gwybod yn gyson i ddysgwyr sut mae eu hadborth wedi gwella’r ddarpariaeth.
  • Mae trefniadau i gefnogi ymarferwyr yn y gweithlu addysg i gynnal eu cynnydd ar ôl cwblhau cwrs yn amrywio’n sylweddol rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol.

Arwain a gwella

Mae gan arweinwyr ar lefel genedlaethol a lleol gyd-ddealltwriaeth glir o ddiben eu gwaith a’u rôl wrth gefnogi nodau polisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn cyd-destunau personol ac yn y gweithle.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr yn darparu cyfeiriad strategol clir ac yn cynllunio’n effeithiol i fynd i’r afael â blaenoriaethau a datblygu’r Gymraeg.
  • Mae’r ystod eang o ddarpariaeth a chyfleoedd dysgu ychwanegol yn cefnogi recriwtio, dilyniant a defnydd cynyddol o’r Gymraeg.
  • Mae prosesau sicrhau ansawdd, cydweithio a dysgu proffesiynol yn cyfrannu at welliant parhaus a diwylliant cynhwysol.
  • Mae partneriaethau a threfniadau sicrhau ansawdd cadarn yn cefnogi gwelliant parhaus.
  • Mae modelau cyflwyno hyblyg yn helpu i fodloni anghenion lleol a sicrhau hygyrchedd.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn un darparwr, mae angen gwella dealltwriaeth uwch reolwyr o ddata a’u defnydd ohono i ddadansoddi tueddiadau a chryfhau cynllunio strategol pwrpasol.
  • Y defnydd o ddata i werthuso effaith hirdymor y ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithlu addysg ar ddefnydd ymarferwyr o’r Gymraeg ac, yn y pen draw, ar eu disgyblion

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

  1. Hyrwyddo ac ymgorffori arferion mwyaf effeithiol y sector i sicrhau bod ansawdd addysgu pob tiwtor yn gyson uchel.
  2. Mireinio prosesau hunanwerthuso er mwyn blaenoriaethu’n strategol y meysydd y mae angen eu gwella fwyaf.
  3. Gwella dealltwriaeth uwch reolwyr o ddata a’r modd y maent yn ei ddefnyddio i ddadansoddi tueddiadau a chryfhau cynllunio strategol pwrpasol.

Recommendations from the thematic inspection

  1. Cysoni’r defnydd o addysgeg a methodoleg effeithiol Cymraeg i Oedolion ar draws y ddarpariaeth i gefnogi ymarferwyr i gaffael y Gymraeg yn llwyddiannus, ac i’w defnyddio’n gynyddol hyderus yn eu haddysgu eu hunain gyda’u disgyblion
  2. Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, datblygu cyfundrefn ôl-ofal strategol ac effeithiol newydd i gefnogi ymarferwyr i ddefnyddio eu medrau iaith
  3. Parhau i gyd weithio yn strategol ag awdurdodau lleol i ddatblygu’r cynnig i’r gweithlu addysg statudol, a datblygu dulliau o fesur effaith y ddarpariaeth ar ymarferwyr, ac ar eu disgyblion
  4. Cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu model cyllido sy’n cefnogi cynlluniau hirdymor, gan gynnwys cyfundrefn gyllido i ryddhau ymarferwyr i ddysgu Cymraeg.